Loading

Ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati 'Taro’r Tant'

Haf 2016

Yn ystod haf 2016, gwnaethom ofyn i’r cyhoedd yng Nghymru am eu syniadau ynglŷn â beth oeddent yn teimlo y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu a pha faterion y dylem ni ymchwilio iddynt.

Facebook live

Cafodd Bethan Sayed AC, cadeirydd y Pwyllgor, sgwrs â James Williams o BBC Cymru ar Facebook Live i drafod ein pwyllgor newydd, a dyma oedd y tro cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol gyfathrebu yn y modd hwn. Gwnaeth Bethan annog pobl i gysylltu ac awgrymu pa feysydd yr oeddent am i’r Pwyllgor eu blaenoriaethu.

Gwahoddwyd pobl i awgrymu syniadau ar Facebook a Twitter, a thrwy e-bost, a chynhaliwyd digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol i barhau â’r sgwrs.

Canlyniad ymgynghoriad yr haf

Cawsom lawer o awgrymiadau a syniadau gan y cyhoedd, yr oedd pob un ohonynt yn werth ei ystyried. Felly, daethom at y syniad y dylai’r cyhoedd benderfynu testun ein hymchwiliad llawn nesaf. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor y Cynulliad ofyn i bobl Cymru benderfynu ar ymchwiliad pwyllgor yn y dyfodol.

Rydym i gyd yn ymgynghori ac yn ymgysylltu cystal ag y gallwn fel Aelodau’r Cynulliad, ond mae ymchwil gan Dr Andy Williamson yn dangos bod gwir angen inni ddatblygu sut mae pobl yn helpu i wneud penderfyniadau, fel y gallant lunio’r agenda ac, o bosibl, er mwyn iddynt gael eu hymgrymuso drwy’r prosesau democrataidd hyn.

Arolwg barn

Ymatebodd cyfanswm o 2,660 o bobl i’r arolwg. Daeth dros 900 o’r ymatebion hyn o arolygon papur a daeth y 1,757 o ymatebion oedd yn weddill i law ar-lein.

Pleidleisiodd un o bob pump ohonoch dros ymchwiliad i 'ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati'.

O’r 11 ymchwiliad posibl, ‘ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati’ a ddaeth i’r brig gyda 20 y cant o’r bleidlais.

Yr ymchwiliad hwn yw’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad roi penderfyniad yn uniongyrchol i bobl Cymru, gan ofyn iddynt benderfynu beth y byddai’r Pwyllgor yn edrych arno.

Mae’r mater hwn yn un hynod bwysig, sydd ddim bob amser yn cael y sylw y mae’n ei haeddu.

Os yw Cymru’n haeddu cael ei galw’n wlad y gân, mae’n rhaid inni edrych ar y ffordd yr ydym yn cefnogi pobl ifanc – ni waeth beth yw eu cefndir – i ddatblygu eu talentau cerddorol fel rhan bwysig o ddarparu system addysg gynhwysfawr a boddhaus.

Yr ymchwiliad

Rydym wedi trafod y mater hwn yn fanwl.

Rydym wedi galw tystion, holi Llywodraeth Cymru a sefydlu panel ymgynghorol o ddinasyddion er mwyn helpu i feddwl am syniadau i wella’r cyllid sydd ar gael ar gyfer addysg cerddoriaeth a gwella’r mynediad ati ar gyfer pawb ym mhob rhan o Gymru.

Roedd y sesiwn dystiolaeth lafar gyntaf gydag Owain Arwel Hughes, sylfaenydd Proms Cymru a chyn-arweinydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Roedd Mr Hughes wedi disgrifio’n ddiweddar bod y lefel isaf erioed o geisiadau ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn arwydd o argyfwng ehangach mewn cerddoriaeth Gymreig a’i fod yn gysylltiedig â thoriadau i wasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion.

.

Grŵp cynghori

I sicrhau ein bod yn parhau i gael cyngor arbenigol ar y mater, gwnaethom sefydlu grŵp cynghori ar-lein i’n helpu. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys pobl sydd â diddordeb ac arbenigedd yn y maes hwn.

Edrychodd y grŵp ar y materion yr oeddem ni’n eu hystyried, gan rannu â ni eu syniadau a’u hawgrymiadau ynghylch sut y gellir diogelu a gwella addysg cerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd gwaith y grŵp cynghori yn hynod ddefnyddiol ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.

