Loading

Addroddiad Blynyddol WHELF 2015-16 Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Cyflwyniad y Cadeirydd

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod o newid, a hoffwn ddechrau fy nghroeso cyntaf ichi yn Gadeirydd WHELF trwy ddiolch i’m rhagflaenydd Sue Hodges am ei chyfraniad arwyddocaol i WHELF. Roedd Sue yn Gadeirydd gwych i WHELF a phenllanw hynny oedd ei chyflwyniad yn y Llyfrgell Brydeinig ym mis Ionawr 2017 yn rhan o raglen Llyfr Academaidd y Flwyddyn, ar gasgliadau arbennig – Trysorau Cymreig – WHELF.

Ar ran y grŵp, hoffwn ddiolch i Sue am ei hymroddiad yn ystod ei chyfnod gyda ni. Roeddem yn falch iawn hefyd y cafodd ei chydnabod am ei chyfraniad i’r proffesiwn llyfrgellyddol wrth iddi gael ei henwebu a’i rhoi ar restr fer ‘Llyfrgellydd y Flwyddyn Cymru’ yng nghynhadledd CILIP Cymru ym mis Mai 2017.

Cawsom ein tristáu o glywed am farwolaeth ein cyn gydweithreg a chyfaill Judith Agus ym mis Chwefror 2017. Judith oedd y Llyfrgellydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) rhwng 1995 a 2014 ac yn aelod gwerthfawr ac uchel iawn ei pharch o WHELF. Wedi iddi ymddeol o RWCMD derbyniodd Judith Fedal y Llywydd i gydnabod ei gwasanaeth hir a nodedig i’r Coleg. Roedd Judith yn dawel falch iawn o hyn, yn fwy felly am y gydnabyddiaeth i’r gwasanaeth Llyfrgelloedd nac iddi hi ei hun. Er cof am Judith, yn ein cyfarfod preswyl ym mis Mai yn Neuadd Gregynog, cawsom daith gerdded elusennol i gofio Judith, y byddai, a hithau’n gerddwraig frwd a chyson, yn sicr o fod wedi’i chymeradwyo.

Cynrychiolwyr WHELF yn Neuadd Gregynog, Mai 2017

Wedi ymddeoliad Sue ym mis Chwefror 2017, yr wyf i, gyda chefnogaeth wych gan Steve Williams (Is Gadeirydd), Julie Hart (Trysorydd) a gwaith campus ein Swyddog Datblygu Rachael Whitfield, wedi ceisio adeiladu ar 2015-16 lwyddiannus a chynhyrchiol.

Fel grŵp, cychwynnodd y flwyddyn ar wib wrth inni gwblhau a chyflwyno’n llwyddiannus y System Rheoli Llyfrgelloedd Cymru Gyfan: Alma a Primo, a farchnatwyd gan Ex Libris, ar draws yr holl aelod sefydliadau cyfranogol ac aeth Prifysgol Wrecsam Glyndŵr yn fyw mewn pryd ac ar darged ym mis Medi 2016. Roedd gweithredu system unedig a rennir yn gartref i fwy na 10 miliwn o gofnodion yn gam arall yn ein cynlluniau i ddatblygu gwir fanteision rhannu. O dan arweiniad Rheolwr Rhaglenni WHELF Gareth Owen ac wedi’i ariannu gan Jisc, comisiynwyd Cambridge Econometrics gan WHELF i gynnal gwerthusiad annibynnol o brosiect System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir Cymru-gyfan, er mwyn deall ac adnabod y manteision o gael fframwaith strwythuredig.

Yn ogystal â’r adroddiad, cynhyrchwyd hefyd dair astudiaeth enghreifftiol ragorol gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r adroddiad terfynol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 yn amlygu'r manteision meintiol ac ansoddol a brofodd WHELF, yn cynnwys:

• costau is ar gyfer prynu a chaffael y System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir

• system ansawdd uchel a manyleb uchel ar gyfer WHELF

• rhyngwyneb pen blaen ac ôl cwbl ddwyieithog

• rhannu arbenigedd i ddatblygu ffwythiannaeth

• gwell integreiddio gyda systemau TG eraill

• rhyngwynebau mwy hyblyg trwy ddarparu system seiliedig ar gymylau

• y teclynnau adrodd a dadansoddeg diweddaraf er mwyn symleiddio gweithlifau

• llwyfan ar gyfer cydweithio dyfnach ac ehangach ar draws WHELF.

