Loading

Cliciwch yma neu sgrolio lawr | Click here or scroll down

www.UndebBangor.com

Prawf Covid-19 heb Symptomau

Dyma Iwan yn esbonio beth i ddisgwyl pam yn mynd am prawf Covid-19 heb symptomau.

Er mwyn helpu myfyrwyr i deithio adref yn ddiogel ar gyfer y Nadolig, mae'r Brifysgol wedi sefydlu safle prawf heb symptomau Covid-19 ar y campws.

📣 Gwahoddir myfyrwyr i gael 2 brawf, 3 diwrnod ar wahân cyn gadael Bangor.

📆 Bydd y safle profi ar agor yn Neuadd PJ rhwng 30 Tachwedd – 8 Rhagfyr.

💻 Gall myfyrwyr drefnu prawf arlein yma.

📱 Bydd myfyrwyr yn cael neges destun gan GOV.UK gyda canlyniad eu prawf cyn pen 2 awr.

Mae'r cwestiynau cyffredin i'w gweld yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i studentservices@bangor.ac.uk

Asymptomatic Covid-19 Test

Here's Henry explaining all about the process of getting an asymptomatic Covid-19 test.

To help students without Covid-symptoms to travel home safely for Christmas the University have set-up an asymptomatic test site on campus.

📣 Students are invited to book 2 tests, 3 days apart before leaving Bangor.

📆 Testing will be available at PJ Hall 30 November – 8 December.

💻 Testing should be be booked online here.

📱 Results will be sent via text from GOV.UK within 2 hours.

For more information, please find FAQs here.

If you have any other questions, please email studentservices@bangor.ac.uk

Cymerwch Ofal Ychwanegol Cyn Dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig

Er mwyn lleihau'r risg o basio Covid 19 i eraill, a sicrhau nad yw COVID-19 yn difetha'ch gwyliau ac yn peryglu'ch teulu a'ch ffrindiau, rydym yn eich annog i gymryd gofal ychwanegol cyn i chi deithio adref ar gyfer y Nadolig.

Gyda'r Nadolig yn agosáu, rydym yn sylweddoli bod myfyrwyr yn awyddus i ddathlu diwedd y tymor, drwy ddathlu gyda'r bobl rydych chi'n byw â nhw yn unig, rydych chi'n lleihau'ch risg o fod yn agored i COVID-19 yn sylweddol.

Caniateir cwrdd â hyd at 4 ffrind gwahanol y tu allan i'ch cartref mewn tafarn neu fwyty, fel myfyriwr mae hyn yn peri risg sylweddol i chi a'ch teulu os na fyddwch yn dilyn y rheolau yn y lleoliadau hyn oherwydd:

  • Rydych chi'n debygol o gymdeithasu'n agos â'r ffrindiau hyn, gan gynyddu y nifer o bobl a allai eich heintio.
  • Risg o orlenwi o bosibl os na fydd ufuddhau i’r rheolau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno cyfyngiadau newydd a bydd tafarndai, bwytai a chaffis Cymru yn cael eu gwahardd rhag gweini alcohol o ddydd Gwener, Rhagfyr 4, ac ni fyddant yn gallu agor i gwsmeriaid o 6pm.

Cyfyngiadau Teithio

Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed heddiw gan Lywodraeth Cymru am gyfyngiadau teithio a fydd yn cyfyngu teithio i ac o ardaloedd sy'n cyfateb i Haen 3 yn Lloegr a Lefel 3 ac uwch yn yr Alban (mae Gogledd Iwerddon yn parhau i fod dan glo). Hoffem egluro bod pobl wedi'u heithrio os ydych chi'n mynd adref ac yn ffurfio swigen gyda'ch teulu ym mha bynnag haen mae'r ardal.

Take Extra Care Before Returning Home for Christmas

To minimise the risk of passing Covid 19 to others, and make sure COVID-19 does not ruin your break or put your family and friends at risk, we encourage you to take extra care before you travel home for Christmas.

With Christmas approaching we realise students are eager to celebrate the end of term, by only celebrating with the people you live with, you are reducing your risk of being exposed to COVID-19 significantly.

