Loading

Y Papur Gwyrdd Y Lab CYnaliadwyedd, Prifysgol Bangor

Dyma rifyn ola’r Papur Gwyrdd. Dymuna tîm y Lab Cynaliadwyedd ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio gyda ni dros y blynyddoedd i ddod â chynaliadwyedd yn fyw ym Mhrifysgol Bangor.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Cadwch yn DDIOGEL.

Yn y rhifyn hwn:

  • Nod Datblygu Cynaliadwy y mis - Nod 13, Gweithredu ar yr hinsawdd
  • Myfyrwyr i archwilio effaith ‘ymchwilwyr SHAPE’ ar gynaliadwyedd
  • Astudiaeth Achos KESS 2 gan Rob Brown
  • Seiniau Uchel Carbon Isel
  • Effeithlonrwydd Adnoddau ym Mhrifysgol Bangor
  • Cymdeithaseg a Newid yn yr Hinsawdd
  • Green Gift Ideas
  • Planhigyn y mis
  • Llyfr y mis

Nod Datblygu Cynaliadwy y mis - Nod 13, Gweithredu ar yr hinsawdd

Mis yma byddwn yn edrych ar Gweithredu ar Newid Hinsawdd - Nod Datblygu Cynaliadwy 13. 2019 oedd yr ail flwyddyn gynhesaf ar gofnod a diwedd y degawd cynhesaf (2010-2019) a gofnodwyd erioed. Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob gwlad ar bob cyfandir. Mae'n tarfu ar economïau cenedlaethol ac yn effeithio ar fywydau. Mae patrymau tywydd yn newid, mae lefelau'r môr yn codi ac mae digwyddiadau tywydd yn dod yn fwy eithafol.

Rhagwelir y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng tua 6% yn 2020 oherwydd gwaharddiadau teithio ac arafu economaidd o ganlyniad i COVID-19. Mae hyn yn dal yn brin o'r gostyngiad blynyddol o 7.6% sy'n ofynnol i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.50C. Unwaith y bydd yr economi fyd-eang yn gwella, mae disgwyl i'r allyriadau ddychwelyd i lefelau uwch.

Mae llawer o wledydd yn defnyddio eu cynlluniau adfer i symud tuag at economi lân, werdd a mwy gwydn.

Beth y gallwn ei wneud?

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, a gall hyd yn oed newidiadau bach gwneud gwahaniaeth mawr.

  • Diffoddwch oleuadau ac offer pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio
  • Cerddwch neu feicio os bosib
  • Rhannu, yn lle hoffi. Os ydych chi'n gweld post cyfryngau cymdeithasol diddorol ar newid yn yr hinsawdd, rhannwch ef fel bod eraill yn eich rhwydwaith yn ei weld hefyd
  • Byddwch yn wybodus. Dilynwch newyddion lleol, a darganfod mwy am y nod hwn yma

Adnoddau

Myfyrwyr i archwilio effaith ‘ymchwilwyr SHAPE’ ar gynaliadwyedd

Mae’r Academi Brydeinig a Myfyrwyr sy’n Trefnu ar gyfer Cynaliadwyedd y DU (SOS-UK) wedi lansio prosiect cydweithredol ‘SHAPE Impact Projects’. Y nod yw ennyn diddordeb myfyrwyr ac academyddion ar draws disgyblaethau SHAPE (Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a'r Celfyddydau i Bobl a'r Economi) wrth sylweddoli perthnasedd ac effaith eu pynciau wrth fynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Cydweithiodd Y Lab Cynaliadwyedd gyda Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, M-Sparc, Pontio a Treborth i wneud cais i fod yn rhan o’r fenter. Dewiswyd tair prifysgol i gymryd rhan – Prifysgol Bangor, Prifysgol East Anglia a Phrifysgol Metropolitan Manceinion.

Mae wyth myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan gyda chefnogaeth staff yn PB dan arweiniad Dr Tara Smith, Ysgol y Gyfraith. Byddant yn gweithio ar ddau brosiect ac yn dilyn dull ‘labordy byw’ amlddisgyblaethol. Mae’r cyntaf ar ‘Gefnogi Cenedlaethau’r Dyfodol yn M-Sparc’ ac mae’r ail ar ‘Wella Cynaliadwyedd yng Nghwricwlwm y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas’.

Gan adrodd yn gynnar yn 2021, bydd y prosiect cyfan yn digwydd ar-lein.

