View Static Version
Loading

Tai Pawb Adroddiad Blynyddol 2017-2018

Croeso i Adroddiad Blynyddol 2017/2018

Cafodd Tai Pawb flwyddyn arbennig o dda yn 2017/2018. Yn gynnar y llynedd, siaradom â bron i 100 o’n haelodau, rhanddeiliaid a phartneriaid er mwyn helpu i lywio ein gwaith dros y 4 blynedd nesaf. Canlyniad hyn oedd ein strategaeth newydd sbon, sy’n canolbwyntio ein ffordd o feddwl o’r newydd, ac yn ein paratoi i wynebu’r heriau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol digyffelyb sydd ar y gorwel.

Croesawom aelodau newydd o staff llawn ymroddiad a chymhelliant i’n tîm arbenigol yn sgil ein strwythur staffio newydd. Gwnaethom lansio ein hachrediad cydraddoldeb ac amrywiaeth newydd sbon, uchel ei fri, y Dyfarniad QED. Dechreuom hefyd ar raglen waith arloesol newydd yn y sector rhentu preifat – prosiect Drysau Agored.

Ein pwrpas newydd, Ysbrydoli Cymru i fod yn Lle Tecach i Fyw, sydd bellach yn gyrru ein holl waith, gyda blaenoriaethau clir sy’n anelu at wneud cynnydd gwirioneddol yn hawliau tai pobl a chael mwy o degwch yn y system tai.

Roedd eleni’n flwyddyn wahanol iawn i ni gan i ni symud y tu hwnt i weithio o fewn fframweithiau polisi’r Ddeddf Cydraddoldeb, gan ymgysylltu ag agendâu Hawliau Dynol a Chenedlaethau’r Dyfodol fel mudiad rhagweithiol a gosodiadol. Ein nod oedd mynd ati o ddifrif i gyd-gynhyrchu gyda’n haelodau, partneriaid a rhanddeiliaid er mwyn rhoi ffurf i’r newid yr ydym am ei weld a gweithio i’w wireddu.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen ein hadroddiad sy’n cynnwys ein huchafbwyntiau allweddol eleni.

Janice Bell - Cadeirydd

Alicja Zalesinska – Cyfarwyddwr

Ein Pwrpas

Ysbrydoli Cymru i fod yn lle tecach i fyw

Ein Gwaith

Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai

Rydym yn gweithio’n gadarnhaol ac yn adeiladol i hyrwyddo cydraddoldeb a lleihau rhagfarn, gwahaniaethu ac atal pobl rhag cael eu gwthio i’r cyrion ym maes tai.

Ein Sbardun

Cred mewn cyfiawnder cymdeithasol – credwn fod yr hawl gan bawb i gael mynediad at gartrefi o ansawdd dda mewn cymunedau diogel a chydlynus.

Angerdd dros gydraddoldeb ac amrywiaeth – credwn fod yr hyn a wnawn yn fwy na swydd. Rydym yn angerddol dros newid bywydau pobl er gwell, yn enwedig pobl sydd ar gyrion cymdeithas.

Ymroddiad i ysbrydoli newid – rydym yn rhyngweithio â phobl mewn modd sy’n eu gadael yn teimlo wedi’u harfogi, a’u grymuso, eu symbylu a’u cefnogi i wneud pethau’n wahanol.

Ymroddiad i ysbrydoli newid – rydym yn rhyngweithio â phobl mewn modd sy’n eu gadael yn teimlo wedi’u harfogi, a’u grymuso, eu symbylu a’u cefnogi i wneud pethau’n wahanol.

Ein haelodau – gweithiwn ar y cyd â’n haelodau, gan wrando arnynt, eu cefnogi a’u herio i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn wrth galon eu gwaith.

