Cefndir
Datblygwyd y strategaeth hon yn dilyn gweithgaredd ymchwil ac ymgysylltu cynhwysfawr a gynhaliom gyda’n haelodau a’n rhanddeiliaid yn gynnar yn 2017.
Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd am rannu eu barnau amhrisiadwy a rhoi sylfaen i’r ddogfen hon, gan bennu llwybr Tai Pawb ar gyfer y pedair blynedd nesaf.
Mae’r dyfodol agos yn gyfnod digynsail o ran y sefyllfa gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol heriol yr ydym yn gweithio ynddi. Mae’n hynod o gyffrous hefyd, gyda gwasanaethau newydd fel y Dyfarniad QED, prosiectau arloesol fel Drysau Agored a strwythur staffio ar ei newydd wedd.
Bydd y pedair blynedd nesaf hefyd yn wahanol iawn i ni gan y bydd ein gwaith yn symud y tu hwnt fframweithiau polisi’r Ddeddf Cydraddoldeb a deddfwriaeth hawliau dynol. Byddwn yn ymgysylltu’n gynyddol â deddfwriaeth a strwythurau datganoledig megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, comisiynau a chomisiynwyr perthnasol ac, wrth gwrs, amcanion Llywodraeth Cymru a dyheadau Ffyniant i Bawb.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, ein haelodau, ein rhanddeiliaid a chymunedau i ysbrydoli Cymru i fod yn lle tecach i fyw.
Mudiad aelodaeth ydym, gydag aelodau o’r sectorau tai, cymunedol, cydraddoldeb a sectorau perthnasol eraill yng Nghymru.
Mae ein haelodau yn darparu cartrefi a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai i dros 200,000 o bobl amrywiol yng Nghymru, nifer ohonynt o gymunedau sydd yn lleiafrifol neu sydd wedi bod ar ymylon cymdeithas yn draddodiadol.
Cawn ein gwerthfawrogi fel partner ac rydym yn gweithredu’n rhagweithiol gyda’n haelodau a’r sector tai ehangach gan ddarparu arweiniad a chodi safonau ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol, wrth gydnabod y rhan ehangach sydd gan y maes tai i’w chwarae wrth symud ymlaen gyda chydraddoldeb, lleihau anfantais, mynd i’r afael â thlodi a hyrwyddo iechyd a llesiant.
Ni yw’r sbardun blaenllaw sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol yn y maes tai yng Nghymru, ac fe’n hadnabyddir yn genedlaethol am arwain agweddau ac am ein harbenigedd gwrthrychol yn y maes.
Rydym yn dylanwadu ar ddatblygiad a gweithredu polisïau sy’n effeithio ar ba mor deg yw darpariaeth tai yng Nghymru, gyda’r nod o leihau a herio rhagfarn, anfantais a thlodi sy’n gysylltiedig â thai a sicrhau deilliannau cyfartal i bawb ym maes tai.
Rydym yn rhagweithiol, yn osodiadol ac yn canolbwyntio ar atebion ymarferol.
Ein Gwaith
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai
Rydym yn gweithio yn gadarnhaol ac yn adeiladol i ddatblygu cydraddoldeb a lleihau rhagfarn, gwahaniaethau ac ymylu ym maes tai.
Ein Pwrpas
Ysbrydoli Cymru i fod yn lle tecach i fyw
Ein Sbardun
Cred mewn cyfiawnder cymdeithasol – credwn fod hawl gan bawb i gael mynediad at gartrefi o ansawdd da mewn cymunedau diogel a chydlynol.
Angerdd dros gydraddoldeb ac amrywiaeth – credwn fod yr hyn rydym yn ei wneud yn fwy na darn o waith. Rydym yn angerddol dros newid bywydau pobl ers gwell, yn enwedig y rhai sydd ar ymylon cymdeithas.
Ymroddiad i ysbrydoli newid – rydym yn rhyngweithio gyda phobl mewn modd sy’n eu gadael yn teimlo’n barod, wedi’u grymuso, eu hysgogi a’u cefnogi i wneud pethau’n wahanol.
Canolbwyntio ar atebion – wrth herio ein hunain ac eraill i adnabod problemau, rydym yn ymdrechu i fod yn gadarnhaol a chwilio am atebion ymarferol. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu cadarnhaol a rhagweithiol.
Ein haelodau – rydym yn gweithio ar y cyd â’n haelodau, yn gwrando arnynt, yn eu cefnogi ac yn eu herio i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn greiddiol i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Ein Rolau
Rydym yn ffurfio’r newid yr hoffem ei weld drwy adnabod heriau a datblygu syniadau ac atebion arloesol i fynd i’r afael â nhw. Gwnawn hyn ar draws sgôp polisi ac ymarfer drwy dadansoddi ymchwil a thueddiadau; ymgysylltu; chydweithio ac arloesi.