Dywedodd Dr Molly Morgan Jones, Cyfarwyddwr Polisi yn yr Academi Brydeinig:

“Credir mor aml fod materion hinsawdd a chynaliadwyedd yn bynciau i wyddonwyr a’r rheini sy’n gweithio ym maes STEM yn unig ond ni allai hynny fod ymhellach o’r gwir. Rydym yn gobeithio dangos drwy’r prosiect newydd cyffrous hwn gyda SOS-UKfod gan ymchwilwyr SHAPE ran hanfodol i'w chwarae wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd, mwy cynaliadwy o fyw a ffynnu. O seicolegwyr ymddygiad a daearyddwyr dynol i haneswyr, economegwyr ac ysgolheigion cyfathrebu, mae ymchwilwyr SHAPE yn aml yn cydweithio gyda’i cymrheiriaid yn STEM ac yn cyfrannu mewn ffordd amhrisiadwy drwy gynnig ffyrdd gwahanol o edrych ar yr heriau mawr yma."

Students Finn Cowan, Allanah Quinney and Samantha Newman in the boardroom at M-Sparc speaking to Pryderi ap Rhisiart (M-Sparc)

Dywedodd Larissa Kennedy, Llywydd SOS-UK ac NUS:

“Mae myfyrwyr wedi bod wrth wraidd ymgyrchoedd dros gyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol ers amser maith. Mae’n gyffrous i mi weld ein bod yn hyrwyddo hyn trwy weithio gyda'r Academi Brydeinig ar brosiectau Effaith Cynaliadwyedd SHAPE, sy'n rhoi cyfle anhygoel i fyfyrwyr ac academyddion o'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ddod at ei gilydd i weithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol.”

Prif lun: Sofie Roberts (M-Sparc) gyda'r myfyrwyr Samantha Newman, Allanah Quinney a Finn Cowan ar do M-Sparc lle mae cynlluniau i osod PVs solar newydd

Tyrchu i ganfod iechyd y pridd

Mae pridd yn adnodd na ellir ei adnewyddu; nid yw’n para am byth. Mae’n allweddol i gynnal pob math o bethau hanfodol fel cynhyrchu bwyd cynaliadwy i boblogaeth sy’n cynyddu a helpu gwrthsefyll sgîl effeithiau niweidol newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio pridd yn llawer mwy dwys nage erioed ac mae hyn yn dechrau achosi difrod sylweddol.

Mae prosiect ymchwil Rob Brown, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, yn archwilio’r cysylltiad rhwng y cemegau a’r moleciwlau bach sy’n ffurfio blociau adeiladu’r pridd ac sy’n rhoi bywyd ac iechyd biolegol iddo.

Meddai Rob, Mae deall y newidiadau yn swyddogaeth y gwahanol ficrobiaid yn y pridd o dan wahanol amodau yn debygol o’n helpu i wella sut fyddwn yn reoli adnoddau pridd yn y dyfodol. Mae fy ymchwil hyd yma wedi dangos bod metabolomeg ac anweddomeg yn gallu gwahaniaethu’n ymatebol a’u bod yn sensitif iawn o ran ansawdd y pridd. Rydym hefyd wedi dangos bod sychder yn effeithio’n gryf ar brosesu metabolaidd microbioleg y pridd.”

Rob Brown

Meddai goruchwyliwr academaidd Rob, yr Athro Davey Jones, “Mae’r prosiect hwn yn ceisio sefydlu ffordd newydd o fesur iechyd pridd, ac mae hyn yn greiddiol i sy’n sylfaenol i faterion hanfodol fel diogelwch da a chynhesu byd-eang. Mae prosiect KESS 2 yn cydweithioe gyda diwydiant a’r byd academaidd i ddarparu ffyrdd ymarferol a chost-effeithiol o fonitro ansawdd pridd ac bydd hyn yn gallu cael ei fabwysiadu’n eang ar draws y sector amaethyddol.”

Menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Am ragor o wybodaeth am sut y gallai eich sefydliad elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm KESS 2 ym Mangor: kess2@bangor.ac.uk

Seiniau Uchel Carbon Isel

Ar nos Fercher 25 Tachwedd perfformiodd y pianydd a'r cyfansoddwr Tristian Evans dau ddarn ar gyfer y prosiect 'Seiniau Uchel, Carbon Isel'. Bwriad y prosiect oedd i ddod yn fyw pryderon pobl ifanc am Newid Hinsawdd, a phlethu hyn mewn i ddarn creadigol yn adlewyrchu’r tywydd yn newid yn naturiol ar hyd y tymhorau, a’r newid hinsawdd mwy pryderus sy’n digwydd yn raddol i’n ddaear.

