Loading

Teithio Llesol Y ffordd ymlaen...

A yw'r Ddeddf Teithio Llesol yn gweithio i Gymru?

Dyna oedd cwestiwn Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau pan gynhaliodd ymchwiliad i'r gyfraith sydd i fod i'w gwneud yn haws cerdded a beicio yng Nghymru..

Roedd y Pwyllgor am glywed gan bobl o bob rhan o Gymru, ni waeth a oeddent yn seiclo neu'n cerdded yn rheolaidd ynteu'n mynd ar y bws neu yn y car bob tro.

Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg byr i'w helpu i ddeall sut a pham y mae rhai pobl yng Nghymru yn cerdded ac yn seiclo, a pham mae eraill yn peidio â gwneud. Cafwyd ymateb gan dros 2,500 o bobl, gan gynnwys dros 500 o bobl ifanc a 520 o oedolion nad ydynt yn deithwyr llesol.

Hwylusodd Tîm Allgymorth y Cynulliad grwpiau ffocws ledled Cymru, gan gynnwys sir Benfro, Blaenau Ffestiniog, Aberpennar a Llanelli. Trafododd grwpiau ffocws rwystrau canfyddedig i deithio llesol, arferion da cyfredol, a meysydd i'w gwella. Cafwyd grwpiau penodol er mwyn cael barn pobl o dan 16, pobl dros 60 oed, rhieni a grwpiau anableddau.

Yn y crynodeb hwn, ceir amlinelliad o dystiolaeth y rhai a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws a'r arolwg, a sut y dylanwadodd y dystiolaeth honno ar ymchwiliad y Pwyllgor a sut y'i helpodd i lunio ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Hoffai'r Pwyllgor ddiolch i bawb a lenwodd yr arolwg neu a ymunodd â grŵp ffocws.

Seilwaith

Roedd gwella seilwaith yn destun trafod allweddol ym mhob grŵp ffocws ac ar draws yr ymatebion i'r arolwg. Trafododd y cyfranogwyr yr angen am ragor o lwybrau a chysylltedd gwell, cludiant cyhoeddus cysylltiedig, a diogelwch a chynnal a chadw ar y llwybrau. Soniodd y cyfranogwyr, yn enwedig y cyfranogwyr iau, eu bod am gael llwybrau dynodedig sydd ar wahân i'r heol.

"Nid oes digon o lwybrau oddi ar y ffordd neu lwybrau diogel cysylltiedig. Er fy mod yn ffodus bod llwybr gwych rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin, os ydw i'n dymuno gwyro oddi ar y llwybr hwn, nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer beicio’n ddiogel iawn, yn enwedig os ydw i am deithio gyda fy nheulu." Ymatebwr i'r arolwg.

"Dylem efelychu seilwaith y rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop. Maent yn cynllunio’n briodol, yn gwahanu llwybrau, ac yn creu seilwaith cysylltiedig. Mae gan fysiau yng Nghanada rheseli beiciau, sy'n hanfodol yn fy marn i." Ymatebwr i'r arolwg.

Diogelwch ar y ffyrdd

Yn rhannol, ceisiodd y Ddeddf ddarparu llwybrau teithio llesol integredig o ansawdd da sy'n diwallu anghenion cerddwyr a beicwyr, ac, lle bo modd, sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel wrth deithio. Nododd ymatebwyr i arolwg y Pwyllgor mai diogelwch oedd y rhwystr mwyaf i feicio. Dywedodd oedolion a phobl ifanc wrthym bron yn ddieithriad nad oeddent yn teimlo'n ddiogel wrth feicio. Yn wir, po fwyaf rheolaidd yr oedd ymatebwyr yr arolwg yn seiclo, lleiaf diogel yr oeddent yn teimlo.

"Bûm yn beicio i’r gwaith bob dydd am saith mlynedd. Ond gall fod yn beryglus iawn. Mae lorïau'n gyrru heibio mor agos a chefais fy nhaflu oddi ar fy meic gan gar. Nid yw gyrwyr yn gweld beicwyr" Dywedodd person o Eglwys Cwm Cynon.

