Strategaeth Economaidd i Gymru Gwrando ar safbwyntiau amgen

Cyn bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth economaidd newydd i Gymru yn ddiweddarach eleni, bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried rhai safbwyntiau gwahanol o ran yr hyn y gallai ei chynnwys.

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o seminarau thematig yn nhymor y gwanwyn 2017, gyda'r bwriad o herio syniadau confensiynol ac ysgogi trafodaeth.

Sut y gallai strategaeth gynhwysol ac effeithiol sy'n gweithio i bawb yng Nghymru ymddangos?

Gwahoddwyd arbenigwyr i rannu eu hymchwil a'u gwybodaeth gyda'r Pwyllgor.

Russell George AC Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

“Y gyfres hon o drafodaethau oedd un o'r darnau mwyaf diddorol a chyffrous o waith gan y Pwyllgor hyd yn hyn.

Roeddem eisiau clywed lleisiau sy'n herio rhai o'r syniadau confensiynol ac arferol sydd wedi dylanwadu ar strategaethau olynol.

Roeddem eisiau cwestiynu'r sylfeini y dylid adeiladu strategaeth economaidd arnynt, a gweld pa syniadau a fyddai'n dod i'r amlwg.

Nid yw'r Pwyllgor wedi dod i unrhyw gasgliadau – nid dyna oedd ein nod gyda'r darn penodol hwn o waith. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw cynnig llwyfan ar gyfer syniadau yr ydym yn gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet a'i adran yn eu hystyried wrth iddynt weithio ar y strategaeth. Byddwn yn sicr yn defnyddio'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu pan fyddwn yn dod i graffu ar y strategaeth yn ddiweddarach eleni.

Mae'r adroddiad byr hwn yn tynnu ynghyd rai o'r ffeithiau a'r dyfyniadau allweddol ac yn cyfeirio at wybodaeth bellach ar draws y pum maes a ystyriwyd gennym.

Rwy'n gobeithio y bydd hyn yr un mor ddiddorol i chi ag yr oedd i mi." - Russell George, AC

Yr her

Mae economi Cymru yn wynebu nifer o anawsterau. Mae rhai o'r rhain yn unigryw i Gymru, tra bod eraill i'w gweld ar draws y DU.

  • O'i gymharu â gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr, Cymru sydd â'r gwerth ychwanegol gros (mesur o allbwn economaidd) isaf y pen.
  • Mae llawer o gymunedau yn dal i ddioddef effeithiau negyddol globaleiddio a dad-ddiwydiannu. Mae anghydraddoldeb a thlodi yn parhau; mae rhai yn dibynnu'n fawr ar un cyflogwr, sy'n eu rhoi mewn perygl.
  • Mae bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yn bodoli – yn ôl un mesur, mae menywod yn ennill 15.7 y cant yn llai na dynion. Mae llawer o fenywod yn cael eu tangyflogi neu mewn gwaith rhan amser pan fyddai'n well ganddynt fod mewn swydd llawn amser.
  • Mae cynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu colli, gan effeithio'n andwyol ar fioamrywiaeth.

Trafododd y tystion arbenigol rai o'r ffyrdd y gallai strategaeth economaidd fynd i'r afael â'r materion hyn mewn cyfres o bum sesiwn yn edrych ar fenywod yn yr economi, yr economi a'r amgylchedd, dyfodol economi Cymru, ansawdd gwaith, a'r economi sylfaenol.

Menywod yn yr economi

Mae llawer o fenywod yn wynebu nifer o heriau economaidd unigryw: cyflogau is yn sgil gwaith rhan amser, bwlch gofal plant, tanddefnydd o'u sgiliau, a mwy.

