Loading

Y Papur Gwyrdd Y lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor

Croeso i rhifyn mis Hydref o'r Papur Gwyrdd – y lle i ddod o hyd i’r newyddion diweddara am yr amgylchedd a chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ac am waith y Lab Cynaliadwyedd a’u partneriaid ar draws y campws.

Mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar:

  • Nodau Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – Nôd 16 – Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf
  • Astudiaeth Achos KESS2 gan Mirain Llwyd Roberts
  • Effeithlonrwydd Adnoddau ym Mhrifysgol Bangor
  • Dod i 'nabod: M-Sparc
  • Pum arfer gwyrdd gorau sydd ddim yn costio llawer
  • Planhigyn y mis
  • Llyfr y mis

Sesiwn Rhoi'r byd yn ei le

Dydd Mawrth, Hydref 27ain - 11yb

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn Rhoi’r byd yn ei le mis Hydref. Bydd y sesiwn dan arweiniad Gwen Holland, Cydlynydd Gwastraff y Campws. Cewch glwad am yr hyn mae'r Brifysgol yn ei wneud i arbed, ail-ddefnyddio ac ailgylchu gwastraff a'r holl ddatblygiadau a chynlluniau sydd ar y gweill.

Archebwch eich lle drwy ebostio cynaliadwyedd@bangor.ac.uk neu ymunwch yn uniongyrchol drwy’r ddolen isod.

Gyrrwch eich sylwadau neu erthyglau i cynaliadwyedd@bangor.ac.uk

Nôd Datblygu Cynaliadwy y mis - Nôd 16 Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf

Ym mis Hydref, byddwn yn edrych ar Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf - Nod Datblygu Cynaliadwy 16 y Cenhedloedd Unedig. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd annog cymdeithas heddychlon a chynhwysol i bawb ac adeiladu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel. Mae gwrthdaro, perygl, sefydliadau gwan a mynediad cyfyngedig i gyfiawnder yn fygythiad enfawr i ddatblygiad cynaliadwy.

Mae hawliau dynol yn allweddol wrth lunio ymateb i’r pandemig, gan ganolbwyntio ar bobl. Mae ymatebion sy’n cael eu siapio gan hawliau dynol a’u parchi yn arwain at ganlyniadau gwell wrth guro’r pandemig, sicrhau gofal iechyd i bawb a chadw urddas pobl. Anogodd Ysgrifennydd Cyffredinol y CU lywodraethau i fod yn dryloyw, yn ymatebol ac yn atebol yn eu hymateb COVID-19 a sicrhau bod unrhyw fesurau brys yn gyfreithiol, yn gymesur, yn angenrheidiol ac yn anwahaniaethol. Mae hefyd wedi galw am gadoediad byd-eang, mewn apêl yn annog pleidiau rhyfelgar ledled y byd i roi eu harfau i lawr a chefnogi’r frwydr fwy yn erbyn y pandemig. Mae mwy na 2 filiwn o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb ar-lein yn cefnogi'r apêl cadoediad byd-eang. Gallwch ei lofnodi yma.

Dyma rai ffeithiau byd-eang:

  • Yn 2019, roedd mwy na 79 miliwn o bobl yn ffoi rhag rhyfel, erledigaeth a gwrthdaro, yr uchaf a gofnodwyd erioed
  • Mae'r gyfradd llofruddiaethau byd-eang wedi gostwng yn araf, ond mae 440,000 o ddioddefwyr dynladdiad ledled y byd
  • Mae gan 60% o wledydd orlenwi carchar, gan beryglu lledaeniad COVID-19

Be allwn ni ei wneud?

  • Pleidleisiwch
  • Ymarfer eich hawl i ryddid gwybodaeth
  • Hyrwyddo cynhwysiant a pharch tuag at bobl o wahanol darddiad ethnig, crefyddau, rhyw, tueddfryd rhywiol neu o farn wahanol

Adnoddau

Dr. Sarah Nason, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfraith Weinyddol ac Awdurdodaeth yn esbonio sut mae ei gwaith hi'n cyfrannu at Nod 16

Mae ymchwil Prifysgol Bangor i gyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, y DU a'r byd yn helpu i hyrwyddo’r gyfraith, ac yn gweithio tuag at sicrhau cyfiawnder i bawb, yn unol â thargedau Nod 16 Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig 'Heddwch a Chyfiawnder'.

Ystyr ‘Cyfiawnder gweinyddol’ yw cyfiawnder yn y cydberthynas sy’n bodoli rhwng unigolion a'r wladwriaeth. Mae'n ymwneud â sut y mae'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yn trin pobl, pa mor gywir yw eu penderfyniadau, pa mor deg yw eu gweithdrefnau, a'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl i'w herio. Mae'n effeithio ar fywydau mwy o bobl na'r systemau cyfiawnder troseddol neu sifil. Yn lleol, mae ein hymchwil yn llywio'r gwaith o ddatblygu system o gyfiawnder gweinyddol sy’n fwy cydlynol, yn fwy egwyddorol ac yn fwy hygyrch i Gymru, er mwyn helpu pobl i sicrhau bod eu hawliau cyfreithiol yn cael eu parchu.

