“Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun” Adroddiad byr Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru

Mae'r byd yn profi'r argyfwng ffoaduriaid gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Yn 2016, roedd un o bob 113 o bobl y byd naill ai’n ffoadur, wedi’i ddadleoli yn ei wlad ei hun neu’n ceisio lloches. Ar y cyfan, mae yna fwy o bobl wedi'u ddadleoli heddiw 'na phoblogaethau'r Deyrnas Unedig, Ffrainc neu'r Eidal, mwy o bobl wedi’u dadleoli yn y byd nag yn ystod unrhyw adeg arall yn ein hanes.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae'r rhai sy'n goroesi i gyrraedd y DU, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, yn debygol o fod wedi profi digwyddiadau eithriadol o drawmatig sy'n gadael creithiau seicolegol parhaol. Ac yn ystod y cyfnod bregus eithriadol hwn yn eu bywydau, maent yn wynebu cyfres o heriau mawr newydd.

Ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw:

“Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun.”

Er nad yw pwerau o ran lloches a mewnfudo wedi'u datganoli, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid o ran tai, mynediad at iechyd ac addysg a dod o hyd i waith. Mae ffoaduriaid, cheiswyr lloches a plant ar eu pen eu hunain sy’n dod i’r DU hefo anghenion arbennig er mwyn addasu i’w bywydau newydd a chwarae rhan lawn yn ein cymunedau.

Roeddem am wybod am y cymorth sydd ar gael i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, ac i weld a oedd dull Llywodraeth Cymru yn gweithio.

Beth a wnaeth y Pwyllgor

Bu'r Pwyllgor yn ymweld â Chaerdydd ac Abertawe yn ogystal â Glasgow a Chaeredin, er mwyn darganfod mwy am brofiadau pobl a beth oedd llywodraethau eraill yn gwneud. Gwelsom enghreifftiau o arfer da ledled Cymru, ac mae'n amlwg, mewn nifer o ardaloedd ac mewn nifer o ffyrdd mae'r gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio'n effeithiol i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i addasu i fywyd yn ein cymunedau ac i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Digwyddad "Lloches yn y Senedd" a'r ymweliad i'r Alban

Clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy mewn nifer o feysydd.

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Mae 2,872 o geiswyr lloches yng Nghymru ar hyn o bryd, yn byw'n bennaf yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Nid ydym yn gwybod faint o ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru, oherwydd os rhoddir statws ffoadur i geisiwr lloches, nid yw'n ofynnol iddo fyw mewn man penodol a gall symud i fan arall.

Mae 397 o ffoaduriaid o Syria wedi eu hadleoli'n benodol yng Nghymru ers 2015, ar ôl iddynt gael eu dadleoli yn sgil rhyfel cartref Syria, o gymharu ag 1,295 yn yr Alban.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ffoaduriaid a cheiswyr lloches?

  • Ffoadur yw rhywun sydd wedi ffoi rhag gwrthdaro arfog neu erledigaeth, y cydnabyddir bod angen gwarchodaeth ryngwladol arno am ei bod hi'n rhy beryglus iddo ddychwelyd adref.
  • Ceisiwr lloches yw rhywun sydd wedi gwneud cais am warchodaeth ar sail Confensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig neu Erthygl 3 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n aros am benderfyniad gan Swyddfa Gartref y DU.

Gwneud gwahaniaeth

Mae gwaith y Pwyllgor eisoes wedi cael effaith, hyd yn oed cyn i ni gyhoeddi'r adroddiad terfynol hwn, er engrhaifft:

  • mae rôl Bwrdd Gweithrediadau Llywodraeth Cymru wedi ehangu y tu hwnt i Raglen Adsefydlu Pobl o Syria sy'n Agored i Niwed i gynnwys pob math o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, i helpu i oresgyn y system loches ddwy haen sydd wedi dod i'r amlwg yn ôl rhanddeiliaid; ac
  • mae ymgysylltiad cadarnhaol rhwng darparwr y llety lloches yng Nghymru a sefydliadau sy'n helpu ceiswyr lloches i ddatrys pryderon difrifol ynghylch ansawdd tai.