Hyrwyddo Hawliau a Chynyddu Tegwch

Cynyddu darpariaeth tai hygyrch

  • Gwnaethom gyfrannu’n sylweddol i Ymchwiliad yr EHRC ar Dai a Phobl Anabl, a dylanwadu ar y ffocws o’r newydd ar dai hygyrch yng Nghymru. Rydym wedi datblygu adnodd ar dai ac anabledd ar gyfer cynghorwyr yng Nghymru ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Rydym wedi codi ymwybyddiaeth am faterion ac atebion hygyrchedd tai yng ngwasg y maes tai, yn ein sesiynau briffio Arfer Da ac mewn seminar strategol.
  • Rydym wedi helpu i lywio Gweithredu ar Anabledd, fframwaith newydd Llywodraeth Cymru sy’n amlinellu ymrwymiad a gweithredu’r llywodraeth ar fywyd annibynnol pobl anabl.

Anghydraddoldeb Hiliol

  • Buom yn gweithio’n agos gyda mudiadau ffoaduriaid a phartneriaid eraill i hyrwyddo gwelliannau mewn llety ceiswyr lloches yng Nghymru, yn cynnwys darparu tystiolaeth i’r Prif Arolygydd Annibynnol ar Ffiniau a Mewnfudo
  • Gwnaethom helpu ein haelodau i ystyried goblygiadau datblygiadau tai a chydraddoldeb allweddol trwy rannu gwybodaeth yn rheolaidd mewn diweddariadau, sesiynau briffio, ein cylchlythyr a’r rhwydwaith WHEN.

Anghydraddoldeb cymdeithasol-economaidd

  • Lansiwyd Cau’r Bwlch: adroddiad dadansoddol o’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yng Nghymdeithasau Tai Cymru. Amlygodd yr adroddiad faterion ac atebion allweddol ac fe’i lansiwyd yng nghynhadledd arweinyddiaeth Cartrefi Cymunedol Cymru.
  • Cynigiodd ein digwyddiad briffio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyfle i’n haelodau ystyried y cysylltiadau rhwng cydraddoldeb, tai, y nodau llesiant a’r 5 ffordd o weithio – gan gadw ein haelodau’n hysbys o’r agenda polisi cydraddoldeb cyfredol.

Meithrin Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

QED

Mae’r Dyfarniad QED, a lansiwyd yng Nghaerdydd a Llandudno eleni, yn ganlyniad i flynyddoedd lawer o weithio tuag at safon ansawdd ar gyfer cymdeithasau tai i adolygu a’u helpu i wella eu gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r achrediad uchel ei fri hwn yn cynnig fframwaith cynhwysfawr, penodol ar gyfer Cymru, ar gyfer adolygu a gwella effaith cydraddoldeb ac amrywiaeth mudiadau o ran llywodraethu, gwasanaethau, mynediad, cynhwysiant a diwylliant.

  • Buom yn gweithio’n agos gyda Melin Homes i ddatblygu’r broses QED ac roedden nhw ar y trywydd iawn i fod y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gyflawni’r dyfarniad ar ddiwedd 2017–18.
  • Mae Melin eisoes wedi gweld effaith eu gwaith, gyda newid yn y diwylliant ymysg staff, mwy o ymgysylltu rhwng y bwrdd a thenantiaid, a gweithgor cydraddoldeb ac amrywiaeth ffyniannus.
  • Rydym wedi dechrau’r broses gyda 3 landlord cymdeithasol cofrestredig arall ac rydym yn falch bod cytundebau wedi’u gwneud i weithio gyda llawer mwy er mwyn cyflawni newid gwirioneddol

Aelodaeth

Un o’r darnau allweddol o waith i’n Rheolwr Cysylltiadau Aelodau newydd oedd diweddaru’r strwythur aelodaeth yn nhermau categorïau aelodau, buddiannau a ffioedd. Cwblhawyd hyn erbyn diwedd y cyfnod adrodd a chrëwyd pecynnau aelodaeth newydd sbon a’u hanfon allan i’n holl aelodau presennol a darpar aelodau ar gyfer 2018–19. Credwn fod ein cynnig newydd yn ychwanegu at hyn a oedd ar gael o’r blaen, gyda phecynnau mwy eglur a diffiniedig ar gyfer pob categori aelodaeth, a bandiau prisio sy’n adlewyrchu strwythurau grŵp cyfunol newydd rhai o’n haelodau. Mae’r strwythur aelodaeth hwn yn cynnig gwerth ardderchog am arian, ac amlygir hyn yn glir ym mhob pecyn.

