Loading

Y Papur Gwyrdd Y Lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor

Croeso i rifyn Medi y Papur Gwyrdd – y lle i ddod o hyd i’r newyddion diweddara am yr amgylchedd a chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ac am waith y Lab Cynaliadwyedd a’n partneriaid ar draws y campws.

Yn y rhifyn hwn rydym yn canolbwyntio ar:

  • Gwobr arbennig i’r Undeb Myfyrwyr
  • Dathlu penblwydd y Cenhedloedd Unedig yn 75
  • Adroddiad Amgylchedd Blynyddol Bangor
  • Effeithlonrwydd Adnoddau (Rheoli Gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor
  • Dod i 'nabod y tri Deon newydd: yr Athro Martina Feilzer, yr Athro Morag McDonald a’r Athro John Parkinson
  • Planhigyn y mis
  • Llyfr y mis

Anfonwch eich sylwadau/cyfraniadau i’r papur at cynaliadwyedd@bangor.ac.uk

Gwobr Arbennig Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd wedi'i dyfarnu i Undeb Bangor

Rydym yn falch iawn bod Undeb Bangor wedi derbyn Gwobr Arbennig Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd am y Sgor Uchaf yn genedlaethol (405 pwynt).

Mae Undeb Bangor wedi cael blwyddyn gynhyrchiol arall, yn cefnogi ac yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a phrosiectau sy'n cynrychioli Cynaliadwyedd. Roedd y rhain yn cynnwys y Carnifal Cynaliadwyedd, Wythnos Am Wastraff, y Prosiect Rhoi Mawr a'r ymgyrch Ystyried Cyn Yfed. Ar gyfer y Prosiect Rhoi Mawr, rhoddwyd a chasglwyd bwyd o llety myfyrwyr prifysgol gyda 130kg o fwyd yn cael ei roi ar ddiwedd haf 2019 i Fanc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor. Tra bod myfyrwyr a oedd yn byw mewn tai myfyrwyr preifat wedi cael eu cynnwys yn yr Wythnos Am Wastraff wrth i gynrychiolwyr o'r undeb, gan gynnwys swyddogion, ymweld â myfyrwyr a siarad â nhw i ddeall eu hymgysylltiad â gwastraff ac ailgylchu. Helpodd hyn yr undeb i wireddu ymddygiad ac agweddau myfyrwyr tuag at wastraff ac ailgylchu, ac amlygodd faterion a phryderon. Ymhlith y meysydd eraill y gwnaeth yr undeb ganolbwyntio arnynt a symud ymlaen eleni oedd cynyddu nifer y ffynhonnau dŵr, ychwanegu adran gynaliadwyedd at gytundebau clybiau a chymdeithas a chefnogi dwy Streic Hinsawdd Ieuenctid.

Dathlu penblwydd y Cenhedloedd Unedig yn 75

Eleni, mae'r Cenhedloedd Unedig yn nodi ei ben-blwydd yn 75 oed ar adeg o aflonyddwch mawr i'r byd, wedi'i waethygu gan argyfwng iechyd byd-eang digynsail ag effeithiau economaidd a chymdeithasol difrifol. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn gwasanaethu fel fforwm byd-eang lle gall gwledydd godi a thrafod materion anodd, gan gynnwys problemau rhyfel a heddwch. Yn ogystal â chynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol, mae'r Cenhedloedd Unedig yn amddiffyn hawliau dynol, yn darparu cymorth dyngarol, yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy a chyfraith ryngwladol.

Yn ganolog i'w agenda datblygu cynaliadwy mae'r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy, sy'n alwad gyffredinol i weithredu i ddod â thlodi i ben, amddiffyn y blaned a gwella bywydau a rhagolygon pawb ym mhobman. Nawr yn fwy nag erioed, mae'r nodau'n darparu fframwaith hanfodol ar gyfer adferiad COVID-19 ac i adeiladu dyfodol gwell i bawb.