It is allowed to meet up with up to 4 different friends outside your household in a pub or restaurant, as a student, this poses a significant risk to you and your family if you don’t follow the rules in these venues because:

  • You are likely to socialise closely with these friends, so increase the pool of people who could infect you.
  • Potentially a risk of crowding if rules not obeyed

Welsh Government has also introduced new restrictions and Welsh pubs, restaurants and cafes will be banned from serving alcohol from Friday, December 4, and will be unable to open to customers from 6pm.

Travel Restrictions

Following the announcement made today by Welsh Government about travel restrictions which will restrict travel to and from areas at the equivalent to Tier 3 in England and Level 3 and above in Scotland (Northern Ireland remains under lockdown). We would like to clarify that people are exempt if you are going home and forming a bubble with your family no matter what tier the area is in.

Cynllun Cyfaill Lles - Connect@Bangor

A fyddai cael cyfaill lles o fodd i chi? Gall Connect@Bangor rhoi chi mewn cysylltiad a myfyrwyr sydd wedi cael eu dewis yn ofalus i fod yn rhan o’r cynllun, i rhoi cymorth i chwi.

Bydd y cyfaill lles yn eich cegnogi gyda agweddau cymdeithasol o fywyd prifysgol yn ogystal a bod yn ffrind.

Os am gael cyfaill lles neu gwirfoddoli gydar cynllun, cysylltwch a Gareth Williams: gareth.williams@undebbangor.com

Wellbeing Buddy Scheme - Connect@Bangor

Do you feel like you would benefit from having a wellbeing buddy?

Connect@Bangor can connect students, with carefully selected students from the connect volunteering group, to be your wellbeing buddy.

The buddies will support you as a friend and support with the social aspects of university life.

If you feel you would benefit from this scheme please contact Gareth Williams: gareth.williams@undebbangor.com

University Challenge

Dydd Mawrth 8fed o Ragfyr a dydd Gwener 11eg o Ragfyr rydym yn cynnal clyweliadau ar gyfer y gyfres newydd o University Challenge ar BBC. Cliciwch ar y linc isod i ddewis yr amser sydd orau gennych a byddwn yn anfon slot amser 15 munud atoch ar gyfer eich clyweliad. Bydd y clyweliadau yn cymryd lle ar Microsoft Teams.

On Tuesday 8th December and Friday the 11th of December we are hosting try-outs for the new series of University Challenge on BBC. Please click the link below to choose your preferred time and we will send you a 15-minute time slot for your try-out. Try-outs will be taking place on Microsoft Teams.

Tîm Caplaniaeth Prifysgol Bangor - Yma i chi.

Efallai eich bod yn gofyn i chi eich hun, "Beth yw Caplan?" Mae llawer o ddiffiniadau, ond dyma ddisgrifiad syml: 'gan ddod o gefndir Ffydd arbennig ac yn cynrychioli'r Ffydd honno, rhywun sy'n cael ei gydnabod/ei chydnabod i gynnig cefnogaeth ysbrydol a gofal bugeiliol mewn lleoliad penodol.' Yn ein hachos ni, y lleoliad hwnnw yw Prifysgol Bangor - ei myfyrwyr, a'i staff. Mae Tîm Caplaniaeth Bangor yn gweithio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr i gynnig cefnogaeth ar sail aml-ffydd. Rydym yn dod o amrywiaeth o wahanol enwadau Cristnogol a chefndiroedd Hindŵaidd, Iddewig, Mwslimaidd a Bwdhaidd. Os bydd ein hangen arnoch, rydym ar gael i holl aelodau'r Brifysgol, p'un a oes gennych ffydd ai peidio.

Felly, beth ydym yn ei wneud?

  • Rydym yma i wrando, i weddïo gyda chi, i drafod materion bywyd. Os oes gennych gwestiynau am faterion ffydd, fe wnawn ein gorau i'ch helpu i ganfod ateb iddynt. Mae rhai ohonom yn cynnig arweiniad ysbrydol neu fentora hefyd.
  • Os ydych yn mynd trwy amser anodd, rydym yma os oes angen rhywun arnoch i fod yn gefn i chi.
  • Mae aelodau'r Tîm hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a chefnogi ein cymunedau ffydd ein hunain. I Gaplaniaid, mae adeiladu cymuned a pharch at ein gilydd yn bwysig iawn.
  • Rydym yma i gynghori a helpu'r Brifysgol gyda materion yn ymwneud â ffydd. Mae aelodau'r Tîm yn eistedd ar amrywiaeth o bwyllgorau yn y Brifysgol sy'n edrych ar faterion yn ymwneud ag iechyd a lles. Rydym hefyd yn trefnu (neu'n helpu i drefnu) sawl digwyddiad yng nghalendr y Brifysgol.