"Rydw i'n wynebu risg sylweddol wrth feicio oherwydd cyflwr gwael y ffyrdd, rhwystrau ar y lonydd beicio a gyrwyr sy’n anystyriol ar eu gorau, ac yn beryglus ar eu gwaethaf, ar bob siwrnai." Ymatebwr i'r arolwg.

Diogelwch ar y ffyrdd oedd y pryder mwyaf arwyddocaol i'r plant a'r rhieni a gymerodd ran. Soniodd pobl ifanc nad oedd eu rhieni yn gadael iddynt feicio i'r ysgol oherwydd pryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd.

"Mae rhai pobl yn wirion iawn ac yn gyrru eu ceir yn beryglus. Mae gormod o gythraul gyrru, sy'n gwneud imi deimlo'n anniogel pan fyddaf ar fy meic" Dywedodd disgybl o Ysgol Gynradd Johnston.

Cysylltu trafnidiaeth gyhoeddus

I rai, mae'n amhosibl cerdded neu feicio'r siwrnai gyfan i'r gwaith neu'r ysgol. Fodd bynnag, mae creu cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud teithio llesol yn realiti i lawer mwy.

Dywedodd Network Rail ac Arriva wrth y Pwyllgor eu bod wedi cyflwyno cynlluniau sydd wedi cynyddu capasiti storio beiciau, ond clywodd y Pwyllgor mai'r realiti yw bod rhaid i gymudwyr neilltuo lle ymlaen llaw i fynd â'u beiciau ar y trên, a dau ar y tro yn unig y mae lle iddynt.

"Rhaid i mi neilltuo lle i fy meic at y trên, a dim ond lle i ddau feic sydd beth bynnag, ac nid wyf yn gallu mynd â fy meic ar drafnidiaeth gyhoeddus." Ymatebwr i'r arolwg.

"Does dim cyfleusterau da i gadw beiciau mewn gorsafoedd rheilffordd. Nid oes digon o le i feiciau ar drafnidiaeth gyhoeddus (na chadeiriau gwthio / cadeiriau olwyn)." Ymatebwr i'r arolwg.

"Mi hoffwn i fedru mynd â fy meic ar drafnidiaeth gyhoeddus - gall fod yn anodd iawn ar drenau ac mae'n amhosibl ar fws." Ymatebwr i'r arolwg.

Mewn ardaloedd gwledig, mae effaith integreiddio â bysiau yn debygol o fod yn fwy. Dywedodd un grŵp ffocws wrth y Pwyllgor, lle mae pellteroedd yn arwyddocaol, byddai’r cyfle i logi beiciau ar ôl i drafnidiaeth gyhoeddus fynd â hwy i ganolfan llogi beiciau yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau i feicio.

"Mae angen llwybr beicio nad yw’n rhan o'r ffordd ar bobl sy'n byw mewn pentrefi gwledig. Mae angen cysylltu ein seilwaith yn well fel y gallwn fynd o'n tai i'r dref. Hoffwn feicio o gwmpas y dref ond ni allwn feicio’r holl ffordd yno." Dywedodd person o Pobl yn Gyntaf Sir Benfro.

Cynnal a chadw llwybrau

Roedd canlyniadau'r arolwg yn glir ynghylch yr angen i gynnal seilwaith teithio llesol. Roedd 63% o’r teithwyr llesol yn dweud bod cyflwr y llwybrau beicio’n wael. Roedd rhai sylwadau'n ymwneud ag effaith cynnal a chadw llwybrau'n wael ar ddiogelwch, yn enwedig gan fod canlyniadau taro twll yn debygol o fod yn fwy difrifol i rywun ar feic nag i rywun mewn car.

"Mae llwybrau gwael, mwd a phyllau dwfn, ynghyd â baw ci a phrinder croesfannau i gerddwyr, yn ei gwneud yn anodd eu defnyddio." Ymatebwr i'r arolwg.

