Loading

Cefnogi eich plentyn i ddefnyddio'r Gymraeg gartref

Peidiwch â phoeni

Gallwch chi annog a chefnogi'ch plentyn i ymarfer ei Gymraeg y tu allan i'r ysgol mewn amryw ddull a modd.

Gobeithio y bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i gael gafael ar adnoddau addas i gefnogi'ch plentyn ac i dawelu unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â'r cyfleoedd sydd gan eich plentyn i ddatblygu ei sgiliau iaith yn ystod y cyfnod hwn.

Ble mae dechrau?

Gellir dod o hyd i ganllawiau cyffredinol i rieni a gofalwyr sy'n awyddus i gefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg eu plant y tu allan i'r ysgol trwy ddewis y ddolen isod.

Efallai y bydd y clip fideo hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg gartref ond sydd â phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ddefnyddiol hefyd. Daw o'r Athro Enlli Thomas o Brifysgol Bangor.

Os ydych chi am wybod mwy am astudiaethau'r Athro Thomas ynglŷn â defnyddio, cadw ac adfywio sgiliau iaith, mae darllen dethol ar gael yma:

Seren a Sbarc

Dyma fasgotiaid swyddogol Strategaeth Siarter Iaith Llywodraeth Cymru. Cliciwch ar y botwm isod i ddarganfod mwy am y Siarter Iaith ac anturiaethau Seren a Sbarc. Mae amryw o daflenni gweithgaredd y gellir eu hargraffu ar gael trwy'r botwm hefyd.

Mae gan Seren a Sbarc gyfrif ar sawl cyfrwng cymdeithasol hefyd. Gallwch eu dilyn ar amrywiol lwyfannau fel Twitter (@SerenaSbarc).

Gwobrau'r Siarter Iaith

Mae pob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn ein hardal yn hyrwyddo nod ac amcanion y Siarter Iaith. Mae'r mwyafrif o'n hysgolion wedi ennill y Wobr Arian ac yn prysur baratoi i gael eu dilysu ar gyfer y Wobr Aur! O ganlyniad, mae'n bosib iawn y byddwch chi'n gweld y cymeriadau chwareus hyn ar ddeunyddiau a rennir gan ysgol eich plentyn.

Cefnogaeth

Ysgol Gymraeg Rhosafan oedd yr ysgol gyntaf yn Ne Cymru i dderbyn y Wobr Aur. Mae'r ysgol nawr yn cefnogi holl ysgolion cyfrwng Cymraeg yr ardal a thu hwnt wrth iddynt weithio tuag at y Wobr Aur. Yn ogystal â helpu staff ysgolion eraill, mae Criw Rhosafan yn trydaru gwybodaeth a gweithgareddau hwylus i rieni a gofalwyr eu cwblhau gyda'u plant y tu allan i'r ysgol. Edrychwch ar gyfrif Twitter yr ysgol (@YGGRhosafan).

Mae ysgolion eraill yr ardal yn trydaru'n aml am weithgareddau'r Siarter Iaith hefyd felly cadwch lygad arnyn nhw. Mae rhestr lawn o ysgolion yr ardal ar gael ar ddiwedd y cyflwyniad hwn.

Cyfle ...

Mae pob dydd yn gyfle i ymarfer siarad Cymraeg ond mae'n debyg y byddwch yn gweld mwy o weithgaredd i ddathlu achlysuron penodol fel Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Shwmae Su'mae, Diwrnod T. Llew Jones, Diwrnod Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru a Dydd Gŵyl Dewi, wrth gwrs!

Cefnogaeth Leol

Mae gan bob ardal yng Nghymru ei Menter Iaith ei hun. Ariennir y Mentrau gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cyfleoedd lleol i blant a phobl ifanc ymarfer eu Cymraeg y tu allan i'r ysgol. Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth am holl weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg sy’n digwydd ar draws y sir ar eu gwefan. Ar hyn o bryd, darperir eu gweithgareddau ar-lein. Mae hyn yn golygu bod rhai gweithgareddau, os nad pob un ohonyn nhw, ar gael i blant sy'n byw y tu allan i ardal benodol y Fenter honno. Felly, mae'n werth edrych beth mae'r Mentrau eraill yn ei ddarparu hefyd. Gellir dod o hyd i ddolen ein Menter leol yma.

Cadwch lygad ar dudalennau Twitter ac Instagram y Mentrau hefyd am yr wybodaeth a'r cyfleoedd diweddaraf.

Rhywbeth at ddant pawb

Mae llawer o fudiadau eraill yn awyddus i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant hefyd. Maent wedi creu ystod o weithgareddau atyniadol i annog plant i fwynhau defnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol - dyna beth yw hwyl!

Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer plant yn y Cyfnod Sylfaen (o dan Flwyddyn 3) i'w gweld yma:

Ac ar gyfer plant yng Nghyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3 - 6), edrychwch yma:

Rhywbeth i'w ddarllen?

Mae Booktrust Cymru yn darparu cyfoeth o adnoddau i hyrwyddo darllen i blant - gan gynnwys pecynnau gweithgareddau y gall rhieni / gofalwyr a phlant ifanc eu mwynhau gyda'i gilydd. Cymerwch gip ar yr hyn sydd ar gael yma ...

Mae'r Urdd yn cynhyrchu dau gylchgrawn digidol yn Gymraeg sy'n addas i blant. Maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae Cip yn gylchgrawn bywiog ar gyfer darllenwyr rhwng 7-12 oed. Mae'n cael ei gyhoeddi bob yn ail fis ...

Cydnabyddiaeth: Urdd Gobaith Cymru

ac ...

Mae Bore da yn gylchgrawn misol ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2. Mae'n cynnwys amrywiaeth o erthyglau a straeon diddorol.

Cydnabyddiaeth: Urdd Gobaith Cymru

Gallwch gofrestru i dderbyn copïau yn uniongyrchol i'ch cyfrif e-bost yma:

Y Cliciadur

Papur newydd chwarterol ar-lein yn benodol ar gyfer plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'n llawn ffeithiau, erthyglau cyfoes ac amrywiaeth o weithgareddau. Mae rhifynnau cyfredol a blaenorol ar gael yma:

Gallwch wrando ar straeon amrywiol yn Gymraeg i blant drwy chwilio 'Amser Stori Atebol' ar Youtube!​

Rhywbeth i'w wylio

Bydd gwylio teledu yn Gymraeg yn eich helpu i gynyddu eich dealltwriaeth a'ch mwynhad o'r iaith. Mae gan y darlledwr o Gymru, S4C raglenni ar gael i'w gwylio ar-lein.​ Cymerwch gip ar y syniadau yma.

Canu, Gemau, Creu,Cyw Tiwb, Penblwyddi
Cystadlu, Rhaglenni, Gemau, YouTube
Ymunwch â’r Her Gelf!

Hwyl Wrth Ddefnyddio'r Iaith

Anogwch eich plant i siarad Cymraeg gyda'r teulu a gyda ffrindiau tu allan i'r ysgol, boed wyneb i wyneb neu yn ddigidol. Byddai'n help i gynnal eu sgiliau.

Dysgu trwy Apiau

O'u defnyddio'n rhesymol, gall plant ymarfer a datblygu eu sgiliau iaith trwy amrywiaeth o apiau addysgol hefyd - llawer ar gael heb gost. Rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau ar gyfer plant yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 isod. Beth am gael golwg?

Cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau addysgol mwy ffurfiol

Mae ystod o gefnogaeth i'ch helpu chi i gefnogi'ch plentyn gyda gweithgareddau ysgol mwy ffurfiol ar gael hefyd.

Mae BBC Bitesize wedi cynhyrchu nifer o adnoddau ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Gellir eu cyrchu trwy'r dolenni isod.

Beth amdanoch chi?

Efallai yr hoffech chi wella eich Cymraeg. Efallai eich bod wedi siarad Cymraeg yn yr ysgol ond yn llai hyderus i ddefnyddio'r iaith erbyn hyn.

Os ydych chi'n ystyried eich taith Gymraeg eich hun, dyma rai ffynonellau gwybodaeth defnyddiol a allai fod o gymorth i chi. Beth bynnag yw eich lefel, mae yna opsiynau ar eich cyfer chi.

Cliciwch ar y testun glas sydd wedi'i danlinellu yn yr adran isod i ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i'ch helpu chi ar eich taith eich hun at ddwyieithrwydd.

Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg yn darparu cyfres o opsiynau dysgu iaith ar bum lefel wahanol: Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Hyfedredd. Mae'r ganolfan yn cynnig dosbarthiadau dysgu iaith sydd ar gael yn lleol trwy 11 canolfan yn genedlaethol. Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau yn ardaloedd cynghorau sir Dinas Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae llawer o'r ddarpariaeth ar gael ar-lein erbyn hyn. Cliciwch ar y ddolen i gael gwybodaeth a chyfleoedd amrywiol. Dewch o hyd i'ch cwrs newydd.

Rhowch gynnig ar rai o'u gwersi blasu 10 munud i ddechreuwyr. Mwynhewch!

Os oes gennych ddiddordeb mewn sesiynau Cymraeg yn y Gweithle, mae amryw o opsiynau ar gael gan gynnwys cyrsiau blasu ar-lein sy'n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim. Mae'r rhain yn gyrsiau pwrpasol ar y gyfer y gweithle a ddatblygwyd ar gyfer sectorau gwahanol gan gynnwys addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, twristiaeth a manwerthu.

