Loading

www.UndebBangor.com

Datganiad Undeb y Myfyrwyr ar Sefyllfa Ariannol y Brifysgol

Fel rydych efallai wedi ei glywed mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn profi heriau ariannol sy'n golygu y bydd angen gwneud arbedion ac mae'n annhebygol y bydd y Brifysgol yn dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau cyn y pandemig.

Fel undeb myfyrwyr, ein blaenoriaeth ni yw eich lles a'ch profiad chi, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol i sicrhau bod Llais y Myfyrwyr yn ganolog i bob sgwrs a bod y profiad myfyriwr wrth wraidd unrhyw benderfyniadau dilynol. Rydym wedi cychwyn ar drefnu grwpiau ffocws myfyrwyr i sicrhau bod gennych chi’r cyfle i roi adborth mewn modd effeithiol.

Os oes gennych unrhyw adborth, sylwadau neu bryderon anfonwch e-bost atom, ar studentvoice@undebbangor.com

SU Statement on University’s Financial Situation

You may be aware the University is currently experiencing financial challenges meaning that savings will need to be made and it is unlikely that the University will simply return to the way things were before the pandemic.

As a student's union, our interest lies with your welfare and experience, and we will be working closely with the University to ensure that the Student Voice remains at the forefront of every conversation and that the student experience is at the heart of any subsequent decisions. We have begun work on holding student focus groups to ensure that you have an opportunity to feedback effectively.

If you have any feedback, comments or concerns please email us, on studentvoice@undebbangor.com

Cyngor Myfyrwyr

Mae’r cyfnod pleidleisio nawr ar agor ar gyfer yr etholiad Cyngor Myfyrwyr.

Cewch bleidleisio trwy clicio yma. Mae’r cyfnod pleidleisio ar agor tan canol nos Dydd Gwener yma!

Mae’r Cyngor Myfyrwyr yn allweddol i sicrhau bod newidiadau cadarnhaol yn digwydd yn y Brifysgol, felly mae’n hynod bwysig bod y cynrychiolwyr orau yn cael i'w hethol.

Mae’r Cyngor Myfyrwyr yn cyfarfod er mwyn trafod a phasio syniadau. Maent yn cydweithio gyda’r Swyddogion Sabothol ar brosiectau er mwyn gwella profiad myfyrwyr. Mae Cynghorwyr hefyd yn rhedeg ymgyrchoedd eu hunain a digwyddiadau gydag Undeb Bangor, yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol.

Student Council

Voting is now open for the Student Council Election.

You can vote by clicking here. Voting is open until midnight this Friday!

The Student Council is essential to make positive changes in the University, so it is vital that you have the best representatives in position.

Student Council meets to discuss, debate and pass ideas. They also work alongside the sabbatical officers on projects which will improve the student experience. Councillors also run their own campaigns and events with Undeb Bangor, as well as getting behind national student campaigns.

Wythnos Shwmae Su'mae

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn ddigwyddiad blynyddol ar draws Cymru, er mwyn hybu’r ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg. Mae wedi bod yn ddigwyddiad mae UMCB yn ei gefnogi ers sawl blwyddyn, ac eleni fyddwn yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau a negeseuon yn ystod Wythnos Shwmae Su’mae UMCB.

Fydd Wythnos Shwmae Su’mae yn rhedeg o Ddydd Llun 12fed o Hydref tan Ddydd Sul 18fed o Hydref. Fydd rhywbeth gwahanol wedi’i drefnu ar gyfer pob dydd gan gymdeithasau UMCB, efo Gig Rhithiol UMCB yn gorffen yr wythnos ar nos Sul, efo Elis Derby â’r Band, Alffa, ac Y Cledrau yn perfformio.

Mae croeso i unrhywun ymuno yn yr hwyl a fydd popeth yn cael eu postio ar Facebook ac Instagram UMCB ac Undeb Bangor felly cadwch lygad ar y gwefannau cymdeithasol. Gweler trefn yr wythnos isod:

  • Dydd Llun: Chwaraeon y Cymric yn postio fideo yn esbonio gwahanol termau chwaraeon yn y Gymraeg.
  • Dydd Mawrth: Aelwyd JMJ yn postio perfformiad ar-lein o Migldi Magldi.
  • Dydd Mercher: Cymdeithas John Gwilym Jones.
  • Dydd Iau (Diwrnod Shwmae Su’mae): Ffrind Cymraeg yn cyflwyno sesiwn flâs ar y Iaith Gymraeg.
  • Dydd Gwener: Y Llêf yn rhannu neges.
  • Dydd Sadwrn: Y Cymric yn cynnal Helfa Drysor o amgylch Bangor (o fewn ‘bubbles’).
  • Dydd Sul: Gig Rhithiol UMCB gyda Elis Derby â’r Band, Alffa ac Y Cledrau

Cadwch lygad allan hefyd am wahanol fargeinion fydd yn rhedeg wythnos nesaf efo caffis, bwytai a pybs y Brifysgol!

Shwmae Su'mae Week

Shwmae Su'mae Day is an annual event across Wales, to promote awareness of the Welsh language. It's been an event that UMCB has been supporting for many years, and this year we will be hosting a week of events and messages during Shumae Su'mae Week.

Shwmae Su'mae Week runs from Monday 12th October until Sunday 18th October. Something different will be organized for every day by UMCB Societies, with UMCB Virtual Gig ending the week on Sunday evening, with Elis Derby & Band, Alpha, and Y Cledrau performing.