Rydym yn creu newid drwy gefnogi a dylanwadu. Mae hyn yn golygu ein bod yn ymdrechu i weithredu ar ein syniadau a’n hatebion drwy weithio gyda mudiadau i’w helpu i roi syniadau ar waith, dylanwadu ar lunwyr polisi i wneud polisïau tai yn decach a bod yn arweinwyr agweddau yn y sector a thu hwnt.
Bydd ein gwaith dros y 4 blynedd nesaf yn dilyn 3 amcan:
Hyrwyddo Hawliau a Chynyddu Tegwch
Dymunwn wneud cyfraniad sylweddol at hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch a hawliau dynol ym maes tai.
Ein nod yw ffurfio’r newid a’i wireddu yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:
- Cynyddu darpariaeth tai hygyrch yng Nghymru – cyfrannu at sicrhau mwy o gartrefi hygyrch yng Nghymru, gyda ffocws ar bobl anabl a phobl hŷn yn cynnwys cynyddu a gwella darpariaeth cofrestrau tai hygyrch ac adeiladu mwy o dai hygyrch.
- Gwella cysylltiadau hiliol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol a throseddau casineb – cyfrannu at atgyfnerthu rôl y sector mewn gwella cysylltiadau hiliol a lleihau troseddau casineb yng Nghymru. Datblygu atebion i leihau digartrefedd pobl BME yng Nghymru, yn cynnwys digartrefedd a achosir gan faterion mewnfudo.
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y sector rhentu preifat – gweithio gyda phartneriaid i gynyddu capasiti tenantiaid a landlordiaid i leihau anfantais a rhagfarn yn y sector rhentu preifat.
- Lliniaru effaith diwygio lles a thaclo anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol – datblygu atebion, cefnogi aelodau a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i’r afael â’r materion anghydraddoldeb allweddol sy’n deillio o ddiwygio lles, yn cynnwys yr effaith ar bobl ifanc a fforddiadwyedd. Mireinio ein cylch gwaith o ran taclo anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol ym maes tai, yng nghyd-destun y cysylltiadau cryf rhwng anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a nodweddion gwarchodedig.
- Hwyluso gwell dealltwriaeth ac ymateb i faterion iechyd meddwl – gweithio gyda’r sector a phartneriaid i ddatblygu atebion i daclo anfantais, gwahaniaethu a rhwystrau sefydliadol sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl ymysg tenantiaid a staff.
Meithrin Rhagoriaeth Mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Fe godwn safonau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector tai. Byddwn yn meithrin rhagoriaeth, yn ysbrydoli, yn herio ac yn cefnogi’r sector i wneud ei orau glas i leihau anghydraddoldeb yn y maes tai a mwyhau ei effaith gadarnhaol ar gymunedau amrywiol.
Ein nod yw ffurfio’r newid a’i wireddu yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:
- Darparu ein Dyfarniad QED – byddwn yn parhau i godi safonau drwy ein Dyfarniad QED arloesol a byddwn yn ymestyn ei gwmpas y tu hwnt i’r sector cymdeithasau tai.
- Cadw a chynyddu aelodaeth – fe gynyddwn ein haelodaeth ymysg awdurdodau lleol a sefydliadau cefnogaeth tai.
- Cynyddu cyfranogaeth a chyd-gynhyrchu – byddwn yn gwella ein hymgysylltu â’n haelodau, ein partneriaid a’u cymunedau ac yn gwella eu cyfle i gyfranogi’n weithredol yn yr hyn a wnawn, fel bod ein gwaith wedi’i wreiddio yn eu profiadau, a llwyddiant yn cael ei lywio gan gydweithio. Byddwn hefyd yn hyrwyddo cyfranogiad ehangach gan denantiaid amrywiol mewn llywodraethu’r sector, yn cynnwys craffu gan denantiaid a thryloywder.
- Darparu gwasanaethau ardderchog – fe ddatblygwn ein gwasanaeth a’r hyn a gynhigiwn ymhellach, gan wneud yr ymgynghori, hyfforddiant a’r gwasanaethau eraill a gynhigiwn yn fwy rhagweithiol ac wedi’u teilwra i’n blaenoriaethau hawliau cynyddol. Fe wnawn ganolbwyntio’n bellach ar werth am arian, ysbrydoli’n gadarnhaol a rôl unigolion.