Arolwg o benaethiaid ysgol

Er mwyn inni gael dealltwriaeth lawnach o’r sector a’i sefyllfa bresennol, gwahoddwyd penaethiaid o bob ysgol uwchradd yng Nghymru i gymryd rhan mewn arolwg ar gyfer yr ymchwiliad. Ystyriodd yr arolwg ddarpariaeth o ran addysg cerddoriaeth nad yw’n cael ei chynnig fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Cyflwynwyd 80 o ymatebion i’r arolwg, gyda 29 o ymatebion yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg; mae yna 200 o ysgolion yng Nghymru.

Clywsom:

• Mai rhieni (77 y cant), yr ysgol (66 y cant) a’r awdurdod lleol (35 y cant) sy’n talu am gostau hyfforddiant cerddoriaeth allgyrsiol;
• Roedd 34 y cant o’r farn bod eu hysgolion mewn lleoliadau gwledig, gyda 39 y cant o’r rheiny yn datgan bod lleoliad gwledig yn achosi anawsterau o ran sicrhau mynediad at hyfforddiant cerddoriaeth allgyrsiol.

Dywedwyd wrthym hefyd fod y rhwystrau a’r anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant cerddoriaeth allgyrsiol yn cynnwys:

• Cost a goblygiadau ariannol: 51 y cant;
• Diffyg adnoddau: 22 y cant;
• •Dim anawsterau a/neu brofiad cadarnhaol: 19 y cant.

I ba gasgliadau y daethom?

O’r emyn-dôn ‘Aberystwyth’ gan Joseph Parry i ganeuon protest y 60au a’r 70au, mae cerddoriaeth Cymru wedi bod â rôl flaenllaw ers tro byd, nid yn unig wrth hybu diwylliant ac etifeddiaeth Cymru y tu hwnt i’n ffiniau ond wrth roi bywyd a pharhad i gynnwys y gerddoriaeth honno, gan gynnwys yr iaith Gymraeg ei hun. Drwy gyfrwng cerddoriaeth, mae Cymru wedi brwydro yn erbyn gormes a dirywiad yn ei diwylliant ac mae wedi dod i gael ei hadnabod ledled y byd fel ‘gwlad y gân’.

Mae pwysigrwydd cerddoriaeth i Gymru hefyd i’w weld yn y rhan y mae’n ei chwarae yn y sector diwydiannau creadigol, sy’n cynhyrchu bron i £1 biliwn y flwyddyn, ffigur sydd wedi cynyddu bron 20 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Gan hynny, syfrdanol oedd clywed gan Owain Arwel Hughes, sef sylfaenydd Proms Cymru, fod toriadau i wasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion yn achosi argyfwng mewn addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Ategwyd y pryder hwn yng nghanlyniad arolwg barn y Pwyllgor ynghylch pa faes y dylai ganolbwyntio arno nesaf. O’r 11 ymchwiliad posibl, ‘ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati’ a ddaeth i’r brig gyda 20 y cant o’r bleidlais.

Drwy gydol y dystiolaeth, y ddwy brif thema a ddaeth i’r amlwg oedd cydraddoldeb darpariaeth a chydraddoldeb mynediad. Clywodd y Pwyllgor droeon sut yr oedd gwahanol ardaloedd yng Nghymru â sefyllfa wahanol iawn i’w gilydd mewn perthynas â gwasanaethau cerddoriaeth.

Thema arall a ddaeth i’r amlwg drwy gydol y dystiolaeth oedd yr effaith gadarnhaol y mae addysg cerddoriaeth yn ei chael ar ddatblygiad plentyn. Yn gyson, fe glywsom gan y tystion, o gael addysg cerddoriaeth yn eu blynyddoedd ffurfiannol, sut y gwnaethant ddysgu gwerth ymroddiad a phwysigrwydd bod yn amyneddgar a gweithio’n galed.

A minnau’n gerddor fy hun, sydd wedi bod drwy system y gwasanaethau cerddoriaeth, rydw i wedi cael cyfleoedd arbennig – boed hynny wrth chwarae rhai o ddarnau cerddoriaeth mwyaf adnabyddus y byd cerddorfaol, gweithio mewn tîm neu deithio i wahanol wledydd â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i arddangos y dalent yng Nghymru. Gan hynny, rwy’n angerddol ynghylch mynd i’r afael â’r angen brys i gynnal a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni nawr ganfod atebion radical yn sgil y toriadau parhaus y mae’r gwasanaethau hyn wedi’u hwynebu.

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r diffygion a sicrhau bod cysondeb ledled Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr bod pob plentyn, ni waeth lle maent yn byw na beth yw eu cefndir ariannol, yn elwa ar gyfle cyfartal i ddatblygu i safon ragorol. Mae bellach yn amser i beidio â chuddio’r craciau yn unig, ond yn hytrach i roi adnoddau digonol a chyfeiriad clir i’r sector.

Beth yr ydym wedi ei argymell?

