Croeso i rifyn mis Awst Y Papur Gwyrdd – y lle i glywed y newyddion diweddara am yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ac am waith y Lab Cynaliadwyedd a’n partneriaid ar draws y campws.
Yn y rhifyn hwn rydym yn canolbwyntio ar:
- Nodau Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – 12 Diwydiant, Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol
- Effeithlonrwydd Adnoddau (Rheoli Gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor
- Dod i 'nabod yr Athro David Thomas
- Cynaliadwyedd ar waith ym mhrosiectau KESS 2 a KESS 2 Dwyrain
- Cyflwyniad i: Dŵr Uisce
- Planhigyn y mis
- Llyfr y mis
Anfonwch eich sylwadau/cyfraniadau i’r papur at cynaliadwyedd@bangor.ac.uk ac ymunwch â’n sgyrsiad dros Baned Werdd. Bydd y nesaf Dydd Mawrth, Awst 25ain 28ain am 10:30yb
Y Cenhedloedd Unedig yn 75 - Y Lab Cynaliadwyedd yn rhoi llwyfan i'r 17 nôd
Ymunwch â’r Baned Werdd UN75
10.00-11.00 ddydd Mawrth 8fed o Fedi.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dathlu’r 75 eleni a hynny pan fo’r byd yn llawn cythrwfl gydag argyfwng iechyd di-gynsail sydd wedi achosi diflastod economaidd a chymdeithasol. A fyddwn yn dod trwy hyn yn gryfach ac yn fwy parod i weithio gyda’n gilydd? Neu fydd diffiyg ymddiriedaeth ac ymbellau wrth ein gilydd yn parhau i ledu? Rhaid i ni annog cyfathrebu a thrafod dros fisoedd olaf 2020 a rhoi cyfle i ni fel teulu o bobl drafod ein blaenoriaethau ar sut i adeiladu dyfodol gwell i bawb.
Oes gennych chi syniadau ar sut i weithredu?
O lygad y ffynnon gan Undeb Bangor!
Mae Undeb Bangor newydd dderbyn y newyddion gwych ein bod unwaith eto wedi cyflawni ‘Rhagoriaeth’ yn y wobr Green Impact ar gyfer 2019/20. Mae'r wobr hon yn dangos sut mae cynaliadwyedd wedi'i wreiddio'n ddwfn yng ngweithgareddau Undeb Bangor ac yn hyrwyddo ein harweinwyr sy’n fyfyrwyr.
Fel y gwyddom i gyd, mae'r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn heriol i bawb, fodd bynnag, mae'r cyflawniad hwn yn tynnu sylw at sut y gallwn, gyda chynllunio manwl, barhau i ragori yn ein maes trwy weithio ar y cyd â chi i gyd fel myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Hoffem hefyd ddiolch i'r Brifysgol ac yn benodol y Lab Cynaliadwyedd am eu holl gefnogaeth a'u cydweithio eleni a hoffem hefyd roi sylw arbennig i Kinga Niedzinska, a gymerodd ran arweiniol yn ein cyflwyniad am y wobr hon a'i hangerdd ac ymroddiad sydd wedi caniatáu inni ddathlu ein rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd unwaith eto.
Dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y Brifysgol
“Rydw i mor falch o glywed fod gwaith rhagorol ein myfyrwyr wedi cael ei gydnabod eleni eto. Mae ein myfyrwyr yn greiddiol i’n holl waith ac mae tîm y Lab Cynaliadwyedd yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Undeb i daclo’r heriau anarferol fydd yn ein wynebu flwyddyn nesaf, gyda’n gilydd”.
Nôd y Mis y Cenhedloedd Unedig - Nôd 12
Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol
Yn mis Awst, byddwn yn edrych ar Ddefnydd a Chynhyrchu Cyfrifol – Nod Datblygu Cynaliadwy 12. Mae defnydd a chynhyrchiad ledled y byd - grym sy'n gyrru'r economi fyd-eang - yn dibynnu ar y defnydd o'r amgylchedd naturiol ac adnoddau mewn ffordd sy'n cael effeithiau dinistriol ar y blaned. Mae defnydd a chynhyrchu cynaliadwy yn ymwneud â gwneud mwy yn well gyda llai.
Oeddech chi'n gwybod?
- Bob blwyddyn, amcangyfrif bod traean o'r holl fwyd sy’n cael ei gynhyrchu (tua 1.3 biliwn tunnell sy’n werth $1 triliwn) - yn pydru ym miniau defnyddwyr a manwerthwyr, neu'n difetha oherwydd arferion cynaeafu a chludo gwael.