- Adolygu ffioedd a buddion aelodaeth – byddwn yn eu hadolygu i adlewyrchu newidiadau cyfredol a phosibl yn y sector a byddwn yn gallu parhau i gynnig gwerth da am arian i’n haelodau.
Rhedeg Mudiad Arloesol a Rhagweithiol
Byddwn yn parhau i ddatblygu fel mudiad a phobl, yn canolbwyntio ar dyfu ein capasiti i arloesi a bod yn arweinydd uchelgeisiol a gwirioneddol ragweithiol ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ein nod yw ffurfio’r newid a’i wireddu yn y meysydd blaenoriaeth canlynol:
- Datblygu ein capasiti ymchwil a thystiolaeth – byddwn yn cynyddu defnydd ymchwil a dadansoddi tueddiadau fel bod ein hatebion wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn tystiolaeth, er mwyn cynyddu ein dylanwad a thystiolaethu ein heffaith.
- Meithrin partneriaethau sy’n meddwl ymlaen – byddwn yn gweithio gyda sectorau eraill sy’n gysylltiedig â thai i hyrwyddo arfer gorau yn y maes tai a byddwn yn cefnogi partneriaethau cydfoddhaol sy’n hybu proffil cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus.
- Gwella cyfathrebu a marchnata – byddwn yn cynyddu a gwella ansawdd ein gweithgareddau cyfathrebu a marchnata, yn ei unioni gyda’n blaenoriaethu ac yn hwyluso mwy o ymgysylltu ac effaith.
- Cynyddu cynaliadwyedd i’r tymor hir – byddwn yn datblygu ein capasiti i gynhyrchu incwm ymhellach drwy gyflwyno cynllun busnes cydlynol.
- Cynyddu ein dylanwad ar bolisi – byddwn yn datblygu ein capasiti polisi a materion cyhoeddus, yn cynnwys monitro gwleidyddol, arwain agweddau a’n perthynas gyda phenderfynwyr allweddol.
- Ymwreiddio’r strwythur newydd – byddwn yn sicrhau bod Tai Pawb yn dîm cwbl gydweithredol a deinamig, lle mae unigolion yn hapus ac yn cael eu cefnogi i gamu allan o’u ffiniau cysurus a gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein pwrpas.
Sut Fydd Llwyddiant yn Edrych?
Erbyn 2021, drwy ganolbwyntio ar ein hamcanion a’n blaenoriaethau, byddwn wedi gwneud cyfraniad sylweddol i wneud Cymru’n lle tecach i fyw. O ganlyniad i’n heffaith o fewn cwmpas y meysydd blaenoriaeth uchod:
- Bydd cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’i integreiddio mewn polisi cenedlaethol, gan arwain at symudiad ymlaen mewn hawliau a gwell tegwch i denantiaid
- Bydd cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’i ymwreiddio’n well yn strategaethau a gweithrediadau ein haelodau, yn mwyhau eu heffaith gadarnhaol ar gymunedau amrywiol a difreintiedig
- Bydd Tai Pawb yn cael ei ystyried yn bartner dewisol ac yn arweinydd rhagweithiol ac arloesol gan y sector a rhanddeiliaid eraill
Byddwn yn mesur ac yn adrodd yn gyhoeddus ar effaith y strategaeth hon yn flynyddol, a’n bwrdd yn derbyn adroddiadau bob chwarter. Pan bynnag fo’n bosibl, byddwn hefyd yn amlygu ein heffeithiau drwy gydol y flwyddyn ar ein sianeli cyfathrebu arferol.
Bydd ein mesurau yn cynnwys dangosyddion yn darlunio effeithiau ein hallbynnau a’n gweithredoedd neu setiau o weithredoedd yn unol â phob blaenoriaeth.
Ar lefel polisi cenedlaethol, byddwn yn ystyried i ba raddau y bydd ein hadborth a’n cyngor wedi cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru neu randdeiliaid allweddol eraill.
Ar lefel gweithredu, byddwn yn ystyried a yw’n cefnogaeth a’n cyngor wedi’i fabwysiadau gan ddarparwyr tai ac aelodau eraill, a’i gysylltu ag effeithiau ar denantiaid pan bynnag fo’n bosibl.
Byddwn hefyd yn defnyddio ymgysylltu ac arolygon i fesur barn ac adborth staff, y bwrdd a rhanddeiliaid am yr effeithiau a grëwn.
