Loading

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru Y Broses...

Mae Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r broses, gan gynnwys cyllidebau atodol, yn mynd yn ei blaen trwy gydol y flwyddyn.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar y Gyllideb ac yn pleidleisio arni, a'r Pwyllgor Cyllid sy'n arwain ar y gwaith hwn yn y Cynulliad.

1. Ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn y gyllideb

Pryd? Yn ystod tymor yr haf fel arfer.

Beth? Sesiwn anffurfiol gyda rhanddeiliaid, a gaiff ei chynnal y tu allan i'r Cynulliad fel arfer.

Disgwylir i hyn gynnwys craffu strategol tymor hir ac ymgysylltu â'r cyhoedd fel: strategaeth Llywodraeth Cymru, cyllid, blaenoriaethau at y dyfodol, ac ymgorffori barn rhanddeiliaid cyn pennu cyllidebau.

Pam? Bydd y gwaith craffu cyn y gyllideb yn sail ar gyfer y gwaith ymgynghori cyhoeddus a wneir gan y Pwyllgor Cyllid dros yr haf, a bydd yn cael ei ddefnyddio i graffu ar y Gyllideb ddrafft.

2. Ymgynghoriad cyhoeddus

Pryd a phwy? Dros yr haf, dan arweiniad y Pwyllgor Cyllid.

Beth? Cais am farn ar gyllideb y flwyddyn flaenorol, disgwyliadau ar gyfer y gyllideb sydd i ddod, ac ar y meysydd penodol i'w hystyried sy'n deillio o waith ymgysylltu'r Pwyllgor â rhanddeiliaid cyn y gyllideb.

Sut? Bydd dogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi yn disgrifio beth mae'r Pwyllgor yn chwilio amdano, a rhestr o gwestiynau y mae'r Pwyllgor yn chwilio am farn arnynt. Croesewir barn gyffredinol ar y gyllideb ddrafft hefyd.

Pam? Bydd hyn yn darparu barn y rhanddeiliaid i'r Pwyllgor Cyllid, ac yn llywio'r cyfeiriad a roddir gan y Pwyllgor Cyllid i'r pwyllgorau polisi ar feysydd penodol sydd o ddiddordeb i'w gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft.

3. Cyhoeddi'r gyllideb ddrafft amlinellol

Pwy? Bydd Llywodraeth Cymru yn 'gosod' y gyllideb ddrafft amlinellol gerbron y Cynulliad; dyma'r broses lle mae dogfennau'n cael eu gosod yn ffurfiol gerbron y Cynulliad, ac maent ar gael yn gyhoeddus.

Beth? Bydd y cynigion ynghylch y gyllideb ddrafft yn dangos cynlluniau gwariant a chyllido strategol lefel uchel y Llywodraeth.

Beth sydd wedi'i gynnwys? Dyraniadau gwariant arfaethedig i'r portffolios gwahanol (sy'n cael eu galw yn Brif Grwpiau Gwariant, neu MEG), sut caiff y rhain eu hariannu (gan gynnwys trethiant), a lefelau benthyca a dyled cyffredinol.

Beth yw MEG? Mae'r Gyllideb wedi'i rhannu'n gategorïau at ddibenion monitro a rheoli. Er enghraifft, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Addysg; yr Economi a Thrafnidiaeth, pob un ag Ysgrifennydd y Cabinet, y rhain yw'r MEGs.

Beth arall y gellid ei ddisgwyl? Y rhesymeg dros lefelau trethi; amrywiaeth o ystadegau a dadansoddiadau economaidd perthnasol i Gymru; sut mae'r rhaglen Lywodraethu (Symud Cymru Ymlaen), Strategaeth Genedlaethol (Ffyniant i Bawb), a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi dylanwadu ar ddyraniadau'r gyllideb; adroddiad sy'n amlinellu'r gwaith craffu a sicrwydd annibynnol mewn perthynas â rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig.

4. Craffu ar y gyllideb ddrafft amlinellol

Pa mor hir? Fel arfer bydd y Pwyllgor Cyllid yn cael wyth wythnos i graffu ar y gyllideb ddrafft amlinellol.