Gwelwyd hefyd eleni ymrwymiad gan WHELF i ddatblygu ein staff ar draws yr holl aelod sefydliadau ac roeddem yn falch o allu cefnogi hyfforddiant a datblygiad i lawer yn gweithio yn y proffesiwn llyfrgelloedd a gwybodaeth trwy Gronfa Datblygu Staff WHELF. Roedd gweithdai a digwyddiadau hyfforddiant allweddol megis Gweithdy UX Libs (dan arweiniad yr arbenigwr o’r diwydiant Andy Priestner) dan ofal tîm Llyfrgelloedd PCYDDS (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), yn ddigwyddiad cofiadwy i lawer o aelodau WHELF, a bydd yn arwain at ragor o fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf ac sy’n agored i bawb.

Ym mis Mai 2017 cynhaliwyd cyfres o dri digwyddiad cyfochrog cefnogi Ymchwil WHELF ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe er mwyn creu proffesiwn sy’n agosach at ymchwilwyr, meithrin dealltwriaeth gliriach o gylch bywyd ymchwilydd ac edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o gefnogi ymchwil a chyfathrebu cynnig llyfrgell clir i ymchwilwyr. Llawer o ddiolch i bawb fu ynghlwm wrth y gwaith, ac yn enwedig felly gydweithwyr o is-grŵp Ymchwil WHELF am drefnu, croesawu a chyfrannu at y digwyddiadau pwysig hyn.

Llwyddwyd i gynnig mwy o gefnogaeth i’n staff yn 2016-17, a diolchwn i CILIP a CILIP Cymru, ynghyd â budd-ddeiliaid allweddol eraill megis Jisc, SCONUL ac SCL Cymru am eu cefnogaeth gyson i WHELF. Ar hyn, roedd Kristine Chapman (Amgueddfa Cymru) a minnau yn falch iawn o groesawu Nick Poole (CEO CILIP) i gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru, ym mis Ebrill 2017 i weithio ar feysydd o ddiddordeb cyffredin. Hefyd, i ymuno wedyn ag aelodau eraill WHELF yng nghynhadledd CILIP Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno ym mis Mai 2017 i edrych ar sut allwn barhau i weithio mewn partneriaeth fel WHELF gyda gwasanaethau llyfrgell cyhoeddus a sectorau llyfrgell eraill a Llywodraeth Cymru er budd holl ddefnyddwyr llyfrgelloedd.

Emma Adamson (Cadeirydd WHELF) gyda Nick Poole (Prif Weithredwr CILIP) a Kristine Chapman (Amgueddfa Cymru)

Gobeithiaf y cewch flas ar ddarllen yr adroddiad blynyddol hwn, ac y byddwch chithau hefyd yn sylwi ar y datblygiadau a’r prosiectau pwysig sydd ar waith ar hyd a lled WHELF. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n gweithio â ni yn 2016-17, ac yn enwedig felly i aelodau WHELF am eu ffocws, egni a syniadau sy’n parhau i fynd â ni yn ein blaenau. (Emma Adamson, Cyfarwyddydd Gwasanaethau Dysgu, Prifysgol De Cymru)

Y Flwyddyn yn Gryno

Ym mis Chwefror 2017, ymddeolodd Sue Hodges (Cyfarwyddydd Llyfrgelloedd ac Archifau) o Brifysgol Bangor a rhoddodd y gorau i fod yn Gadeirydd WHELF. Ymhen amser cawsom gyfle i groesawu Emma Adamson (Cyfarwyddydd Gwasanaethau Dysgu, Prifysgol De Cymru a chyn Is Gadeirydd WHELF) i rôl Cadeirydd WHELF ac etholwyd Steve Williams (Pennaeth Llyfrgelloedd, Archifau, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Abertawe) yn Is Gadeirydd newydd WHELF. Yn ei rôl newydd yn Gadeirydd WHELF, mae Emma wedi cychwyn ar “daith o WHELF”, a’i bwriad yw ymweld â phob un o’r sefydliadau gwahanol i gyfarfod â Chynrychiolwyr WHELF, eu timau ac aelodau is-grwpiau WHELF. Cymerodd Mairwen Owen (Pennaeth Gwasanaethau Academaidd) le Sue Hodges yn Gynrychiolydd WHELF o Lyfrgell Prifysgol Bangor. Wedi pedair blynedd yn Swyddog Datblygu WHELF, bydd Rachael Whitfield yn gadael WHELF ac yn cychwyn ar ei rôl newydd yn Uwch Lyfrgellydd Cyswllt Academaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Adnewyddiadau a datblygiadau llyfrgelloedd