Gweler mwy o wybodaeth am gydraddoldeb rhwng dynion a menywod a'r dangosyddion yng Nghymry

Sut y gallai strategaeth economaidd ddarparu ar gyfer anghenion menywod yn yr economi? Ar 2 Chwefror 2017, clywodd y Pwyllgor gan:

Helen Walbey Cadeirydd portffolio polisi'r DU ar gyfer amrywiaeth ac iechyd, y Ffederasiwn Busnesau Bach; Dr Alison Parken Uwch-gymrawd ymchwil, Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd Cyfarwyddwr y prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) ; Natasha Davies Arweinydd polisi ac ymchwil, Chwarae Teg

"Mae menywod wedi tueddu i symud i mewn i'r farchnad lafur mewn meysydd lle mai'r farn draddodiadol yw bod menywod yn gwybod beth i'w wneud yn naturiol: gofalu, gofal iechyd, addysg, gwaith gweinyddol. Nid yw'r pethau hynny'n cael eu gwerthfawrogi yn yr un ffordd â llawer o'r gwaith medrus y mae dynion yn tueddu i'w ddominyddu." - Dr Parken

"Mae'r mater hwn o newid diwylliannol a stereoteipio ar sail rhyw yn bwysig iawn. Mae plant yn ymwybodol o rolau rhyw pan fyddant yn bump oed.

Mae angen i ni edrych ar sut y mae'r strategaeth economaidd hon yn ymsefydlu mewn ysgolion a'r dewisiadau yr ydym yn eu cynnig i ferched ifanc Cymru." – Ms Walbey

"Rôl bwysig i strategaeth economaidd yw siarad am ba sylfeini y dylai economi Cymru fod yn seiliedig arnynt, a byddwn yn cynnig y ddadl fod yn rhaid iddi fod yn seiliedig ar sylfaen o gyflogaeth o ansawdd a gwaith da, oherwydd bydd hynny yn anochel o fudd i fenywod." – Natasha Davies

"Pan fydd gwaith menywod ar gael yn rhan-amser gan amlaf, nid oes dewis i weithio'n llawn amser, ac mae'n ymddangos eu bod mewn swyddi heb fawr o ddyfodol – dim ysgol yrfa, dim llawer o gyfle i gyfoethogi yn y swydd, ac anhawster o ran dysgu yn y gweithle." – Dr Parken

Gofynnodd y Pwyllgor i'r panel am eu 'gofynion allweddol' ar gyfer y strategaeth economaidd newydd. Gweler eu hymatebion isod.

Darllen pellach

Yr economi a'r amgylchedd

Cymru lewyrchus yw un o’r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r nod hwn yn gosod y dyhead canlynol i Gymru:

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy'n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Sut byddai angen strwythuro strategaeth economaidd i gyrraedd y nod hwn? Sut y gallai’r strategaeth gyflawni’n economaidd yn fwy cyffredinol?

Ar 16 Chwefror 2017, siaradodd y Pwyllgor â'r canlynol:

Anne Meikle Pennaeth WWF Cymru; Yr Athro Calvin Jones Athro economeg, Ysgol Fusnes Caerdydd

"Sut mae'r economi gylchol, ddiwastraff hon yn edrych, a sut ydych chi'n ei chyflawni? Rydym wedi gwneud rhai pethau da iawn ynghylch ceisio lleihau gwastraff, ond dim ond rhan o'r ffordd at ddim gwastraff yw ailgylchu pethau'n well. Mae'n rhaid i chi ail-ddylunio pethau." - Anne Meikle

"Byddwn i'n cymryd £1 biliwn neu £1.5 biliwn i ffwrdd o'r M4 ac yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ym mhob rhan o Gymru" - Calvin Jones

"Dylech ystyried effeithlonrwydd ynni, ôl-ffitio adeiladau a phopeth arall fel rhan o'r rhaglen seilwaith genedlaethol: rhowch nhw i gyd yn yr un lle â'r darnau mawr yma o seilwaith, oherwydd maen nhw'r un mor bwysig i ddyfodol a ffyniant Cymru." – Anne Meikle

"Os mai fi oedd brenin y byd, ni fyddwn yn gosod strategaeth datblygu economaidd, a wyddoch chi beth? Byddwn i'n diddymu'r adran, yn ei hail-enwi'n adran sgiliau ac yn canolbwyntio ar sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant Cymru yn tyfu i fyny i fod yn fwy medrus, gydag ystod ehangach o agweddau a doniau mwy cadarn." – Calvin Jones

