Loading

Y Papur Gwyrdd Y Lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor

Croeso i rifyn cynta’r Papur Gwyrdd – y lle i glywed y newyddion diweddara am yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ac am waith y Lab Cynaliadwyedd a’n partneriaid ar draws y campws.

Mae hi wedi bod yn gyfnod rhyfedd iawn ar bawb yn ddiweddar ac mae’r gwaith o ddod ail-agor y Brifysgol yn un enfawr a dyrys lle mae’n rhaid i ni gyd wneud ein rhan. Mae mwy o ddiddordeb nac erioed mewn ail-adeiladu yr economi a chymunedau drwy gofleidio y cyfleoedd GWYRDD sydd ar gael. Fe fydd gwybodaeth am ein ymrwymiadau lleihau Carbon ac ymateb i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd yn cael ei rannu yn y misoedd nesaf a bydd llwyddiant y mentrau yma’n dibynnu ar gefnogaeth a gweithredu gennym ni gyd.

Yn y rhifyn hwn rydym yn canolbwyntio ar:

  • Cynaliadwyedd ym Mangor, Cymru a’r byd
  • Nodau Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig – 9 Diwydiant, Arloesi ac Is-adeiledd
  • Is-adeiledd Cynaliadwy Bangor
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon ym Mhrifysgol Bangor
  • Llyfr y mis

Anfonwch eich sylwadau/cyfraniadau i’r papur at cynaliadwyedd@bangor.ac.uk ac ymunwch â’n sgyrsiad dros Baned Werdd. Bydd y nesaf Dydd Mawrth, Gorffennaf 28ain am 10:30yb

Datblygu Cynaliadwy - Bangor, Cymru a'r Byd

A ydych chi’n ymwybodol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Nodau Llesiant y Cenhedloedd Unedig 2030? Mae’r ddau beth bwysig i ni, y cyntaf oherwydd bod y ddeddf yn disgrifio sut ‘da ni’n gwneud pethau yng Nghymru, a’r ail oherwydd fod Prifysgolion yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o gwrdd â’r nodau byd-eang. Mae Bangor wedi gwneud yn dda yn y gynghrair THE Impact 2020, ac mae’r Is-ganghellor wedi’n cofrestru fel rhan o’r SDG Accord.

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y ddau ym mhob rhifyn, ond yn y cyfamser dyma grynodeb bras:

Yr Her 1.4.5.7.17 – ffordd hawdd o ddiffinio cynaliadwyedd

Mae ‘na UN Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy, a dyma’n canllaw cyffredinol

Wrth i ni gyflawni ein tynged fel Prifysgol ymchwil yng Ngogledd Cymru, ar gyfer Cymru gyfan ac yn fyd-eang rhaid inni weithredu mewn modd sydd yn ceisio sicrhau fod anghenion y presennol yn cael eu cwrdd heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Beth bynnag a wnawn, fel unigolion, ysgol, coleg, adran gwasanaeth, mae angen i ni ystyried yr effaith bosibl a gaiff ein penderfyniadau ar y bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol.

Mae yna BEDAIR colofn

  • ECONOMI
  • CYMDEITHAS
  • AMGYLCHEDD
  • DIWYLLIANT

Ar hyn o bryd, wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19, rydym yn wynebu her ariannol enfawr. Ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod bod yr economi yn gyd-ddibynnol ar yr amgylchedd, y gymdeithas a diwylliant. Os ydym am i Brifysgol Bangor fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, mae'n bwysig ein bod yn ystyried sut i fynd i'r afael â phob un o'r pedair agwedd mewn ffordd gytbwys.