Mae gan y Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor rôl ganolog yn RCE Cymru, sy'n rhan o'r Rhwydwaith RCE Byd-eang sy'n cael ei redeg gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig sy'n hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Mae 175 o RCEs (Canolfannau Arbenigedd Rhanbarthol) sy'n rhan o'r rhwydwaith hwn ac yn cyfrannu at wireddu Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Mae RCE Cymru yn gydweithrediad ar draws Prifysgolion Cymru i hwyluso ymchwil, datblygu a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o gynaliadwyedd. Ar hyn o bryd mae saith cylch diddordeb:

  • Prifysgolion a Cholegau Iach
  • Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol Cymru
  • Addysgu a Dysgu
  • Cymunedau Gwydn
  • Iaith a Diwylliant
  • Rhagnodi Cymdeithasol
  • Dysgu Oedolion

Adnoddau

Adroddiad Amgylchedd Blynyddol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gael System Rheoli Amgylcheddol ardystiedig ISO14001: 2015 (EMS). Mae'r EMS yn helpu i sicrhau ein bod yn gweithio i wella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus, gan leihau effaith negyddol ein gweithrediadau a'n gweithgareddau ar yr amgylchedd.

Mae gan y Brifysgol EMS ar waith ers 2009, yn wreiddiol o dan safon y Ddraig Werdd, ac maent wedi cael eu hardystio i safon Ryngwladol ISO14001 yn 2014.

Fel rhan o System Rheoli Amgylcheddol ardystiedig ISO14001: 2015 y Brifysgol, rydym yn cynhyrchu adroddiad bob blwyddyn ar ein perfformiad amgylcheddol.

Ar hyn o bryd mae Tîm Perfformiad Amgylcheddol y Campws wrthi'n paratoi adroddiad 2020, mi fydd yn darparu manylion perfformiad yn erbyn ein targedau amgylcheddol ac asesiad o'r System Rheoli Amgylcheddol. Bydd yr adroddiad yn cael ei werthuso gan y Grŵp Strategaeth Gynaliadwyedd ym mis Hydref. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Grŵp Strategaeth Gynaliadwyedd a Gweithrediaeth y Brifysgol, bydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein ar ein tudalen Rheolaeth Amgylcheddol a byddwn yn cyhoeddi uchafbwyntiau yma yn y Papur Gwyrdd.

Mae'r Brifysgol wedi bod yn cynhyrchu Adroddiad Amgylchedd Blynyddol yn flynyddol ers 2011, gellir dod o hyd i holl adroddiadau'r gorffennol ar dudalen gwe Rheolaeth Amgylcheddol, ynghyd â llawer mwy o wybodaeth am y System Rheoli Amgylcheddol yn ei chyfanrwydd.

Ym mis Mai, cynhaliodd y Lab Cynaliadwyedd gyflwyniad ar-lein i'r System Rheoli Amgylcheddol a fynychwyd yn dda iawn. Rydym yn gobeithio gallu cynnal sesiwn tebyg yn fuan, byddwn hefyd yn sicrhau bod mynediad i'r sesiwn flaenorol ar gael.

Effeithlonrwydd Adnoddau (Rheoli Gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor

Gan ein bod newydd gasglu data gwastraff ar gyfer 2019/20, roeddem yn teimlo bod hi’n gyfle gwych i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda'n darllenwyr.

Perfformiad Presennol

Yn 2019/20 llwyddodd Prifysgol Bangor i ddargyfeirio 100% o'i gwastraff. O’r gwastraff na chafodd ei yrru i safle tirlenwi cafodd 2% ei ailddefnyddio, 59% ei ailgylchu a 39% ei adfer. Cynhyrchwyd 617 tunnell o wastraff i gyd, gostyngiad o 196 tunnell (24%) ers y flwyddyn cynt.

Fodd bynnag, ein nod yw gwella ar hynny.

I ddod...

Yn ystod 2020/21, bydd y Brifysgol yn symud o system ailgylchu lle mae popeth yn gymysg i system ailgylchu lle mae defnyddiau yn cael eu gwahanu’n rhannol. Y rheswm dros hyn yw i wella cyfraddau ailgylchu ac i sicrhau bod yr ailgylchu a gasglwyd yn lanach ac o ansawdd uwch, ac felly’n fwy tebygol o gael ei ddefnyddio yma yng Nghymru neu yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roeddem wedi gobeithio lansio'r system newydd dros yr haf ar ôl prynu'r biniau newydd eisoes, ond oherwydd Covid-19, nid yw wedi bod yn bosibl eto.