Mae cynaliadwyedd, a 'Phum Ffordd o Weithio' Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth wraidd gweinyddiaeth dda a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Mae ein hymchwil yn dangos fod cyfiawnder gweinyddol yn gonglfaen i'r ddau beth a bod na botensial i liniaru anghydraddoldeb strwythurol drwy ymdrin â pholisi a deddfwriaeth, creu canllawiau a llwybrau teg, cymesur a hygyrch mewn ffordd egwyddorol i wneud iawn am anghyfiawnderau. Yr ydym yn dadlau bod Cymru fwy cyfartal yn mynd law yn llaw â Chymru gyfiawn.

Y Pum Ffordd o Weithio: Hirdymor | Integreiddio | Cynnwys | Cydweithio | Atal

Yn y DU, mae ein hymchwil empirig ddylanwadol i adolygiad barnwrol o sut mae llywodraeth yn gweithredu yn dangos yn glir bod gweithdrefn yn werthfawr ac yn hanfodol i lywodraethu da, er mwyn diogelu rheolaeth y gyfraith, ac i roi mynediad at gyfiawnder i'r rhai mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd yn ein cymdeithas.

Mae Dr Nason wedi cyfrannu yn ehangach fel rapporteur y DU at brosiectau ledled Ewrop ac yn fyd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys: archwilio effaith Cyngor Ewrop (y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a chytundebau eraill y Cyngor) ar gyfraith gyhoeddus a gweinyddiaeth dda yn yr Aelod-wladwriaethau; archwilio sut mae cyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol yn cael eu diwygio yn Ewrop ac mewn awdurdodaethau cyfraith gyffredin fel Canada ac Awstralia. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda Chyfarwyddiaeth Gyffredinol Hawliau Dynol Cyngor Ewrop ar ymchwil i wella rheolaeth y gyfraith, mynediad at gyfiawnder a gweinyddu effeithiol yn enwedig yn yr aelod-wladwriaethau.

Astudiaeth Achos Alumni KESS2: Mirain Llwyd Roberts

Cwmni Partner: Cyngor Gwynedd

Goruchwiliwr academaidd: Dr Catrin Hedd Jones

Disgyblaeth academaidd: Gwyddorau Iechyd, Seicoleg

Pwrpas fy mhrosiect oedd edrych ar yr heriau a’r rhwystrau sy’n wynebu prosiectau pontio’r cenedlaethau: “Pontio’r bobl a’r gymuned: Y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu prosiectau pontio’r cenedlaethau gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd”. Daeth sawl rhwystr a her i’r amlwg yn ystod yr ymchwil a daethpwyd o hyd i fodel syml er mwyn ceisio cael y gorau o brosiectau pontio’r cenedlaethau yma yng Nghymru. Mae sawl agwedd yn amharu ar y gallu i bontio’r cenedlaethau a llwyddo i drefnu rhaglen sy’n gynaliadwy. Mae’n bwysig cael trefnydd a hwylusydd ar gyfer y prosiectau gan nad ydynt yn fater o rhoi dwy garfan o bobl at ei gilydd. Ond yn ychwanegol mae’n bwysig bod pwysigrwydd pontio’r cenedlaethau yn cael ei ddeall ar lefel personol, cymunedol a chenedlaethol er mwyn i brosiectau barhau. Trwy ddeall gwerth y math yma o waith bydd cynlluniau yn cael ei cynnal yn amlach a dros gyfnodau hirach.

Bellach, ers blwyddyn rwyf yn gweithio i Gyngor Gwynedd fel Cydlynydd Pontio’r Cenedlaethau fel rhan o rwydwaith o brosiectau sydd wedi ei ariannu drwy Gronfa Gofal Intergredig (ICF), Llywodraeth Cymru ac mae’n gronfa sydd yn hybu syniadau newydd wrth ddatblygu’r maes iechyd a gofal i’r dyfodol. Mae’n braf cael y cyfle i roi canlyniadau fy ymchwil ar waith. Cyngor Gwynedd oedd hefyd fy mhartneriaid busnes yn ystod fy ngradd meistr ac mae wedi bod o fudd mawr medru parhau gyda’r gwaith da wnaethpwyd yn ystod fy mlwyddyn fel myfyrwraig ymchwil trwy weithio llawn amser gyda hwy. Mae’r gefnogaeth i’r prosiect gan y cwmni wedi bod yn fuddiol.

Llun ar y dde: Mirain yn siarad yn y gynhadledd yn Portland, UDA a fynychodd yn ystod ei chyfnod astudio ôl-raddedig.