Dywedodd rhai awdurdodau lleol wrth y Pwyllgor fod gwaith cynnal a chadw ar gyfer llwybrau newydd wedi'i drefnu fel rhan o'r rhaglen barhaus, ond ei bod yn fwy costus cynnal rhai llwybrau oddi ar y ffordd gan eu bod yn cael eu hystyried yn ychwanegiad i'r rhaglen.

Cytunodd y Pwyllgor bod, ar ôl adeiladu'r llwybrau, mae eu hygyrchedd parhaus yn allweddol. Bydd cynnal a chadw llwybrau yn hanfodol hefyd.

Seilwaith

Beth mae'r Pwyllgor wedi argymell i Lywodraeth Cymru?

Argymhelliad 1: Mae'r Pwyllgor yn ystyried mai diffyg arweinyddiaeth strategol ar lefel Llywodraeth Cymru a lefel awdurdodau lleol sydd i'w gyfrif am y diffyg cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Ni ellir gwireddu uchelgais y Ddeddf drwy weithredoedd dim ond dyrnaid o swyddogion beicio/trafnidiaeth penodol. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei harweinyddiaeth, a dylai nodi'n glir ei disgwyliadau mewn perthynas ag arweinyddiaeth ar lefel leol.

Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r adolygiad presennol o Bolisi Cynllunio Cymru a'r adolygiad o ganllawiau cynllunio fel cyfle i gryfhau'r gefnogaeth ar gyfer teithio llesol ac ailadrodd pwysigrwydd ystyried teithio llesol ym mhob prosiect seilwaith newydd. Dylai teithio llesol fod yn hanfodol yn hytrach na dewisol.

Ardaloedd gwledig

Dywedodd cyfranogwyr o ardaloedd gwledig nad oedd llwybrau beicio a cherdded wedi eu cysylltu yn effeithiol, os o gwbl. Disgrifiodd sawl un o'r cyfranogwyr y ffaith nad oedd modd iddynt gyrraedd llwybr beicio neu gerdded o'u cartref a bod angen gyrru neu fynd ar y bws i gyrraedd y llwybr agosaf.

"Nid oes llawer o lwybrau lle’r wyf i'n byw. Ni allaf gerdded ar hyd y prif ffyrdd oherwydd nad oes ond glaswellt, a dim palmant. Nid oes palmant y tu allan i fy nhŷ hyd yn oed." Dywedodd disgybl o Ysgol Gynradd Johnston.

"Mae parc trampolîn yn Hwlffordd ac os nad oes gennych gar, mae’n rhaid ichi gerdded hanner milltir ar hyd ffordd heb lwybr i’w gyrraedd. Dyma'r ffordd sy'n mynd â lorïau i Abergwaun. Dyma'r peth mwyaf brawychus erioed." Dywedodd person o Pobl yn Gyntaf Sir Benfro.

Cytunodd cyfranogwyr o ardaloedd gwledig ei bod yn amhosibl cyrraedd llawer o leoedd ar droed.

"Lle’r wyf i’n byw, nid oes llwybr ac mae fy nhŷ ar fin y ffordd, felly nid ydym yn tueddu i gerdded llawer. Nid oes llwybrau troed mewn ardaloedd gwledig. Nid oes llwybrau troed rhwng y safleoedd bws hyd yn oed." Dywedodd person o Pobl yn Gyntaf Sir Benfro.

Clywodd y Pwyllgor gan un o'n grwpiau ffocws am yr her o ddarparu llwybrau teithio llesol mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd y grŵp fod dwy ysgol uwchradd yn yr ardal yn cyfuno ac, o ganlyniad, o fis Medi 2018, bydd disgyblion uwchradd o Ysgol Johnston, Hwlffordd, yn teithio 2 i 3 milltir i fynychu Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau. Cyrhaeddir yr ysgol ar hyd ffordd wledig heb lôn beicio na phalmant; rhaid rhannu'r ffordd â'r lorïau sy'n mynd i Aberdaugleddau. Yn eu barn hwy, mae cerdded neu feicio ar hyd yr heol honno "y peth mwyaf brawychus erioed".