Rydym wedi gwneud 16 o argymhellion yn ein hadroddiad, gan gynnwys:

- Dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich sydd â model a phatrwm penodol ar gyfer darpariaeth pob rhanbarth. Dylai’r corff cenedlaethol gael cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru a dylid ei wneud yn gyfrifol am sicrhau bod disgyblion a staff sy’n gweithio yn y sector addysg cerddoriaeth, ni waeth lle y maent na beth yw eu cefndir cymdeithasol, yn elwa ar gyfleoedd cyfartal;

- Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’n sylweddol y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prynu offerynnau cerdd ac yn ei ddosbarthu ar sail angen. Dylid gwneud hyn fel mater o frys a dylid ei anelu at wella’r sefyllfa yn y byrdymor, i gwmpasu’r cyfnod cyn bod corff cenedlaethol yn gallu cymryd cyfrifoldeb llawn dros wasanaethau cerddoriaeth; a

- Bod Llywodraeth Cymru, drwy Gynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yn: - darparu cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar ffyrdd o integreiddio a hybu’r gwaith o addysgu ffurfiau llai traddodiadol o gerddoriaeth; ac annog sefydlu ensembles roc a phop, a chystadlaethau cenedlaethol sy’n seiliedig ar roc a phop.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad yn llawn ac hefyd cyfweliad gyda Bethan yn siarad am yr adroddiad.

Y digwyddiad lansio

Ar 14 Mehefin 2018, roeddem yn falch o lansio ein hadroddiad yng nghwmni llawer o’r bobl a gyfrannodd at yr ymchwiliad.

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i drafod yr adroddiad a’i ganfyddiadau, yn ogystal â dathlu’r holl dalent sydd gennym yng Nghymru, gyda pherfformiadau gan The Glam a Owain Felstead a Maya Morris, cerddorion o Ysgol Lewis Pengam.

Roeddem ni hefyd yn falch o groesawu’n siaradwyr gwadd, Tim Rhys Evans o elusen Only Boys Aloud a Bethan Jenkins, Pennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Lewis Pengam.

Siaradodd Tim am ei brofiad cadarnhaol o fewn y diwydiant, gan fynegi ei siom fod Cymru bellach yn wynebu argyfwng o ran addysg cerddoriaeth. Aeth Tim ymlaen i gyfleu’r ystod eang o fuddion a ddaw yn sgil astudio cerddoriaeth a chymryd rhan mewn addysg cerddoriaeth. Mae hyn yn cynnwys effaith gadarnhaol ar lefelau cyrhaeddiad addysgol ehangach yn ogystal â llesiant meddyliol.

Esboniodd Bethan fod Ysgol Lewis Pengam yn arloesi drwy hyrwyddo addysg cerddoriaeth, gan ganiatáu i ddisgyblion ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i allu creu cerddoriaeth mewn sawl ffordd.

Y camau nesaf

Ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad, mae gan Lywodraeth Cymru chwe wythnos i ymateb iddo. Golyga hyn fod yn rhaid i’r Llywodraeth ymateb erbyn 26 Gorffennaf 2018, a chaiff yr ymateb hwnnw ei gyhoeddi yma ac ar wefan yr ymchwiliad.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor drwy eu derbyn, eu gwrthod neu eu derbyn mewn egwyddor.

Yn olaf, bydd y Cynulliad cyfan yn trafod yr adroddiad a’r argymhellion yn y Cyfarfod Llawn.

Cyfarfod o’r Cynulliad cyfan yw’r Cyfarfod Llawn, a gynhelir yn Siambr drafod y Senedd.

Gallwch gadw sedd yn y Senedd i wylio’r trafodion o’r oriel gyhoeddus, gwylio’r trafodion ar Senedd TV neu ddilyn y Siambr ar Twitter @SiambrYSenedd

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor a’n gwaith drwy ei ddilyn ar Twitter @seneddDGCh neu drwy ymweld â’n gwefan.

Diolch yn fawr

Hoffen ddiolch i bobl Cymru sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, boed hynny drwy wneud sylwadau ar y darllediad Facebook Live, drwy gymryd rhan yn nadl y panel yn yr Eisteddfod, drwy bleidleisio yn yr arolwg cyhoeddus, drwy gymryd rhan yn y panel cynghori neu drwy gymryd rhan yn yr arolwg. Mae pob un ohonoch wedi chwarae rhan bwysig yn yr ymchwiliad hwn.

Credits:

Created with images by Anthony DELANOIX - "party fans raised their hands" • NajiHabib - "facebook like many" • Pezibear - "violin background texture music instrument violin violin" • Gabriel Barletta - "untitled image"

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.