Sut mae'n cael ei wneud? Bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfres o sesiynau tystiolaeth ffurfiol yn y Senedd.

Gyda phwy?

Beth? Canolbwynt gwaith craffu'r Pwyllgor Cyllid yw'r strategaethau gwario lefel uchel, cyfraddau trethi, prosesau ac egwyddorion cyffredinol y gyllideb, a dangosyddion economaidd cenedlaethol.

5. Cyhoeddi'r gyllideb ddrafft fanwl

Pwy? Bydd Llywodraeth Cymru yn 'gosod' y Gyllideb ddrafft fanwl gerbron y Cynulliad.

Beth ydyw? Cynnig cyllideb mwy manwl ar gyfer pob portffolio (MEG) ar lefel Llinellau Gwariant y Gyllideb (BEL), ynghyd ag esboniadau ategol priodol.

Beth yw BEL? Mae pob portffolio (neu MEG) wedi'i rannu yn gyntaf yn Weithredoedd, e.e. Darparu Gwasanaethau GIG Craidd neu Safonau Addysg. Ac yna caiff pob un o'r rhain eu rhannu ymhellach i linellau gwariant y gyllideb neu BELs, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Godi Safonau Ysgolion. Mae hyn yn caniatáu i 'fonitro a rheoli' y gyllideb yn well.

Sut? Fel rheol bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r BELs (faint o arian sy'n cael ei ddyrannu i bob maes), ochr yn ochr â’i rhesymeg y tu ôl i'r dyraniadau.

6. Craffu ar y gyllideb ddrafft fanwl

Pwy? Bydd y Pwyllgorau polisi, fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fel arfer yn cael pum wythnos ar gyfer eu gwaith craffu.

Beth? Gall y pwyllgorau polisi ystyried cynigion cyllideb manwl Llywodraeth Cymru, gan graffu ar y cynlluniau gwario manwl ar gyfer portffolios perthnasol Gweinidogol, a gallant adrodd am eu barn ar y cynigion hyn os ydynt yn dymuno.

Sut? Bydd y Pwyllgorau yn cynnal sesiynau gweinidogol, a gallant wrando ar dystiolaeth gan randdeiliaid eraill, fel y GIG a CLILC.

Goruchwylio. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal rôl oruchwylio ar waith craffu'r pwyllgorau eraill.

7. Adrodd

Pwy? Y Pwyllgor Cyllid, ac unrhyw un o'r pwyllgorau polisi sy'n dymuno cyflwyno adroddiad.

Pryd? Wythnos cyn y ddadl ar y Gyllideb ddrafft.

Sut? Bydd yr adroddiadau fel arfer yn crynhoi'r dystiolaeth a gafwyd, yn ogystal â'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gweinidogion perthnasol. Yn ogystal, byddant yn cynnwys barn y pwyllgor ei hun, ac yn aml yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Argymhellion? Mae'r adroddiadau fel arfer yn cynnwys nifer o argymhellion. Gallant fod yn geisiadau am newidiadau i'r gyllideb, i'r ffordd y gwneir y gyllideb yn y dyfodol, cyflwyniad y gyllideb, neu ofyn am eglurhad ar elfennau o'r Gyllideb.

Ymatebion y Llywodraeth? Fel arfer bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion yn adroddiadau'r pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd.

8. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft

Sut? Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig i nodi'r Gyllideb ddrafft. Caiff unrhyw adroddiadau a wneir gan bwyllgorau ar y Gyllideb ddrafft eu hychwanegu fel dogfennau ategol ar gyfer y ddadl ar y Gyllideb ddrafft.

Pwy? Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sydd fel arfer yn gwneud y cynnig, gyda Chadeiryddion y Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau polisi a gyflwynodd adroddiad ar y gyllideb yn cael eu galw i siarad ar y cynnig.

Gwelliannau? Gall Aelodau gyflwyno gwelliannau i'r cynnig, ond ni allant newid cyfraddau treth, sy'n fater i Lywodraeth Cymru.