Argymhellion

Credwn y dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Creu ymgyrch cyhoeddusrwydd Cymru gyfan sydd yn pwysleisio budd mewnfudo ar y gymdeithas Gymreig ac yn mynd i'r afael â'r mythau ac anghywirdeb am ffoaduriaid a ceiswyr lloches;
  2. Ystyried ehangu cynllun trafnidiaeth consesiynol i ffoaduriaid a ceiswyr lloches, gan gynnwys plant, er mwyn galluogi i chi gael gwell mynediad i addysg, gwaith, a cyfleoedd gwirfoddoli;
  3. Sicrhau bod digon o wersi Saesneg i ffoaduriaid a ceiswyr lloches, sicrhau bod pobl yn cael cynnig dosbarthiadau priodol cyn gynted â phosib wedi i chi gyrraedd Cymru, ac edrych ar y rhwystrau wrth ceisio cael mynediad i ddosbarthiadau;
  4. Sicrhau bod perchnogion tai y ceiswyr lloches wedi'w cynnwys mewn cynllun cofrestru. Dylai'r cynllun Sicrhau bod y Llywodraeth lleol yn arwain ar arolygion manwl o'r eiddo ac yn adrodd ar eu safon yn aml;
  5. Drwy'r Gwasanaeth Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Chynhwysiad Mudol, sicrhau bod: digon o gyngor cyfreithiol; nodiadau atgoffa am bwysigrwydd sgrinio iechyd yn ogystal â chyngor i allu mynychu'r rhain, a chefnogaeth iechyd meddwl;
  6. Gwneud mwy i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad i addysg a chyflogaeth drwy: hysbysebu'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau i Gymru mor eang â phosib, i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a hefyd darparwyr gwasanaethau; ei wneud yn ofynnol i brifysgolion Cymru trin ffoaduriaid fel myfyrwyr cartref; a creu mwy o gyfleoedd ar gyfer interniaethau sector cyhoeddus a chyfleoedd gwirfoddoli wedi ei gynllunio ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  7. Sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth, wrth ailddatgan ymrwymiad Cymru i groesawu plant sydd yn ceisio lloches heb rieni, a eu bod yn derbyn y safon lleiafswm o cefnogaeth iechyd meddwl yn dilyn trawma.

a

Sicrhau mai Cymru yw ‘Cenedl Noddfa’ cynta'r byd.

Rhagair y Cadeirydd:

“Roeddem yn falch o weld cymaint o ymrwymiad ac angerdd gan bobl a oedd yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ein dinasoedd. Yn siarad yn uniongyrchol gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, roeddem yn ddiolchgar i bawb oedd yn ymwneud â'r ymweliadau a roddodd croeso mor gynnes i ni a siarad mor agored am yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu.
Wrth wneud ein hargymhelliad terfynol, gwnaethom ystyried a chymeradwyo Saith Cam i Noddfa, a luniwyd gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru a chafodd gefnogaeth eang ymysg y rhanddeiliaid y buom yn ymgysylltu â nhw. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid y trydydd sector, yn ogystal â chymunedau ledled Cymru, gymryd y Saith Cam gyda'n gilydd er mwyn i ni fod yn Genedl Noddfa cynta'r byd”

Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor ar http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16180

Gallwch hefyd derbyn diweddariadau ar waith y Pwyllgor gan ddilyn nhw ar Twitter: @SeneddCLlLCh

Credits:

Created with images by stokpic - "hands world map" • Dai Lygad - "Sunset in Penarth ... Machlud yr haul ym Mhenarth" • edgarwinkler - "un flag internationality" • fsHH - "refugee afghan forest" • Ruth and Dave - "Senedd ceiling"

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.