Loading

Tai Carbon Isel: yr her Crynodeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dai carbon isel

Mae tai yn gyfrifol am 13 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU a bron i 8 y cant o allyriadau Cymru.

Rydym yn wynebu heriau sylweddol wrth gwrdd â’n hymrwymiadau newid hinsawdd. Er mwyn sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau hirdymor beiddgar a phendant.

Bydd gwneud tai yng Nghymru yn fwy effeithlon o ran ynni yn un o’r prif ffyrdd o gyflawni hyn. Mae’r anawsterau a wynebwn yn cael eu cymhlethu gan natur stoc dai bresennol Cymru. Mae’n hen - yr hynaf yn Ewrop.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae effeithlonrwydd ynni yn fesur o'r ynni a ddefnyddir i wneud pethau fel cynhyrchu gwres a dŵr poeth, sef y pethau sy'n achosi'r defnydd mwyaf o ynni yng nghyd-destun tai. Mae gwella effeithlonrwydd ynni yn golygu cael mwy o fudd o'r ynni a ddefnyddir. Tai carbon isel a thai di-garbon yw'r termau a ddefnyddir i ddisgrifio cartrefi sydd wedi'u dylunio a'u hadeiladu i ryddhau ychydig iawn o garbon, neu ddim carbon o gwbl, yn ystod eu hoes. Felly maent yn effeithlon iawn o ran egni.

Mae'n debygol y bydd 65-70 y cant o'r tai a fydd yn bodoli yn y 2050au wedi cael eu hadeiladu cyn 2000

Bydd gwella ansawdd ein tai yn galluogi Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol a domestig i leihau allyriadau.

Wrth gynnal yr ymchwiliad, ystyriodd y Pwyllgor y canlynol:-

  • Y cyfraniad y gall tai ei wneud wrth i Gymru bontio i economi rhad ar garbon, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol posibl ar allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • Datblygiad y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tai sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn, ac i ba raddau y mae'r dechnoleg honno ar gael;
  • Y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y stoc dai bresennol yn defnyddio ynni mor effeithlon ag y bo modd;
  • A yw'n bosibl ac yn ymarferol darparu tai fforddiadwy ar raddfa fawr yng Nghymru a'r rheiny'n effeithlon iawn o ran carbon ac yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio ac, os felly, sut y gellir cyflawni hyn;
  • Y ffactorau sy'n rhwystr rhag cyflwyno newid trawsnewidiol ym maes adeiladu tai yng Nghymru;
  • Rôl Ofgem a'r grid cenedlaethol o ran galluogi'r grid i esblygu i ddarparu ar gyfer mathau newydd o dai, a'r heriau a gyflwynir wrth i ynni gael ei gyflenwi o ffynonellau wedi'u datganoli;
  • A oes gan Gymru'r sgiliau angenrheidiol i hwyluso a galluogi newid yn y sector tai;
  • Y newidiadau y mae angen eu gwneud i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru er mwyn symud yn gyflymach tuag at safonau ynni lle y cynhyrchir bron ddim carbon, a thu hwnt i hynny;
  • Sut y gellir cynllunio a siapio cymunedau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a chynhyrchu llai o garbon (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da yng Nghymru a thu hwnt).

Mae adroddiad y Pwyllgor yn mynnu gweledigaeth uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru. Mae angen cynyddu graddfa a chyflymder y broses o ddarparu cartrefi sy’n effeithlon iawn o ran ynni, neu ni fydd yn cwrdd â’r her y mae’n ei wynebu.

Yr hyn a wnaeth y Pwyllgor

Ymgysylltu

Yn ogystal ag ymweliad y Pwyllgor â'r Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe, technoleg datblygu partneriaethau i droi adeiladau yn orsafoedd pŵer, lluniwyd arolwg a chynhaliwyd nifer o gyfweliadau fideo â phobl o bob rhan o Gymru i brofi agweddau'r cyhoedd ar dai carbon isel.