Beth? Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y Cyllidebau drafft amlinellol a manwl, a byddant yn defnyddio adroddiadau drafft y pwyllgorau ar y Gyllideb.

9. Cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol

Pwy? Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynnig y Gyllideb Flynyddol yn unol â'r Rheolau Sefydlog a Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cynnig y Gyllideb Flynyddol? Dyma'r ffordd ffurfiol y mae'r Cynulliad yn awdurdodi Gweinidogion Cymru i ddefnyddio adnoddau.

Beth sy'n cael ei osod? Wrth gefnogi Cynnig y Gyllideb Flynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddarparu, ar yr un pryd â gosod Cynnig y Gyllideb Flynyddol, ei chyllideb derfynol sy'n ymgorffori cynlluniau gwariant ac unrhyw newidiadau i gynlluniau ariannu a gynigir yn y gyllideb ddrafft.

Dylid hefyd darparu cysoniad i newidiadau ar lefel BEL (manylion am yr hyn sydd wedi newid rhwng y Gyllideb ddrafft a'r Gyllideb derfynol ar lefel BEL).

10. Dadl ar y Gyllideb Derfynol

Beth? Rhaid i Weinidog Cymru osod cynnig y gyllideb flynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliannau.

Beth am dreth incwm? Ni ddylid cynnal y ddadl ar y gyllideb derfynol tan ar ôl i'r Cynulliad gytuno ar y Penderfyniad Cyfradd Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw, sy'n nodi Cyfradd Treth Incwm Cymru ar gyfer y flwyddyn honno.

Cyllidebau atodol

Beth? Fel arfer bydd y Llywodraeth yn cynhyrchu dwy gyllideb atodol, gan ddangos newidiadau yn ystod y flwyddyn i'r gyllideb.

Pam? Mae'r gyllideb atodol yn cynnwys trosglwyddiadau oddi wrth Lywodraeth y DU, dyraniadau newydd o gronfeydd wrth gefn canolog, trosglwyddiadau rhwng portffolios, yn ogystal â throsglwyddiadau mawr o fewn portffolios.

Pryd? Fel arfer caiff cyllidebau atodol eu gosod ym mis Chwefror a mis Mehefin, er nad oes rhaid gwneud hynny.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cael ei harian

Mae pedair prif ffynhonnell o gyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru:

  • arian sy’n cael ddyrannu gan Lywodraeth y DU. Trysorlys Ei Mawrhydi sy’n pennu lefelau gwariant cyhoeddus cyffredinol y DU yn ei chyfanrwydd, ac mae cyfran o hyn yn cael ei ddyrannu i Gymru fel y grant bloc. Caiff newidiadau i hyn eu cyfrifo gan ddefnyddio Fformiwla Barnett;
  • arian sy’n cael ei godi ar ffurf trethi a thollau eraill. Mae hyn yn cynnwys treth trafodiadau tir, treth gwarediadau tirlenwi, a chyfran o dreth incwm;
  • benthyca;
  • arian a ddaw o’r Undeb Ewropeaidd.

Caiff y trefniant presennol ei nodi yn y fframwaith cyllidol y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno arno

Cyllideb y DU

Mae Cyllideb y DU yn digwydd yn ystod yr hydref, yn ystod proses y Gyllideb Cymru, ond Llywodraeth y DU sy’n penderfynu’n union pryd.

Gall Cyllideb y DU effeithio’n uniongyrchol ar faint o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru drwy newidiadau canlyniadol mewn gwariant yn Lloegr i feysydd datganoledig.

Hefyd gall effeithio ar elfennau eraill o fywyd yng Nghymru, fel newidiadau i drothwyon a lwfansau treth incwm.

Oherwydd pryd y mae’r newidiadau hyn yn digwydd, efallai na chânt eu hadlewyrchu tan y Gyllideb derfynol, neu gyllidebau atodol.

Created By
Alex Hadley
Appreciate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a copyright violation, please follow the DMCA section in the Terms of Use.