Sut y gellir lleihau tlodi yng Nghymru? Mae Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn trafod tlodi yng Nghymru, ac awgrymu sut y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu pobl sy'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Yng Nghymru, mae mwy nag un o bob pump yn byw mewn tlodi.

Mae tlodi yn cael ei ddiffinio fel incwm cartref sy'n is na 60% o ganolrif y DU.

Yn yr ugain mlynedd diwethaf, mae canran y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi gostwng ychydig, ond mewn ardaloedd eraill yn y DU sydd â thlodi uchel, fel gogledd-ddwyrain Lloegr, mae lefel y tlodi wedi gostwng yn fwy nag yng Nghymru.

Nid yw lefel y tlodi yng Nghymru wedi gostwng o gwbl ers dechrau'r mileniwm.

Fel aelodau o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol roeddem yn bryderus iawn ynghylch yr ystadegau hyn, felly penderfynwyd ymchwilio pam fod gan Gymru rai o'r lefelau uchaf o dlodi yn y DU, a pham nad yw hyn wedi newid ers tro.

Victoria Winckler, Sefydliad Bevan, yn siarad â'r Pwyllgor â'r 13 Tachwedd 2014
"I think that [there is] the particular gap is around hearing the voices of people in poverty" - Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

Fis Tachwedd diwethaf, gofynnwyd i lawer o sefydliadau, fel Oxfam ac Achub y Plant, ddweud wrthym beth, yn eu barn nhw, ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol i helpu pobl mewn tlodi. Aethom hefyd i ymweld â rhai prosiectau diddorol, fel banc bwyd yng Nglyn Ebwy, gwasanaeth cynghori’r RNIB yn y gogledd, Remploy yn Wrecsam, yn ogystal â’r prosiect Newid Bywydau yn Abertawe.

Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad, yn ymweld â Chwarae Teg yn Llanelli, lie bu'n holi am effaith tlodi, yn enwedig tlodi dybryd ac eithafol, ar wahanol grwpiau o bobl.

Bu Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad, yn ymweld â'r RNIB yn y gogledd, lle'r oedd y Pwyllgor yn edrych ar dlodi ac anghydraddoldeb. Holwtd am amryw faterion, o brofiadau pobl o dlodi i sut y gellid gwella pethau.

Buom yn siarad yn uniongyrchol â phobl sy'n byw mewn tlodi i glywed am eu profiadau ac i ofyn iddyn nhw beth fyddai'n eu helpu.

Oherwydd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym, fe wnaethon ni ddod i rai casgliadau, ac roedd gennym ambell syniad ynglŷn â sut i wella bywydau pobl sy'n cael trafferth gydag arian.

Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad ym mis Tachwedd, gan wahodd pobl i drafod y problemau a achosir gan dlodi yng Nghymru heddiw

Argymhellion Y Pwyllgor i leihau tlodi yng Nghymru

Rydyn ni'n pryderu'n fawr am ddiffyg cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lleihau tlodi, yn enwedig o gofio ei bod wedi gwario llawer o arian i geisio gwneud hyn.

Rydyn ni'n credu mai rhan o'r rheswm am hyn yw bod y rhaglenni yn canolbwyntio gormod ar ganlyniadau tlodi (fel annog pobl i fwyta bwyd iachach), yn hytrach nag ar yr hyn sydd wrth wraidd tlodi (fel creu swyddi diogel).

Gan fod y lefelau tlodi yng Nghymru wedi bod yr un fath ers y 2000au cynnar, rydyn ni'n credu bod angen i rywbeth newid. Mae rhanbarthau eraill sydd â lefelau uchel o dlodi, er enghraifft yn Lloegr, yn lleihau eu lefelau o dlodi yn llwyddiannus, ac rydyn ni'n poeni y bydd Cymru ar ei hôl hi.