Cwblhawyd arolygon gan amrywiaeth eang o ddinasyddion Cymru o oedrannau gwahanol, gydag amgylchiadau byw gwahanol ac mewn lleoliadau gwahanol - o Sir Fynwy i Sir Benfro, ac o Fro Morgannwg i Ynys Môn. Roeddem hefyd yn awyddus i'r arolwg adlewyrchu barn y cyhoedd yn ehangach ac nid dim ond y rhai sy'n ystyried eu hunain fwyaf angerddol dros achosion amgylcheddol.

Daeth cyfanswm o 970 o ymatebion i'r arolwg i law, a ddatgelodd y canlynol:-

  • Wrth feddwl am y math o gartref yr hoffent fyw ynddo, roedd 9 o bob 10 o’r rhai a ymatebodd i’n harolwg yn teimlo mai fforddiadwyedd prynu neu rentu tŷ, a chostau rhedeg y cartref yw’r ffactorau pwysicaf.
  • Teimlai 67% bod nodweddion amgylcheddol y cartref yn bwysig neu’n bwysig iawn, sy’n uwch na’r 64% a oedd yn teimlo bod apêl weledol y cartref yn bwysig neu’n bwysig iawn.
  • “Cynnes a chyfforddus” (54.6%); “Ymarferol” (49.5%); “Yn rhad i’w rhedeg” (43.9%). Dyma’r geiriau mwyaf cyffredin a ddewiswyd gan ymatebwyr i’n harolwg i ddisgrifio eu barn am gartrefi carbon isel.
  • Fodd bynnag, roedd hanner ein hymatebwyr yn ansicr a oeddent yn teimlo bod cartrefi carbon isel neu gartrefi di-garbon yn ddeniadol ac roedd 42% yn ansicr a yw cartrefi carbon isel neu gartrefi di-garbon yn fforddiadwy i’w prynu neu’u rhentu.

Hefyd, cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau fideo gyda phobl o bob rhan o Gymru, o Abertawe i Wynedd ac o Gaerdydd i Sir Ddinbych. Unwaith eto, roeddem yn awyddus i gasglu amrywiaeth o safbwyntiau ac roedd y rhai a gafodd eu cyfweld yn amrywio o bobl nad oeddent yn ystyried eu hunain yn ymwybodol iawn o'r amgylchedd i randdeiliaid allweddol yn y sector.

Daeth nifer o themâu i'r amlwg a lywiodd y sesiynau tystiolaeth dilynol a'r argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru yn adroddiad y Pwyllgor. You can view the full video below.

Aelodau'r Pwyllgor Dai Lloyd AC, Mike Hedges AC (Cadeirydd) a David Melding AC gydag aelodau staff o Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe ar 19 Ionawr 2018.

Clywsom hefyd dystiolaeth bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy mewn sawl maes. Fe wnaeth amrywiaeth o randdeiliaid a thystion naill ai gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu gyfrannu mewn sesiynau tystiolaeth lafar yn y Senedd.

Yr hyn a glywsom

Pwysigrwydd cartrefi carbon isel a di-garbon

Mae llawer o resymau pam y dylem wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai. Y pwysicaf yw’r angen i gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol i ddileu tlodi tanwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Ein barn

Map llwybr deng mlynedd tuag at dai di-garbon

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer tai carbon isel. Rhaid i’r strategaeth gynnwys cerrig milltir a thargedau a rhaid iddi gyflawni’r canlynol o fewn ei hoes:

  • Ôl-osod yr holl dai sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru i safonau di-garbon ar waith;
  • Adeiladu pob tŷ newydd yng Nghymru i safonau di-garbon ar waith;
  • System gynllunio ac adeiladu ategol gydag effeithlonrwydd ynni a charbon isel wrth eu gwraidd, a chyda chefnogaeth cyfundrefnau arolygu annibynnol, trylwyr;
  • Cymhellion ariannol i annog prynwyr a pherchnogion i brynu tai carbon isel a buddsoddi mewn mesurau ôl-osod;
  • Ymyriadau cyllido sy’n gwneud y mwyaf o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai carbon isel; a
  • Gweithlu wedi’i hyfforddi’n llawn, yn barod i adeiladu a gwella cartrefi gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf.

