Bil Cymru Senedd y DU: setliad parhaol? Cip-olwg cynulliad cenedlaethol cymru

Mae'r Bil Cymru sy'n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd yn rhy gymhleth, yn fiwrocrataidd ac ni fydd yn cyflwyno setliad parhaol, yn ôl Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Bil Cymru yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y fframwaith fel y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu yng Nghymru mewn meysydd megis iechyd ac addysg i wella bywydau a chyfleoedd i ddinasyddion Cymru.

Po gliriaf a mwyaf ymarferol y bydd y darn hwnnw o gyfraith gyfansoddiadol, yr hawsaf y bydd i'r broses lywodraethu a chraffu gael ei chyflawni'n effeithiol ac yn llwyddiannus.

Pam bod hyn yn bwysig?

Dr Diana Stirbu yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor, 30 Gorffennaf 2016
"… a constitutional settlement should be also aspirational. And I think what we fail to see is a clear ambition and aspiration for the constitutional status of Wales and for how Wales will be constitutionally repositioned within the UK… I think constitutions send messages about what kind of politics you are conducting in a country, what kind of society you want to live in, what kind of aspirations you have for your future generations." - Dr Diana Stirbu, Prifysgol Metropolitan Llundain

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn grŵp o pedwar Aelodau Cynulliad ledled Cymru. Rôl nhw yw i geisio sicrhau bod unrhyw gyfreithiau neu polisiau sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru er budd pennaf Cymru a’i phobl.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Edrychodd y Pwyllgor ar y Bil yn Hydref 2015 pan gyflwynwyd y Bil yn ei ffurff ddrafft. Cafodd Bil Cymru drafft Llywodraeth y DU ei feirniadu'n hallt. Gwnaeth llawer o bobl a oedd â phrofiad uniongyrchol o weithio â’r setliad datganoli presennol awgrymiadau adeiladol i wella'r ddeddfwriaeth arfaethedig a mynegwyd parodrwydd i weithio gyda Llywodraeth y DU er budd pobl Cymru.

Hyd yn oed ar ôl y newidiadau, a fersiwn yma o’r Bil a gyflwynwyd, asesiad cyffredinol y Pwyllgor o'r Bil yw ei fod yn ddarn cymhleth ac anhylaw o gyfraith gyfansoddiadol na fydd yn cyflawni'r setliad parhaol a chadarn a ddisgwylir gan bobl Cymru.

Yr Athro Richard Rawlings yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar 30Gorffennaf 2016
"I don’t think the Wales Bill is durable, because of the signal failure to deal with the key infrastructure foundational question of jurisdiction." - Yr Athro Richard Rawlings, Athro Gyfraith Cyhoeddus

Beth yw’r problemau?

Teimlai'r Pwyllgor nad oedd y Bil yn datrys nifer of brif faterion:

  • Nad yw'n cyflawni mwy o gydraddoldeb â'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran pwerau a chyfrifoldebau, ac mewn gwirionedd mae’n cyflwyno’r posibilrwydd y gallai’r setliad datganoli presennol gael ei leihau;
  • Mae'r Pwyllgor yn credu bod Llywodraeth y DU wedi colli cyfle euraidd i gyflwyno deddf gyda chonsensws bob ochr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd yn oed ar ôl oedi'r broses yn ystod y cam cyn-ddeddfwriaethol yn dilyn cryn feirniadaeth;
  • Er bod y rhestr o bwerau cadw yn fyrrach, mewn llawer o achosion mae pwerau wedi cael eu rhoi mewn un categori. Un enghraifft yw penseiri, archwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol;
  • Mae'r Pwyllgor hefyd yn feirniadol o ba mor gyflym aethpwyd â'r Bil drwy Dŷ'r Cyffredin, sy'n golygu fod gan Dŷ'r Arglwyddi 'faich ychwanegol o ran cyfrifoldeb am graffu effeithiol cyn y gellir pasio'r Bil hwn fel un addas at y diben', ac
  • Mae'r methiant i ddarparu awdurdodaeth wahanol neu ar wahân i Gymru yn ychwanegu at y cymhlethdod a'r gwydnwch ac, yn ôl y Pwyllgor, bydd yn arwain at bwysau am newid.
“...I think the legal system needs to adapt itself to that new reality, a reality that is growing as the body of law that applies only in Wales and the body of law that applies only in England increase in size.” - Yr Athro Thomas Glyn Watkin, Athro Emeritws y Gyfraith
Yr Athro Thomas Glyn Watkin, Athro Emeritws y Gyfraith yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor, 22 Gorffennaf 2016

Beth yw’r newidiadau positif?

