Golwg ar fethodoleg addysgu Methodoleg am y dosbarth Cymraeg Cyfrwng Saesneg
Pwrpas yr adnodd hwn ydy trafod gwahanol fethololeg addysgu iaith.
Does dim 'ffa hudol' wrth addysgu. Does dim un ffordd o addysgu iaith yn eiffeithiol ac mae'n bwysig cysidro pob agwedd a phob methodoleg er mwyn datblygu ymarfer eang a llwyddiannus.
Mae llawer o wahanol dulliau a methodoleg addysgu iaith. Mae'r adnodd wedi ei rhannu i benodau lle ceir disgrifiad o'r methodoleg a syniadau am y math o weithgareddau posib yn y methodoleg dan sylw. Mae'r adnodd yn adnodd byw ac felly y bwriad ydy datblygu'r gwybodaeth ynddo dros amser.
Y dull cyfieithu gramadegol
- Methodoleg sy'n golygu addysgu rheol gramadegol a wedyn gwneud ymarferion cyfieithu er mwyn datlbygu'r deallusrwydd.
Y dull union
- Methodoleg sy'n gweithredu trwy'r iaith darged a'r disgyblion yn gweithio'r iaith allan drwy ymarfer cyson. Enw arall am hyn ydy'r Dull Naturiol achos dyma'r ffordd dysgom ein mamiaith - gwrando, copio a chynhyrchu. Mae'r pwyslais ar siarad ac mae'n anodd iawn fel dull i greu digon o drochi ym mywyd y disgyblion. Mae'r dril ail-adrodd yn dechneg canolog i'r dull
Y dull iaith glywedol
- Mae'r dull yma hefyd yn cynnwys elfen gref o ddrilio gan ei fod yn dibynnu ar ddatblygu arferion dysgu da ac mae ail-adrodd cyson a phwrpasol dros amser yn arwain at datblygu'r iaith sy wedyn yn arwain at ysgrifennu yn y pen draw. Mae'r dril disodli a dril trawsnewid yn bwysig yma i ddatblygu'r patrwm a disodli /trawsnewid elfennau o'r patrwm i greu brawddegau newydd.
Y dull trochi
- Dyma dull arall sy'n galw am lawer o iaith darged a diwylliant. Anodd iawn i greu'r amgylchiadau perffaith yn y dosbarth CCS heblaw bod Cymraeg yn rhan naturiol o fywyd ysgol. Er mwyn creu'r fath amgylchiadau, basai angen i'r disgyblion derbyn mwy o'i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Serch hyn, mae gweithgaredd sy gwbwl yn yr iaith darged yn dymunol bob amser.
Y dull ymateb corfforol llawn (TPR)
- Mae'r dull yma yn galw ar ddisgyblion i ymateb trwy gwneud yr hyn sy'n cael ei ofyn neu cael symudiadau corfforol i gefnogi dysgu geiriau/brawddegau. Mae hyn yn datblygu wedyn i straeon mae'r disgyblion yn actio allan.
Dull addysgu hyfedredd drwy darllen a dweud straeon (TPRS)
Y mae'r dull hwn yn seiliedig ar addysgu drwy darllen a dweud straeon. Mae'n rhan o gysyniad Mewnbwn Eglur (CI). Mae tair adran penodol, sef strwythyr geirfa, cyfieithu/ystymiau a chwestiynau personol.
Y dull cyfathrebol
- Dyma un o'r prif-ddulliau ac mae'n cyfuno llawer ar y dulliau blaenorol. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu ffwythiannau fel holi ac ateb, disgrifio neu adrodd. Dydy gramadeg ddim mor bwysig yn y dull yma ond yn hytrach pwysleisio defnyddio'r iaith yn gyson sy'n arwain at eu datblygiad.
Y dull dysgu drwy dasg
- Mae'r dull yma yn seiliedig ar ddysgu trwy cwblhau tasgau gwahanol. Yn dilyn cyfres o wersi, bydd y disgyblion yn cwbwlhau tasg penodol sy'n gofyn iddynt defnyddio'r hyn maen nhw wedi dysgu ond yn seiliedig ar y thema penodol.
Y dull dadawgrymeg
- Mae'r dull yma yn seiliedig ar y ffaith bod dysgu iaith yn anodd ac mae defnyddio'r iaith yn effeithio ar hyder y disgybl. Y pwyslais ydy gwneud popeth mor ymlaciol a phosib a defnyddio cymeriadau gwahanol i ymarfer yr iaith yn lle. Mae'r disgybl yn derbyn persona newydd ac mae hyn i fod i lleihau ar y stres o ddefnyddio'r iaith.
Y dull technoleg
- Mae peth wmbreth o wahanol dulliau yn deiliedig ar ddefnyddio cyfrifiadur/technoleg megis Duolingo, Memrise, Rosetta Stone ac ati. Rwy'n eitha sicr bod llawer o'r dulliau uchod yn rhan o'r meddalwedd.
Gan Barri Mock
@barringtonjmock
Created with images by net_efekt - "Molecule display"