Ar hyn o bryd rydym hefyd yn gweithio ar ein hymgyrch gwastraff blynyddol - Wythnos Am Wastraff (# WAW20). Bydd WAW yn cymryd lle rhwng y 5ed-9fed o Hydref 2020, a bydd gwybodaeth bellach yn dilyn ar ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Y Papur Gwyrdd yn sgwrsio gyda’r tri Deon newydd

Cafodd y Papur Gwyrdd gyfle i sgwrsio gyda’r tri Deon i'w holi am eu profiadau ym Mangor, yr heriau sydd yn ein gwynebu yn y tymor academaidd newydd, a darganfod sut y byddant yn ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith.

Yr Athro Martina Feilzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Yr Athro Morag McDonald, Deon Coleg yr Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
Yr Athro John Parkinson, Deon y Coleg Gwyddorau Dynol

Ers pryd ‘da chi wedi bod ym Mangor a sut wnaeth eich gyrfa eich arwain yma?

Martina Feilzer: Dwi wedi bod ym Mangor ers 2007 a dyma’r lle cefais fy mhenodi’n ddarlithydd am y tro cyntaf. Cyn hynny roeddwn yn swyddog ymchwil ym maes ymchwil cyfiawnder troseddol yn y Ganolfan Troseddeg, Prifysgol Rhydychen, ar gyfres o gontractau ymchwil tymor penodol dros chwe mlynedd cyn ymuno ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol (bryd hynny) ym Mangor. Roeddwn wrthi’n gorffen fy ngradd DPhil ac newydd gael fy ail blentyn felly roeddwn yn barod am her newydd ac yn awyddus i ymgymryd â rôl academaidd. Roedd tîm Troseddeg Bangor yn cael ei arwain am flynyddoedd lawer gan droseddegydd adnabyddus. Roedd yn gwneud gwaith cyffrous iawn ar garchardai a’r Gulags yn Rwsia – felly roedd Bangor i weld yn yn lle da i ddod iddo. Fel mae’n digwydd cefais fy nghyfweld ar ddiwrnod heulog braf yn yr ha; aethom i Bier Bangor am banad a syrthio mewn cariad â'r lle. Cofiwch chi, ar ôl i ni symud yma ym mis Tachwedd 2006, bu’n bwrw glaw am chwe mis yn ddi-dor!

Morag McDonald: Dwi wedi cael fy nghyflogi gan Fangor ers 1991, ond am y saith mlynedd cyntaf yr oeddwn wedi fy lleoli ym Mhrifysgol India’r Gorllewin (UWI) yn Kingston, Jamaica yn gweithio ar brosiectau a ariannwyd gan DFiD yn ymchwilio i effeithiau dadgoedwigo yn y Mynyddoedd Glas, a datblygu cwricwlwm coedwigaeth a choedamaeth yn UWI. Dechreuodd fy llwybr gyrfa cyn hynny gyda BSc mewn Amaethyddiaeth a Gwyddoniaeth Amgylcheddol (Newcastle) a PhD mewn Coedwigaeth (Caeredin). Roedd fy PhD wedi'i wreiddio (maddeuwch y gair mwys!) yng nghynhyrchiant planhigfeydd coedwigaeth yr Alban oedd yn teimlo’n eithaf cul bryd hynny. Felly dechreuais ar yrfa gyda BBC Scotland fel cynhyrchydd radio yn yr uned amgylcheddol. Efallai y byddwn yn dal i fod yno heblaw am y cyfle unwaith mewn oes a gefais i gael cymrodoriaeth ôl-ddoethurol gyda Phrifysgol British Columbia yn Vancouver, lle bum yn ymchwilio i adfywio coedwigoedd ar Ynys Vancouver. Unwaith eto, roedd yr ymchwil hon yn canolbwyntio ar goedwriaeth. Gwnaeth yr awydd i weithio mewn coedwigaeth drofannol a datblygu rhyngwladol fy arwain i Fangor, sydd ag enw da ar draws y byd yn y meysydd hyn. Ar ôl dod yn ôl i Fangor o Jamaica, rwyf wedi parhau i ymwneud â choedwigaeth dramor mewn amrywiaeth o wledydd gan gynnwys Ghana, Cameroon, Nepal, Indonesia ymhlith eraill. Cadwais fy niddordeb yn natblygiad y cwricwlwm ac yn sgîl hyn cefais sawl rôl yn arweiniol ym maes dysgu. Pendraw hyn oedd dod yn Bennaeth yr Ysgol ac erbyn hyn fi yw Deon y Coleg.