"Trwy beidio â chael llwybr neu lwybr beicio inni pan fyddwn yn mynd i'n hysgol gyfun newydd, maent yn ein hannog i fynd yn y car, gan fynd yn erbyn y cynllun teithio llesol." Dywedodd disgybl o Ysgol Gynradd Johnston.

Ardaloedd gwledig

Beth mae'r Pwyllgor wedi argymell i Lywodraeth Cymru?

Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei chanllawiau er mwyn cynnwys "Aneddiadau cysylltiedig" yn y Ddeddf, gan alluogi datblygu llwybrau teithio llesol rhwng aneddiadau gwledig llai.

Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu arian i ddatblygu cynlluniau cerdded a beicio gwledig llai o faint nad ydynt o reidrwydd yn cyflawni gofynion teithio llesol, ond a fyddai'n effeithio ar gymunedau lleol a allai golli cyfle fel arall.

Parcio ar balmentydd

Cytunodd y pwyllgor bod parcio ar balmentydd yn broblem barhaus sy'n cael yr effaith fwyaf ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n fater sy'n gymhleth i'w ddatrys, ond mae'n parhau i fod yn symbol allweddol o oruchafiaeth y car ar ein strydoedd. Bydd llai o geir ar y ffyrdd yn lleddfu problemau parcio, ond dylid gwneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn nawr.

Hyd yn oed lle mae seilwaith da yn bodoli, mae parcio ar y palmentydd yn cyfyngu ar ei hygyrchedd.

Teimlai rhai a ymatebodd i arolwg y Pwyllgor nad oedd neb yn mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd yn eu hardal leol.

"Gyrwyr gwael ar y ffordd a'r ychydig iawn o barch y mae gyrwyr yn ei ddangos i feicwyr. Mae ceir hefyd yn parcio mewn lonydd beiciau ac ychydig o barch sydd gan gerddwyr cŵn ag lwybrau beicio." Ymatebwr i'r arolwg.

Parcio ar balmentydd

Beth mae'r Pwyllgor wedi argymell i Lywodraeth Cymru?

Argymhelliad 21: Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n rhanbarthol gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i gytuno ar ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o'i effaith er mwyn newid ymddygiad gyrwyr. Dylid defnyddio cydgynhyrchu cymunedol i nodi lleoliadau i'w targedu ac atebion posibl i'r broblem hon.

Mynediad at feiciau

Trafododd rhai grwpiau ffocws gostau prynu a chynnal beiciau, ynghyd â chost atgyweirio beic sydd wedi torri. Trafododd y cyfranogwyr iau'r mater yn fanylach, gan esbonio bod gan rai ohonynt, a llawer o blant yn yr ysgol, sgwter yn hytrach na beic gan eu bod yn costio llai i rieni eu prynu.

"Ni all Mam fforddio prynu beic. Byddai’n syniad da cael elusen i helpu plant i fforddio prynu beic." Ymatebwr yr arolwg i bobl ifanc.

Trafododd pob grŵp ffocws dulliau hygyrch o logi beiciau fel ffordd o oresgyn rhwystrau rhag beicio mwy ac fel ffordd o fynd i'r afael chost prynu a chynnal beic, fel y'i canfyddir.

I rai, mae bod yn berchen ar feic yn codi her. Gall y bydd gan eraill feic ond ei bod yn anodd ei gynnal i sicrhau ei fod addas i'r ffordd fawr. Clywodd y Pwyllgor alwadau am i'r ddarpariaeth ar gyfer llogi beiciau gael ei ehangu, ac i hyfforddiant defnyddio a chynnal beiciau mewn ysgolion fod ar gael yn fwy cyffredinol.

"Ni all pawb brynu beic ac mae'n anodd gofalu amdano hefyd. Gall fod yn eithaf drud, yn enwedig os caiff ei ddwyn." Dywedodd person o Amgueddfa Lechi Cymru.

"Nid oes gennyf feic. Mae gennyf sgwter. Efallai y gallai ysgolion a chynghorau logi neu fenthyg beiciau i blant fynd i'r ysgol." Dywedodd disgybl o Ysgol Gynradd Johnston.

