Croesawu Blwyddyn Meithrin
Ym Medi 2019, dechreuodd 9 o blant ym mlwyddyn Meithrin. Erbyn hyn, mae 2 arall wedi ymuno a nhw sef Erin ac Albie. Daeth Erin ac Elis (ei brawd sydd ym mlwyddyn 1) i'r ysgol yng nghyfnod yr ystod clo ym mis Ebrill a daeth Albie hefyd cyn yr Haf.
Gwasanaeth Diolchgarwch
24.10.20
Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nhapel Rhydbach eto eleni ar y cyd gyda chriw yr ysgol Sul. Crewyd gwasanaeth byr gan griw blwyddyn 5 a 6 yn dilyn amryw o ganeuon gan holl ddisgyblion yr ysgol i ddiolch i Dduw am bopeth.
Casglwyd basgeidiau o fwydydd gan yr holl blant i'w cyfrannu at fanc bwyd Pwllheli. Aeth yr arian a gasglwyd tuag at achos cancr.
Trip Glan Llyn a Mary Jones Y Bala - Blwyddyn 3 a 4
18.11.19
Cyngerdd Prosiect Creadigol
22.11.19
Ers mis Medi, bu pawb yn yr ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y Cyngerdd Creadigol. Gan ei bod hi'n gyfnod Cwpan Rygbi'r Byd, penderfynwyd creu Cyngerdd fel ein Prosiect Creadigol eleni. Roedd Cwpan Rygbi'r Byd yn agor llawer o ddrysau er mwyn gallu cael blas o wahanol wledydd. Cwmni 'Dawns i Bawb' oedd yn gyfrifol gyda'r dawnsio ar gyfer y cyngerdd, Catrin Alwen oedd yn gyfrifol o'r canu a'r perfformio a Mrs Bethan Rhys oedd yn gyfrifol o'r gwersi Ffrangeg.
Cyngerdd Nadolig
11.12.19
Pontydd
12.11.19
Daeth Robin Owen draw at CA2 i drafod gwaith Pontydd.
Gweithgareddau Nadolig
19.12.19
Cawsom ddiwrnod i ddathlu'r Nadolig a chael gwneud gweithgareddau hwyliog er mwyn codi arian tuag at Glwb Hoci Pwllheli yn eu hymgyrch i godi digon o arian i gael cael hoci newydd i'r ardal. Cymysgwyd pob oedran i wneud 10 o dimau. Cafodd pawb flas ar wneud pob math o bethau difyr yn cynnwys creu sled, gwneud taith Sion Corn o gwmpas y byd gyda Sphero/Beebot, lliwio, Cwis, chwilio am gorrach o gwmpas y pentref, addurno coeden Nadolig a llawer o bethau. Roedd sgiliau cydweithio yn hanfodol. Codwyd £180 tuag at y Clwb Hoci.
Ymweliad Hedd Wyn
Daeth actor ifanc draw i roi hanes Hedd Wyn i'r plant, roeddent wedi gwirioni cael dysgu am yr hanes mewn ffordd hynod effeithiol.
Pel Rwyd
10.2.20
Roedd dau dim o Ysgol pont y Gof yn cystadlu yng nghystadleuaeth Pel Rwyd eleni yn Nyffryn Nantlle. Chwaraeodd y ddau dim yn arbennig a cafodd un tim 3ydd yno, felly aeth y tim yno ymlaen i'r rownd nesaf ym Mangor ar y 27.2.20. Yno, ni gafwyd llwyddiant ond roedd safon y chwarae yn arbennig o dda a thim Pont y Gof wedi chwarae yn arbennig, clod mawr iddynt.
Cerdd gan Anti Caren
15.5.20
COVID 19 (I blant Ysgol Pont y Gof gan Anti Caren)
Chwarae allan yn yr ardd, Gweld y Cennin Pedr hardd,
Gwenwch ffrindiau, cofiwch hyn -
Fe ddaw eto haul ar fryn.
Plannu llu o hadau bach,
Hwythau'n tyfu'n lysiau iach,
Gwenwch ffrindiau, cofiwch hyn -
Fe ddaw eto haul ar fryn.
Pobi cacen efo Mam,
Yna'i llenwi hefo jam,
Gwenwch ffrindiau, cofiwch hyn -
Fe ddaw eto haul ar fryn.
Peintio llun o enfys dlos,
Darllen 'chydig bach bob nos,
Gwenwch ffrindiau, cofiwch hyn -
Fe ddaw eto haul ar fryn.
Cofiwch fynd ar ci am dro,
Cadw'n heini, gwneud jig-so,
Gwenwch ffrindiau, cofiwch hyn -
Fe ddaw eto haul ar fryn,
Ffonio'ch ffrindiau yn y p'nawn,
Gwneud yn siŵr fod pawb yn iawn,
Gwenwch ffrindiau, cofiwch hyn -
Fe ddaw eto haul ar fryn.
Byddwch gryf a byddwch lon,
Cawn fynd 'nol i'r ysgol hon,
GWENWCH FFRINDIAU, COFIWCH HYN -
FE DDAW ETO HAUL AR FRYN.
Caren Jones
Ail agor Ysgol
29.6.20
Penderfynwyd ail agor yr ysgolion gyda chanllawiau llym iawn er mwyn sichrau pellter cymdeithasol.
Ffarwelio Blwyddyn 6
16.7.20
Mae blwyddyn 2020 wedi bod yn flwyddyn tra gwahanol gyda Covid19. Ni chawsom y cyfle i ffarwelio gyda blwyddyn 6 cyn yr Haf, ond rydym yn gobeithio'n arw eu bod wedi setlo yn Ysgol Botwnnog o dan yr amgylchiadau a'u bod wedi creu llawer o ffrindiau newydd. Fel yr ydym yn ei ddweud yma ym Mhont y Gof, daliwch ati i wneud eich GORAU GLAS.
Credits:
Created with images by Maarten Deckers - "Turquoise wooden wall" • Emiel Molenaar - "untitled image" • David Menidrey - "Pumpkin Twins" • Chris Lawton - "untitled image" • Lysander Yuen - "untitled image" • Toni Cuenca - "Christmas Decoration" • Tevarak Phanduang - "Soccer ball on grass green field with copy space" • C D-X - "untitled image" • Markus Spiske - "Basketball – Shot 2-Points" • Callum Parker - "untitled image" • Susan Yin - "untitled image" • Robinson Recalde - "Podcast recording with Microphone ready. " • Kimberly Farmer - "A collection of books. A little time. A lot of learning." • stux - "black board chalk traces" • Samara Doole - "Because the ocean is the best" • Federico Respini - "untitled image" • anncapictures - "tartan track career athletics" • Pexels - "music cassette tape cassette"