Yn ein dull o weithredu, nid ydym yn beirniadu - y sefydliad nac unigolion. Nid ydym yn cenhadu - rydym yma i alluogi twf ysbrydol a'ch cefnogi ar eich taith ffydd; ni fyddwn yn ceisio peri i chi gael tröedigaeth.

Os ydych eisiau gweld mwy (neu gysylltu â ni yn unigol), edrychwch ar ein tudalennau gwe Caplaniaeth a Ffydd.

Bangor University Chaplaincy Team – Here for you.

You may ask yourself, “What is a Chaplain?” There are many definitions, but a simple description might be ‘a person who, coming from and representing a particular Faith background, is recognised to offer spiritual support and pastoral care in a particular setting.’ In our case, that setting is Bangor University – its students, and staff. Bangor’s Chaplaincy Team works with Student Services to offer support on a multi-faith basis.We come from a variety of different Christian denominations and Hindu, Jewish, Muslim and Buddhist backgrounds. Should you need us, we are available to all members of the University whether you have a faith or not.

So, what do we do?

  • We are here to listen, pray with you and discuss life matters. If you have questions about faith-related issues, we’ll do our best to help you find an answer. Some of us also offer spiritual guidance or mentoring too.
  • If you are going through a tough time, we are there if you need someone to accompany you.
  • Members of the Team also participate in developing and supporting a faith community within our tradition. For Chaplains, building community and respect for each other is of great importance.
  • We are there to help and advise the University in matters of faith. Members of the Team sit on a variety of University committees that look at health and welfare-related issues. We also organise (or help to organise) several events in the university calendar.

We are non-judgmental in our approach - both to the institution and individuals. We do not proselytize - while we are here to enable spiritual growth and accompaniment on your faith journey; we will not seek to convert you.

If you want to see more (or to contact us individually), have a look at our Chaplaincy & Faith webpages.

Mae ein rhwydwaith lles a'r Swyddogion Sabothol wedi creu fideo byr gydag awgrymiadau ar lety, iechyd meddwl a'ch lles chi.

Our welfare network and Sabbatical Officers have put together a little video with tips on housing, mental health and well being.

Cael gafael ar Adnoddau Llyfrgell i ffwrdd o'r Catalog

Er mwyn helpu i hwyluso eich proses ymchwil y tu allan i gatalog y llyfrgell mae'r Llyfrgell yn cyflwyno dau estyniad porwr am ddim. Yn awr gallwch gael mynediad at ein e-adnoddau mynediad agored a thrwy danysgrifiad wrth bori ar y we!

Darllenwch am Libkey Nomad yma a Lean Library yma.

Unwaith y bydd un o'r estyniadau wedi'i osod, pan fyddwch yn dod ar draws erthygl mewn cyfnodolyn neu e-lyfr y tu allan i gatalog y llyfrgell (ar Google Chrome, er enghraifft) bydd yr estyniad yn eich hysbysu a yw'r e-adnodd ar gael trwy ein catalog llyfrgell gyda rhybudd baner, gweler uchod. Cliciwch ar yr eicon a ddangosir i fynd at yr erthygl.

Am gefnogaeth gyda'r estyniadau hyn neu unrhyw ymholiadau am e-adnoddau eraill, anfonwch e-bost at eresources@bangor.ac.uk.

Accessing Library Resources away from the Catalogue

To help streamline your research process away from the library catalogue, the Library are introducing two free browser extensions. You can now access our subscribed and open access e-resources whilst browsing the web!

Read about Libkey Nomad here and Lean Library here.

Once one of the extensions are installed, whenever you come across a journal article or an e-book outside of the library catalogue (on Google Chrome, for example) the extension will inform you if the e-resource is available through our library's catalogue with a banner alert, such as above. Simply click on the icon displayed to access.

For support with these extensions or any other e-resource queries, please email eresources@bangor.ac.uk.

Diolch am ddarllen! | Thanks for Reading!

Created By
Richard Glyn
Appreciate