Cyfansoddiad aml-gyfrwng o’r enw ‘Dŵr, Haul, Gwynt, Golau’ a gafodd ei ffrydio yn fyw ar sianel AM. Wedi’i ysbrydoli gan eiriau hen a newydd yn ymwneud â’r amgylchedd, mae Tristian wedi cyfansoddi darnau i’r piano mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein hwynebu. Gan fabwysiadu’r broses o ailgylchu mewn cyd-destun creadigol, mae’n plethu hen alawon crefyddol, deunydd gweledol o’r archif, testunau o’r Beibl, a lleisiau ieuenctid, ac fe ddaw’r cyfan yn fyw mewn dau waith amlgyfrwng i’r piano. Mae Dŵr, Haul, Gwynt, Golau yn integreiddio geiriau amgylcheddol gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â delweddau sy’n cyd-fynd hefo sgôr i’r piano.

Mae’r ail ddarn - Tir (Creadigaeth/Etifeddiaeth) yn ymateb i’r syniad fod y ddaear yn greadigaeth ac yn etifeddiaeth wedi’i ddylanwadu gan gyfeiriadau Beiblaidd a chefndir teuluol y pianydd ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dywed Sofie Roberts, Swyddog Carbon Isel M-SParc

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma ac roedd yn wych i wylio perfformiad Tristian yn fyw o fy soffa! Mae M-SParc wedi ei ddatblygu i greu swyddi sy'n talu'n dda yn y rhanbarth, mewn sectorau amrywiol. Mae Carbon Isel yn un o'r sectorau yma ac mi 'da ni wedi gweithio'n galed i roi sylw i'r sector, gyda digwyddiadau megis ein cynadleddau Egni, a chydweithio ar brosiectau fel Seiniau Uchel, Carbon Isel. Mae cyswllt cryf rhwng celfyddyd a Gwyddoniaeth ac mae Tristian trwy’i gyfansoddiad wedi dod a’r hyn i’r amlwg unwaith eto”.

Dywed Tristian “Roedd yn bleser cydweithio gyda M-SParc a Phrifysgol Bangor ar y prosiect Seiniau Uchel - Carbon Isel. Trwy blethu lleisiau ieuenctid, hen ffilmiau a delweddau cyfoes, ceisia’r gwaith amlgyfrwng i’r piano gynnig ymateb creadigol i’r argyfwng hinsawdd. Gan ystyried y cyfyngiadau sydd yn wynebu artistiaid yn sgil y pandemig, roedd yn braf perfformio unwaith eto, ac i gyrraedd cynulleidfa newydd trwy ffrydio’r gwaith o Pontio ar AM. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn, wedi’i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol”.

Perfformiad prosiect Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Phontio ag M-SParc, wedi’i noddi gan y Coleg Cymraeg.

Cewch wylio’r perfformiad yma neu drwy Lyfrgell Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Effeithlonrwydd Adnoddau (Rheoli Gwastraff) ym Mhrifysgol Bangor

Chwyldro Adnoddau Bangor!

Weithiau mae rhaid gwahanu er gwell… Helpwch ni i fod yn Brifysgol fwy cynaliadwy wrth symud o system ailgylchu cymysg i system ar wahân.

Bydd eich un bin ailgylchu cymysg oren yn troi’n dri cyn bo hir:

  1. plastig, metel a chartonau (caead oren)
  2. papur a cherdyn (caead glas)
  3. gwydr (caead coch)
Y biniau ailgylchu newydd ar y campws

Trwy wahanu ein hailgylchu fel hyn, ein nod yw i wella ein cyfraddau ailgylchu a chynhyrchu ailgylchu glanach o ansawdd uwch fydd yn fwy tebygol o gael eu defnyddio yng Nghymru neu yn y DU . Ar hyn o bryd mae Prifysgol Bangor yn ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio 61% o'n gwastraff, ein nod yw i gynyddu hyn i 70% erbyn 2025. Mae ein biniau newydd hefyd wedi'u gwneud 100% o blastig wedi'i ailgylchu!

Bydd ein system ailgylchu yn newid ar y dyddiadau canlynol:

  • Ardaloedd swyddfa, labordy ac addysgu - 14eg Rhagfyr 2020
  • Neuaddau Preswyl y Santes Fair - 21ain Rhagfyr 2020
  • Neuaddau Preswyl Ffriddoedd – mor fuan â phosib yn y flwyddyn newydd (mae ailgylchu yn barod wedi ei wahanu yn Ffriddoedd felly gall myfyrwyr gario’n mlaen fel y maent tan fydd y biniau newydd wedi cyrraedd).