John Parkinson: Mae ‘na gyfuniad o ddau reswm pam y dewisais ddod i Fangor yn 2004 sef ei fod yn le syfrdanol i fyw, yn cynnig safon byw uchel iawn a hefyd yn brifysgol ragorol o ran ymchwil lle gallai fy nghwaith ffynnu.

Mae Bangor yn ymfalchïo ei bod yn Brifysgol gynaliadwy. Beth mae Cynaliadwyedd yn ei olygu i chi a sut y byddwch yn mynd ati i sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd yn cyrraedd pob rhan o'ch coleg – yn weithredol ac yn eich addysgu, eich dysgu a'ch ymchwil?

Martina Feilzer: I mi mae cynaliadweydd yn golygu sicrhau ein bod yn ymddwyn mewn ffordd sy’n galluogi cenedlaethau’r dyfodol i fyw mewn amgylchedd economaidd, ecolegol a chymdeithasol iach. Lle nad ydi’r math yna o amgylchedd iach yn bodoli ar hyn o bryd bydd yn rhaid i ni weithio i’w creu.

Gall meddwl am gynaliadwyedd a sut i weithredu hyn ar draws ein holl weithgareddau olygu newid yn ein ffordd o weithio - argraffu llai o ddeunyddiau darlithoedd a gwaith papur, dyblygu gwaith, ac ati. Mae meddwl yn fwy cynaliadwy yn golygu holi pam ein bod yn gwneud pethau mewn rhyw ffordd ac ystyried â oes ffordd well o wneud pethau, â oes modd lleihau'r defnydd o adnoddau chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, ein cyllid, a'n lles. Mae Covid wedi agor ein llygaid i ffyrdd newydd o wneud pethau; efallai y bydd rhai yn werth eu parhau â nhw. Wrth symud ymlaen, rwy'n awyddus iawn i gynnwys egwyddorion cynaliadwyedd ym mhrosesau'r Coleg ac adolygu ein gweithrediadau a'n prosesau yn unol â'r egwyddorion hyn dros yr blynyddoedd i ddod.

Morag McDonald: Heb os nac oni bai, mae cynaliadwyedd yn treiddio drwy bob agwedd ar y Coleg, mewn addysgu ac ymchwil. Prin yw’r Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig nad ydym yn cyfrannu'n uniongyrchol atynt – mae’n cyfraniad yn amrywio o ynni adnewyddadwy, diogelwch bwyd a dŵr hyd at addysg o safon a defnydd a chynhyrchu cyfrifol. Ac wrth gwrs mae gennym fantais ar y nodau 'bywyd ar y tir' a 'bywyd dan y dŵr'! Yn weithredol efallai ein bod wedi bod yn dibynnu ar deithio teithiau hir gan fod y Coleg yn gweithio yn rhyngwladol, ond yn sgîl y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd yr ydym i gyd wedi dysgu gwersi, ac wedi cyflwyno datblygiadau arloesol drwy ddefnyddio adnoddau digidol yn fwy effeithiol.

John Parkinson: Mae cynaliadwyedd un o’r gwerthoedd craidd. Os caiff ei ystyried yn onest, fel blaenoriaeth, yna mae’n rhywbeth sy’n ein hysgogi i ymddwyn yn ystyriol. Mae cynaliadweydd yn ei hanfod yn cyfeirio at pa mor wydn yw system (set o bethau sy’n gweithio gyda’i gilydd fel rhwydwaith gymleth). Dyna beth yw’r coleg a’r ysgolion o fewn y coleg, a’r timoedd o fewn rhieni, yn cynnwys pob unigolyn. Y cwestiwn sy’n codi wedyn yw sut y gallwn gynnig cefnogaeth i gryfhau’r system a’i gwneud yn fwy gwydn.

Beth sy'n rhoi'r pleser mwyaf i chi yn eich swydd, a beth sy'n eich cythruddo fwyaf?