- Pe bai pobl ledled y byd yn newid i ddefnyddui bylbiau golau ynni effeithlon byddai'r byd yn arbed US $120 biliwn yn flynyddol.
- Os bydd poblogaeth y byd yn cyrraedd 9.6 biliwn erbyn 2050, gallai hyn olygu bod angen bron i dair planed i ddarparu'r adnoddau naturiol sydd eu hangen i gynnal y safon bywyd sydd gyda ni ar hyn o bryd. Dim ond un blaned sydd gennym!
Adnoddau
Effeithlonrwydd Adnoddau (Rheoli Gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor
Mae rheoli’n adnoddau’n effeithlon yn rhan allweddol o sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu'n gynaliadwy. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys dwy stori fer am sut mae Prifysgol Bangor yn lleihau defnydd ac yn ailddefnyddio adnoddau gwerthfawr ar hyn o bryd.
Meddyliwch Cyn Prynu! Sut i leihau gwastraff trwy gaffael cynaliadwy
Gall pob aelod o staff sy'n prynu nwyddau gyfrannu'n gadarnhaol at agenda cynaliadwyedd y Brifysgol. Dyma bedwar pwynt hawdd a chyflym i'w hystyried wrth brynu unrhyw nwyddau:
- Prynwch dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch. Ydy'r nwydda’n hanfodol? A oes nwyddau eisoes ar gael am ddim yn rywle arall yn y Brifysgol?
- Prynwch nwyddau sydd wedi’u hadnewyddu* neu sy'n cynnwys canran uchel o gynnwys ailgylchu ôl-ddefnydd lle bo hynny'n bosibl.
- Prynwch nwyddau y gellir eu cynnal/ trwsio'n hawdd, a gellir eu hadnewyddu neu eu hailgylchu ar ddiwedd eu hoes.
- Prynwch nwyddau sy'n effeithlon o ran adnoddau/ynni.
* Sylwer fod rhaid i nwyddau wedi'u hadnewyddu fodloni'r safonau diogelwch sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Pan yn prynu offer mwy neu gontractau gwasanaeth, gofynnwn i chi gwblhau dadansoddiad manylach i sicrhau bod materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach yn cael eu hystyried a'u hymgorffori mewn contractau. Bydd gwybodaeth bellach i ddilyn.
Cysylltwch â'r Lab Cynaliadwyedd neu'r Tîm Caffael os oes angen unrhyw gymorth neu arweiniad arnoch sy'n ymwneud â chaffael cynaliadwy.
Cyfrannu nid taflu! Ymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor gyda Antur Waunfawr
Fel canlyniad o Covid-19, bu ein Hymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor eleni (a drefnwyd ar y cyd gan Neuaddau, PaCS a’r Lab Cynaliadwyedd) yn wynebu heriau digynsail, gan fod rhaid i ein partneriaid hirsefydlog (Britsh Heart Foundation Cymru) gau siopau adwerthu dros dro, ac felly gwahardd casgliadau am ychydig fisoedd.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Antur Waunfawr am ddod i’r adwy ar fyr rybudd i gasglu rhoddion ein myfyrwyr ar ddiwedd tymor. Ers dechrau mis Gorffennaf, mae casgliad wythnosol wedi cymryd lle a byddant yn debygol o barhau tan ddiwedd mis Awst, er mwyn sicrhau bod popeth y gellir ei ailddefnyddio yn cael ei gasglu at y diben hwnnw. Casglwyd 1,168kg o roddion mewn tair wythnos, gyda 945kg (81%) o ansawdd digon da i'w ailddefnyddio. Mae rhoddion wedi cynnwys tecstilau, cyllyll a ffyrc, llestri, offer cegin, radios, clociau, lampau ac ati, a bydd llawer o’r rhoddion hynny yn cael eu defnyddio i greu ‘pecynnau cychwynnol’ cartref.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwaith gwych y mae Antur Waunfawr yn ei wneud yn y gymuned ac i’r amgylchedd drwy glicio ar y ddolen isod.
Dod i 'nabod yr Athro David Thomas
Mae’r Athro David Thomas ar fin ein gadael. Cyn iddo fynd gofynodd y Papur Gwyrdd iddo am rai o’i brofiadau ac am ei gyngor ar yr heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu.