Mae 'na BUMP Ffordd o Weithio

Er mwyn ein cynorthwyo i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a thaclo rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu, a dyma nhw:

Meddylfryd hir dymor: Mae’n rhaid cyd-bwyso’r atebion byr a hir dymor, gan gyflawni anghenion y presennol wrth warchod anghenion y dyfodol

Osgoi problemau yn y lle cyntaf: Mae’n rhaid ystyried os yw’r weithred o dan sylw yn mynd i atal problemau rhag digwydd neu waethygu – neu ydyn nhw’n mynd i wneud pethau’n well

Cydweithio, cydweithio, cydweithio: Dyma’n mantra; cydweithio i gynnal a gwella effeithlonrwydd, bod mor effeithiol â phosib, cofleidio ffyrdd newydd, deinamig o weithio, a hyrwyddo cynhwysedd ac amrywiaeth.

Integreiddio: Gallu dod â’n hamrywiol weithgareddau at ei gilydd i gwrdd â’r nod gyffredin fydd cyfrinach ein llwyddiant; mabwysiadu ffordd o feddwl systematig, a chydnabod y cymhlethdod a'r cydberthynas sy’n bodoli rhyngom.

Cynnwys: Mae’n bwysig iawn fod cymaint o bobl â phosib o bob rhan o’r Brifysgol yn dod at ei gilydd i ddatrys heriau mewn ffordd a fydd yn ein helpu i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir; yn dathlu cyfoeth yr amrywiaeth o bobl sydd yn rhan o’r brifysgol o bob cefndir, gallu a chred.

Mae 'na SAITH Nôd Llesiant

Yn olaf, rydym yn ceisio dangos bod ein gweithgareddau yn cyfrannu at y saith nod llesiant canlynol:

Prifysgol lewyrchus mewn Cymru lewyrchus – yn cyfrannu at gymdeithas sy’n arloesol, cynhyrchiol, carbon-isel sy’n defnyddio adnoddau’n effeithiol a chyfrannol.

Prifysgol gydnerth mewn Cymru gydnerth – creu amgylchedd iach sy’n cynnal gwydnwch economaidd ac amgylcheddol, a chymdeithas sy’n gallu addasu i newid

Prifysgol iachach mewn Cymru iachach - uchafu llesiant corfforol a meddyliol drwy wneud y penderfyniadau cywir am y dyfodol

Prifysgol mwy cyfartal mewn Cymru gyfartal - galluogi pobl i gyflawni eu potensial beth bynnag yw eu cefndir neu amgylchiadau

Prifysgol o gymunedau cydlynus - creu cymunedau sy’n fedrus, diogel ac wedi eu cysylltu’n dda

Prifysgol â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - annog a diogelu diwylliant, treftadaeth ac iaith

Prifysgol sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang - ystyried effeithiau ehangach ein penderfyniadau ar lesiant byd-eang wrth i ni gyflawni ein tynged fel Prifysgol ymchwil yng Ngogledd Cymru, ar gyfer Cymru gyfan ac yn fyd-eang.

Mae ‘na UN-DEG-SAITH o Nodau Datblygu Cynaliadwy gan y Cenhedloedd Unedig i’w cyrraedd erbyn 2030

Bob mis byddwn yn uwcholeuo un o’r rhain. Y mis hwn Nôd 9 sydd dan y chwyddwydyr un bennaf (ond ddim yn annisgwyl rydym yn cyffwrdd un neu ddau o’r lleill hefyd).

CAIS: Fel rhan o’n dyletswyddau adrodd i’r SDG Accord ac wrth i ni gymryd rhan mewn nifer o gynghreiriau mae angen gwybodaeth ar y Lab Cynaliadweydd ar sut mae pob rhan o’r Brifysgol yn cyfarch yr her 1.4.5.7.17. Bydd dod â’r wybodaeth yma i gyd at ei gilydd yn dipyn o gamp, felly os oes ganddoch unrhyw syniadau ar sut i ddal y wybodaeth mewn ffordd hawdd, di-boen cysylltwch â ni cynaliadwyedd@bangor.ac.uk

Fis Gorffennaf, rydym yn edrych ar bwysigrwydd Diwydiant, Arloesi ac Isadeiledd ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy – SDG 9 – fel sylfaen i ail-adeiladu’n well yn dilyn pandemig COVID-19 (ac i baratoi ar gyfer heriau eraill sydd ar y gorwel – Brexit a newid yn yr hinsawdd). Isadeiledd cryf a chydnerth yw asgwrn cefn cymunedau sy’n ffynnu y dyddiau yma. Mae cael rhain yn eu lle yn galluogi pobl i gael gafael ar dechnoleg glyfar ac arloesol, ond hefyd yn sicrhau fod cyfleoedd i arloesi ar agor i ystod eang o bobl ac yn caniatáu mynediad tecach i’r marchnadoedd ariannol ac i swyddi cynaliadwy.