Yr hyn a glywsom

Adeiladu cartrefi di-garbon ar gyfer y genhedlaeth nesaf

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth o’r angen i sicrhau bod atebion carbon isel wedi’u hymgorffori yng nghyfnod cynllunio a dylunio datblygiadau tai, er enghraifft drwy gynllunio ar gyfer llai o ddibyniaeth ar deithio mewn ceir.

Clywodd y Pwyllgor amrywiaeth o safbwyntiau am y graddau y gall newidiadau i reoliadau adeiladu hwyluso newid i adeiladu tai carbon isel. Mynegwyd pryderon y gallai codi safonau yng Nghymru rwystro adeiladwyr tai rhag adeiladu yng Nghymru, tra bod eraill yn teimlo bod angen safon newydd uchelgeisiol i annog newid.

"As part of my decision I did consider whether the property was environmentally friendly, partly from an energy efficiency perspective, because I was taking on a mortgage and wanted to make sure that my heating bills weren’t going to be really huge. I think at the time there was an energy performance certificate and I remember that I looked at that and it was a pretty good outcome so it was a positive for me. It wasn’t the most important factor though, the location, the size and those kind of things were more important but it was something I considered as part of my overall decision as to whether to go ahead with that particular property." Tom Bedford, prynwr tro cynaf, Casnewydd

Ein barn

Tai newydd

Argymhellod y Pwyllfor y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio Rhan L y rheoliadau adeiladu i gynyddu effeithlonrwydd ynni gofynnol cartrefi newydd. Dylai nodi amserlen glir i symud i ddi-garbon ar waith, fel y gall adeiladwyr tai, y gadwyn gyflenwi a darparwyr sgiliau baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y drefn arolygu yn gadarn ac yn cael yr adnoddau priodol i ategu’r hyder mewn tai carbon isel. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno nod ansawdd:

  • sy’n asesu perfformiad technoleg arbed ynni “ar waith”;
  • sy’n gosod rhwymedigaeth ar y gosodwr i sicrhau bod y perfformiad gofynnol yn cael ei gyflwyno neu atgyweirio neu newid y dechnoleg; a
  • sy’n cael ei gynllunio, ei archwilio a’i orfodi’n annibynnol.

Yr hyn a glywsom

Dod â chartrefi sydd eisoes yn bodoli i fyny at safonau di-garbon

Mae problemau o ran effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi yng Nghymru yn fwyaf difrifol yn ein stoc dai bresennol. Mae gan Gymru fwy o gartrefi hŷn, oerach, nag yng ngweddill y DU sy’n eu gwneud yn fwy drud i’w gwresogi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2050, ond mae 80 y cant o’r tai y byddwn yn byw ynddynt eisoes wedi’u hadeiladu. Mae tai newydd ond yn cyfrif am 6 y cant o’n stoc dai.

"The factors that most concern clients that we deal with when renting or buying a home is very simple - location, price, size and general condition. With regard to environmentally friendly properties, it's certainly a criteria that certain people would look for, but in terms of detail of going beyond a question of an energy 'C' rating or cost to run - unless it's extremely high it doesn't really have much of an affect for people we deal with." - Jon Hooper-Nash, asiant tai, Caerdydd

Ein barn

Ôl-osod

Argymhellodd y Pwyllgor yn ystod y 12 mis nesaf, dylai Llywodraeth Cymru gynnal a chyhoeddi dadansoddiad cost a budd cynhwysfawr o ôl-osod i ddi-garbon ar waith ym mhob cartref sydd mewn tlodi tanwydd,

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ehangu’r cynlluniau ôl-osod presennol o dan Arbed 3 a buddsoddi ynddynt. Dylai’r Grŵp Ymgynghorol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Presennol adrodd i’r Pwyllgor ar ddichonoldeb ôl-osod cartrefi o dan y cynllun hwn yn ôl y ‘math’ o annedd.