Clywodd y Pwyllgor fod cyfyngiadau o ran cynllun Beicio i Waith Llywodraeth y DU, sef cynllun sy'n annog beicio trwy ganiatáu i weithwyr brynu beiciau gwerth hyd at o £1000 yn ddi-dreth trwy eu cyflogwr. Dywedodd grwpiau anabledd wrth y Pwyllgor nad yw beiciau wedi'u haddasu yn rhan o'r cynllun gan eu bod yn costio mwy na therfyn uchaf y cynllun.

Mynediad at feiciau

Beth mae'r Pwyllgor wedi argymell i Lywodraeth Cymru?

Argymhelliad 22: Dylai Llywodraeth Cymru geisio lobïo Llywodraeth y DU i gynnwys darpariaeth ar gyfer beiciau wedi'u haddasu yn y Cynllun Beicio i'r Gwaith.

Argymhelliad 23: Dylai Llywodraeth Cymru greu cymhellion i annog ailgylchu hen gyfarpar y Cynllun Beicio i'r Gwaith blaenorol a beiciau o ansawdd da eraill yn ôl i'r gymuned am bris fforddiadwy.

Argymhelliad 24: Dylai Llywodraeth Cymru annog darparu dosbarthiadau cynnal a chadw beiciau mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru.

Annog teithio llesol

Clywodd y Pwyllgor gan nifer o dystion y gallai galluogi pobl ifanc i ddod yn deithwyr llesol gael yr effaith fwyaf yn y tymor hir, ac eto dim ond 8% o ysgolion sy'n cymryd rhan yn y Rhaglen Teithiau Llesol i'r Ysgol.

Ym mhob grŵp ffocws, trafodwyd sut y gellid annog mwy o bobl i ddod yn deithwyr llesol trwy gael mwy o groesfannau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, terfynau cyflymder is, a dosbarthiadau diogelwch beicio yn yr ysgol.

"Rydym yn cael wythnos yn yr ysgol i ddysgu am ddiogelwch beicio. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddigon. Hoffwn gael cymorth i feicio’n well a dylai ysgolion roi siacedi gwelededd uchel i blant sy'n beicio i'r ysgol fel gwobr am feicio." Dywedodd disgybl o Ysgol Gynradd Johnston.

"Nid wyf yn hoffi cerdded ar fy mhen fy hun. Efallai y gallai rhieni ac athrawon ddechrau grŵp cerdded i'r ysgol. Byddech yn teimlo'n fwy diogel gyda'ch ffrindiau ac oedolyn i ofalu amdanoch." Dywedodd disgybl o Ysgol Gynradd Johnston.

"Pan oeddwn yn fy arddegau, bûm ar gwrs diogelwch beicio. Hoffwn reidio beic ond byddai angen cymorth arnaf i ddysgu sut i feicio'n ddiogel eto." Dywedodd person o Pobl yn Gyntaf Sir Benfro.

Cytunodd y Pwyllgor bod lle i wneud rhagor o waith gydag ysgolion i ddarparu cyfleoedd a sgiliau. Ceir cyfle hefyd i annog a chefnogi pobl ledled Cymru i geisio beicio am y tro cyntaf neu ymuno â grŵp cerdded, ond ymddengys nad oes fawr ddim yn digwydd yn y maes hwn. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gyllido Dewch i Gerdded Cymru.

Annog teithio llesol

Beth mae'r Pwyllgor wedi argymell i Lywodraeth Cymru?

Argymhelliad 17: Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyfleoedd i bobl geisio cerdded a beicio am y tro cyntaf, gan gynnwys drwy ariannu mentrau cerdded megis Dewch i Gerdded Cymru.

Gwrando ar eich cymuned

Os am sicrhau bod y Ddeddf yn cynyddu nifer y bobl sy'n beicio a cherdded, mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod yn hanfodol cyrraedd y bobl nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Ni wnaed hynny hyd yma.