Derbyniodd Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth gyllideb gyfalaf i adnewyddu llawr gwaelod Llyfrgell Hugh Owen. Cychwynnodd hyn yn ystod yr haf 2017 a chaiff ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2018. Bydd y prosiect adnewyddu yn ad-drefnu gosodiad yr adeilad a’r llif trwyddo, gan gynnwys agor rhai o’r ardaloedd “cefn swyddfa” i greu mwy o le i ddefnyddwyr, gwella’r goleuo, gwres ac awyru a diweddaru’r dodrefn a’r addurnwaith.

Yr ATRiuM, Prifysgol De Cymru

Cwblhawyd y gwaith o adnewyddu ac ehangu campws Caerdydd Prifysgol De Cymru (PDC) – ATRiuM – yn llwyddiannus ac mewn pryd yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2016/17. Erbyn hyn, ATRiuM yw’r prif gampws ar gyfer Cyfadran y Celfyddydau Creadigol, ac mae adnewyddu’r Llyfrgell wedi gwella’r llecynnau astudio a’r dechnoleg ar gyfer myfyrwyr a staff.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y llyfrgell newydd yng nghampws Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu cwblhau, ac fe sefydlwyd gweithgor o staff y llyfrgell i edrych yn fanwl ar gynllun mewnol a ffurfwedd yr adeilad / gwasanaethau. Gan weithio’n agos â thîm cyflawni’r prosiect, mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r llyfrgelloedd ar draws PCYDDS. Mae’r prosiect yn cadw at amser a bydd y llyfrgell newydd yn agor ym mis Gorffennaf 2018. Bydd y campws yn gartref newydd yn y lle cyntaf i’r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg a’r Gyfadran Addysg a Chymunedau fydd yn symud o gampysau Mount Pleasant a Townhill. Bydd ail gam y prosiect yn cynnwys y Gyfadran Busnes a Rheolaeth.

Ar ddiwedd 2017 bu Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn adnewyddu a gwella cynteddfa a llecyn llawr gwaelod Llyfrgell Llandaf, gan ddefnyddio rhai o’r syniadau a ddaeth o ddiwrnod hyfforddiant UX a gynhaliwyd gan Andy Priestner ym mis Hydref. Ychwanegwyd carpedi a goleuadau newydd cyn gosod byrddau newydd a chelfi ychwanegol i greu llecynnau astudio i grwpiau. Roedd hwn yn gyfle hefyd i’r Llyfrgell agor ei llawr gwaelod yn ei grynswth ar sail 24/7 (oedd ond ar gael yn y gynteddfa cyn hynny). Bu’r newidiadau yn hynod boblogaidd gyda myfyrwyr a gwelwyd cynnydd amlwg yn y defnydd a wneir o’r llecyn o fore gwyn tan nos.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ym Mhrifysgol Bangor, derbyniodd Tasglu Ceisiadau Cyfalaf y Brifysgol arian i adnewyddu’r ystafell gyfrifiadurol 24 awr yn llyfrgell Adeilad Deiniol, a chaiff rhai o’r llecynnau cyhoeddus eraill yn yr adeilad eu hadnewyddu hefyd.

Elwodd llyfrgell Maes y Ffynnon, Cyfoeth Naturiol Cymru o adnewyddiad yn dilyn cyfnod pan fu ar gau oherwydd bod dŵr yn gollwng. Unwaith y cwblhawyd y gwaith atgyweirio, gwahoddwyd staff ym Maes y Ffynnon i sesiwn wybodaeth anffurfiol 30-munud. Yn y sesiynau hyn cafodd staff gip ar gynllun newydd y llyfrgell (gan gynnwys llecynnau desg boeth / tawel newydd ), blas o’r adnoddau gwybodaeth ffisegol fydd ar gael, yr adnoddau electronaidd a’r adnoddau allanol fydd ar gael trwy bartneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chydweithrediadau.