Dylai’r Grŵp Ymgynghorol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Presennol adrodd i’r Pwyllgor ar sut y mae’n bwriadu annog perchnogion cartrefi “sy’n gallu talu” a pherchnogion cartrefi sydd ar incwm isel i ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni.

Yr hyn a glywsom

Sgiliau

Mae cadwyn gyflenwi gadarn a’r gweithlu medrus i osod y dechnoleg newydd yn hanfodol i ddarparu’r tai di-garbon sydd eu hangen yng Nghymru. Barn y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn yr ymchwiliad oedd bod diffyg sgiliau priodol yng Nghymru i ddarparu tai carbon isel ar raddfa.

“I think Wales has a lot to do in terms of the skills capacity as does the rest of the industries. It's not just a Wales specific issue. There's a huge education that we need to do across all sectors around skills capacity, how we build the new engineers of the future and what that means, and there's a lot of initiatives out there already to look at that but it is a huge issue." Gill Kelleher, Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu, SPECIFIC

Ein barn

Hyfforddiant a sgiliau

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai hyfforddiant a sgiliau fod yn ganolog i strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer tai carbon isel. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn y ddarpariaeth o hyfforddiant a’r offer priodol sydd ei angen i ymgymryd â’r hyfforddiant.

Dylai Llywodraeth Cymru adrodd i’r Pwyllgor o fewn 12 mis ar ôl i’r mesurau gael eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan y sector adeiladu y gweithlu sydd â’r sgiliau priodol i gyrraedd ei dargedau ar gyfer cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni.

Dylai Llywodraeth Cymru adrodd i’r Pwyllgor o fewn 12 mis gydag asesiad o effaith Brexit ar y cyflenwad o sgiliau a llafur yn y sector adeiladu.

Yr hyn a glywsom

Financial interventions and incentives

There are many ways to maximise available funding to deliver low carbon housing and potential financial incentives to support consumers to choose low carbon housing. The Committee heard that financial incentives could be used to encourage take up of low carbon housing.

Ein barn

Cyllido a chyllid

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad o fewn y 12 mis nesaf ar yr opsiynau sydd ar gael iddi i gael cyllid i ddarparu tai carbon isel ar raddfa drwy ôl-osod ac adeiladu tai newydd.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr morgais mawr yng Nghymru i ysgogi cyfraddau benthyca ffafriol ar gyfer cartrefi carbon isel ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn o fewn 12 mis ar gynnydd.

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw arian i ysgogi’r farchnad adeiladu tai, fel y Gronfa Safleoedd Segur, yn amodol ar yr adeilad gorffenedig yn bod yn ddi-garbon ar waith.

Dylai Llywodraeth Cymru ailystyried yr achos dros alinio’r Dreth Trafodiadau Tir i effeithlonrwydd ynni eiddo ac adrodd i’r Pwyllgor ar hyn o fewn 12 mis.

Gwneud gwahaniaeth

Hoffai'r Pwyllgor ddiolch yn fawr i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu profiadau, eu sylwadau a'u syniadau yn ystod yr ymchwiliad.

Mae eich barn chi yn bwysig ac maent yn gwneud gwahaniaeth. Mae eich cyfraniad wedi llywio'r adroddiad a'r argymhellion, sy'n galw am weledigaeth uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru, os yw am gwrdd â'r her y mae'n wynebu.

Gallwch ddarllen y cylch gorchwyl llawn, cefndir yr ymchwiliad ac adroddiad llawn y Pwyllgor ar dudalen ein hymchwiliad:

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor a'i waith drwy ei ddilyn ar Twitter: @SeneddNHAMG

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.