Er bod enghreifftiau da o ymgynghori wedi cael eu nodi ar draws llond llaw o awdurdodau lleol, mae llwyddiant mewn mannau eraill yn anghyson a gallai diffyg capasiti rhai awdurdodau lleol a phryderon ynghylch rheoli disgwyliadau fod yn rhwystr rhag ymgysylltu'n ystyrlon.

Y bobl sydd yn y sefyllfa orau i gynghori ar rwystrau lleol rhag teithio llesol yw'r bobl sy'n defnyddio'r llwybrau hynny neu sy'n dymuno eu defnyddio. Felly mae ymgynghori ystyrlon â grwpiau lleol yn hanfodol wrth ddatblygu seilwaith newydd, a lle bynnag y bo modd, dylai ymestyn i gydgynhyrchu.

Clywodd y Pwyllgor y gall ymgynghori da wneud mwy na llunio'r ffordd y caiff isadeiledd ei ddylunio; gall hefyd hyrwyddo teithio llesol ac ennyn cefnogaeth. Gwelwyd yr effaith hon yn sgil ymgynghoriad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad hwn, gan i grŵp ffocws anabledd yn sir Benfro sefydlu grŵp cerdded o ganlyniad i'w drafodaethau â ni. Nododd trafodaeth y grŵp fod diffyg hyder yn rhwystr i gerdded, ac felly datblygwyd ateb a oedd yn gweithio iddynt hwy. Mae'r Pwyllgor yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gweithgaredd newydd.

"Nid wyf yn hyderus ond rwyf am fynd allan mwy. Pan fyddaf yn cerdded yn y nos, os gwelaf gar yn dod, byddaf yn cuddio." Dywedodd Pobl yn Gyntaf Sir Benfro.

Cytunodd y Pwyllgor bod y perygl o beidio â bod yn ymgynghori mewn modd ystyrlon yw caiff seilwaith ei gyflwyno ond ni fydd y gymuned leol yn ei groesawu nac yn ei ddefnyddio.

Gwrando ar eich cymuned

Beth mae'r Pwyllgor wedi argymell i Lywodraeth Cymru?

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru arwain ymarfer gwersi a ddysgwyd ar yr ymgynghoriad ar Deithio Llesol er mwyn canfod arfer gorau a chofnodi ffyrdd arloesol o gyrraedd pobl nad ydynt yn cerdded nac yn beicio ar hyn o bryd.

Argymhelliad 4: Mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol, dylai awdurdodau lleol gynnwys y grwpiau Mynediad sy'n bodoli ledled Cymru.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chanllawiau statudol i gynnwys cyd-gynhyrchu fel safon ofynnol ar gyfer cyflawni Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan sicrhau bod rhanddeiliaid yn rhan o’r ateb i’r broblem yn ogystal â’r broses o nodi’r broblem.

Argymhelliad 11: Dylai Llywodraeth Cymru nodi'n glir, mewn achosion lle na ellir ond cymhwyso'r canllawiau mewn modd hyblyg, y dylid ymgymryd â phroses gynhyrchu gyda grwpiau lleol amrywiol i sicrhau bod yr atebion sy'n cael eu datblygu yn addas ar gyfer anghenion y gymuned cyhyd ag y bo modd. Dylai cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau fod yn amodol ar fodloni'r disgwyliad hwn.

Beth nesaf?

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r 24 argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor gan dderbyn, gwrthod neu dderbyn mewn egwyddor.

Wedyn, bydd y Cynulliad cyfan yn trafod yr adroddiad a'r argymhellion yn y cyfarfod llawn. Y cyfarfod llawn yw cyfarfod y Cynulliad cyfan a gynhalir yn y Siambr, Siambr drafod y Senedd.

Gallwch archebu sedd yn y Senedd i wylio yn bersonol, gwyliwch ar Senedd TV neu dilynwch y Siambr ar Twitter @SeneddSiambr

Gallwch hefyd dilyn gwaith y Pwyllgor ar Twitter @SeneddESS neu gan edrych eu tudalen we.

Created By
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Appreciate

Credits:

Created with images by Jamie Street - "untitled image" • rawpixel - "untitled image"

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.