Ffeithiau:

  • Mae llai nag 1 o bob 5 o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd mewn Gwledydd Lleiaf Ddatblygedig (2019)
  • Mae bron i boblogaeth y byd i gyd yn byw mewn ardal sydd wedi'i gorchuddio â rhwydwaith symudol. Amcangyfrifir, yn 2019, bod 96.5% ohono wedi'i gwmpasu gan rwydwaith 2G o leiaf
  • Yn 2019, cyflogwyd 14% o weithwyr y byd mewn gweithgareddau gweithgynhyrchu. Roedd twf byd-eang mewn gweithgynhyrchu eisoes wedi dirywio'n gyson hyd yn oed cyn COVID-19. Mae'r pandemig wedi taro'r diwydiannau gweithgynhyrchu yn galed ac yn tarfu ar gadwyni gwerth byd-eang a chyflenwad cynhyrchion

Ffynhonnell: https://sdgs.un.org/sites/default/files/2020-07/The-Sustainable-Development-Goals-Report-2020_Page_16.png

Adnoddau

Buddsoddi yn is-adeiledd Prifysgol Bangor yn cyfrannu tuag at nôd 9 a 12

Rhwng Gorffennaf 2018 a Rhagfyr 2019, buddsoddodd y Brifysgol £ 2.5 miliwn mewn gwelliannau i is-adeledd trydanol a gwresogi 39 o adeiladau ar draws y campws. Gwnaed hyn yn bosib drwy gymorth rhaglen effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru - ReFit Cymru. Benthyciad di-log oedd y buddsoddiad a bydd yr arian yn cael ei ad-dalu drwy’r arbedion ar ein biliau ynni. Mae’r gwelliannau i’w gweld mewn 39 o adeiladau ar draws yr adeiladau Gwyddonol, Ffordd y coleg, Safle'r Normal, Porthaethwy a Phentref Myfyrwyr Ffriddoedd. Bydd pob mesur ar gyfer gwella perfformiad yn lleihau'r defnydd o drydan a nwy yn yr adeiladau dan sylw. Bydd hyn yn lleihau biliau ynni'r Brifysgol ac hefyd yn lleihau ein hôl troed Carbon.

Fel rhan o'r cynllun, cafodd paneli solar eu gosod ar bum adeilad; Thoday, Brambell, Wheldon, Canolfan Brailsford a Llyfrgell Newydd y Celfyddydau. Disgwylir i’r paneli gynhyrchu dros 140,000 kWh o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn, gan leihau ein hallyriadau carbon blynyddol o fwy na 56 tunnell CO2e.

Mae rhai mesurau gwella eraill yn llai amlwg. Bydd y goleuadau LED newydd yn arbed dros 970,000 kWh o drydan y flwyddyn, ac yn lleihau ein hallyriadau carbon o fwy na 370 tunnell. Mae gwaith arall wedi digwydd yn gyfan gwbl y tu ôl i'r llenni, er enghraifft, bu uwchraddio helaeth ar y defnydd sy’n cael ei ddefnyddio i insiwleiddio’r pibellau. Rhagwelir y bydd hyn yn arbed bron i 400, 000kWh o nwy bob blwyddyn ac yn arwain at ostyngiad o dros 73 tunnell o CO2e yn ein hallyriadau carbon. Hefyd, bydd gwneud yn siwr fod y systemau a rheolaethau gwresogi mor effeithio â phosib yn golygu y byddwn yn defnyddio hyd at 1,136,000 kWh y flwyddyn yn llai o nwy, gan arbed mwy na 250 tunnell o CO2e.

