Cyflawni a phontio Adroddiad blynyddol a chyfrifon Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2015-16

Rhagair y Llywydd

Rwy’n falch iawn o gael cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn. Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy ethol i’r rôl hon gan fy nghyd-Aelodau Cynulliad.

Ond wrth gwrs, mae’r llwyddiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad blynyddol hwn yn perthyn i’r cyfnod cyn i mi gael fy mhenodi. Felly, mae angen rhoi cydnabyddiaeth i eraill. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi teyrnged i’m rhagflaenydd, y Fonesig Rosemary Butler, a chwalodd y rhwystrau a oedd yn atal cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, yn enwedig ymysg menywod drwy ei hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a thrwy roi lle amlwg i bobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad.

Cafodd Rosemary gefnogaeth fedrus gan David Melding y Dirprwy Lywydd, a gyfrannodd mewn ffordd graff a diwyd yn y Siambr a thu hwnt, gan gynnwys fel cadeirydd pwyllgor, a hynny i hybu gwaith y Cynulliad mewn amryw o ffyrdd. Gwnaeth y ddau ohonynt, ynghyd â’r Comisiynwyr Sandy Mewies, Angela Burns, Rhodri Glyn Thomas a Peter Black, ffurfio tîm arwain effeithiol a fu’n llywio gwelliant parhaus ym mhob agwedd ar nodau strategol Comisiwn y Cynulliad.

Wrth wneud hynny, tynnodd y Comisiynwyr ar arbenigedd, brwdfrydedd ac ymroddiad staff Comisiwn y Cynulliad, a hynny o dan arweiniad Claire Clancy, y Prif Weithredwr a’r Clerc. Rwy’n gwybod o fy mhrofiad i o weithio gyda staff y Comisiwn yn y gorffennol y gallaf ddibynnu ar gyngor o’r safon uchaf, gwasanaethau adweithiol a darpariaeth effeithiol yn fy rôl newydd. Rwy’n hynod ddiolchgar am gymorth Claire a’i staff ar ddechrau fy nghyfnod.

Mae’n bwysig bod y gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad yn cefnogi fy egwyddorion o ran sut y bydd y Pumed Cynulliad yn gweithredu. Yr egwyddor gyntaf yw bod yn deg, diogelu hawliau pob Aelod a thrin pob Aelod yn gyfartal. Yr ail yw hyrwyddo ac amddiffyn enw da y Cynulliad hwn, yn y Siambr a thu hwnt, ac ym mhob cymuned yng Nghymru. Y drydedd yw sicrhau dadl ddemocrataidd frwd ac iach, gyda gweithdrefnau tryloyw yn gefn iddi. Yn olaf, hoffwn weld y Cynulliad yn chwarae rôl adeiladol a chydweithredol wrth weithio gyda seneddau eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Ann Jones, y Dirprwy Lywydd, a’m cyd-Gomisiynwyr Joyce Watson, Dai Lloyd, Suzy Davies a Caroline Jones, i adeiladu ar lwyddiannau’r Pedwerydd Cynulliad. Rwy’n bwriadu efelychu’r gwaith a wnaed gan ein rhagflaenwyr i bennu strategaeth glir, sydd â chynllunio ariannol trylwyr a llywodraethu effeithiol yn sail iddi. Byddwn yn gwneud hyn mewn sefyllfa o newid parhaus yng Nghymru ac ar draws y byd: newid cyfansoddiadol, gwleidyddol, economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y Cynulliad yn cael pwerau a chyfrifoldebau newydd, yn ogystal â wynebu heriau newydd, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i wasanaethu pobl Cymru yn unol â hynny.

Ein diben a'n gweithgareddau

Mae'r adroddiad hwn yn nodi llwyddiannau Comisiwn y Cynulliad yn erbyn ein nodau strategol rhwng mis Ebrill 2015 a Mawrth 2016.

Cyd-destun

Mae Cymru yn derbyn tua £16 biliwn y flwyddyn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel ysgolion ac ysbytai, ar gyfer pobl Cymru. Caiff hyn ei adnabod fel "bloc Cymru".

Caiff cyfran fechan (0.3 y cant) o floc Cymru ei dyrannu i'r Comisiwn i dalu costau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r arian hwn yn caniatáu i'r 60 Aelod Cynulliad i gynrychioli pobl Cymru, gwneud cyfreithiau a chraffu ar bolisïau a phenderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru.