Cydweithredu â diwydiant

Yn ystod fy mlwyddyn fel myfyrwraig KESS 2 ac ers hynny yn gweithio i Gyngor Gwynedd rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar sawl prosiect pontio’r cenedlaethau. Y math o gynllun mwyaf cyffredin rwyf wedi gweithio arno yw cynllun rhwng dosbarth mewn ysgol gynradd a trefnu eu bod yn ymweld â chartref gofal neu canolfan gofal dydd lleol. Rwyf hefyd wedi cael cyfle i weithio a phlant uwchradd a phobl ifanc sydd wedi gadael ysgol a hefyd cartrefi gofal . Rwyf wedi cael trefnu prosiectau cymunedol hefyd gan weithio gyda mudiadau o’r trydydd sector. Mae’r dealltwriaeth rwyf wedi gael o’r amryw o sectorau yma yn fuddiol er mwyn mynd ymlaen i gynnig gwahanol fathau o brosiectau rhwng gwahanol garfanau o bobl. Mae’r cyfleoedd o weithio gyda’r gwahanol fudiadau hyn fel myfyrwraig ac ar ôl graddio wedi fy natblygu i fel unigolyn.

Effaith

Mae pontio’r cenedlaethau yn gyfle i sefydlu perthnasau arbennig rhwng pobl o bob oedran a dealltwriaeth o wahanol cenhedloedd o’i gilydd. Rwyf wedi gweld perthnasau arbennig yn ffurfio rhwng plant cynradd a rheiny mewn gofal dydd, rhwng plant uwchradd a phobl yn y gymuned a myfyrwyr ac unigolion mewn cartrefi gofal. Mae’r amrediad yma o berthnasau yn ffurfio yn pwysleisio sut bod pontio’r cenedlaethau yn gallu digwydd rhwng unrhyw un.

Rwyf yn edrych ymlaen i barhau gyda’r prosiect pontio’r cenedlaethau a’r heriau newydd sydd ynghlwm a’r sefyllfa bresennol lle nad oes modd parhau gyda’r prosiectau wyneb yn wyneb am y tro. Mae’n gyfle i feddwl tu hwnt i’r bocs ac arbrofi gyda dulliau digidol a newydd o bontio’r cenedlaethau.

Cyfrannodd y prosiect ymchwil at y Nodau Llesiant Cymreig canlynol:

A'r Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig canlynol:

Am rhagor o wybodaeth am brosiect KESS2 a KESS2 Dwyrain, mwy o astudiaethau achos, ac enghreifftiau o sut mae'r ymchwil yn cyfarch nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig cerwch i'r wefan www.kess2.ac.uk

Effeithlonrwydd Adnoddau (Rheoli Gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor

Wythnos Am Wastraff #WAW20

Wythnos Am Wastraff (WAW) yw ymgyrch effeithlonrwydd adnoddau blynyddol Prifysgol Bangor. Mewn blwyddyn “normal” mae'r wythnos yn cynnwys ymweliadau gwastraff mewn neuaddau ac yn y gymuned, casglu sbwriel, glanhau traethau, sgyrsiau gyrfa, diwrnodau gwybodaeth, cwisiau a gweithdai. Fodd bynnag, roedd ymgyrch eleni yn wahanol iawn, gan fod yr wythnos yn bennaf yn cael ei chynnal ar-lein.

Cymerodd WAW le rhwng y 5ed a 9fed o Hydref 2020 ac roedd yn cynnwys amryw o styntiau megis torri glaswellt fel symbol ailgylchu y tu allan i Pontio ac yng Ngardd Fotaneg Treborth, yn ogystal â goleuo ein Prif Adeilad Celfyddydau yn wyrdd. Roedd y styntiau yn hyrwyddo WAW yn ogystal ag ymgyrch genedlaethol y Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) ‘Bydd Wych - Ailgylcha!’.

Prif Adeilad y Celfyddydau yn troi'n wyrdd ar gyfer Wythnos am Wastraff
Arwydd ailgylchu yng Ngardd Botaneg Treborth

Cawsom amryw o sesiynau a sgyrsiau ar-lein megis ‘Byddwch yn Rhan o’r Chwyldro Adnoddau - Rheoli Gwastraff ym Mangor’, ‘Ailgylchu yn y gymuned’, ‘Bydda'n ddi-fai - defnyddia lai!’ ac ‘Steilydd Eco vs Ffasiwn ar Garlam’. Cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr weithdy creu masgiau y gellir ei ailddefnyddio yn o gystal â sesiwn casglu sbwriel cymunedol, tra lansiodd elusen leol fideo ar-lein am beth sydd yn digwydd i roddion myfyrwyr. Fe wnaethom gynnal ein cystadleuaeth staff a myfyrwyr ‘Arwr Adnoddau’ ar gyfryngau cymdeithasol (mae’r lluniau wrthi’n cael eu beirniadu ar hyn o bryd), tra gwnaethom hefyd ddarparu sesiynau hyfforddi gwastraff yn ystod yr wythnos. Cyrhaeddodd WAW 368,496 o bobl ar gyfryngau cymdeithasol.

Ymwybyddiaeth Ofalgar a Chynaliadwyedd

Gan Dr. Gemma Griffith

Yn rhifyn y mis hwn o’r Papur Gwyrdd mae Dr Gemma Griffith, Uwch-ddarlithydd yn Seicoloeg a Dirprwy Is-ganghellor cysylltiol (Iechyd a Llesian) yn rhannu syniadau ar y cysylltiad rhwng Ymwybyddiaeth Ofalgar â chynaliadwyedd.

Dr. Gemma Griffith

Cyhoeddodd y Fenter Ymwybyddiaeth Ofalgar ddogfen yn ddiweddar o'r enw "Asiantaeth mewn Cyfnod brys" am sut y gall meithrin ymwybyddiaeth ar lefel bersono arwain at fwy o ymwybyddiaeth o'r materion enfawr sy'n wynebu dynoliaeth, megis newid yn yr hinsawdd, gwrthdaro yn y trafodaethau gwleidyddol sy’n digwydd, ac wrth gwrs, cynaliadwyedd. Mae'r papur yn agor trafodaeth ar sut y gallai ymwybyddiaeth ofalgar fod yn arf i wella gweithredu’n fwriadol er ein lles gorau pawb. Mae'n bwysig nodi yma, nad yw'r ddogfen hon yn awgrymu o bell ffordd y gall 'dod yn fwy ystyriol' ar ei ben ei hun ddatrys y problemau hyn, ond efallai y bydd yn rhan o’r broses o godi ymwybyddiaeth. "Nid yw hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar yn fwled arian ond yn hytrach yn ysgogi capasiti pwysig o fewn ecosystem ehangach o weithredu bwriadol" (t.5)

Mae'r ddogfen yn amlinellu tair prif ffordd y gallai ymwybyddiaeth ofalgar gyfrannu at weithredu cynaliadwy.

1 - Canfyddiad: Casglu a Phrosesu gwybodaeth

Gyda chymaint i dynnu ein sylw y dyddiau yma, newyddion 24 awr, y cyfryngau cymdeithasol ac ati – gall ymwybyddiaeth ofalgar ein helpu i ddod yn ymwybodol o'r beth sy’n tynnu ein sylw a’n helpu i wrthsefyll y grymoedd hynny sy’n tynnu ein sylw, sy’n cael eu gyrru gan y farchnad. Gall hyn ein helpu i ganolbwyntio ein sylw'n fwriadol ar yr hyn yr ydym ni yn dewis sylwi arno a dod a hynny mewn i'n bywydau.

2 - Deall: Gwneud synnwyr a gwneud penderfyniadau

Er bod angen dealltwriaeth gadarn o'r byd cymhleth heddiw, caiff hyn ei danseilio gan ffactorau fel gorlwytho gwybodaeth a dadleuon arwynebol ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n aml yn symleiddio materion cymhleth ac yn creu meddylfryd 'ni vs. nhw'. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar alluogi unigolion i fod yn agored i safbwyntiau amgen, ac i 'ddatganoli' (sy'n golygu cymryd persbectif ehangach ar eich prosesau meddwl eich hun, a'u gweld fel digwyddiadau yn y meddwl yn hytrach nag fel ffeithiau caled).

3 - Gwneud: Byw gyda'n gilydd yn ein byd

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar leihau diffyg amynedd ac ymddygiad ymosodol, a gwella tosturi ac empathi. Wrth weithredu gydag ymwybyddiaeth (yn hytrach nag ar awto-beilot), gall hyn annog gweithredu yn fwy doeth. Weithiau mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei ystyried yn oddefol, ond mewn gwirionedd gall ein helpu i ddod yn ôl at ein bwriad gwreiddiol am sut i weithredu mewn ffordd sy’n ymwybodol yn y byd, mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sut y gallai ymwybyddiaeth ofalgar gyfrannu at yr heriau cynaliadwyedd sy'n ein hwynebu, mae'r ddogfen hon yn cynnig persbectif diddorol ar sut y gallai'r dulliau o fod yn ystyriol helpu ailgyfeirio sylw at yr hyn sy'n bwysig, i adlewyrchu a deall y materion sy'n ein hwynebu, ac i weithredu mewn ffyrdd pwrpasol yn unol â'n budd gorau, a hynny ar y cyd.

Gallwch weld y papur hwn am ddim drwy glicio ar y ddolen hon.

Dod i 'nabod: M-Sparc

Aeth y Papur Gwyrdd (yn rhithiol) i gyfarfod tri aelod o M-SParc y mis hwn, i ddysgu mwy amdanyn nhw ac am beth sy’n mynd ymlaen yn y Parc Gwyddoniaeth yn Gaerwen.

Mae gan bob un ohonom ni syniadau gwych. Ond faint sy’n cael eu gwireddu?

Mae troi syniadau cychwynnol yn fentrau llwyddiannus yn gofyn am rywbeth ychwanegol. Rhywbeth i danio uchelgais, rhywbeth i roi ynni ynddo, rhywle i danio sparc ar gyfer dyfodol gwell. Er mwyn i fusnesau arloesol, blaengar sydd ar flaen y gad ym myd gwyddoniaeth lwyddo, mae angen gwybodaeth, sgiliau, cefnogaeth, anogaeth a buddsoddiad arnynt.

Dyma lle y gall M-SParc, Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, helpu; drwy ddarparu amgylchedd gwaith llawn egni, cefnogaeth fusnes arbennig a chyfleusterau o'r radd flaenaf.

www.m-sparc.com

Cwrdd â'r criw

Emily Roberts, Swyddog Marchnata a Profiad Cwsmer
Sofie Angharad Roberts, Swyddog Carbon Isel a Rheolwr Taith
Pryderi Ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr

I ddechrau allwch chi ddweud ychydig wrthon ni am eich cefndir a beth ddaeth â chi i M-Sparc?

Emily Roberts, Swyddog Marchnata a Profiad Cwsmer: Roeddwn yn gweithio yn adran Seicoleg y Brifysgol am ‘chydig yn datblygu profion iaith Gymraeg i blant, ac ar ôl i’r grant dod i ben ar y prosiect wnes i gychwyn chwilio am her newydd – nôl yn 2013 oedd hyn! Roedd y cyfle i weithio i Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, a fod yn rhan o wireddu’r freuddwyd a siapio’r prosiect, yn edrych yn un rhy dda i golli, ac rwyf wedi mwynhau yn fawr bod yn rhan o siwrne M-SParc dros y blynyddoedd.

Sofie Angharad Roberts, Swyddog Carbon Isel a Rheolwr Taith: Cyn M-SParc roeddwn i, fel Emily, yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor. Roeddwn yn gweithio sawl swydd rhan amser neu gontract byr tra’n astudio tuag at fy noethuriaeth yn y maes Astudiaethau Ffilm. Roeddwn wrth fy modd gyda gwaith mor amrywiol ar draws yr ysgolion a’r adrannau. Pan welais y swydd ddisgrifiad am y rôl yma yn M-SParc roeddwn yn teimlo fel bod M-SParc a’r gwaith yma am fod yn ffit da i mi o ran fy sgiliau, uchelgeisiau, a fy nod o yrfa sy’n cael effaith bositif ar bobol a’r rhanbarth. Dwi methu coelio fy mod wedi bod yn M-SParc 12 mis bellach a mae’n wir bleser bod yn ran o’r tîm hynod egnïol yma!

Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr: ‘Dwi wastad wedi ymddiddori mewn technoleg, arloesi, economi wledig, adfywio a mentergarwch – roedd cael dod yn rhan o gynllun M-SParc yn gyfle gwych i mi. Mae’n gyfle i droi’r llanw ar allfudo pobl ifanc, mae’n gyfle i sbarduno economi wledig, i elwa o dalent y Brifysgol ac yn ei dro i gyfrannu at gymunedau cynaliadwy yn y rhanbarth. Dyna yn y bôn sydd yn gyrru fi yn fy ngwaith bob dydd; gwybod bod yr syniadau a’r gefnogaeth sydd yn cael ei fuddsoddi rŵan yn mynd i gyfrannu at gyfleoedd gwych i’n pobl ifanc am flynyddoedd i ddod ac mae Covid-19 wedi dangos yr angen i ehangu ein economi yma yn ngogledd gorllewin Cymru.

Mae cynaliadwyedd yn holl bwysig ac rydym yn gwybod fod M-SParc yn rhoi’r pwys mwya ar weithredu fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Beth, yn nhyb y tri ohonoch chi yw’r newid pwysicaf fyddai’n gwneud gwahaniaeth i Gymru yn y tymor hir?

Emily: Mae’r nôd o ‘Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ yn bwysig. Mae hyn o les i’r dyfodol mewn sawl ffordd; o rhan fod yn gynaliadwy yn sicr, ond hefyd o rhan diwylliant ac economi. Mae M-SParc wastad yn annog bobl Cymru i ddathlu eu llwyddiant ac i gydnabod y gwaith arloesol, rhagorol sy’n digwydd yma. Drwy deimlo’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, medrwn annog bobl Cymru i weld eu hunain fel pobl sy’n llwyddo, sy’n medru, ac sy’n arwain y ffordd!

Sofie:Mae’r pileri i gyd yn hynod bwysig a mae’r fframwaith yma sydd gan Gymru yn arweiniol. Mae’r pandemig COVID-19 wedi profi’r pwysigrwydd o wytnwch, felly mae ein ffocws ni ar ddyfodol carbon isel yn sicr am gael effaith er lles bawb ag ein dyfodol.

Pryderi:Roedd amseru’r ddeddf a’r syniadau y tu ôl iddi yn berffaith i ni. Roedd modd i ni, bron i 4 mlynedd yn ôl bellach, i ddefnyddio’r ddeddf i feddwl am y math o fusnes oedd M-SParc am fod a’r ffordd y byddwn yn gweithio. Mae’n wir dweud bod y 7 nôd a’r 5 ffordd o weithio wedi ei selio yn ein DNA erbyn hyn. Y newid mwyaf i mi fyddai medru rhannu’r egwyddorion sydd tu ôl i’r ddeddf a’r ffyrdd o weithio gyda mwy o bobl a mwy o fentrau. Ar wahân i’r gôl eang yna dwi’n credu yn gryf bod angen codi sgiliau a hyder pobl ifanc y rhanbarth i elwa o’r cyfleoedd sydd ar y gorwel mewn technoleg a gwyddoniaeth.

Beth yw’ch pleser mwyaf yn y swydd?

Emily:Gweld ochr dynol pobl; wrth ddod i M-SParc gall bobl feddwl fod popeth yn ‘corporate’ ond yn fuan iawn ma pawb, o blant ifanc i pobl busnes hyn, yn ymlacio rywsut; mae nhw yna yn fwy agored i gydweithio, i wrando, ac i fwynhau bod yno. Mae’n hudol i weld!

Sofie:Y ffaith bod popeth rwy’n wneud yn y gwaith yn ran o’r weledigaeth ehangach o ddatblygu’r economi leol a’r genhedlaeth nesaf a dalent. Mae teimlo fel fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn bwysig i mi; unai’n helpu unigolion gyda’r offer yn y Gofod Gwneud, neu ymchwilio grantiau ariannol ar gyfer prosiectau y dyfodol, mae cael effaith bositif, bach neu mawr, yn fy ngwneud yn hapus iawn!

Pryderi:Heb os nac oni bai gweld effaith y gwaith, mentrau newydd – rhai yn llwyddo, rhai ddim a dod i adnabod y cymeriadau sy’n rhan o’r eco-system yma a gweld wynebau newydd yn rhan ohoni. Person pobl ydw’i yn y bôn mae’n debyg a’r rheswm dros M-SParc ydi i gynnig cyfleoedd i bobl, mae gweld gwaith y tîm i roi cyfleoedd ymlaen a’i effaith ar bobl yn wych.

Mae gwaith yn bwysig ond mae ymlacio a gofalu am ein iechyd a lles yn bwysig hefyd. Sut fyddwch chi’n treulio’ch amser hamdden?

Emily: Mynd ar y beic pan mae’r tywydd yn caniatáu, gwylio dramâu trosedd, a gwario amser gyda Ned, y ci!

Sophie: Cyn Covid-19 roeddwn o hyd yn edrych ymlaen at wyliau neu frêc i ffwrdd a mynd i gigs (AC/DC yn Dulyn oedd y gora’ erioed!). Bellach, dwi’n mwynhau darganfod teithiau cerdded newydd ar benwythnosau, coginio gan wrando ar fiwsig, a mwytha’ mawr i Monty a Tilly fy nghathod bach direidus!

Pryderi: Mae’n hawdd bod mor frwdfrydig am waith nes mae’n cymryd drosodd popeth arall – a dwi ddim yn meddwl mod i wedi meistroli cael y balans yn iawn eto! Fydda’i ddim yn gwylio llawer o deledu heblaw am gemau pêl-droed Arsenal a dwi’n treulio tipyn o amser ar y beic, ond hefo fy meibion, Caio a Tomi fyddai’n treulio fy amser hamdden yn fwy na dim y dyddiau yma.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, beth yw eich cyngor i’r busnesau sy’n rhan o M-Sparc?

Pryderi:Gofynnwch am gymorth. Mae wastad clust i wrando, help llaw i’w cael, a rhywun sydd wedi bod yn yr un cwch a chi i ddangos sut i hwylio ymlaen! Cymuned ydi M-SParc, ac rydym yn derbyn ein bod i gyd yn wynebu heriau tra wahanol ar hyn o bryd, ond medrwn ni gydweithio i ddod o hyd i ymateb i unrhyw broblem. Yn fwy na dim mae’r cyfnod wedi rhoi cyfle i fusnesau arbrofi ac ehangu i farchnadoedd newydd ac wedi rhoi amser i sawl un i feddwl am gychwyn menter newydd ei hunain. Felly beth amdani?!

Pum arfer gwyrdd gorau sydd ddim yn costio llawer

Gan Rebecca Lewis

Helo! Rebecca ydw i, dwi'n fyfyrwraig ail flwyddyn BSc Cadwraeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Fy nod yw helpu'r byd mewn unrhyw ffordd bosibl a chredaf y gallai ysgrifennu ar gyfer y Papur Gwyrdd fod yn lle gwych i ddechrau wrth i ni weithio gyda'n gilydd i wneud y byd yn lle mwy gwyrdd.

Nid oes angen i fod yn wyrdd fod yn ddrud, yn enwedig pan ydych chi'n fyfyriwr sy'n ceisio byw yn gynnil fel myfyrwyr. Dyma bum arfer gwyrdd a chynaliadwy fydd yn helpu'r blaned heb fynd i ddyled

Tip Rhif. 1 - Ailgylchu ac Ail-Ddefnyddio

Nid yw ailgylchu yn costio dim! Rydym yn ffodus i fyw yng Nghymru; mae compostio yn rhad ac am ddim na ddylem ei gymryd yn ganiataol. Edrychwch ar wefan y cyngor a gwiriwch yr hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu a'i gompostio. Ceisiwch brynu eitemau bwyd mewn gwydr y gellir eu hailddefnyddio fel storfa. Ailddefnyddio ac ailgylchu yw'r arferion gorau i'w mabwysiadu sydd o fudd i'r amgylchedd. Ffaith hwyliog gan eco-nerd fel fi; dim ond unwaith neu ddwy y gellir ailgylchu plastig, papur o bump i saith gwaith tra gellir ailgylchu alwminiwm, gwydr a metel swm anfeidrol o weithiau! Dyna pam y dylech chi bob amser ddewis alwminiwm, gwydr a metel.

Tip Rhif. 2 - Atgyweirio cyn cyfnewid

Rydym yn byw mewn cymdeithas taflu i ffwrdd, gall ymddangos yn haws taflu a phrynu newydd ond yn aml mae'n rhatach atgyweirio eitem na'i thaflu a phrynu newydd sbon. Y tro nesaf y byddwch ar fin prynu ffôn newydd neu ddarn o ddodrefn, gwelwch faint y byddai'n ei gostio i atgyweirio neu uwchgylchu'r hyn sydd gennych cyn i chi roi un newydd yn ei le. Bydd yn syndod ichi faint o arian y byddwch chi'n ei arbed. Gall un tun o baent fynd yn bell o ran uwchgylchu a gall drawsnewid eitemau yn llwyr. Mae'r un peth yn wir am ddillad, bydd yn rhatach trwsio twll gyda nodwydd ac edau na'i ail-brynu. YouTube yw eich ffrind wrth chwilio am gyngor DIY ac atgyweirio!

Tip Rhif. 3 - Prynu lleol a thymhorol

Nid yn unig mae'n rhatach prynu cynnyrch lleol a thymhorol ond yn well i'r amgylchedd. Gwiriwch o ble mae pob eitem cyn ei brynu a dewiswch gynnyrch a dyfir yn agosach at adref. Yn amlach na pheidio, mae cynnyrch tymhorol ar gael. Neu ystyriwch wasanaeth dosbarthu bocs ffrwythau a llysiau gan y ffermwr at eich drws fel M Hughes and Sons, Tatws Bryn a llawer mwy. Os hoffech chi restr fisol o gynnyrch yn eu tymor yn y Papur Gwyrdd, rhowch wybod i ni trwy glicio ar y botwm ‘Gwerthfawrogi’ ar waelod y dudalen.

Tip Rhif. 4 - Benthyg, peidiwch â phrynu!

Gofynnwch i deulu a ffrindiau a oes ganddyn nhw'r eitem y gallwch chi ei benthyg. Os oes angen unrhyw beth cysylltiedig â choginio arnaf, gofynnaf i'm mam ac mae ganddi ddyblau a thriphlyg eitemau ac yn aml, mae'n rhaid i mi ei chadw! Er hynny, dwi’n ymwybodol mai dim pawb sydd gan aelodau o'r teulu sy'n cadw popeth ac yn caru'r Great British Bake-off. Efallai na fyddwch yn gallu benthyca neu angen rhywbeth tymor hir. Prynu ail law neu ei ailwampio. Mae nid yn unig yn rhatach, ond mae'n well i'r amgylchedd. Rydyn ni'n byw mewn oes ddigidol, wedi mynd yw'r dyddiau o wirio bob dydd yn eich siop elusen leol os ydych chi'n chwilio am rywbeth yn benodol (y gallwch chi ei wneud o hyd) ond i arbed ar amser. Edrychwch ar eBay mae llawer o siopau elusennol yn gwerthu eitemau yno, Facebook Marketplace, siop ar-lein Oxfam a llawer mwy.

Tip Rhif. 5 Ail-dyfu sbarion bwyd

Beth am roi cynnig ar ail-dyfu! Mae'n eithaf hawdd a didrafferth rhoi bywyd newydd i'ch sbarion llysiau a pherlysiau gan y gall planhigion dyfu gwreiddiau newydd ac adfywio. Bydd nid yn unig yn lleihau eich gwastraff bwyd, ond mae hefyd yn arbed arian. Os oes gan y blanhigyn fwlb neu goesyn gyda gwreiddiau ynghlwm wrtho, rhowch ef mewn jar wedi'i ailgyflenwi gydag ychydig bach o ddŵr a'i wylio yn tyfu! Ar ôl i'r gwreiddiau dyfu gallwch ei drosglwyddo i gynhwysydd o bridd neu i'ch gardd. Mae yna lawer o erthyglau a thiwtorialau YouTube i'ch helpu chi i gyflawni hyn yn llwyddiannus. Fe allech chi hyd yn oed gael pot neis o siop elusen a'i roi fel anrheg (ydy hi'n rhy gynnar i sôn am y Nadolig?).

Planhigyn y mis

Gan Natalie Chivers, Curiadur Gardd Fotaneg Treborth

Fioled trilliw

(Viola tricolor L. subsp. curtisii)

Y Fioled Trilliw (Viola tricolor L. subsp. Curtisii) yw ein planhigyn y mis oherwydd er ei fod yn dechrau blodeuo ym mis Ebrill gan barhau'r hyd at fis Hydref mewn rhai llaciau twyni cysgodol.

Mae gan y fioled gwyllt, Viola tricolor, lawer o enwau gwahanol: ‘Heartsease’, ‘Love-in-idleness’, ‘Love-lies-bleeding’; ac yn y Gymraeg ‘Blodeuyn Wyneb Mair’, ‘Llysiau‘ Drindod ’,‘Caru ‘Ofer’.