Hwyl a mwy!

Mae Duolingo yn hyrwyddo dysgu iaith trwy brofiadau tebyg i gêm ac mae'n ffordd boblogaidd o ddysgu Cymraeg yn anffurfiol. Ewch i wefan Duolingo a dewis Cymraeg neu lawrlwythwch yr ap.

Dim rheolau, dim ffwdan!

Mae SaySomethingInWelsh yn gwrs ar-lein yn rhad ac am ddim sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i ddysgu siarad a deall Cymraeg. Mae'n osgoi rheolau gramadeg cymhleth a darllen / ysgrifennu. Mae ar gael trwy'r wefan ac ap.

Bydd annog eich plant i siarad Cymraeg yn gymdeithasol yn eu helpu i ddatblygu eu hyder a'u rhuglder.

Hwb i'r hyder?

Cyfarwydd â'r iaith ond heb hyder i'w defnyddio? Mae ystod eang o offer technolegol i gefnogi datblygiad a chywirdeb iaith. Dyma rai awgrymiadau!

Cysill

Gwiriwr sillafu a gramadeg ar-lein. Teipiwch neu gludwch destun i'r blwch a bydd yn gwirio'ch gwaith ar unwaith. Cliciwch ar y ddolen i roi cynnig arni!

Cysgliad

Mae'r pecyn meddalwedd hwn, sy'n gwirio sillafu a gramadeg, wedi'i ryddhau i'w lawrlwytho am ddim trwy bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru. Cliciwch ar y ddolen i roi cynnig arni!

Y Termiadur Addysg

Wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru, mae'r adnodd hwn yn darparu terminoleg safonol ar gyfer y maes addysg. Dyma'r termau i'w defnyddio mewn adnoddau o bob math ar gyfer athrawon a myfyrwyr yn ogystal ag mewn arholiadau cyfrwng Cymraeg. Cliciwch isod i roi cynnig arni!

Geiriadur Cymraeg <> Saesneg

Peidiwch ag anghofio am yr ap trawiadol Ap Geiriaduron. Ar ôl ei lawrlwytho i'ch dyfais, does dim oes angen cysylltiad gwe arnoch i ddefnyddio'r geiriadur Cymraeg >< Saesneg cynhwysfawr hwn.

Mae'r ap yn golygu bod gennych gyfoeth o wybodaeth yn eich poced. Mae'n cynnwys y geiriadur cyffredinol Cysgair yn ogystal â'r geiriaduron terminoleg safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru. Gweler y ddolen isod!

Treigladau

Rydyn ni i gyd yn amau ein defnydd o'r treigladau weithiau ... Ai'r treiglad meddal, trwynol neu'r treiglad llaes sydd ei eisiau? Gall yr ap hwn eich helpu chi! Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy'r ddolen isod ...

To bach (^)?

Mae'r meddalwedd hwn ar gael yn rhad ac am ddim. Mae'n eich galluogi i osod acen grom (^) ar bob un o lafariaid yr Wyddor Gymraeg. Trwy wasgu 'Alt Gr' a'r llafariad, fe gewch â, ê, î, ô, û, ŵ neu ŷ yn syth! Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth ...

Ac yn olaf ...

Cofiwch fod Microsoft Windows a Microsoft Office ar gael yn Gymraeg. Cewch fwy o wybodaeth yma ...

Chwilio am wybodaeth bellach?

Mae'r staff yn ysgol eich plentyn yn awyddus iawn i'ch cefnogi ar eich taith ddwyieithog. Siaradwch â nhw ... Maen nhw'n aros i helpu.

Dyma restr o ysgolion cynradd Cymraeg sir Castell Nedd Port Talbot:

Credits:

Created with images by Unknown - "Education" • Oluwakemi Solaja - "untitled image" • LinkedIn Sales Navigator - "Two business women talking about sales at laptops" • Bryan Delgado - "untitled image" • Unknown - "Free picture: children, play" • lutfi gaos - "untitled image" • Rodion Kutsaev - "untitled image" • Agence Olloweb - "Il s’agit d’une photographie réalisée pour illustrer notre page des offres de création graphique de l’agence web Olloweb Solution" • National Cancer Institute - "Children in a Classroom. In the back of a classroom, are children about 11 years old with a female teacher talking about the subject - If Someone in Your Family Has Cancer. Photographer Michael Anderson" • whereslugo - "Cold" • Tyler Lastovich - "Watching the sun set beyond the mountains never gets old." • United Nations COVID-19 Response - "Kindness Contagion. Image created by Adam Niklewicz. Submitted for United Nations Global Call Out To Creatives - help stop the spread of COVID-19." • Streetwindy - "Young girl reading a book "