Ein cyllideb

Yn ystod 2015-16, roedd y Comisiwn yn gyfrifol am gyllideb o £52.3 miliwn, a oedd yn cynnwys:

  • £15,700,000 ar gyfer talu ein 60 Aelod Cynulliad, eu staff cymorth, costau cyllid pensiwn a chostau rhedeg eu swyddfeydd etholaeth a swyddfeydd rhanbarthol ledled Cymru; a
  • £36.6 miliwn i'r Comisiwn i ddarparu'r eiddo, y staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen i'r Cynulliad weithredu.

Ar ddechrau'r Pedwerydd Cynulliad, cytunodd y Comisiwn ar strategaeth ar gyfer y gyllideb i bennu'r fframwaith ar gyfer ein cyllideb flynyddol. Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi Dangosyddion Perfformiad Allweddol i ddangos perfformiad corfforaethol ar draws pob maes gweithgarwch (gweler tudalen 20 i 21. Rydym yn cael sicrwydd allanol ar ein gwariant gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ogystal â chraffu gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Ein cynllun i gyflawni strategaeth y Comisiwn

Yn ein cynllun strategol ar gyfer dwy flynedd olaf y Pedwerydd Cynulliad, a gyhoeddwyd ym Mai 2014, nodwyd pum maes blaenoriaeth ar gyfer newid, arloesi a buddsoddiad:

  • galluogi'r Cynulliad i fod mor effeithiol â phosibl drwy'r gefnogaeth a ddarperir gennym, a thrwy gamau nesaf ein strategaeth TGCh;
  • ehangu ein gwasanaethau dwyieithog;
  • ymgysylltu mwy â phobl yng Nghymru;
  • gwneud y gorau o'n hystâd; a
  • bod yn gwbl barod ar gyfer y Pumed Cynulliad, a'r heriau newydd a ddaw yn sgil hynny.

Defnyddiodd staff y Comisiwn y blaenoriaethau hyn a'r nodau strategol i ddatblygu eu cynlluniau gwasanaeth a'u hamcanion perfformiad eu hunain.

Ein hamcanion strategol

1. Darparu cefnogaeth seneddol o’r radd flaenaf

Eleni, darparodd y Comisiwn ystod o gefnogaeth i Aelodau er mwyn: cwblhau rhaglen craffu deddfwriaethol drom y Cynulliad (gan gynnwys y Bil treth cyntaf); archwilio cynigion ar gyfer newid cyfansoddiadol pellach; ymgymryd â gwaith pwyllgorau; defnyddio ein dwy iaith swyddogol; ystyried newidiadau gweithdrefnol a newidiadau i brosesau; trawsnewid y ffordd rydym yn creu, defnyddio a rhannu gwybodaeth; a myfyrio ar waith y Pedwerydd Cynulliad. Roedd yr holl weithgareddau hyn yn sail i'r paratoadau manwl ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Dysgu a gwella trwy ymgysylltu

Oherwydd natur gymhleth a thechnegol y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ddigwyddiad rhanddeiliaid anffurfiol cyn ystyried y Bil yn ffurfiol. Cynlluniwyd y digwyddiad i roi cyfle i gyfranogwyr rannu eu barn a chael trafodaeth fwy agored. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed gan arbenigwyr trethi a chynrychiolwyr o'r sector cyfreithiol a'r sector cyfrifyddu, ac fe sicrhawyd achrediad datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y digwyddiad fel cymhelliad pellach i bobl ddod. Yn dilyn y digwyddiad, rhoddodd y cyfranogwyr adborth cadarnhaol eu bod yn croesawu trafod y materion yn llawn ac yn agored ac roeddent yn awyddus i fynychu digwyddiadau tebyg i drafod Biliau trethi datganoledig yn y dyfodol.

Fel rhan o'n cenhadaeth i gynyddu'r ymgysylltiad mewn gwaith pwyllgorau, mae staff y Comisiwn, mewn partneriaeth â Chwarae Teg, wedi datblygu rhaglen hyfforddi gyda'r nod o annog mwy o fenywod, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r pwyllgorau. Cafodd y rhaglen ei chynllunio i chwalu unrhyw ddirgelwch o ran rhoi tystiolaeth i bwyllgor ac i fagu hyder wrth siarad o flaen cynulleidfa. Yn ogystal â chael cyflwyniadau ar brosesau'r pwyllgorau gan Aelodau Cynulliad a staff y Comisiwn, gofynnwyd i gyfranogwyr lunio tystiolaeth ysgrifenedig i'w chyflwyno i gyfarfod pwyllgor ffug. Mae'r rhaglen wedi bod ar waith ers dwy flynedd, ac mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y cyfranogwyr.

Defnyddiodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol banel arbenigol o dri ymarferydd cyfreithiol i ystyried drafft cyntaf yr adroddiad ar ddeddfu yng Nghymru. Roedd y Pwyllgor yn gallu profi canfyddiadau cychwynnol ac argymhellion gyda'r panel, a oedd yn hynod ddefnyddiol wrth helpu i sicrhau bod yr adroddiad o ansawdd uchel ac yn mynd i gael derbyniad da.

2. Ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru

Parhawyd i ymgysylltu'n ehangach ac yn ddwysach â phobl Cymru. Sicrhawyd bod y Cynulliad yn bresennol mewn digwyddiadau cenedlaethol, a'i fod yn cynnal ac yn cyflwyno digwyddiadau o'r fath. Parhawyd i flaenoriaethu'r gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc ac ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd. Hefyd cynhaliwyd perthynas waith gref â sefydliadau'r UE a'r Aelodau o Senedd Ewrop o Gymru, a chrëwyd cysylltiadau newydd ledled y byd.

Senedd10

Ym mis Mawrth 2016, cynhaliwyd ymgyrch Senedd10 i nodi 10 mlynedd ers agor y Senedd ac i godi ymwybyddiaeth am y Cynulliad, ei Aelodau a'u gwaith hwy. Roedd yr ymgyrch hefyd yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau i hyrwyddo etholiad y Cynulliad.

Cynhaliodd y Llywydd dderbyniad amser cinio ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu cyflawniadau'r Pedwerydd Cynulliad a diolch i'r unigolion a'r sefydliadau hynny a helpodd y Cynulliad dros y pum mlynedd diwethaf. Gyda'r hwyr, cynhaliwyd y digwyddiad 'Adeiladu ar gyfer Democratiaeth' yng nghwmni penseiri'r Senedd, yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, a fu'n trafod y Senedd ddegawd ar ôl ei hagoriad. Cadeirydd y digwyddiad oedd Menna Richards OBE, cyn-reolwr BBC Cymru, ac fe drefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru.

Cafwyd hefyd benwythnos o hwyl i'r teulu yn y Senedd, a ddenodd dros 3,000 o ymwelwyr, gan gynnwys perfformiadau gan Sioe Cyw S4C, Ysgol Glanaethwy, a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol 'Britain's Got Talent', a'r grwpiau lleol, côr 'City Voices' a syrcas 'No Fit State'.

Cafodd ymgyrch Senedd10 gryn sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys darllediadau byw o'r Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi gan BBC Radio 2, Radio Wales a Radio Cymru.

3. Defnyddio adnoddau’n ddoeth

Mae'r adrannau o'r adroddiad hwn sy'n ymdrin â datganiadau ariannol ac atebolrwydd yn cynnwys disgrifiadau manwl o'r ffyrdd amrywiol yr ydym yn defnyddio adnoddau'n ddoeth. Yn yr adran hon, rydym yn tynnu sylw at rai o'r prif feysydd gwaith a'r buddiannau a sicrhawyd ac yn cyflwyno ein hadroddiad ar gynaliadwyedd ar gyfer y flwyddyn.

Moderneiddio'r siambr drafod

Gosodwyd y system gynadledda, y system bleidleisio a'r dechnoleg sain a ddefnyddir yn Siambr y Senedd, sef y siambr drafod lle cynhelir Cyfarfod Llawn y Cynulliad, yn 2006. Ar y pryd, roedd y rhain yn systemau arloesol o'r radd flaenaf. Mae'r dechnoleg wedi diwallu anghenion sawl Cynulliad yn dda. Fodd bynnag, 10 mlynedd yn ddiweddarach, dechreuwyd cael problemau sylweddol o ran dibynadwyedd a chymorth a dechreuodd yr Aelodau gwestiynu pa mor gynaliadwy oedd y dechnoleg.