Rydyn ni'n gwybod mai'r prif ddulliau o leihau tlodi yw trethi a budd-daliadau, ac nid Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r rheini. Ond rydyn ni'n credu y gallai wneud mwy gyda'r pwerau sydd ganddi eisoes.

Michael Trickey, Sefydliad Joseph Rowntree, yn y siarad â'r Pwyllgor ar 13 Tachwedd 2014
"If there was a strong independant poverty alliance in Wales, then. There would be people who could make the case to businesses, as well as to Government" - Michael Trickey, Sefyliad Joseph Rowntree

Felly, rydyn ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn siarad â mwy o bobl, fel elusennau, busnesau ac academyddion, yn ogystal â phobl sy'n dioddef tlodi, i'w helpu i ddod o hyd i syniadau ar gyfer newid. Rydyn ni'n credu y dylai'r llywodraeth ffurfio un grŵp i gynrychioli'r bobl a'r sefydliadau hyn, fel bod gwell craffu ar gynnydd y llywodraeth ar leihau tlodi.

Dywedodd pobl wrthym mai rhan o'r broblem gyda dull y llywodraeth yw nad oes ganddi ddealltwriaeth dda o dlodi, na dealltwriaeth am y bobl sy'n dioddef tlodi. Awgrymodd rhai sefydliadau y byddai diffiniad newydd o dlodi yn helpu, er enghraifft 'pan nad oes gan berson ddigon o adnoddau (arian) i ddiwallu ei anghenion sylfaenol (sy'n golygu cael cartref diogel, gyda gwres priodol a digon o fwyd).'

Adrian Curtis, Ymddiriedolaeth Trussell, yn siarad â'r Pwyllgor ar 19 Tachwedd 2014

"About 79,000 people were referred to Trussell Trust food banks in Wales last year, which was around 122% more than the previous year... And around half of them were referred because the welfare system had, in some way, let them down- either there was a delay in their claim being processed or a sudden change to the level of payments they were receiving" - Adrian Curtis. Ymddiriedolaeth Trussell

Rydyn ni'n cytuno â hyn, ac rydyn ni'n credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad i sicrhau bod gan bob person yng Nghymru gartref, cynhesrwydd a bwyd.

Kate Bennett, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn siarad â'r Pwyllgor ar 13 Tachwedd 2014
"Our big message is 'let us look at who the people [in poverty] are, not necessarily only at where they are" - Kate Bennett, y Comisiwn Cydraddooldeb a Hawliau Dynol

Yn ystod ein gwaith ymchwil, dywedodd pobl wrthym fod y llywodraeth (gan gynnwys cynghorau) yn tueddu i drin pobl sy'n byw mewn tlodi i gyd yr un fath. Rydyn ni'n gwybod nad yw hyn yn wir - mae rhai pobl yn dlawd oherwydd nad ydyn nhw'n gallu gweithio oherwydd anabledd neu oherwydd eu bod nhw wedi ymddeol, ac mae eraill yn dlawd am nad oes digon o swyddi yn eu hardal. Rydyn ni'n gwybod mai rhieni sengl, menywod gan mwyaf, sydd fwyaf tebygol o fod yn dlawd.

Ond, nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu llawer o'r wybodaeth hon, felly rydyn ni'n argymell ei bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil i weld yn union pwy sy'n byw mewn tlodi, a'r ffordd orau o'u helpu, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.

"The evidence on income poverty in Wales Is really weak" - Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

Cawsom wybod hefyd fod dros hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi mewn gwirionedd yn byw ar aelwydydd sy'n gweithio, ond eu bod nhw ar gyflog isel, neu fod ganddyn nhw ddim oriau penodol. Rydyn ni'n credu mai dyma'r brif broblem gyda'r dull presennol, ac mai dim ond newid hirdymor sylweddol yng nghynllun economaidd Llywodraeth Cymru fydd yn lleihau tlodi.