"A ydych chi eisiau i'r economi dyfu neu a ydych chi eisiau i'r economi gynnig ystod briodol o wasanaethau i'r dinasyddion sy'n rhan o'r economi? ... Byddai modd i ni gynyddu GVA drwy wahodd llwyth o enetegwyr, cyfreithwyr a chyfrifwyr i ddod i fyw ym Mae Caerdydd. A fyddai hyn yn helpu? Wel, dim ond mewn ffordd gul iawn. Rwy'n meddwl bod yna fater pwysig yn hyn o beth am bwy rydym yn eu helpu." – Calvin Jones

Darellen pellach

Prosiect Dyfodol Economi Cymru

Cyflwynodd academyddion sy'n gweithio gyda'r Hodge Foundation adroddiad ar ganfyddiadau'r prosiect 'Dyfodol Economi Cymru'. Prif nod y prosiect oedd nodi'r mesurau a'r opsiynau polisi gorau ar gyfer sbarduno newid trawsffurfiol yn economi Cymru.

Ar 16 Chwefror 2017, siaradodd y Pwyllgor â thri o'i gyfranwyr allweddol:

Yr Athro Gerald Holtham Athro gwadd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Yr Athro Rob Huggins Athro daearyddiaeth economaidd, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Brian Morgan Athro entrepreneuriaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

"Mae angen cymryd datblygu economaidd allan o wleidyddiaeth – dyna beth rydym ei angen." – Yr Athro Morgan

"Rwy'n credu y byddem yn pledio am rywbeth hirdymor o ran strategaeth datblygu economaidd. Os ydyn ni am weld newid gwirioneddol, efallai y bydd hyn yn rhywbeth o genhedlaeth i genhedlaeth, mewn ffordd, ac mae gwir angen i ni ystyried hyn a hau'r hadau a fydd yn meithrin yr economi yn yr hirdymor." - Yr Athro Huggins

"Mae angen i ni ddechrau cynnig pecyn ariannol sy'n ddeniadol o ran cyllid at y dyfodol, o ran cyllid parhad. Mae angen i ni fuddsoddi mewn entrepreneuriaeth. Mae angen i ni sicrhau bod gennym yr unedau cychwynnol sy'n galluogi busnesau bach i gychwyn, tyfu a ffynnu, ac mae angen i ni osod cynllun seilwaith." – Yr Athro Morgan

Gofynnodd y Cadeirydd y Pwyllgor i bob un o'r tystion am eu barn benodol ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y strategaeth economaidd:

Darllen pellach

Ansawdd gwaith

Mae llawer o ardaloedd yng Nghymru yn wynebu'r her o lefelau uchel o ddiweithdra a chyflogau isel yn sgil effeithiau cronnus dad-ddiwydiannu a globaleiddio. Mae ymlediad gwaith rhan amser, cyflogaeth dros dro a chontractau dim oriau wedi cyfrannu at ddirywiad o ran diogelwch swyddi a'r heriau a ddaw yn sgil hyn.

Sut y gallai strategaeth economaidd helpu i wella amodau cyflogaeth gweithwyr Cymru mewn ffordd gynhwysol?

Ar 15 Mawrth 2017, gofynnodd y Pwyllgor am farn arbenigwyr sy’n ymchwilio i’r maes hwn.

Nisreen Mansour Swyddog polisi ac ymchwil, Sefydliad Bevan; Francis Stuart Swyddog polisi ac ymarfer ar gyfer rhaglen tlodi y DU Oxfam yr Alban

"Rydym yn croesawu'r syniad y byddai'n haws i bobl deithio rhwng Merthyr a Chaerdydd drwy'r metro, ond nid ydym yn siŵr a fydd hyn yn cyrraedd llawer o bobl oherwydd y daith o ddrws-i-ddrws a fydd yn eu hwynebu a'r elfennau ymarferol o ran disgwyl i bobl fod mor symudol a hwythau â chyfrifoldebau posibl eraill fel gofal" - Nisreen Mansour