Fe wnaethom gydnabod pwysigrwydd recriwtio awdurdodau, ynghyd â’r her a ddaw o wneud hynny gan fod nifer ohonynt wedi wynebu toriadau cyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gan hynny, fe wnaethom rewi’r ffi aelodaeth i awdurdodau lleol a chanddynt stoc tai, a’i leihau i awdurdodau sydd wedi trosglwyddo eu stoc er mwyn gwneud ein cynnig mor ddeniadol â phosibl. Mae’n hanfodol i ni weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol gan fod ganddynt ddylanwad dros gynllunio a pholisi tai lleol ac rydym yn awyddus i barhau i ymgysylltu â hwy.

60 o aelodau:

  • 19 o aelodau cysylltiol
  • 34 o gymdeithasau tai
  • 6 o awdurdodau lleol
  • 1 grŵp cymunedol

Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth

Mae Tai Pawb yn darparu hyfforddiant o safon ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, wedi’u teilwra i’r sector tai. Rydym wedi gweithio eleni i ehangu ein cronfa o Arbenigwyr Cysylltiol i ddarparu’r hyfforddiant hwn, gan weithio’n agos gyda nhw a defnyddio eu sgiliau a’u profiad i ddiweddaru cyrsiau a dylunio rhai newydd.

Eleni, cynhaliom 25 o sesiynau hyfforddiant ar gyfer mwy na 200 o bobl, yn cynnwys:

  • Rhagfarn Ddiarwybod
  • Briff dros Frecwast ar gyfer Contractwyr
  • Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer staff rheng flaen
  • Asesiadau Effaith Cydraddoldeb

Roedd nifer y mynychwyr a roddodd sgôr ‘dda’ neu ‘dda iawn’ i’w lefel gwybodaeth yn 23% cyn yr hyfforddiant, a chododd i dros 90% ar ôl mynychu.

Cynhaliom nifer o ymgyngoriaethau wedi’u teilwra hefyd, yn cynnwys dadansoddi data meincnodi ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng ngogledd Cymru, cefnogi Linc Cymru i ymwreiddio ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu proses caffael a chynnal adolygiadau polisi ar gyfer nifer o’n haelodau.

Llinell Gymorth

Mae ein llinell gymorth ar gael i’n holl aelodau ac mae’n ffordd o gysylltu â ni’n uniongyrchol i holi cwestiwn am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Eleni, cawsom 39 o ymholiadau, yn cynnwys:

  • Cwestiynau am y diffiniadau a thermau i’w defnyddio ar ffurflenni monitro cydraddoldeb
  • Newidiadau i reoliadau mewnfudo a chymhwystra tai
  • Cais am gyngor ar gyfathrebu hygyrch a chyngor ar ymgynghori â thenantiaid

Digwyddiadau

Mae Tai Pawb wedi parhau i ddarparu digwyddiadau o safon i’n haelodau eleni. Mae’r tîm newydd wedi gweithio’n galed i sicrhau siaradwyr rhagorol o amryw o sectorau i wneud yn siŵr ein bod yn cael ein harwain gan yr arfer gorau mewn meysydd cysylltiedig. Er ein bod yn gwerthfawrogi ein cydweithwyr yn y sector tai yn fawr, wrth gwrs, gwnaethom ymdrech i ddod â gwahanol leisiau ynghyd o’r trydydd sector a gan arbenigwyr profiadol i gynnig amrywiol safbwyntiau.