Dywedodd pobl wrthym y dylai swyddi cyflog isel fel gofalu, manwerthu neu letygarwch fod o ansawdd gwell. Mae hynny'n golygu contractau diogel, pecynnau cyflogaeth da a chyflog gweddus, yn ogystal â gofal plant ac oriau hyblyg ar gyfer pobl sydd â phlant neu bobl ddibynnol eraill.

Rydyn ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad, lle y gall, i wella ansawdd y swyddi hyn sydd â thâl isel. Gellid gwneud hyn drwy newid y ffordd mae cynghorau yn prynu pecynnau gofal i bobl hŷn, er enghraifft, neu drwy ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n cael arian gan Lywodraeth Cymru drin eu staff yn well.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn credu y dylai'r prif gynllun sy'n helpu pobl ar fudd-daliadau i gael gwaith yng Nghymru, a elwir y Rhaglen Waith, gael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru fel y gellir ei theilwra'n well i wahanol grwpiau o bobl mewn ardaloedd gwahanol.

"We find issues around zero-hour contract working and irregular forms of employment to be a particular problem because people lack that stability of employment that family budgets need in order to be able to budget on a week-by-week basis" - Adrian Curtis, Ymddiriedolaeth Trussell

Clywsom am wasanaethau cynghori sy'n helpu pobl i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl eu cael. Mae llawer o bobl yn meddwl bod y rheini'n ddefnyddiol iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i'r sefydliadau hyn, fel Shelter a Chyngor ar Bopeth, ond rydyn ni'n poeni bod y ffordd y maen nhw'n cael eu hariannu yn newid, ac na fydd rhai grwpiau o bobl yn gallu cael gafael arnyn nhw. Rydyn ni'n credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pawb sy'n byw mewn tlodi yn gallu cael cyngor ynglŷn â sut i gynyddu eu hincwm trwy fudd-daliadau. Dylai'r Credyd Pensiwn gael ei flaenoriaethu, gan fod llawer o bobl yng Nghymru sydd â'r hawl i'r budd-dal hwn ddim yn ei hawlio.

Mae taliadau argyfwng ar gael i bobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu am dreuliau neu waith brys. Mae'r taliadau hyn wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, a dim ond rhai pobl sy'n gallu gwneud cais amdanyn nhw. O ganlyniad, nid yw pobl yn gwybod y gallan nhw hawlio'r taliadau hyn, felly mae'r ceisiadau wedi gostwng, ynghyd â'r cyllid. Nid ydym yn credu bod yna brinder angen, ond clywsom fod y broses ymgeisio yn ei gwneud yn anodd cael mynediad at y gronfa. Rydyn ni'n credu y dylai mwy o bobl fod yn gymwys i gael taliadau argyfwng, ac y dylai'r broses ymgeisio fod yn haws.

Victoria Goodban, Oxfam Cymru, yn siarad â'r Pwyllgor ar 3 Rhagfyr 2014
"This discretionary assistance fund was underspent by about £2.5 million last year, so we have an increasing need... Around the destitution of asylum seekers and people with no resource to public funds. It should not be acceptable in a western country that we are forcing people to live literally in absolute destitution; it is an abuse of their human rights." - Victoria Goodban, Oxfam Cymru

Nodyn gan y Cadeirydd:

Rwy'n gobeithio bod y casgliadau hyn yn adlewyrchu'r hyn a ddywedodd pobl wrthym yn ystod y gwaith ymchwil hwn. Tra byddwn ni'n aros am ateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, byddwn yn parhau i ymchwilio i'r mater hwn.

Ar ôl hyn, rydyn ni'n bwriadu edrych yn benodol ar effeithiolrwydd rhaglenni Llywodraeth Cymru i drechu tlodi, fel Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. Ar ôl hynny, byddwn yn gwneud gwaith pellach i ganfod pam fod dros hanner y bobl sy'n dioddef tlodi yn byw ar aelwydydd sy'n gweithio.

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.