Cymdeithaseg a Newid yn yr Hinsawdd – Mae angen i ni fod ar flaen y gad

Yn gynharach y mis diwethaf, cynhaliodd yr Ysgol Athroniaeth, Hanes a Gwyddorau Cymdeithasol (SHiPSS) gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus ar-lein fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas, er mwyn dangos sut y gall y gwyddorau cymdeithasol helpu i esbonio a datrys problemau o fewn cymdeithas.

Un o'r themâu oedd Cymdeithaseg a Newid Hinsawdd a oedd yn ceisio dangos y dylai Newid yn yr Hinsawdd fod ar agenda'r gwyddorau cymdeithasol a bod angen ffyrdd rhyngddisgyblaethol o ddeall a mynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd.

Canolbwyntiodd y tri chyflwynydd ar agweddau penodol ar sut y gall ymchwil gwyddorau cymdeithas:

Trafododd Dr Gary Robinson y rôl sydd gan archeoleg a gwyddorau cymdeithasol wrth archifo a deall y naratif sydd ynghlwm â pherthyn mewn llefydd sydd yn newid a fydd yn cael eu newid yn sgîl cynhesu byd-eang e.e. lefel y môr yn codi, a thrafod sut y gall dadansoddiad hanesyddol o dirweddau a chymunedau sy'n newid lywio digwyddiadau heddiw;

Gwnaeth Dr Corinna Patterson achos dros gynnwys newid yn yr hinsawdd ar agenda'r Gwyddorau Cymdeithas a sicrhau bod Gwyddorau Cymdeithas yng nghanol y drafodaeth i ddeall a dod o hyd i atebion fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Canolbwyntiodd yn benodol ar bŵer, anghydraddoldeb, grymuso dinesig a chyfranogiad a chyfrifoldeb lleol a byd-eang;

Trafododd Dr Marcel Stoetzler sut y gellir defnyddio dadansoddiad economaidd Marcsaidd er mwyn deall yr anghydraddoldebau sy’n bodoli rhwng dosbarthiadau cymdeithasol ac i ddeall fod yr amgylchedd yn cael ei gamddefnyddio. Trafododd hefyd gysyniad Marx fod yna rwyg metabolig rhwng pobl a natur, a’r rhesymeg tu ôl i ehangu gwyllt y dull cyfalafol o gynhyrchu.

Syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig gwyrdd

Gan Rebecca Lewis

Helo! Rebecca ydw i, dwi'n fyfyrwraig ail flwyddyn BSc Cadwraeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Fy nod yw helpu'r byd mewn unrhyw ffordd bosibl a chredaf y gallai ysgrifennu ar gyfer y Papur Gwyrdd fod yn lle gwych i ddechrau wrth i ni weithio gyda'n gilydd i wneud y byd yn lle mwy gwyrdd.

Mae’n anodd cynllunio yn ystod amseroedd ansicr. Nid ydym yn gwybod os y byddwn hyd yn oed yn gweld aelodau o'r teulu eleni, ond rydym dal eisiau iddynt wybod ein bod yn meddwl amdanynt, ac yn gwneud hynny heb dorri’r banc neu’r gwynebu’r ansicrwydd o fynd allan i siopa.

Yr ateb gorau i ddatrys y broblem hon yw i siopa'n gynaliadwy gan ddefnyddio gwerthwyr lleol ar wefan Etsy. Mae’r cwmni yn gwrthbwyso allyriadau carbon o bob archeb maent yn ei gyrru allan. Mae rhai eitemau ychydig yn ddrud, ond gallwch safio’r eitemau hyn i'ch rhestr ffefrynnau ac aros nes eu bod ar sêl, neu hyd yn oed weithiau bydd gwerthwyr yn anfon gostyngiadau atoch. Gallwch brynnu eitemau a'u hanfon fel anrheg heb dderbynneb sy'n llai o bapur byth ac bydd yn cael ei ddosbarthu yn syth i’r person lwcus! Byddwch hefyd yn gwneud ffafr i’r amgylchedd drwy beidio gorfod lapio’r anrheg mewn papur na all ei ailgylchu!