Gosodwyd system glyfar newydd ar gyfer rheoli gwres mewn mwy na 1900 o ystafelloedd gwely a 250 o geginau mewn 26 o neuaddau preswyl ar safle Ffriddoedd. Mae'r system yn caniatáu i’r rhai sy’n byw yno reoli pa mor gynnes yw’r stafell ac hefyd yn monitro os oes rhywun yn yr ystafell a’i peidio neu a oes ffenestr wedi'i hagor. Mae’r system glyfar yn gallu addasu’r gwres yn awtomatig er mwyn osgoi gwastraffu gwres ac ynni. Disgwylir y byddwn yn defnyddio hyd at 500,000 kWh y flwyddyn yn llai o nwy a 30,000 kWh y flwyddyn yn llai o drydan ac yn arbed mwy na 110 tunnell o CO2e.

Gydai’i gilydd, dylai uwchraddio’r is-adeiledd arwain at y canlynol:

  • 1,700,000 kWh y flwyddyn (tua 10.2%) yn llai o drydan yn cael ei ddefnyddio
  • 140,000 kWh o drydan yn cael ei gynhyrchu gan ein paneli solar
  • 2,600,000 kWh y flwyddyn (tua 12.7%) yn llai o nwy yn cael ei ddefnyddiol
  • 1160 tunnell o CO2e y flwyddyn (tua 13.7%) yn llai o allyriadau Carbon
  • £400,000 o arbedion ar ein biliau ynni

Diwydiant ac Arloesi ym Mhrifysgol Bangor

Mae nifer o enghreifftiau o brosiectau Ewropeaidd sy’n cyfrannu at Ddiwydiant, Arloesi ac Isadeiledd ym Mhrifysgol Bangor. Fel rhan o rwydwaith Prosiectau Ewropeaidd Prifysgol Bangor, mae dau brosiect - Y Ganolfan Ynni Effeithlon Craff & Ecostructure yn rhannu enghreifftiau.

Rhwydwaith Prosiectau Ewropeaidd PB: Gweminar Diwydiant, Arloesi ac Isadeiledd 10:30 - 11:15, Dydd Iau, Gorffennaf 23ain 2020

Siaradwyr Gwadd

Mi fydd y gweminar yn cael ei gynnal gan Gwen Holland a Gwenith Elias, Y Lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor.

Rhan o gyfres gweminar cynaliadwyedd rhwydwaith prosiectau Ewropeaidd Prifysgol Bangor yn adlewyrchu ar Nod y Mis Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Defnyddio adnoddau’n effeithiol (rheoli gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor

Yn 2020 roedd Prifysgol Bangor yn y 7fed safle yn y byd ar gyfer Defnyddio a Chynhyrchu yn Gyfrifol (Nôd Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig rhif 12). Dyma sut y digwyddodd hyn, gyda’ch help chi!

Mae lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff yn rhan allweddol o sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu'n gynaliadwy a bod ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn cyfrannu at economi gylchol. Nôd Prifysgol Bangor yw bod yn sefydliad arweiniol yn y DU o ran defnyddio adnoddau yn effeithlon, a thrwy hynny gwneud ein rhan yn galluogi Cymru gael ei hadnabod fel yr wlad orau yn y byd am ailgylchu, a hefyd cefnogi economi werdd Cymru.

Mae angen ystyried yr hyn sydd wedi cael ei weld fel ‘gwastraff’ mewn ffordd wahanol – mae gwastraff yn adnodd, yn rhywbeth gwerthfawr i'w ailddefnyddio sawl gwaith, ei newid neu ei drwsio, neu ei wneud yn rhywbeth newydd yn hytrach nag fel defnydd i’w daflu ar ôl cael ei ddefnyddio un waith. Yn 2018/19 llwyddodd Prifysgol Bangor i ddargyfeirio 100% o'n gwastraff; hynny yw ni chafodd dim o’n gwastraff ei anfon i’w gladdu. O’r gwastraff gafodd ei ddargyfeirio, cafodd 2% ohono ei ailddefnyddio, 56% ei ailgylchu a 42% ei adfer ar ffurf ynni.