  • Yn dilyn cyhoeddi ein cynllun strategol, ategwyd rhai o’i flaenoriaethau yn amlwg yn ein digwyddiadau: anghydraddoldeb hil, tai hygyrch a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r cynllun strategol yn ffurfio strwythur defnyddiol i gynllunio ein gwaith o’i gwmpas, ac mae cynlluniau ar gyfer digwyddiadau’r flwyddyn nesaf hefyd yn dewis themâu allweddol i weithio arnynt.
  • Roeddem eisiau archwilio ardaloedd a lleoliadau newydd o gwmpas Cymru, felly eleni fe wnaethom ymweld â Chaerdydd, y Drenewydd a Merthyr Tudful, a bwriadwn gyrraedd ymhellach eto yn y dyfodol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein galluogi i gynyddu’r cyfleoedd i’n haelodau fynychu ac i ni gwrdd â chydweithwyr o bob cwr o Gymru i rannu profiadau a heriau lleol.
  • Roeddem wrth ein boddau’n croesawu mynychwyr o 56 o fudiadau sy’n gweithio yn y maes tai a’r trydydd sector, a rhoddodd 92% o’r rhain sgôr ‘Rhagorol’ neu ‘Dda’ i’r digwyddiadau hyn.

Rhedeg Mudiad Arloesol a Rhagweithiol

Cyfathrebu

Cafodd penodi Swyddog Cyfathrebu a Marchnata llawn-amser effaith yn syth ar y ffordd mae Tai Pawb yn mynegi ei hun ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwaith hanfodol a wnawn.

  • Edrychodd 5,000 o bobl ar dudalennau ein gwefan eleni, a bron i un o bob pump o’r rheiny’n cyrraedd yno’n uniongyrchol o’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Rydym wedi gweld cydlyniant a chysondeb cynyddol yn ystod y flwyddyn, sydd wedi helpu i ddenu nifer uwch o ddilynwyr, a chynyddu’r ymgysylltiad a gawn ar gyfer pob trydariad.
  • Rydym hefyd yn dysgu cofleidio cyfathrebu trwy fideos a graffeg er mwyn ymgysylltu â’n dilynwyr a chael llwyfan fwy effeithiol i’n llais.

Drysau Agored

Ym mis Gorffennaf 2017, lansiodd Tai Pawb ei brosiect sector rhentu preifat arloesol newydd, ‘Drysau Agored’. Cynhaliwyd digwyddiadau lansio swyddogol yn hwyr ym mis Medi 2017, a bu’r prosiect ‘ar daith’ yn ymweld â 15 o leoliadau yn y tair ardal awdurdod lleol y mae’r prosiect yn weithredol ynddynt, gan ymgysylltu â 257 o bobl.

Yn dilyn ein lansiad, fe wnaethom fynychu a chyflwyno mewn nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau i hyrwyddo ein prosiect a’i nodau, yn cynnwys y Fforymau Landlordiaid yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Merthyr Tudful, Cynhadledd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Symposiwm Digartrefedd Cymorth Cymru a digwyddiad gan y Cyngor Tai Myfyrwyr.

Gwnaethom sefydlu ein Grŵp Ymgynghorol, recriwtio aelodau ar ei gyfer, a lansio ein canolbwynt ar-lein. Buom yn llwyddiannus wrth recriwtio hyrwyddwyr ymysg tenantiaid a landlordiaid ar gyfer y prosiect, ac mae ein hyrwyddwyr wedi cynnal nifer o weithgareddau yn cynnwys mynychu digwyddiadau gyda ni, rhannu eu profiadau trwy gyfrwng fideos ac ysgrifennu blogiau, ac mae’r rhain wedi’u cynnwys ar ein canolbwynt ar-lein.

Buom hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr Astudiaethau Tai o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, a gynhaliodd ymchwil ar ein rhan fel rhan o’u haseiniadau. Byddwn yn defnyddio’r ymchwil hwn i’n helpu i ysgrifennu canllawiau ar gyfer tenantiaid a landlordiaid.