Os yw arian yn brin eleni, beth am ail-roi eitem fel anrheg (re-gift yn saesneg). Beth am yrru llyfr y gwnaethoch chi ei fwynhau, gyda nodyn ynddo yn gobeithio y gna nhw fwynhau y llyfr cystal ag y gwnaethoch chi. Neu, beth am greu rhywbeth eich hyn? Peintio, llunio, gwae, pobi – ‘it’s the thought that counts’ medda nhw. Bosib y basai ychydig yn anodd i yrru eitemau wedi ei pobi yn y post, ond mae na gwmniau yn arbennigo mewn hyn. Beth am i chi ymchwilio mewn i’r mater?

Mae gan lawer o gynhyrchwyr Etsy sianel YouTube sydd yn rhoi trosolwg o fywyd cynhyrchwyr (dwi wrth fy modd yn gwylio rhain). Maent yn aml yn rhoi tips ar sut i wneud pethau eich hunain ac yn rhoi’r cymhelliant i chi gefnogi eu busnes. Beth am ddefnyddio YouTube i ddysgu sgil newydd er mwyn gwneud anrhegion? Mae gan sawl ‘YouTuber’ gôdiau gostyngiad neu treial am ddim ar gyfer cyrsiau neu safleoedd dysgu alein fel Skillshare (mae’n siwr eich bod wedi clywed am y safle yma o’r blaen).

Mae yna lawer o eitemau hyfryd ac unigryw ar gael ar Esty ar gyfer pob cyllideb. Cefnogwch fusnesau bychain yn hytrach na cwmniau enfawr fel Amazon y Nadolig hwn a sicrhewch eich bod yn siopa o fewn eich cyllideb. Dyma enghraifft o gynhyrchwyr lleol sydd yn gwerthu ar Esty ac ambell i syniad ar gyfer anrhegion Nadolig.

Battle Green Box - Mae’r busnes teuluol hwn o Gaernarfon yn gwerthu cynnyrch di-wastraff ac eco-gyfeillgar. Maent yn gwerthu eitemau unigol neu blychau rhodd mewn amrediad o brisiau. Byddai’n anrheg arbennig i unrhyw un sydd eco-ymwybodol neu i rywun sydd angen bod yn fwy eco-gyfeillgar.

Anna Gwenllian - Cynhyrchwr o Gaernarfon sydd yn gwerthu darluniau hyfryd, bagiau tote, llyfrau nodiadau, a chardiau gyda dyfyniadau a dywediadau Cymraeg a Saesneg. Maent wedi’u printio gyda llaw gan ddefnyddio inc eco-gyfeillgar ac yn rhesymol dros ben.

YR Candles - Mae’r stiwdio fach yma o Wlad yr Haf yn tywallt canhwyllau cwyr soi gyda’r bwriad o greu awyrgylch hamddenol yn y cartref, sydd yn berffaith ar gyfer y Nadolig eleni.

Sylwer: mae ‘na lawer o siopau a gwefannau sy’n cynnig cynnyrch o’r fath. Dydi’r ffaith eu bod yn cael eu crybwyll yn yr erthygl hon ddim yn golygu fod y Lab Cynaliadwyedd na’r Brifysgol yn eu cymeradwyo. Rhaid i chi gadarnhau’r wybodaeth dros eich hun.

Planhigyn y mis

Gan Natalie Chivers, Curiadur Gardd Fotaneg Treborth

Celyn

(Ilex aquifolium)

Nadoligaidd, taclus a phigog. Mae Celyn yn llwyn hoffus sy'n darparu gorchudd trwchus a chyfleoedd nythu da i adar, tra gall draenogod a mamaliaid bach ddefnyddio ei sbwriel dail dwfn, sych ar gyfer gaeafgysgu.

Mae'n gyffredin mewn coetir, prysgwydd a gwrychoedd, yn hapus yn tyfu yng nghysgod coed eraill, yn enwedig derw a ffawydd.

Dilynir y blodau bach, gwyn yn y gwanwyn gan yr aeron coch llachar nodweddiadol ar blanhigion benywaidd sydd wedi'u peillio.

Mae'r blodau'n darparu neithdar a phaill ar gyfer gwenyn a phryfed peillio eraill. Mae'r dail yn cael eu bwyta gan Glesyn y Celyn, ynghyd â gwyfynod amrywiol, gan gynnwys y Seraff Melyn, y Pwtyn Dwyresog a'r Tortics Celyn.

Mae'r aeron yn ffynhonnell fwyd hanfodol i adar yn y gaeaf, a mamaliaid bach, fel llygod coed a pathew.