Adnoddau a Risg
Bydd ein capasiti i gwrdd â’n hymrwymiadau angen ei gefnogi gan gynllunio ariannol gofalus a monitro capasiti. Er y bydd ein strwythur newydd yn gwella’n gallu i fedru cyflawni ein blaenoriaethau, deallwn hefyd bod angen i ni roi mesurau eraill ar waith i sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hirach a lleihau risg. Bydd y strategaeth hon yn cael ei chefnogi gan:
- Cynllun busnes 4 blynedd sy’n nodi ein ffocws ar gadw a chynhyrchu incwm o ran amrywiaethu, treiddio i’r farchnad, datblygu’r farchnad a chynnyrch, oll wedi’i danategu gan ddichonolrwydd masnachol ein gweithgareddau
- Adolygiad o’n ffioedd a buddion aelodaeth sy’n canolbwyntio ar werth am arian a chadw aelodau
- Ein cynlluniau i dyfu ein haelodaeth ac ymestyn cyrhaeddiad ein gwasanaethau
- System rheoli risg mwy datblygedig ac wedi’i hadolygu, a chofrestr risg
- Mwyhau ein staff a’n capasiti ariannol yn rhagweithiol drwy ddefnyddio pob gweithgaredd i gyflawni gymaint o agweddau o’n rolau a’n hamcanion â phosibl
- Cynnig cefnogaeth ragweithiol i’n tîm i weithio’n hyblyg ac yn ddeinamig ar draws ein portffolio
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Ffyniant i Bawb
Mae’r adran hon yn egluro sut mae’r amcanion a nodir yng nghynllun strategol Tai Pawb yn cyd-fynd ag, ac yn cyfrannu at, y saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae darlunio’r cytgord rhwng ein hamcanion a’r ddeddfwriaeth hon, a dangos y rhan y gallwn ei chwarae mewn cynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda ‘Ffyniant i Bawb – y strategaeth genedlaethol (2017)’, yn bwysig i fusnes Tai Pawb, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn ymroddedig ac yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o hysbysu a dylanwadu ar weithrediad y polisi datganoledig newydd a’r gyrwyr deddfwriaethol am gydraddoldeb.
Pwrpas y Ddeddf yw hwyluso gwell penderfynu gan gyrff cyhoeddus o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Cyflwynwyd pum ffordd allweddol o weithio er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i ystyried y tymor hir, i weithio i rwystro problemau rhag codi neu rhag gwaethygu, i gael ymagwedd integredig a chydweithredol, ac i ystyried a chynnwys pobl. Byddwn yn parhau i gofleidio’r ffyrdd hyn o weithio ac yn canolbwyntio ar eu hymwreiddio yn y modd rydym yn cynllunio, cyflawni, monitro ac asesu ein gwaith.
Fel rhan o’r Ddeddf, mae’n rhaid i gyrff sector cyhoeddus sydd wedi’u rhestru asesu, ymysg pethau eraill, sut mae eu hamcanion llesiant eu hunain yn cyd-fynd â’r saith nod llesiant i wneud Cymru’n wlad lewyrchus, gydnerth, iachach, mwy cyfartal, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Gyda’i gilydd, mae’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio a gyflwynir gan y Ddeddf wedi’u dylunio i gefnogi a darparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Yn ‘Ffyniant i Bawb – y strategaeth genedlaethol (2017)’, gosododd Lywodraeth Cymru bedwar maes lle mae’n credu y gallai wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl Cymru wrth weithio tuag at y nodau cenedlaethol, nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw creu Cymru ddiogel sy’n ffynnu, Cymru iach ac egnïol, Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu, Cymru unedig a chysylltiedig.
Mae’r rhan helaeth o amcanion Tai Pawb yn cyd-fynd ag amcanion Ffyniant i Bawb, yn cynnwys mesurau sy’n anelu at: wella iechyd meddwl, lleddfu anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol, brwydro troseddau casineb, hwyluso byw’n annibynnol drwy gofrestrau tai hygyrch, datblygu cartrefi hygyrch sy’n gweddu at anghenion pobl ac yn lleihau digartrefedd a gwella’r sector rhentu preifat drwy ein prosiect Drysau Agored. Bydd ein cynlluniau gweithredol dros y 4 blynedd nesaf yn dangos yn fanylach sut y caiff Ffyniant i Bawb ei ategu yn ein hallbynnau a’n heffeithiau.
Tai Pawb is a company registered in England and Wales (5282554) and a charity registered with the Charity Commission (1110078).
If you would like to know more about Tai Pawb, and our Strategic Plan, please get in touch:
- info@taipawb.org
- 029 2053 7630
- @TaiPawb
Credits:
Created with images by TimHill - "tenby pembrokeshire wales" • muffinn - "Cardiff - Terrace Houses" • paulbr75 - "handicap parking sign painted" • Free-Photos - "blogger cellphone office" • Shad0wfall - "winning motivation succeed"