Martina Feilzer: Dwi wrth fy modd yn dysgu - am yr wythnosau cyntaf o leiaf – ac rwyf bob amser yn falch ac yn gyffrous o gael bod yn yn ôl o flaen dosbarth – er mae’r ieir bach yr haf yn dal i fod yno. Rwyf hefyd yn byw am foment honno pan fyddai’n dechrau cyfnod o waith maes ar gyfer ymchwil – mae rhywbeth gwahanol i’r disgwyl bob tro ac mae hynny’n wych – mae’r maes ymchwil cyfiawnder troseddol yn gyffrous iawn.

Nid wyf yn ffan mawr o gyfarfodydd TEAMS ond hei – ‘does mo’r help am hynny. Yr hyn sy'n fwyaf annifyr mwy na thebyg yw ceisio delio â phroblemau sy’n codi oherwydd cyfathrebu gwael neu oherwydd gwrthdaro personol – fe ddylai rhain fod yn hawdd eu hosgoi ond umwaith mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth mae'n anodd iawn eu datrys.

Morag McDonald: Yr hyn sydd wedi rhoi’r pleser mwyaf i mi yw gweithio gyda chymuned fyd-eang o staff a myfyrwyr, a'r datblygiadau arloesol aruthrol sy’n dod yn sgîl cydweithio. Dwi ddim yn cael fy nghythruddo fel y cyfryw oherwydd mae'n nhw’n anghenrheidiol, ond mae cadw fyny gyda traffig e-bost yn her.

John Parkinson: Pleser: Y brwdfrydedd heintus sy’n dod o gweithio gyda thîm i oresgyn heriau a chyrraedd y nôd.

Cythruddo: Unigolion heb unrhyw falchder y neu gwaith ac sydd ddim yn ceisio gwneud eu gorau yn y gwaith hwnnw.

Mae iechyd a lles yn flaenoriaeth i'r Brifysgol. Mae gennych chi swydd heriol; oes gennych hobi neu ddwy y byddwch yn eu mwynhau i'ch helpu i ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith?

Martina Feilzer: Rwy'n dipyn o ystrydeb o ran hobïau - rwyf wrth fy modd yn mynd am dro ar draws Ynys Môn a Gwynedd waeth beth fo’r tywydd - er mawr lawenydd i'm teulu (!) - ac rwy'n mwynhau rhedeg o gwmpas Bangor. Rwy’ hefyd wrth fy modd yn darllen ffuglen ond dwi ddim yn cael cyfle i wneud hynny’n ddigon aml.

Morag McDonald: Dwi’n freintiedig, yn byw yn ymyl traeth bendigedig; felly mae rhedeg a cherdded gyda’r ci yn ffordd wych o ymlacio.

John Parkinson: Rwyf wrth fy modd yn rhedeg ond wrth i mi heneiddio, rwyf wedi bod yn traws-hyfforddi mwy drwy gymryd rhan mewn trithlonau. Mae nofio yn Llyn Padarn yn ffefryn arbennig. Mae'r manteision yn feddyliol: – yn rhoi amser a lle yn seicolegol er mwyn i mi glirio fy mhen.

A chorfforol: – mae’n gwneud i fy nghalon guro’n dipyn cynt sy’n llesol i’r corf i gyd (drwy leihau straen/a hyrwyddo llesiant). Gallaf argymell HIIT [hyfforddiant cyfnod dwysedd uchel] fel ymarfer arbennig o effeithiol ar gyfer iechyd a lles.

Mae'r flwyddyn academaidd hon yn dechrau o dan yr amgylchiadau mwyaf anarferol. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr wrth iddynt ddod yn ôl neu ymuno â ni am y tro cyntaf?

Martina Feilzer: Mwynhewch be fedrwch chi ei wneud o dan yr amgylchiadau sydd ohoni a gwnewch y gorau o fywyd y Brifysgol ond bydd rhaid addasu’ch disgwyliadau. Bydd y Brifysgol yn teimlo'n wahanol i’r arfer ond mae cymaint i'w elwa o'r profiad hwn o hyd. Ceisiwch beidio â chanolbwynto gormod ar ganlyniadau ac allbynnau ran eich addysg ond manteisiwch ar y cyfleoedd lu y bydd y Brifysgol yn eu cynnig - interniaethau, lleoliadau, profiad rhyngwladol, cwrdd â gwahanol bobl a mwynhau dadleuon a thrafodaethau am broblemau cymdeithasol, gwleidyddiaeth, a phopeth.

