Loading

Cliciwch yma neu sgrolio lawr | Click here or scroll down

www.UndebBangor.com

Her Arfordir Y Cymric

Dros y penwythnos bu timau Chwaraeon y Cymric yn cwblhau Her Arfordir y Cymric. Yr her yn wreiddiol oedd cwblhau pellter arfordir Cymru (1,400km) mewn 72 awr, ond llwyddodd y criw i gwblhau 2,283km sydd gyfwerth ac amlinelliad Cymru gyfan, a mwy!

Llwyddwyd hefyd i godi dros £550 i Tarian Cymru, ond mae'r dudlaen Go Fund Me yn parhau i fod ar agor os y dymunwch roi cyfraniad cliciwch yma.

Llongyrachiadau i bawb fu'n rhan o'r her, gwych iawn!!

Y Cymric Coastline Challenge

Over the weekend the Cymric's Sport teams completed the Cymric Coastal Challenge. Originally, the challenge was to complete the distance of the Welsh coast (1,400km) in 72 hours, but the crew managed to complete 2,283km which is equivalent to the complete outline of Wales, and more!

They also managed to raise over £550 for Tarian Cymru, but the Go Fund Me page remains open if you wish to make a donation click here.

Congratulations to everyone that got involved in the challenge, amazing!!

Sialens Lockdown!

Peidiwch ag anghofio danfon llun o'ch pobi. Mae gennych tan hanner dydd yfory i gael eich cynnwys i ennill taleb amazon gwerth £25. Anfonwch llun at cyfleoedd@undebbangor.com

Dyma beth mae ein staff wedi bod yn pobi, rwy'n siŵr y gallwch chi wneud yn well na nhw!

Lockdown Challenge!

Don’t forget to send us a photo of your lockdown baking. You have until 12noon tomorrow to be entered to win a £25 amazon voucher. Send picture to – opportunities@undebbangor.com

Here’s what the staff have bee baking during lockdown, I’m sure you can do better!

Cynllun Cyfaill ELCOS

Ar hyn o bryd mae ELCOS (English Language Centre for Overseas Students) yn cyflwyno cwrs Saesneg cyn-sesiynol llawn amser ar-lein i dros 30 o fyfyrwyr rhyngwladol ac mae'n paratoi i fwy o fyfyrwyr ymuno ar-lein dros yr haf. Gall pob myfyriwr ddewis cael ei baru gyda chyfaill i helpu i ymarfer ei sgiliau iaith newydd.

Rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i ddod yn ffrindiau i annog a helpu myfyrwyr ELCOS i ddatblygu eu Saesneg. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gaz trwy e-bost ar Gareth.williams@undebbangor.com

ELCOS Buddy Scheme

ELCOS (English Language Centre for Overseas Students) is currently delivering a full-time pre-sessional English course online to over 30 international students and is preparing for more students to join online over the summer. Each student can opt to be paired up with a buddy to help practice their new language skills.

We’re recruiting volunteers to become buddies to encourage and help ELCOS students to develop their English. For further information contact Gaz by email on Gareth.williams@undebbangor.com

Diweddariad Coronafeirws - Paratoi ar gyfer mis Medi

Mae Undeb Bangor yn parhau i weithio'n agos gyda'r Brifysgol, i sicrhau eich bod yn cael eich cynrychioli'n llawn ym mhob cyfarfod a thrafodaeth.

Mae hyn bellach yn arbennig o bwysig, gan ein bod yn dechrau cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, gan ddechrau ym mis Medi. Dylai pob myfyriwr sy'n dychwelyd (y rhai ohonoch a fydd yn parhau i astudio ym Mhrifysgol Bangor) fod wedi derbyn e-bost yn rhoi manylion y sefyllfa. Fel y dywed yr e-bost, ni allwn ddarparu eglurder llwyr ynghylch beth fydd y sefyllfa, oherwydd ei bod mor ddibynnol ar sefyllfa Covid-19.

Rydym bellach yn ymwneud â chynllunio wrth gefn, yn seiliedig ar wahanol senarios. Mae'r rhain yn cynnwys addysgu ar-lein, addysgu ar y campws, a chyfuniad o'r ddau. Mae llawer o waith yn cael ei wneud i sicrhau y bydd eich astudiaethau yn parhau, ym mis Medi, ac rydym yn eich cynrychioli'n llawn trwy gydol y broses honno.

Gobeithiwn allu darparu diweddariadau pellach ichi cyn gynted â phosibl.

Coronavirus Update - Planning for September

Undeb Bangor continues to work closely with the University, to make sure that you are being fully represented in all meetings and discussions.

This is now especially important, as we are starting to plan ahead for the next academic year, starting in September. All returning students (those of you who will be continuing to study at Bangor University) should have now received an email detailing the situation. As the email states, we can’t provide complete clarity as to what the situation will be, due to it being so dependent on the Covid-19 situation.

We are now involved in contingency planning, based on different scenarios. These consist of online teaching delivery, on-campus delivery, and a combination of the two. Lots of work is being done to ensure your studies will continue, in September, and we are fully representing you throughout that process.

We hope to be able to provide you with further updates as soon as possible.

Efallai eich bod a diddordeb mewn...

You may also be interested in....

Diolch am ddarllen | Thanks for reading

www.UndebBangor.com

Created By
Richard Glyn
Appreciate

Credits:

Created with images by Fraser Cottrell - "Tropic water over rocks" • Fusion Medical Animation - "New visualisation of the Covid-19 virus"