Hyd ddiwedd Mawrth 2018, rydym wedi cyflawni’r canlynol:

  • 6 hyrwyddwr ymysg tenantiaid, 4 hyrwyddwr ymysg landlordiaid
  • 102 o denantiaid wedi dweud bod ganddynt fwy o ymwybyddiaeth o’u hawliau a’u cyfrifoldebau o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau allgymorth a hyfforddiant
  • 341 o denantiaid yn gallu cael gafael ar wybodaeth am eu hawliau a’u cyfrifoldebau ar ein canolbwynt ar-lein
  • 13 o landlordiaid yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn gosod i denantiaid amrywiol a bregus yn dilyn defnyddio gwasanaethau’r prosiect
  • 65 o landlordiaid yn dweud bod ganddynt fwy o wybodaeth am ofynion deddfwriaeth cydraddoldeb yn dilyn defnyddio gwasanaethau’r prosiect
  • 37 o landlordiaid yn dweud eu bod yn gwybod mwy am eu cyfrifoldebau cyfreithiol eu hunain ynglŷn â chydraddoldeb ac amrywiaeth, a’u bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth am gydraddoldeb yn well yn dilyn hyfforddiant
  • 62 o landlordiaid yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ar ôl mynychu digwyddiadau

Cyfeillion a Chymdogion Newydd

Cymerodd Tai Pawb gam mawr eleni, yn symud i swyddfa newydd i rannu adeilad gyda Cymorth Cymru. Rydym yn falch iawn o’r canlyniad, nid yn unig y mae’r ddau fudiad yn lleihau costau mewn cyfnod economaidd heriol, ond rydym hefyd wedi gallu cydweithio a rhannu syniadau a phrofiadau.

Rydym wedi gallu cadw ein gwasanaethau’n bendant ac yn berthnasol, ac wedi gallu rhoi cefnogaeth i’n gilydd gyda’r nodau a rannwn. Diolch o galon i Katie a’r tîm i gyd am roi croeso mor gynnes i ni ac am yr holl hwyl (a theisennau) yn ein swyddfa newydd.

Cyrhaeddiad Polisi

Rydym wedi datblygu mwy ar ein capasiti polisi a materion cyhoeddus, gan fuddsoddi mewn adnodd monitro gwleidyddol, ymestyn ein cysylltiadau â gwleidyddion a dylanwadwyr yn ogystal ag ymuno â nifer o fforymau newydd i helpu i wreiddio llais hawliau tai a chydraddoldeb, yn cynnwys Bwrdd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb.

Finances

Ariannol

  • Buddsoddiadau £1,774
  • Incwm Arall £11,492
  • Ffioedd Aelodaeth £55,145
  • Digwyddiadau Tai Pawb £6,334
  • Gweithgareddau Elusennol £289,708

CYFANSWM £364,453

Gwariant

  • Gweithgareddau Elusennol £331,619
  • Arall: £0

CYFANSWM: £331,619

DIOLCH YN FAWR

Diolch yn fawr iawn i’n holl aelodau, rhanddeiliaid a’n bwrdd am eu cefnogaeth a’u partneriaeth eleni.

Diolchwn hefyd i Martyn Jones, a adawodd ein tîm ym mis Ebrill i fynd yn Brif Swyddog ar Anabledd Dysgu Cymru. Llongyfarchiadau!

Camodd Helen Taylor, Samantha Morgan, Ruth Nortey, Gemma Watkins, Dr Mwenya Chimba and Frances Beecher i lawr o’r bwrdd eleni, a diolchwn iddynt am eu harweiniad a’u profiad yn ystod eu cyfnod fel ymddiriedolwyr.

Y bwrdd

  • Janice Bell
  • Jonathan Conway
  • Mark Jennings
  • Matt Kennedy
  • Michelle Reid
  • Mutale Merrill
  • Robin Staines
  • Sarah Prescott
  • Stuart Epps

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.