Yn 2019/20 fe wnaethom ddechrau casglu plastig o’r labordai ar gyfer ei ailgylchu ac fe wnaethom osod biniau ailgylchu ar gyfer caniau ‘o’ch llaw’ er mwyn cynyddu’n cyfraddau ailgylchu ac arbed deunyddiau gwerthfawr rhag cael eu colli drwy gael eu hanfon i’r safle adfer ynni. Fe wnaethom gynnal ymgyrch ‘Ystyried Cyn Yfed’ yn y safleoedd arlwyo, oedd yn canolbwyntiodd ar atal creu gwastraff yn y lle cyntaf ac yn annog ailddefnyddio eitemau fel cypanau. Cyrhaeddodd hwn rownd derfynol Gwobrau ‘Green Gowns’ 2019 yn y categori ‘Iechyd, bwyd a diod Campws’. Fe wnaethom gynnal ein hymgyrch Wythnos Am Wastraff (#WAW19) am y drydedd flwyddyn yn olynol ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ‘Ymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor’. Rydym yn obeithiol, er gwaethaf yr heriau digynsail sy’n ein wyneb yn sgil y pandemig, y bydd ein cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu yn gwella eto eleni.

Yn bwysicaf oll fodd bynnag, yn 2020, mae'r Brifysgol yn symud o system ailgylchu lle mae popeth yn gymysg i system ailgylchu lle mae defnyddiau yn cael eu gwahanu’n rhannol. Bydd hyn heb os, yn gwella cyfraddau ailgylchu ac yn sicrhau fod y defnydd sy’n cael ei ailgylchu yn lanach ac o ansawdd uwch, ac felly’n fwy tebygol o gael ei ddefnyddio yma yng Nghymru neu yn y DU.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd £124,599 i’r Brifysgol gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20 ar gyfer brynu biniau ailgylchu (wedi'u gwneud o 100% ddeunydd wedi'i ailgylchu) ar gyfer ein swyddfeydd a'n lleoedd dysgu. Dynodwyd peth o’r arian ar gyfer prynu cerbyd trydan ychwanegol i gasglu a chludo gwastraff ar y safle.

Mae tîm rheoli gwastraff y Brifysgol yn cynnwys aelodau staff o'r Lab Cynaliadwyedd, Gwasanaethau Eiddo a Champws, Neuaddau Preswyl, Arlwyo ac Undeb y Myfyrwyr sy’n gweithio ar y cyd i sicrhau gwelliannau parhaus ac i gynnal ymgyrchoedd arloesol. Fodd bynnag, ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gyfraniad a chefnogaeth ein myfyrwyr a'n staff ymroddedig. Datgelodd yr arolwg staff diweddar fod 97% o staff yn cyfrannu at berfformiad amgylcheddol y Brifysgol trwy ailgylchu, a 93% trwy leihau defnydd diangen o adnoddau. ‘Does ryfedd felly fod Prifysgol Bangor yn cyrraedd y 7fed safle yn y byd ar gyfer Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol (Nod Datblygu Cynaliadwy 12 y Cenhedloedd Unedig).

DIOLCH YN FAWR I BAWBam eich cefnogaeth di-flino ar ein taith i wireddu’n huchelgais o gyrraedd y brig a’r safle 1af yn y byd.

Llyfr y Mis

The future we choose. Surviving the Climate Crisis

Christiana Figueres & Tom Rivett-Carnac. Manilla Press 2020

Bydd llawer o bobl yn rowlio eu llygaid neu'n rhoi eu bysedd yn eu clustiau pan fydd unrhyw sôn am newid yn yr hinsawdd. Maent yn disgwyl pregeth ac yn dychmygu’r holl gyfyngiadau diflas sydd ynghlwm â’r pwnc. Mae eraill yn ei gymryd yn llawer mwy difrifol. Pwy bynnag ydych chi, ond yn enwedig os ydych chi'n amheus, mae'r llyfr hwn yn chwa o awyr iach – ymarferol, optimistaidd a grymusol.