Mewn ymateb, ymgymerodd y Comisiwn â phrosiect cymhleth i ddewis, caffael a gosod systemau newydd yn y Siambr. Achubwyd ar y cyfle i wella ergonomeg gweithfannau'r Aelodau a gwella hygyrchedd. O ganlyniad, mae bellach gan yr Aelodau ddesgiau fflat newydd. Gosodwyd panel pleidleisio/cyfieithu ar y pryd newydd ar y desgiau, yn ogystal â chyfleusterau gwefru ar gyfer dyfeisiau symudol. Mae seinyddion a meicroffonau pob desg wedi'u huwchraddio hefyd, er mwyn gwneud y sain yn gliriach ym mhob rhan o'r Siambr.

Mae bellach gan yr Aelodau a'r staff sgriniau llydan manylder uchel. Ar y ddesg flaen, lle y mae'r Llywydd a'r swyddogion yn eistedd, mae modd symud y sgriniau o'r ffordd fel na fyddant yn amharu ar ddigwyddiadau arbennig fel yr Agoriad Brenhinol.

Gosodwyd system meddalwedd gynadledda newydd ar gyfer rheoli busnes y Cyfarfod Llawn. Gellir defnyddio'r system i weld yr agenda, y rhestr siaradwyr a’r wybodaeth weithdrefnol, ac i bleidleisio ac anfon negeseuon.

Neges gan y Prif Weithredwr a'r Clerc

Roedd hon yn sicr yn flwyddyn bwysig o ran cyflawni a throsglwyddo.

Rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau yn gyflym ac yn broffesiynol. Llwyddodd staff Comisiwn y Cynulliad i gwblhau’r rhaglen o fuddsoddi a gwella gwasanaethau yn unol â’r nodau strategol a bennwyd gan ein Comisiynwyr ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad. Cefnogwyd y cyfnod terfynol a mwyaf pwysig o graffu deddfwriaethol yn y Cynulliad cyntaf i feddu ar bwerau deddfu llawn, gan gynnwys y ddeddfwriaeth dreth gyntaf. Rydym wedi parhau i ymgysylltu fwyfwy â phobl Cymru, gan ddefnyddio technegau newydd. Cadarnhawyd rôl y Senedd fel canolbwynt i fywyd cyhoeddus, a dathlwyd deng mlynedd ers yr agoriad. Daw llawer o’r lluniau yn yr adroddiad hwn o’r dathliadau hynny.

Rydym hefyd wedi parhau i gryfhau ein prosesau cynllunio a darparu, a chawsom ein cydnabod mewn nifer o ffyrdd am y ffordd rydym yn meithrin ein staff ac yn cael y gorau ohonynt. Drwy ein fframwaith llywodraethu, roeddem yn gallu rhoi sicrwydd pendant ynghylch y defnydd priodol o adnoddau, y mae gennyf gyfrifoldeb personol drostynt fel Prif Swyddog Cyfrifyddu.

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, gwnaeth ein meddyliau a’n gwaith droi’n anochel at drosglwyddo i’r Cynulliad nesaf. Cynorthwyodd staff y Comisiwn yr Aelodau i ystyried a chofnodi etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad. Hefyd, trefnwyd amryw o brosiectau a ffrydiau gwaith i baratoi i roi’r profiad gorau posibl i Aelodau newydd a’u helpu i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen i sefydlu’r Pumed Cynulliad. Er y bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn ymdrin â digwyddiadau ar ôl yr etholiad ym mis Mai, ni allaf beidio â chrybwyll yma y bu’r cyfnod cynefino yn llwyddiant mawr, ac yn un a gafodd ei ganmol gan Aelodau newydd ac Aelodau a gafodd eu hailethol fel ei gilydd.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i holl Aelodau’r Cynulliad a’u staff, Cyfarwyddwyr y Comisiwn, Penaethiaid Gwasanaeth a’u staff, contractwyr ac aelodau o sefydliadau eraill, gyda phob un yn cyfrannu at lwyddiant y Cynulliad.

Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn o gael y cyfle i arwain y sefydliad yn y fath gyfnod pwysig yn hanes datganoli. Rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. Gyda’n gilydd fel tîm rydym wedi mynd ati gydag arddeliad ac osgo i gael mwy o gyfrifoldebau a wynebu heriau eraill. Ar yr un pryd, rydym wedi adeiladu democratiaeth seneddol fodern sy’n addas ar gyfer Cymru gref a hyderus.

Created By
Cyfathrebu Cynulliad
Appreciate

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.