Rydych chi wedi bod ym Mangor ers bron i chwarter canrif, sut fyddech chi'n disgrifio'r brifysgol a'r ardal i bobl sydd erioed wedi bod yma?
Pan gyrhaeddais Fangor, fe’m croesawyd gan y Pennaeth Marchnata ar y pryd gyda’r geiriau bythgofiadwy "Croeso i'r lle gorau am ladd uchelgais". Roeddwn wedi fy synnu ac yn poeni rywfaint wrth gwrs, ond aeth ymlaen i egluro "Mae'n Brifysgol wych mewn lleoliad arbennig, gyda thai cymharol rad ac ysgolion o safon i'ch plant." Mae hynny i gyd yn wir a gallaf weld y pwynt yr oedd yn ceisio'i wneud.
Yn ffodus, roedd yn anghywir ynglŷn â'r darn"lladd uchelgais". Mae fy mhrofiad i wedi bod yn union i'r gwrthwyneb, gan fod y Brifysgol wedi rhoi pob cefnogaeth a chyfle i mi wireddu fy uchelgeisiau. Dros y 14 mis diwethaf fel Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) cefais fraint aruthrol o weld drosof fy hun yr uchelgais enfawr sy'n cael ei wireddu gan gynifer o gyd-weithwyr.
Beth fyddwch chi'n ei golli fwyaf?
Bydd hyn yn swnio'n ystrydebol, ond mae staff rhyfeddol ym Mangor sy’n tynnu gyda’i gilydd hyd eithaf eu gallu i wneud i'r brifysgol weithio ar gyfer myfyrwyr a staff. Yn ystod sawl cyfnod dros y 24 mlynedd y bum yma, ond yn enwedig yn ddiweddar, cafodd morâl staff gnoc enfawr. Serch hynny, pan fydd argyfwng, dyna pryd mae’n bosib gweld pobl yn tynnu at ei gilydd i wneud i bethau weithio. Mae argyfwng presennol Covid19 yn enghraifft dda o hyn, ond rwyf gweld ar sawl achlysur sut mae pobl yn dod i’r adwy pan nad yw cydweithwyr yn gallu gweithio am ba bynnag reswm ac mae hynny yr un mor drawiadol. Rwy'n cael fy synnu'n gyson gan faint o ymdrech y mae pobl yn barod i'w wneud i wneud i Brifysgol Bangor weithio.
A dyma ystrydeb arall - rydw i'n mynd i weld eisiau byw yn y rhan hon o'r byd.
Beth fyddwch chi'n gweld ei eisiau leiaf?
Heb amheuaeth, y teithiau yn ôl ag ymlaen i Gaerdydd a / neu Lundain mewn diwrnod; o bosib bod aros dros nos yno’n waeth. Rwy’n hapus dros ben na fydd yn rhaid i mi wneud hyn eto. Mae’n ddigon posib fod argyfwng Covid19 wedi rhoi diwedd arnyn nhw, ond fe wnes i gasau’r teithiau yma am y 7 mlynedd ddiwethaf yn benodol. Fydd dim colled ar ôl y boreuau anaearol o gynnar na’r nosweithiau hwyr yng ngorsaf Bangor.
Rydych chi wedi bod yn gefnogol iawn i bopeth cynaliadwy. Beth yn eich barn chi yw'r her amgylcheddol fwyaf sy'n wynebu Prifysgol Bangor a pham?
Gan roi materion am yr ystâd i’r naill ochr, yr heriau mwyaf a welaf yw sicrhau bod yr addysgu a'r ymchwilio a wnawn ar flaen y gad o ran yr agend cynaliadwy byd-eang sy'n newid yn gyflym. Mae newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd ac iechyd, cymdeithasau gwydn, amddiffyn adnoddau naturiol, colli bioamrywiaeth i gyd yn faterion o bwys enfawr. Mae'n hanfodol bod yr addysgu a'r ymchwil ym Mangor yn ddigon ystwyth i fynd i'r afael â'r heriau enfawr hyn sy'n newid mor gyflym.
Oes gennych chi hoff stori neu hanesyn amser te y gallwch chi ei rannu?
Rwyf wedi treulio tipyn o’m gyrfa yn gwneud gwaith maes ar rew môr yr Antarctig. Yn aml dim ond dau ohonom yn cael ein cludo mewn hofrennydd a’n gadael ar yr iâ am sawl awr wrth i'r llong hwylio i'r pellter. Roedd rhain yn eiliadau hudolus ac rwyf mor freintiedig fy mod wedi cael eu wedi mwynhau. Dim ond rhew 1-2 fetr o drwch yn arnofio’n ysgafn ar donnau’r môr, gyda 1000au o fetrau o gefnfor oer oddi tano. Mae gen i atgofion am lawer o bengwiniaid chwilfrydig yn dod i syllu ar ein gwaith, a hyd yn oed morfil anferth yn dod i’r wyneb yn osgeiddig ar gyrion y llen iâ yr oeddem yn sefyll arno. Treuliais oriau bwygilydd yng nghanol rhyfeddod yr iâ ar ôl i’n gwaith ddod i ben, yn aros i'r hofrennydd ddod i’n cyrchu - y lliwiau, y cerfluniau iâ, y distawrwydd llwyr ar adegau ac ar adegau eraill sŵn ofnadwy y llen iâ yn gwahanu ac yn malu yn erbyn ei gilydd nawr ac eilwaith.
Un tro, roedd gennym ddigon o amser ar gyfer gêm o griced ..... bonion iâ fel wiced, rhaw fel bat a phêl o iâ.
Mae Llyfr newydd gan David ar fin cael ei gyhoeddi:
DN Thomas (gol.) (2020) Arctic Ecology. Wiley-Blackwell. 350 tudalen. ISBN 978-111884654
Cynaliadwyedd ar waith ym mhrosiectau KESS 2 a KESS 2 Dwyrain
Mae'r Lab Cynaliadwyedd yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiectau KESS2 a KESS2 Dwyrain. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan mai 2020 yw blwyddyn gyntaf Degawd o Weithredu, sy’n galw i ni ddod o hyd i atebion cynaliadwy i heriau mwyaf y byd yn fwy cyflym. Mae’r heriau’n amrywio o dlodi a gender i newid hinsawdd, anghydraddoldeb a cau’r bwlch ariannol.
Mewn ymateb, mae KESS 2 & KESS 2 Dwyrain wedi lansio cyfres newydd o weminarau ar Nod y Mis y Cenhedloedd Unedig, er mwyn craffu pob nod yn fwy manwl.
Cynhaliwyd y cyntaf ym mis Mehefin ar Nod 17: Partneriaethau ar gyfer y Nodau, lle rhannodd pedwar ymchwilydd ôl-raddedig KESS2 enghreifftiau o arfer da o bartneriaethau yn eu hymchwil. Roedd hyn yn cynnwys rhai partneriaethau newydd sydd wedi ffurfio fel ymateb i COVID-19. Gallwch wylio'r sgyrsiau byr gan dri chyfranogwr KESS 2; Andrew Rogers, Jessica Hughes a John Barker.
Ym mis Gorffennaf, roedd y ffocws ar Ddiwydiant, Arloesi ac Isadeiledd. Isadeiledd cryf a cydnerth yw asgwrn cefn cymunedau sy’n ffynnu. Mae’n gallu sicrhau mynediad at dechnoleg craff ac arloesol, hawliau teg i arloesi, marchnadoedd ariannol a swyddi cynaliadwy. Unwaith eto, rhannodd ymchwilwyr ôl-raddedig KESS2 sut mae eu hymchwil yn cyfrannu at y nod hwn, gydag enghreifftiau o seiber ddiogelwch digidol, arloesi mewn dylunio gofod swyddfa ar gyfer llesiant, a pha mor sut mae diwydiant trwm yng Nghymru yn ceisio lleihau eu hôl troed carbon. Bydd manylion y cyflwyniadau hyn ar gael ar adran Cynaliadwyedd gwefan KESS 2 yn fuan.
Rydym eisoes yn edrych ymlaen at weminar Awst ar Nod 12 - Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol.
Mae’r gyfres hon o weminarau yn ychwanegol at weminarau rhyngweithiol rheolaidd ‘Cyflwyniad i Gynaliadwyedd’ sydd ar gael i holl gyfranogwyr KESS2 trwy Raglen Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS 2.