I ‘Brotestwyr Hinsawdd ‘Styfnig’ mae’n oes pryder-gynnwrf; cyfuniad o bryder yn gymysg â chynnwrf dros yr hyn y gallwn ei gyflawni. Oherwydd mae hon yn frwydr y gallwn ei hymladd i ennill.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf mae cyfnod heriol o'n blaenau gyda thair 'tsunami' yn agosáu yn ystod ac ar ôl-Covid (pryd bynnag y bydd hynny): dirwasgiad, BREXIT ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. O'r tri, newid yn yr hinsawdd, sydd wedi bod yn digwydd ers y 1960au, yw'r bygythiad mwyaf a’r un sydd bella’ o feddyliau pobl a gwleidyddion. Mae’na ddau ddyddiad pwysig yn y frwydr i atal pethau rhag gwaethygu. Rhaid i’r byd:

  • Haneru ein hallyriadau nwyon ty gwydr erbyn 2030
  • Dod yn net-sero erbyn 2050

Ni allwn ac ni ddylem dynnu ein sylw oddi ar hyn.

Ond SUT?

Gadewch inni feddwl am beth mae'r pandemig wedi'i ddangos inni:

  • Mae pethau sy’n cael eu rhagweld gan arbenigwyr y gallu digwydd
  • Gall y trychinebau hynny effeithio arnom ni yn ogystal â phobl yn 'rhywle arall'
  • 'Mae'r model archfarchnad 'mewn pryd' yn wallus, nid dim ond mewn gwledydd eraill ‘llai datbylgiedig’ mae silffoedd gwag a phrinder papur tŷ bach a ciwiau ar gyfer bwyd yn digwydd
  • Mae yna goeden arian hud wedi'r cyfan – lle mae ewyllys, gall Llywodraethau dod o hyd i ffordd (Meddyliwch furlough, meddyliwch sut mae’n bosib ariannu arfau)
  • Mae'n bosibl dylanwadu ar y boblogaeth i wneud newidiadau eithafol y neu hymddygiad pan fydd bygythiad uniongyrchol i unigolion a'u teuluoedd

Mae angen i ni ganolbwyntio ein meddyliau ar y dyfodol allwn ni ddewis (gwahaniaeth cynnil rhwng hynny a’r dyfodol a ddymunwn). A ydym am ddewis canolbwyntio ar yr hyn sy'n ymddangos yn bosibl (o fewn ein dychymyg cyfyngedig a'r norm politicaidd-economaidd presennol) yn unig neu a allwn ddefnyddio'r gofod a grëwyd gan Covid i ystyried dewisiadau fydd yn ei gwneud yn bosib i ni nid yn unig i ddod drwy'r dirwasgiad a BREXIT ond hefyd i oroesi argyfwng yr hinsawdd?

Gallwn naill ai ddewis aros yn yr unfan a suddo i’r gors a chyfrannu tuag at 2050 anioddefol, gordwym, llygredig neu gredu y gallwn ddewis senario gwahanol ar gyfer 2050 – awyr glân, byd natur llewyrchus, gwell ansawdd bywyd i bawb.

Mae'r Lab Cynaliadwyedd yn cytuno mai GWYRDD, GWYRDD, GWYRDD ddylai’r fantra fod ar gyfer yr adferiad ôl-Covidaidd byd-eang (ac ar gyfer adferiad y Brifysgol hefyd).

Rydym yn ymwybodol na fydd yn hawdd ond rydym hefyd yn credu bod fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol y mae'r Brifysgol wedi dewis ei fabwysiadu yn cynnig ffordd i ni greu'r dyfodol a ddewiswn ar y cyd.

Mae llawer o ddolenni i safleoedd defnyddiol ar ddiwedd y llyfr. Dyma ambell un: