Sut y gwneir gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft? Cipolwg cYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Beth yw rôl y Pwyllgor Cyllid?

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn un o bwyllgorau trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys saith Aelod o bob un o’r prif bedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Busnes yn ymgynghori gyda'r Pwyllgor Cyllid cyn penderfynu ar y dyddiad adrodd terfynol. Yn unol â Rheolau Sefydlog, rhoddwyd pum wythnos eistedd i'r Pwyllgor adrodd ar y gyllideb ddrafft.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am adrodd ar y gyllideb ddrafft a gall hefyd argymell newidiadau i'r symiau a gynigir yn y gyllideb ddrafft, ar yr amod nad yw'r newidiadau hyn yn cynyddu nac yn gostwng swm cyffredinol yr adnoddau neu'r arian parod a gynigir. Gwaith craffu'r Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yw'r cam cyntaf ym mhroses y gyllideb. Ar ôl cyhoeddi ei adroddiad, caiff cynnig i nodi'r gyllideb ddrafft ei drafod yn y Cyfarfod Llawn - cyfarfod a fynychir gan holl Aelodau'r Cynulliad.

Ymgynghoriad rhag-gyllidebol

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyn y gyllideb, rhwng dydd Mercher 20 Gorffennaf a dydd Mercher 21 Medi, yn gofyn i randdeiliaid am eu barn ar effaith y gyllideb flaenorol a disgwyliadau'r gyllideb ddrafft sydd i ddod. Hefyd, nododd yr alwad am dystiolaeth y naw maes allweddol yr oedd y Pwyllgor am ganolbwyntio arnynt yn ystod y gwaith craffu. Roedd y meysydd hyn yn cynnwys cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, gwariant ataliol, yr iaith Gymraeg a pharatoi i adael yr UE.

Cynhyrchodd Cadeirydd y Pwyllgor fideo yn galw am dystiolaeth drwy ddeialog, safle sgwrs ar-lein, y gellid ei ddefnyddio i lywio gwaith pob Pwyllgor wrth iddynt graffu ar y gyllideb ddrafft.

Sesiynau tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o sesiynau tystiolaeth i lywio'r adroddiad. Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ac olaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford. Mae'r sesiwn gyntaf yn caniatáu i aelodau gael dealltwriaeth ac eglurhad pellach o'r gyllideb ddrafft arfaethedig cyn y sesiynau gyda rhanddeiliaid.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau i lywio ei waith craffu terfynol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac i gasglu tystiolaeth ar gyfer ei adroddiad. Ymhlith y sefydliadau a roddodd dystiolaeth lafar roedd Chwarae Teg, WWF Cymru, WWF UK, Conffederasiwn GIG Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cysylltiadau Cymunedol, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a'r Sefydliad Iechyd.

Digwyddiad i randdeiliaid

Cynhaliodd y Pwyllgor ei ddigwyddiad allanol cyntaf i randdeiliaid, ar y Gyllideb Ddrafft, ar 17 Tachwedd 2016 yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau ledled Cymru.

Aeth pob Aelod i'r digwyddiad i randdeiliaid, gan gynnal trafodaethau am awr cyn rhoi adborth i'r grŵp am y pwyntiau allweddol a godwyd wrth eu bwrdd. Cafodd ei gynnal ychydig cyn y sesiwn graffu derfynol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, sy'n golygu bod gan yr Aelodau yr holl wybodaeth yn mynd i mewn i'r sesiwn ac roeddent yn gallu defnyddio'r pwyntiau a wnaed.

Adroddiad

Cynhaliodd Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth y Cynulliad eu sesiynau craffu eu hunain ar y gyllideb ddrafft. Ar ôl gorffen casglu tystiolaeth, ysgrifennodd y pwyllgorau at y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno eu safbwyntiau. Defnyddiwyd y llythyrau hyn wrth baratoi adroddiad y Pwyllgor.

Defnyddiodd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gafodd i lywio ei adroddiad. Gwnaeth yr Is-bwyllgor 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 ar 29 Tachwedd 2016. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016 y bydd yn ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion cyn y ddadl ar y Gyllideb Derfynol ar 10 Ionawr 2017.

Dadl ar y Gyllideb Ddrafft

Cynhaliwyd y ddadl ar y Gyllideb Ddrafft ar 6 Rhagfyr 2016. Roedd yn cynnwys sylwadau agoriadol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, cyfraniad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac yna dadl rhwng yr Aelodau. Yna daeth Ysgrifennydd y Cabinet â'r drafodaeth i ben drwy ymateb i bwyntiau a wnaethpwyd gan yr Aelodau. Cyflwynwyd un gwelliant i'r cynnig, ond cafodd ei wrthod. Derbyniwyd y cynnig - pleidleisiodd 27 o'r Aelodau o blaid, pleidleisiodd 15 o'r Aelodau yn erbyn ac ymataliodd 10 Aelod.

Yn olaf, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol i'r Cynulliad. Ni ellir diwygio'r cynnig, ac felly mae Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cyfyngu i bleidleisio i gefnogi neu wrthwynebu'r gyllideb derfynol (neu ymatal rhag pleidleisio). Mae'r cynnig yn cael ei drefnu ar gyfer dadl ar 10 Ionawr 2017.

Beth yw rôl y Cynulliad? Sut mae o'n wahanol i Lywodraeth Cymru?

Rôl Llywodraeth Cymru yw i gynnig cyfreithiau, gwneud polisiau, ac gwario ar bethau fel ysbytai, ysgolion a ffyrdd yng Nghymru. Rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y pethau hyn yn cael eu gwneud er budd pennaf Cymru a'i phobl.

Cadwch mewn cysylltiad

Er mwyn dilyn gwaith y Pwyllgor, gallwch fynd i’r dudalen we neu ddilyn @SeneddCyllid ar Twitter.

Created By
Assembly Communications
Appreciate

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.