Er y cymhlethdod a'r diffyg eglurder sy'n bwrw amheuaeth ar wydnwch y setliad, roedd y Pwyllgor yn falch bod Bil Cymru yn cynnwys:

  • Symud i fodel pwerau cadw, a fyddai'n golygu pwerau ar wahân i'r rhai a gedwir yn benodol gan Senedd y DU yn dod i Gymru;
  • Datganiad am barhauster Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru; a
  • Rhoi cymhwysedd mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r system etholiadol.

Beth yw barn y Pwyllgor?

Ar sail y dystiolaeth mae’r Pwyllgor wedi'i glywed, mae perygl amlwg bod y lle a ddarperir gan y Bil i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu yn anodd ei ddiffinio a bod potensial iddo gyfyngu mwy nag ar hyn o bryd.

Yn sicr nid yw'r Bil yn cynnig y setliad blaengar ac uchelgeisiol yr oedd llawer o bobl yng Nghymru yn gobeithio amdano ac yn credu sydd ei angen; nid yw ychwaith yn deilwng o ddeddfwrfa fodern sy'n bartner cyfartal o fewn y teulu o wledydd sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig.

Mae'r Pwyllgor yn credu mae'n drueni bod y Bil yn debygol o barhau'r ansicrwydd cyfansoddiadol, yn hytrach na'i ddatrys.

Y camau nesaf?

Cyflwynodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei ganfyddiadau i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar ddydd Mercher 12 Hydref yn Llundain.

Mae Aelodau’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu dull newydd o ymdrin â chyfraith gyfansoddiadol sy'n ymwneud â deddfwrfeydd datganoledig. Un a fydd yn cynnwys:

  • Gwaith rhynglywodraethol ar ddatblygu polisi a drafftio Biliau;
  • Holl bwyllgorau perthnasol y Cynulliad a Senedd y DU yn ystyried y Biliau cyfansoddiadol naill ai gyda'i gilydd neu mewn sesiynau ar y cyd; ac
  • Fel y bo'n briodol, Gweinidogion y Goron, yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru i ymddangos yn gyhoeddus o flaen yr holl bwyllgorau seneddol perthnasol.

Sylwadau i gloi gan Y Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
"Mae'n siomedig gweld nad yw Llywodraeth y DU wedi derbyn llawer o'r argymhellion teilwng a phwysig a wnaed gan lawer o bobl a sefydliadau.
Er ein bod yn derbyn bod rhai newidiadau er gwell, mae gan Gymru nawr ddeddf gymhleth sy'n bygwth lleihau ein pwerau presennol ac sy'n methu â rhoi mwy o gydraddoldeb i ni â'r gwledydd datganoledig eraill.
Ar adeg pan mae'r DU yn diffinio ei pherthynas ag Ewrop yn dilyn refferendwm yr UE, dylai hefyd fod yn diffinio'r berthynas rhwng ei haelod wledydd ei hun.
Rydym yn credu y byddai'n llawer mwy synhwyrol ond hefyd yn hanfodol pe byddai modd cytunedig o gydweithredu rhwng dau gorff seneddol - rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'i bwyllgorau, a'r Senedd, ei dau Dŷ a'i phwyllgorau.
Rydym yn argymell datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd fel mater o frys, yn ddelfrydol cyn i ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig arall gael ei dwyn ymlaen, ac mae ein pwyllgor yn barod i gyfrannu at y gwaith hwn."

Cadwch mewn cysylltiad

I gadw mewn cysylltiad ynghlwm gwaith y Pwyllgor ar ddeddfau Cymru a polisiau sy'n effeithio Cymru a'i phobl, ymwelwch â'r wefan neu dilyn y Pwyllgor @SeneddMCD ar Twitter.

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.