"Mae'r ymgyrch Cyflog Byw... yn enghraifft dda o rywbeth sydd wedi cael effaith. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhannol oherwydd bod hyn yn ymgyrch eang gydag elfen sylweddol o gefnogaeth gan fudiadau cymdeithas ddinesig. Mae'n frand adnabyddus." – Francis Stuart

Holodd ymchwil Oxfam yr Alban i 3,000 o bobl ledled yr Alban:

“Beth sydd ei angen arnoch i fyw'n dda yn eich cymuned?' ... Ar frig y rhestr roedd pethau fel iechyd corfforol a meddyliol da, a chartref da, diogel a fforddiadwy i fyw ynddo. Felly, i ni, roedd hyn yn fater o gwestiynu'r model o ddatblygu economaidd a dweud, 'Yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar dwf economaidd drwy'r amser, mae angen i chi ganolbwyntio ar y mathau hyn o bethau sy'n bwysig i bobl." - Francis Stuart

darllen pellach

Yr economi sylfaenol

Mae strategaethau datblygu economaidd yn y gorffennol wedi tueddu i ganolbwyntio ar y sectorau gweithgynhyrchu gwerth uchel ac allforio. Er bod y rhain yn hanfodol i economi Cymru, mae llawer wedi dadlau bod hyn yn eithrio'r 'economi sylfaenol' - y rhan fwy cyffredin, dreiddiol o'r economi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i fywyd bob dydd.

Trafododd Aelodau'r Cynulliad yr economi sylfaenol yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2017.

Ar 15 Mawrth, siaradodd y Pwyllgor ag academydd blaenllaw yn y Ganolfan Ymchwil ar Newid Economaidd-Ddiwylliannol (CRESC), a gyhoeddodd waith yn ddiweddar yn awgrymu y dylid canolbwyntio fwyfwy ar yr economi sylfaenol.

Yr Athro Karel Williams Athro athroniaeth wleidyddol a chyfrifyddu Prifysgol Manceinion, CRESC

"Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw dweud, 'Edrychwch, mae gennym weithgareddau fel gofal. Sut allwn ni greu gwell swyddi? Sut allwn ni adeiladu cwmnïau â gwreiddiau, yn hytrach nag ildio i gadwyni dienw yn yr ardaloedd hyn? Sut allwn ni ddarparu gwasanaeth o ansawdd mwy cyson? Sut allwn ni ddweud bod hyn yn cael ei wneud, yn ddelfrydol gyda chydsyniad y gwahanol bleidiau gwleidyddol, er mwyn i ni adennill ymddiriedaeth y pleidleiswyr?"

"Rwy'n credu ein bod ni'n crefu gormod ar fusnesau mawr—'Diolch o galon am ddod yma; rydyn ni mor ddiolchgar. A allwn ni adeiladu mwy o seilwaith i chi?' ... Mae popeth mewn cymdeithas yn gweithio ddwy ffordd o ran hawliau a chyfrifoldebau, ac yn rhan o hynny rwy'n credu bod angen gofyn i gwmnïau cyfleustodau, fel archfarchnadoedd, sy'n cymryd gwariant cartrefi mewn ardal ar sail lled-gaeth, 'Beth ydych chi'n ei roi yn ôl i'r gymuned?' Ac nid wyf yn credu, mewn gweithgareddau cysgodol, y byddai cynnig contractau gweddus i ffermwyr yn gwneud i'r archfarchnadoedd fynd yn fethdalwyr."

"...Pe gallem fynd y tu hwnt i feddwl am economi sylfaenol, a siarad am economi sylfaenol yn y cam nesaf i wneud economi sylfaenol mewn meysydd fel gofal oedolion, mewn meysydd fel bwyd, archfarchnadoedd a phethau tebyg, rwy'n meddwl y gallai Cymru arwain y byd o ran y math hwnnw o arloesi ym maes polisi, a fydd yn cael goblygiadau o ran lles y boblogaeth. Beth fyddech chi eisiau bod yn falch ohono? Byddai'n dda bod gennym drefniadau gofal oedolion y byddai pobl o bedwar ban byd eisiau dod i'w gweld." - Yr Athro Karel Williams

Darllen pellach

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.