Mae rhagor o fanylion ar wefan KESS2 yn amlinellu sut mae prosiectau KESS2 a KESS2 Dwyrain yn cyfrannu at Nodau Lles Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Cyflwyniad i: Dŵr Uisce
Mae Dŵr Uisce yn brosiect ymchwil ynni dŵr trawsffiniol sy'n cael ei ariannu gan yr UE. Y prif amcan yw lleihau'r defnydd o ynni a'r allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig yn y sector dŵr. Mae Dŵr Uisce yn edrych i mewn i gylch bywyd y systemau dŵr cyfan - o ddarparu, defnyddio, a gwaredu - i dynnu sylw at dechnolegau a mesurau ymyrraeth a all helpu i arbed ynni – y rhai sydd ar gael yn barod a’r rhai sy’n cael eu datblygu.
Mae hyn yn bwysig gan fod y diwydiant dŵr yn defnyddio llawer iawn o ynni. Ar gyfartaledd defnyddir rhwng 2 - 3% o ynni'r byd i drin dŵr fel ei fod o ansawdd saff i’w yfed, i’w anfon ar hyd y pibellau at y defnyddwyr, ac i brosesu a gwaredu dŵr gwastraff. Yn y DU, er enghraifft, mae tua 2% o gyfanswm yr ynni sydd yn cael ei ddefnyddio yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau dŵr. Gall lleihau'r ynni mae’r sector yn ei ddefnyddio gynnig arbedion economaidd sylweddol i ddefnyddwyr hefyd.
Mae Dŵr Uisce yn mynd i’r afael â Nod Datblygu Cynaliadwy 12 drwy weithio i wella effeithlonrwydd ynni mewn gwahanol sectorau a’r sector dŵr yn gyffredinol. Maent yn dadansoddi cylch bywyd, gwneud asesiadau economaidd, yn meincnodi, ac yn gwneud asesiad effaith newid yn yr hinsawdd. Hefyd maent yn gweithio i gynyddu'r gyfran o ynni adnewyddadwy drwy ddatblygu technoleg ac yn cynnal astudiaethau peilot o ynni dŵr ar raddfa fach ac asesu potensial adfer gwres mewn sawl sector yng Nghymru a Iwerddon.
Mae Dŵr Uisce hefyd yn gweithio ar effeithlonrwydd ynni cartref sy'n gysylltiedig â dŵr, yn benodol, oherwydd y defnydd uchel o ddŵr ac ynni mewn cartrefi. Amcangyfrifir bod hyd at 95% o'r defnydd o ynni mewn cartrefi ar gyfer gwresogi gofod a dŵr. Mae hyn yn llawer gwaeth mewn ardaloedd gwledig fel Gogledd Cymru lle mae tai yn tueddu i fod yn hŷn ac felly'n llai effeithlon. Mae Dŵr Uisce yn ymchwilio i botensial lleihau allyriadau technolegau carbon isel a gwresogi dŵr ar gyfer cartrefi Cymru; ac maent yn datblygu offeryn meincnodi ar gyfer effeithlonrwydd ynni dŵr cartrefi, yn ogystal â system graddio ynni dŵr wedi'i fodelu ar y system EPC.
I gael mwy o wybodaeth am Dŵr Uisce, ewch i'w gwefan neu cysylltwch â Prysor Williams prysor.williams@bangor.ac.uk / Aisha Bello-Dambatta a.bellodambatta@bangor.ac.uk
Planhigyn y mis
Centaurea nigra (Pengaled Leiaf)
Mae Centaurea nigra yn rywogaeth o blanhigyn blodeuol sy'n rhan o deulu llygad y dydd. Mae'n cael ei adnabod fel y bengaled leiaf, y bengaled gyffredin a'r bengaled ddu.
Mae'n berlys lluosflwydd sy'n tyfu hyd at oddeutu metr o uchder gyda blodau porffor dwfn, tebyg i ysgall. Mae'r blodau mewn gwirionedd yn bennau blodau cyfansawdd sy'n cynnwys llawer o 'florets' bach (blodau bach), wedi'u hamgylchynu gan goron o bracts hir, carpiog, pinc. Mae'r dail hyd at 25 centimetr o hyd, gyda llabed dwfn, ac yn flewog.
Mae'r Pengaled yn flodyn gwyllt sy'n tyfu ar ddolydd a chynefinoedd glaswelltir eraill o lawntiau i gopaon clogwyni. Gellir ei weld yn aml ar ymylon ffyrdd a gwrychoedd lle caniateir i fywyd gwyllt ffynnu.