Anyone is welcome to join in the fun and everything will be posted on UMCB and Undeb Bangor Facebook and Instagram pages so keep an eye on social media. Here’s what’s planned for the week:

  • Monday: Cymric Sport posting a video explaining different sports terms in Welsh.
  • Tuesday: Aelwyd JMJ posting an online performance of Migldi Magldi.
  • Wednesday: John Gwilym Jones Society.
  • Thursday (Shwmae Su´mae Day): Welsh friend presents a taster session on the Welsh Language.
  • Friday: Y Llef (Welsh Student Newspaper) sharing a message.
  • Saturday: The Cymric Treasure Hunt around Bangor (in 'bubbles').
  • Sunday: UMCB Virtual Gig with Elis Derby & Band, Alpha and Y Cledrau

Look out for different deals that will be running next week with the University's cafes, restaurants and pubs!

De-Stresstival

Mae DeStresstival yn ôl am Dymor 1! Bydd pethau ychydig yn wahanol tymor yma - yn lle wythnos o ddigwyddiadau, byddem yn cynnal digwyddiad ar-lein a digwyddiad personol gwahanol pob mis. Mis yma, byddwn yn pobi 'Rocky Road' gyda Caroline trwy Microsoft Teams ar y 13eg o Hydref am 2yh. Am restr o gynhwysion, ymwelwch â'n wefan!

Ar ddiwedd y mis, tra bod calan gaeaf yn agosáu, byddem yn cynnal sesiwn cerfio pwmpenni tŷ allan i Bar Uno! Dewch yn llu, byddwn yn darparu popeth sydd i'w hangen! Cewch fynd â'ch pwmpen adref gyda chi yn barod am galan gaeaf!

Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

De-Stresstival

De-Stresstival is back for the Semester 1. We are taking a different approach this semester, instead of 1 week of events, we will be holding one online event and one in person event each month. This month we will be baking rocky road with Caroline, this will be done over Microsoft Teams on the 13th October at 2pm. To find out what ingredients you need – head over to our website.

At the end of the month when we start creeping close to Halloween, we will be holding a pumpkin carving session outside Bar Uno! All you need to do is bring yourselves whilst we provide all the materials! You can take you pumpkins home ready for the trick or treaters.

For more information on any of the events please click here.

Cwrdd â Phwyllgor Gwaith yr Undeb Athletau | Meet the Athletic Union Exec
Abi Cousin

Helo, Abi ydw i. Rwy'n fyfyriwr Meistr Gwyddorau Biolegol a dyma fy mhedwaredd flwyddyn ym Mangor. Rwy'n aelod o Dîm Rygbi Merched. Rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r pwyllgor ac i wneud hon yn flwyddyn wych arall ym Mangor.

Hi, I’m Abi. I’m a Biological sciences Masters student and this is my fourth year at Bangor. I’m a member of Women’s Rugby Union. I’m excited to be a part of the Exec team and to make this another great year at Bangor.

Jazmien Beauchamp

Helo Jazmine ydw i. Rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Ieithyddiaeth ac Saesneg. Rwy'n aelod o Glwb Criced Merched yn y Brifysgol. Hon fydd fy ail flwyddyn fel Swyddog Byw'n Iach ac rwy’n edrych ymlaen i weithio gydag aelodau newydd y pwyllgor. Mae gen i ddigon o syniadau ar gyfer Byw'n Iach eleni felly rwy’n gobeithio eich bod chi'n edrych ymlaen hefyd.

Hi I'm Jazmine. I'm in my third year studying Linguistics and English Language. I'm a member of the Women's Cricket Club in the University. This will be my second year as Healthy Living Officer and I'm so excited to work with the new members of the Exec. I have got plenty of ideas for Healthy Living this year so I hope you look forward to it.

Jonny Pym

Helo Jonny ydw i, fi yw Capten Clwb Rygbi Dynion ac rydw i'n astudio Peirianneg Electronig. Rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o Bwyllgor yr UA ac edrychaf ymlaen at drefnu digwyddiadau UA eleni.

Hi I'm Jonny, I'm the Club Captain for the Men's Rugby Union Team and I'm studying Electronic Engineering. I'm excited to be a part of the AU exec team and I look forward to organising AU events this year.

Ferrida Ponce

Helo! Ferrida ydw i ac rwy’n gwneud fy ngradd Niwroddelweddu MSc. Fi yw Is-gapten tîm Bonllefain ac rydw i wedi bod yn rhan o Jiu Jitsu o Frasil. Rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o bwyllgor yr UA ac ni allaf aros i ddangos yr hyn sydd gan ein timau prifysgol i'w gynnig!

Hi! I’m Ferrida and I am currently doing my MSc Neuroimaging degree. I am the Vice Captain of the Dragons Cheerleading team and have been part of Brazilian Jiu Jitsu. I’m super excited to be part of the AU exec team and can’t wait to show off what our uni teams have to offer!

Ada Nwandu

Ada Nwandu ydw i, rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Ysgrifennu Proffesiynol ac Astudiaethau Ffilm. Rwyf wedi bod yn aelod gweithgar o dîm rygbi merched yn ogystal â rhoi cynnig ar nifer o chwaraeon eraill. Rwy'n angerddol iawn am chwaraeon a phobl ac fel y swyddog lles newydd ni allaf aros i weld y pethau pwysig hyn yn cydblethu ac yn ffynnu! Mae'n bleser ac rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dîm yr UA.

I’m Ada Nwandu, I’m in my third and final year studying Professional Writing and Film Studies. I have been an active member of women’s rugby union as well as trying out a number of other sports. I’m very passionate about sport and people and as the new welfare officer I can’t wait to see these important things intertwine and flourish! It’s a pleasure and I’m truly delighted to be part of AU team.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau neu os hoffech chi sgwrsio â nhw, ewch draw i'n gwefan a chysylltwch â nhw.

If you have any ideas or would like to chat to them please head over to our website and get in contact with them.

Diolch am ddarllen! | Thanks for Reading!

Created By
Richard Glyn
Appreciate