Morag McDonald: Efallai nad dyma'r ffordd yr oeddech yn meddwl y byddai, ond mae pawb yr un cwch felly cofiwch ymuno mewn a chymryd rhan. Mae’n siwr y bydd y clybiau a chymdeithasau ar-lein i ddechrau, ond mae hynny'n rhoi cyfle i brofi cyfleoedd ehangach nag y gallech fod wedi'i gael mewn cyfnod 'normal'. A gofynnwch am help os oes ei angen arnoch, bydd eich darlithwyr yn fwy na pharod i drefnu cyfarfodydd ar-lein os nad yw cyswllt swyddfa yn ymarferol yn y dyddiau cynnar.

John Parkinson: Dywedodd Epictetus (oedd yn athronydd stoic Groegaidd ac yn un o gyndeidiau therapi gwybyddol ymddygiadol): "Nid digwyddiadau sy'n ein brifo ni, ond y sut y byddwn yn ymateb iddynt." Fy nghyngor i fyddai defnyddio hyn fel carreg gyffwrdd drwy gydol y rhaglen, os nad bywyd. Gwnewch y gorau o'r cyfleoedd sydd gennych. Byddwch yn chwilfrydig, yn derbyn ac yn byw trwy gyfnodau o ansicrwydd, gofynnwch am help pan fyddwch yn cael trafferth. Byddwch yn dosturiol, byddwch yn barod i faddau.

Planhigyn y mis

Calluna vulgaris – Grug (Teulu: Ericaceae)

Calluna vulgaris yw'r planhigyn rhostir mwyaf cyffredin mewn sawl rhan o Gymru, ac mae i’w weld ar bron bob rhostir. Mewn rhai mannau mae'r cyfuniad o grug ac eithin yn creu clytwaith lliwgar ar fryniau a chlogwyni arfordirol. Mae yn Ynys Môn rai o'r enghreifftiau gorau o rostir sych a chlogwyni môr hefo llystyfiant ar Arfordir yr Iwerydd. Mae nhw’n gynefinoedd pwysig sydd dan fygythiad.

Mae blodau pinc sensitif, cymesur y grug yn ymddangos o fis Awst i fis Hydref ac maent yn wahanol i'r coesynnau caled, gwifrog, gwasgaredig y maent yn tyfu arnynt. Mae’r planhigion yn tyfu'n dynn at ei gilydd ac fe allant fyw am hyd at 40 mlynedd neu fwy. Mae'r blodau'n cynnwys digonedd o neithdar sy'n galluogi'r gwenyn i fwydo a stocio fyny cyn i'r gaeaf ddechrau.

Mae'r enw genws 'Calluna' yn deillio o'r ferf Groeg kalluno, sy'n golygu 'sgubo' - cyfeiriad at y traddodiad o ddefnyddio Grug/Ling i wneud ysgubau a brwsys. Mae'r enw penodol 'vulgaris' yn golygu ‘cyffredin’.

Llyfr y Mis

Rhybudd Iechyd

GOLCHWCH EICH DWYLO YN DRYLWYR AC YN AML GYDA SEBON A CHADWCH AT REOLAU PELLTER CYMDEITHASOL.

Clean: The New Science of Skin and the Beauty of Doing Less

James Hamblin

Ydych chi’n barod? – mae hyn yn mynd i fod yn ffiaidd.

Beth fyddech chi'n ei ddweud pe bai rhwyun yn cyhoeddi nad yw ef/hi wedi defnyddio siampŵ neu hylif cawod am bum mlynedd? Fyddai’ch llygaid yn popio allan o’ch pen? Fyddech chi’n nôl peg i’w roi ar eich trwyn? Teimlo anghrediniaeth ac arswyd?

Dyna'n union beth y mae Dr James Hamblin, sy’n feddyg ac yn ddarlithydd yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Yale yn ei ddweud yn ei lyfr newydd.