O'r holl flodau dôl, gellir dadlau mai'r Bengaled Leiaf, Centaurea nigra yw'r gorau o ran ei werth bywyd gwyllt. Mae'n denu pryfed hofran, gwenyn mêl a chacwn, ac mae hefyd yn ffefryn gan lawer o rywogaethau glöynnod byw gan gynnwys Glesyn Cyffredin, Llwyd y Ddôl, Iâr Fach Fodrwyog a Glöyn Trilliw, sydd i gyd yn bwydo o'i neithdar. Mae'r Bengaled Leiaf yn blodeuo rhwng Mehefin a Medi, fe ddaeth yn ail fel cynhyrchydd siwgr neithdar fesul uned flodau ymhlith planhigion lluosflwydd brodorol.
Dewch draw i Ardd Fotaneg Treborth i'w gweld yn y berllan ac ar gyrion y goetir.
Llyfr y mis
Stuffocation: Living More with Less
James Wallman, Penguin Random House UK, 2017
Ydych chi wedi cael llond eich bol o stwff? Pan ddaw’ch penblwydd neu Nadolig ydych chi’n ddiolchgar am yr anrhegion neu’n claddu’ch pen yn eich plu – ‘o na, dim par arall o sanau!’, neu ‘ble ar y ddaear ga i le i’r ffrwcsyn yna?’ Syth i’r bocs ffair sborion â nhw!
Mae mwy a mwy o bobl yn dechrau teimlo’r un fath. Petaem yn dechrau cyfri faint o ‘bethau’ unigol sydd yn ein tai byddem yn cael braw. Ac mae hi bron yn amhosib cadw trac ar beth yw beth ac yn sicr mae cwestiynnau yn codi p’un ai oes angen sawl eitem boed yn ddilledyn neu’n declyn. Oes rhywun ma’s yna’n defnyddio ‘telyn’ torri ŵy, go iawn?
Mae’r rhain yn gwestiynnau i bawb nid yn unig i’r cronwyr eithafol sy’n beryg iechyd iddyn nhw eu hunain a phawb arall. Os ydych yn dechrau teimlo eich bod yn gwegian dan bwysau cynyddol a bod eich stwff di-angen yn pentyrru fyny, dyma’r llyfr i chi.
Mae gyflwyniad, pedair rhan, diweddglo ac atodiad i’r llyfr:
Cyflwyniad: Mae yma holiadur sy’n helpu’r darllenydd ddeall hyd a lled y broblem.
Rhan 1: Amlinellu’r broblem – ‘stuffocation’ (nes i fethu bathu gair Cymraeg mor glyfar sy’n cyfleu’r un teimlad o fygu dan y stwff). Nodi’r pwerau sydd tu ôl i’r broblem e.e. mae’r economi’n ffynnu drwy’n perswadio i brynu pethau di-angen sydd ddim yn para. Mae yna ochr dywyll i fateroliaeth.
Rhan 2: Sut y daeth hi i hyn; o ble tarddodd ein diwylliant gwastraffus? Mae na bobl ac asiantaethau sy’n arbennigo mewn creu chwant am ‘fwy’ a ‘gwell’ – ond ydyn ni’n hapusach go iawn?
Rhan 3: Y groesffordd at ddyfodol amgen. Yn y bennod hon mae’n trafod ‘minimalism’ – yn wir mae’n ymddangos fod bod yn eithafol o ‘minimalist’ yn gallu bod yn obsesiwn ynddo’i hun. Ond mae na werth mewn agwedd ‘hanner-ffordd’. Ni bia’r dewis.
Rhan 4: Y ffordd ymlaen: Dyma oes y ‘profiad-wyr’. Yn yr adran hon mae’r awdur yn trafod y tueddiad newydd o gasglu profiadau yn hytrach na phethau. Ond dydi hyn ddim yn fêl i gyd chwaith – meddyliwch am beryglon y pwysau o gadw fyny gyda’r Jonesiaid ar dudalennau GwepLyfr neu Instagram. Mae pwysau newydd i rannu lluniau o brofiadau mwy a mwy egsotic yn hytrach na’ch bling drudfawr.
Digon posib y bydd rhai pobl mwy diamynedd yn diflasu tua’r diwedd oherwydd mae llawer o’r sylwadau a’r cynghorion yn eithaf amlwg.
Wrth i ni ystyried heriau sy’n wynebu’r byd a’n hamgylchedd naturiol a’r galw ar i ni leihau ei gor-ddibyniaeth ar stwff, yn enwedig stwff defnydd un-tro mae’r llyfr hwn yn fan cychwyn da i ddeall hyd a lled y broblem a rhoi cynnig o leia ar ffyrdd o’i datrys.