Loading

Cylchlythyr Undeb Bangor Newsletter

This Bangor Girl Can
Gall y Ferch Bangor Hon

Mae Cynhadledd Gall y Ferch Hon, yn rhan o Wythnos Gall y Ferch Hon.

*Peidiwch ag anghofio bydd rhaid cofrestru ar gyfer unrhyw un o'r gweithgareddau yn Brailsford.

This Girl Can Conference is part of the This Girl Can Week.

*Please note that you will have to sign up for any Brailsford activities.

Strategaeth Iechyd Meddwl A Lles Dan Arweiniad Myfyrwyr
Student-led Mental Health & Wellbeing Strategy

Mae iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd myfyriwr, sy’n ei gwneud yn flaenoriaeth allweddol i’r swyddogion yn nhîm Undeb y Myfyrwyr. Mae sicrhau bod iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn cael rhan flaenllaw wrth wneud penderfyniadau yn y Brifysgol, a gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i lunio polisïau yn hanfodol i greu cymuned gynrychioliadol ym Mangor.

Rydym yn falch ein bod wedi gweithio ar y cyd â’r Brifysgol, ac yn bwysig gyda myfyrwyr, ar y strategaeth hon. Arweiniwyd y broses o ddatblygu’r strategaeth hon yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr, a oedd ynddo’i hun yn gam mawr ymlaen gan ei fod yn annog diddordeb ehangach myfyrwyr a chynhyrchu syniadau. Hefyd, rhoddodd ymdeimlad o gyfrifoldeb a pherchnogaeth o’r project i fyfyrwyr, ac, yn wir, o bwysigrwydd meithrin eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain.

Student mental health and well-being affects every aspect of student life, which makes it a key priority for your Students’ Union Officer team. Placing student mental health and well-being at the forefront of University decision-making, and working in partnership with our student body to shape policies is crucial to creating a representative Bangor community.

We are pleased to have worked collaboratively with the University, and importantly with students, on this Student Led Mental Health & Well-Being Strategy. The process of developing this strategy was completely student-led, which was in itself a major step forward in that it encouraged wider student interest and generated ideas. In addition, it gave students a sense of responsibility and ownership of the project, and, indeed, of the importance of nurturing their own mental health and well-being.

Datganiad Undeb Bangor ar y Streiciau
Undeb Bangor's Statement on the Strikes

Mae aelodau Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) wedi pleidleisio’n ddiweddar o blaid streicio o’r 25ain o Dachwedd i’r 4ydd o Ragfyr. Mae Undeb Bangor yn llwyr gefnogi hawliau staff yn y Brifysgol a’r Undebau Llafur i weithredu ar faterion sy’n cael effaith arnyn nhw a’u haelodau. Ond ein myfyrwyr yw ein blaenoriaeth ac rydym yn gweithio gyda’r Brifysgol i liniaru unrhyw effeithiau andwyol ar y myfyrwyr a allasai ddeillio o’r gweithredu diwydiannol.

Recently, members of University and College Union (UCU) have voted to take strike action from 25th of November to the 4th of December. Undeb Bangor fully supports the rights of staff at the University, and the Trade Union’s, to take action on issues that affect them and their members. However, our priority is our students and we are working with the University to mitigate against any adverse effects that strike action might have on the student body.

Adennill y Nos
Reclaim the Night

Ymunwch â ni ar ein Gorymdaith i Adennill y Nos. Ymgyrch cenedlaethol yw Adennill y Nos, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth a chondemnio aflonyddiad a thraws rhywiol. Er mwyn dangos eich cefnogaeth, ymunwch â ni wrth gloc y dre am 6yh ar Nos Fercher, 4ydd o Ragfyr, lle bydd yr orymdaith yn dechrau cyn symud ymlaen trwy’r stryd.

Join us on our March to Reclaim the Night. Reclaim the Night is a national campaign to raise awareness and condemn sexual violence and harassment. To show your support please meet us at the town clock at 6pm on Wednesday 4th of December, where the march will start and progress up the High Street.

Cofrestrwch i Bleidleisio
Register to Vote

Mae amser yn rhedeg allan i gofrestru i bleidleisio! Sicrhewch eich bod chi’n cofrestru cyn 5yh ar ddydd Mawrth y 26ain o Dachwedd i sicrhau nad yw eich pleidlais yn mynd yn ar goll! Cliciwch isod i gofrestru.

Time is running out to register to vote! Make sure you register by 5pm on Tuesday 26th of November to ensure your vote doesn’t go a miss! Click below to register.

Dadl Etholiad Cyffredinol Arfon
Arfon General Election Debate

Mi fyddwn yn cynnal Dadl Etholiad Cyffredinol Arfon ar ddydd Mawrth Rhagfyr y 3ydd am 6.30yh yn PL5 Pontio. Bydd y digwyddiad hwn yn dilyn steil dadl cwestiwn ac ateb gydag ymgeiswyr o’r etholaeth leol. Bydd angen i chi gyflwyno eich cwestiynau cyn y digwyddiad gan ddefnyddio’r linc isod. Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth ar ein cyfryngau cymdeithasol.

We’ll be hosting an Arfon General Election Debate on Tuesday the 3rd of December at 6.30pm in Pontio PL5. This event will be a question time style debate with candidates running in the election within the local constituency. You’ll need to submit your questions prior to the event using the link below. For further information keep an eye out on our social media.

UA Ben i Ben

AU Head 2 Head

Pennod 5... Mae'r bechgyn yn cymryd chwaraeon raced ymlaen, cawn weld sut mae Henry a Rich yn dod ymlaen yn y sialens hon?

Episode 5... The lads take on a racket sport, lets see how Henry and Rich faired in Badminton?

Cynrychiolydd UCM
NUS Delegates

Hoffech gyfle i gynrychioli myfyrwyr ar lefel rhyngwladol, a thrafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr ar led y wlad?

Mae gennym gyfle anhygoel i chi! Enwebwch eich hun fel Cynrychiolydd UCM Undeb Bangor, a chewch gyfle i fynychu Cynadleddau Cenedlaethol a chwrdd â chynrychiolwyr o Brifysgolion eraill! Mae cyfnod enwebu nawr ar agor!

Fancy a chance to represent students on a national scale, debating various issues that affect students all over the country?

We have a fantastic opportunity for you! Run to be an Undeb Bangor NUS Delegate, and you’ll get the chance to attend a National Conferences and meet fellow delegates from all over the UK! Nominations are now open!

Efallai eich bod a diddordeb mewn...

You may also be interested in....

Diolch am ddarllen | Thanks for reading