Mae canghennau celyn wedi cael eu defnyddio ers amser i addurno cartrefi yn y gaeaf. Roedd y goeden yn cael ei hystyried yn symbol ffrwythlondeb ac yn swyn yn erbyn gwrachod, goblins a'r diafol. Credwyd ei bod yn anlwcus torri coeden celyn i lawr.

Mae Celyn yn tyfu'n hapus yn is-haen y coetir yng Ngardd Fotaneg Treborth a defnyddir rhai o'r dail a'r aeron yn ein gweithdai gwneud torchau Nadolig.

Llyfr y mis

Difficult Women: A History of Feminism in 11 Fights

Gan Helen Lewis

"Anaml y bydd hanes yn cydnabod menywod parchus" – Laurel Thatcher Ulrich

Mae’r menywod sy’n serenu fel "Menywod Anodd" yn llyfr Helen Lewis yn sicr yn byw lan i’r ymeimlad sy’n cael ei gyfleu yn y dyfyniad adnabyddus.

Drwyddi daw yn yr un bennod ar ddeg, mae Lewis yn cyflwyno ac yn trafod llu o fenywod wnaeth gofleidio achosion oedd yn agos at eu calonnau a chael bathodyn "Menyw Anodd" am eu trafferth. Wrth drafod pynciau sy’n amrywio o'r hawl i bleidleisio a'r hawl i chwarae pêl-droed i’r hawl am addysg ac erthyliadau diogel, mae Helen Lewis yn adrodd hanesion y menywod heriodd y drefn a thrwy wneud hynny sicrhau’r newidiadau y bydd llawer yn eu cymryd yn ganiataol erbyn hyn.

Mae rhai o'r enwau mwyaf adnabyddus yno – Christabel & Emmeline Pankhurst, Margaret Thatcher, Rosa Parks – ond mae’r awdur yn dewis treulio'r rhan fwyaf o'r llyfr ar straeon Menywod Anodd llai adnabyddus.

Dyna Lily Parr er enghraifft. Yn ferch yn ei harddegau oedd yn ysmygu’n drwm, daeth yn arloeswr pêl-droed menywod ar ddechrau'r 20fed Ganrif. A dyna Jayaben Desai, mewnfudwr i'r DU o Gudjarat, India, a arweiniodd streic ddwy flynedd dros amodau gwaith gweithwyr mewn labordy prosesu ffilmiau ger Llundain. A beth am Sophia Jex-Blak? Brwydrodd hi’n ddiflino am yr hawl i gymhwyso ac ymarfer fel meddyg mewn cyfnod (ar ddiwedd yr 19eg Ganrif) pan nad oedd menywod yn cael eu hystyried yn "naturiol addas" ar gyfer gwaith o'r fath ac nad oedd hawl ganddynt i astudio mewn unrhyw Ysgol Feddygol yn y Deyrnas Unedig. Ac mae yna fwy.

Mae Lewis yn cyfaddef nad oedd y menywod y mae wedi ysgrifennu amdanynt yn ddi-lychwyn na pherffaith. Maent hwy, fel pob un ohonom, yn bobl o gig a gwaed. Mae yma ddathlu eu penderfyniad a’u llwyddiannau ond mae'r llyfr hefyd yn cydnabod eu bod yn ‘wych, yn wael, yn gymysg oll i gyd’.

A ydych chi’n adnabod unrhyw ‘Fenywod Anodd’? Mae hanes yn frith o enghreifftiau o fenywod sydd wedi cael eu gwawdio a’u diystru a’u hystyried yn ‘anodd’; dyma’r rhai sydd wedi troi’r drol ar y status quo a llamu allan yn ddewr o hualau ymddygiad confensiynol, derbyniol i sefyll yn gadarn dros yr hyn mae nhw’n gredu.

Ôl – nodyn.

Beth yw “anodd”

Cyfystyron: Uchelgeisiol, Heriol, Penderfynol, Aruthrol

Neu

Cyfystyron: Problemus, Trafferthus, Afresymol, Ofnadwy

I'r rhai sy'n eu gwrthwynebu, mae "Menywod Anodd" yn fenywod sy'n sefyll drostynt eu hunain, eu hawliau a'u credoau yn cael eu pardduo fel "Anodd".

Mae ‘anodd’ yn y cyd-destun hwn gyfystyr ag ystod eang o nodweddion sy’n cael eu hystyried yn "annymunol" yn y rhyw deg; menwod uchel eu cloch, meistrolgar, yn camu’n fras, yn mynegi barn, yn ymroddedig ac yn gwthio’n ddi-flino at y nod.