Mae gan y planhigion arfer ymgripiol neu grwydro, gyda dail bach gwaywffurf; mae'r blodau tri-lliw (fioled, melyn a gwyn) yn cael eu dwyn ar goesynnau hir fel arfer yn codi ychydig fodfeddi uwchben y ddaear.

Maent yn gyffredin ledled Prydain, ac maent yn doreithiog mewn ardaloedd arfordirol yn enwedig systemau twyni sefydlog yng Nghymru gan fod yn well ganddynt briddoedd tywodlyd, wedi'u draenio'n dda.

Mae'r enghreifftiau lleol gorau o’r fioled trilliw yn systemau twyni Niwbwrch ac Aberffraw sy'n gartref i rhai o'r cynefinoedd gorau ar gyfer blodau gwyllt arfordirol ym Mhrydain.

Tu ôl i'r tywod symud moel ar y traethau, mae'r twyni yn araf yn dod yn fwy sefydlog ac yn creu glaswelltir bryniog, tywodlyd gyda llawer o amrywiad yn y gwynt, glaw, ffrwythlondeb y pridd a lefelau'r haul. Mae'r fioled trilliw i'w gweld o hyd mewn ychydig o laciau cysgodol wedi'u hamgylchynu gan bennau hadau eu cymdeithion haf.

Llyfr y mis

The Creative Curve

Allen Gannet

WH Allen, Penguin 2018

Mae llyfr y mis rhifyn Hydref yn arbennig o addas gan ei fod yn adlewyrchu arbenigedd a diddordebau ein cyfeillion o M-Sparc, ein gwesteion y mis yma.

Rydym i gyd yn edmygu pobl greadigol ac yn aml yn meddwl fod gan y bobl hynny ryw rinwedd arbennig sydd ar goll yn y gweddill ohonom. Mae na fyth fod llwyddiant yn dod fel fflach o ysbrydoliaeth gyfrin a bod ysgrifennu nofelau gwych, paentio darlun hynod neu greu app bydenwog wedi ei gyfyngu i ambell ambell athrylith yn unig.

Celwydd yw hyn. Rydym wedi cael ein twyllo ynghylch natur creadigrwydd a mae’r llyfr hwn yn datguddio’r gwirionedd. Mae na wyddoniaeth tu ôl i lwyddiant creadigol ac mae modd datgodio a chreu yr eiliadau o ‘ysbrydoliaeth’ i greu gwaith fydd yn peri i’ch cynulleidfa ymbilio am fwy.

Mae’r llyfr wedi ei rannu’n ddwy. Yn y rhan gyntaf mae’r awdur yn dymchwel y rhith ynglwm wrth greadigrwydd ac yn datguddio fod ‘na batrwm i’w ddilyn.

I ddechrau, cawn ein tywys drwy’r broses greadigol gyda hanes Paul McCartney a’i gân bythgofiadwy ‘Yesterday’. Myth yw’r syniad fod y gân wedi cyrraedd pen McCartney yn gân gyflawn. Fe wnaeth ddeffro’n hymian melodi ond ffrwyth dwy flynedd o waith caled obsesiynol yw’r ‘hit’ fyd-enwog. Mor obsesiynol nes fod pawb o’i gwmpas wedi cael llond bola o’r gân tra roedd hi ar y gweill.

Nesa, mae’n esbonio pam ein bod yn credu’r celwydd fod ysbrydoliaeth yn ddi-gymell. Ac yn y benod hon mae tipyn o wirionedd anghyffyrddus – mae llawer o lwyddiant yn deillio nid o dalent neu allu cynhenid ond yn dibynnu ar pwy chi’n adnabod, pwy all eich mentora a phwy sy’n gallu hyrwyddo eich gwaith/syniadau. Ddyweda’i ddim mwy ond mae’r benod hon yn cyffwrdd ar ragfarn a rhagfarn anymwybodol. Yn y bôn, pethau sy’n cael eu hystyried yn llwyddiannus gan bobl ddylanwadol yw’r rhai mwyaf tebygol o lwyddo.*

(*Nodyn i fi fy hyn – chwilia am fentor!)

Cawn drafodaeth wedyn ar ‘beth yw talent’ a ‘beth yw athrylith’? Ac yna ceir cyflwyniad i’r gromlin greadigol, sef sail ail ran y llyfr.

Dwi ddim am ddatgelu dim mwy…..felly, beth amdani?! Yn hytrach nag aros am fflach o ysbrydoliaeth o’r nefoedd, beth am fynd ati i ddysgu sut i ddod o hyd i’r ‘man melys’, y pwynt ar y gremlin greadigol lle mae syniadau yn TANIO.

Darllenwch y llyfr, pigwch frêns ein cyfeillion yn M-Sparc, Celfyddydau Pontio, y Tîm Dylunio Cynnyrch ac eraill ar draws y brifysgol. Drwy wneud hynny gallwch ddarganfod y partrwm cydnabyddedig ar gyfer llwyddo’n fawr.

Pob lwc!