Mae ei resymau dros newid ei ymddygiad mor ddramatig yn deillio o bryder cynyddol ein bod yn niweidio'r trillionau o ficrobau sy'n byw mewn cytgord symbiotig ar ein croen. O dipyn i beth rydym yn sylweddoli nad ydynt yn drychfiolod bach mileinig wedi’r cyfan, ond eu bod yn chwarae rhan bwysig yn cynnal ein system imiwnedd. Mae’n edrych yn debyg mai cam gwag iawn yw ymosod yn ddi-drugaredd ar organebau bychain hyn yn ddyddiol; dylai pob un ohonom ystyried hyn yn ddwys.

Munud i feddwl. Pam fod arnom ni gymaint o ofn drewdod corfforol? Ymgyrch farchnata glyfar iawn yn 1920au’r ganrif ddiwethaf gan y cwmni o Port Sunlight sy’n cynhyrchu’r sebon enwog ‘Life Buoy’ sy’n gyfrifol, yn ôl pob sôn am ein hobsesiwn gyda glendid personol. Rhaid i ni dynnu’n hetiau i’r athrylith wnaeth fathu’r llinell ‘mae Life Buoy yn gwneud iechyd yn heintus '

Mae dihareb o'r 18fed ganrif sy'n dweud ein bod ni i gyd yn gorfod bwyta rhywfaint of faw cyn i ni farw. Sylw craff oedd o flaen ei amser. Mae microbiolegwyr bellach wedi canfod bod microbiomau pobl sy’n hela a chasglu (hunter gatherers) a phobl sy'n gweithio gyda'i gilydd ar ffermydd ers eu bod yn blant, yn amrywiol iawn sy’n peri eu bod lawer iawn yn llai tebygol o ddal afiechydon sy’n effeithio’r system awtoimiwn. Gallai ‘pobl dre’ elwa o gael cysylltiad agos gydag anifeiliaid a phobl eraill a threulio cymaint o amser ag y gallan nhw’n crwydro cefngwlad. Gorau oll os gallan nhw ymlacio digon i wneud hynny heb boeni am y mwd a’r baw.

OND – rydym yn awr yn byw drwy oes y pandemig. Roeddem eisoes yn byw mewn byd gwirion o lân a oedd yn peryglu cydbwysedd microbaidd ein cyrff. Mae'r cyfnod clo a gorfod cynnal pellter cymdeithasol yn ei gwneud hi bron yn amhosibl feithrin ymddygiad o'r fath ar hyn o bryd.

Byddai datguddio rhagor o wybodaeth yn difetha’r llyfr – mae’n werth ei ddarllen.

Pwyntiau i'w nodi:

GOLCHWCH EICH DWYLO YN DRYLWYR AC YN AML GYDA SEBON – Mae Dr Hamblin yn pwysleisio'r pwynt hwn ac yn nodi, er gwaethaf ein hobsesiwn gyda chynnyrch gwallt a chorff persawrus, nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn golchi ein dwylo'n ddigon trylwyr nac yn ddigon aml.

CHWYS-LADDWR. Yn rhyfeddol ac yn wahanol i’r disgwyl, dydy’r corff ddim yn mynd i ddrewi o dan y drefn ‘dim sebon'. Ond i’r sawl sydd heb ddigon o ffydd ac sy’n ofn pechu yn erbyn cymdeithas a cholli ffrindiau gyda’r fath ymddygiad radical mae MWYN HALEN NATURIOL YN CHWYS-LADDWR effeithiol. Yn wahanol i chwys-laddwyr cemegol cyffredin mae hwn yn atal y drewdod yn hytrach na’i guddio drwy lenwi’r mandyllau gydag aluminium clorohydrad neu aluminium zirconium.

GOLCHI DILLAD. Mae cynhyrchion fel ECO-EGG yn ein helpu i leihau faint o gynnyrch plastig un-tro sy’n cael ei ddefnyddio. Does dim cemegau niweidiol ynddo a gallai hyn fod o fudd i bobl â chroen sensitif ac mae’n ddelfrydol ar gyfer feganiaid gan nad yw'n cael ei brofi ar anifeiliaid nac yn unrhyw beth sy’n tarddu o anifeiliaid.

Cofiwch y rhybudd iechyd:

GOLCHWCH EICH DWYLO YN DRYLWYR AC YN AML GYDA SEBON A CHADWCH AT REOLAU PELLTER CYMDEITHASOL.