Yn Amgueddfa Cymru , mae Prosiect Ail-ddatblygu Sain Ffagan yn agos at gael ei gwblhau. Cafodd y Prif Adeilad ei drosglwyddo, ac mae staff yn cychwyn y broses o osod yr orielau a chreu’r Ganolfan Darganfod Casgliadau, fydd yn cynnwys gwrthrychau, deunyddiau archif ac eitemau o’r llyfrgell. Hefyd, gwnaed llawer o waith ail-ddehongli yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, gan gynnwys ail-greu Llyfrgell wreiddiol y Sefydliad a’i wneud yn adeilad Dementia Weddus cyntaf yr Amgueddfa.

Y Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Systemau a phrosiectau

Llyfrgell Prifysgol Wrecsam Glyndŵr oedd aelod olaf consortiwm WHELF i fynd yn fyw gyda System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF fel rhan o garfan 3 ac ar ddechrau’r flwyddyn academaidd bu iddynt lansio System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir newydd WHELF a chyflwyno trefn gofrestru sengl ar yr un pryd. Cafodd y system rheoli llyfrgell newydd groeso cynnes gan staff a myfyrwyr (ceir mwy o fanylion am System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF yn yr adran ar Gydweithio isod).

Cwblhawyd prosiect gweithredu RFID Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Defnyddiasant fframwaith pryniannau ESPO ar gyfer datrysiadau RFID i’r Llyfrgell a rhoddwyd y contract i Bibliotheca. Cafodd y gwaith o dagio’r eitemau ei allanoli i The Tagging Team – cwmni rhyfeddol o effeithlon a dagiodd 145,500 eitem mewn 12 diwrnod, gan adael dim ond 16% o’r eitemau (oedd ar fenthyg) yn weddill i’w gwneud yn fewnol. Aeth campws Llandaf yn fyw ym mis Mehefin a dilynodd Cyncoed ym mis Awst. Bu’r adborth gan fyfyrwyr a staff yn gwbl gadarnhaol.

Ceisiodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru weld pob myfyriwr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd i amlygu newidiadau yn y llyfrgell yn dilyn gwaith adnewyddu a chyflwyno System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF. Helpodd hyn i wella gweladwyedd y llyfrgell ac arweiniodd at fwy o alw gan gyrsiau unigol am hyfforddiant llyfrgell arbenigol ar chwilio a chyfeiriadu effeithiol.

Cynhaliodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) ymarferiad ymgynghori helaeth yn gynnar yn 2017 ar ffurfio strategaeth newydd. Cwblhawyd a chyhoeddwyd “Cof y Genedl: Llunio’r Dyfodol: Cynllun Strategol 2017-2021” yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Hefyd, croesawodd y Llyfrgell Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i swyddfeydd newydd yn yr adeilad.

Yn rhan o strategaeth newydd Y Brifysgol Agored, Arwain Arloesi Digidol, cyflwynodd y Gwasanaethau Llyfrgell gais am arian yn rhan o brosiect DiSC (Sgiliau a Galluoedd Digidol). Dros dair blynedd bydd y prosiect yn datblygu nifer o adnoddau a dulliau gwahanol i dyfu galluoedd digidol staff Y Brifysgol Agored, Darlithwyr Cysylltiol, ymchwilwyr a myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd. Gwnaiff DiSC argraff gadarnhaol ar gadw, ymgysylltu, cymhelliad, lefelau cwblhau, cynnydd a bodlonrwydd myfyrwyr.

Er mis Ionawr 2017, bu Gwasanaethau Llyfrgell PDC yn peilota Rhith Sgwrs 24/7 yn llwyddiannus, trwy gyfrwng gwasanaeth tanysgrifio SCONUL ac OCLC . Cyflwynwyd y gwasanaeth Rhith Wasanaeth a chafwyd cynnydd yn yr ymateb rhwng 6pm - 8.30am gan nifer o ddefnyddwyr gwahanol, ac mae i bob pwrpas wedi datrys mater ymholiadau dros nos gan ddefnyddwyr ar y campws, rhan-amser, o bell a Ffransais. Bwriedir cynnal y peilot am weddill 2017, ac mae’n cael ei fonitro gan y tîm, er mwyn cynhyrchu adroddiad canol cyfnod a chyfrannu at benderfyniad ar y gwasanaeth ar gyfer 2018.

Ailstrwythuro

Cynhaliwyd adolygiad o strwythur staffio a disgrifiadau swydd y Gwasanaethau Llyfrgell presennol ym Mhrifysgol De Cymru yn ystod 2016/17 a dilynwyd hynny gan adolygiad o’r tîm Gwasanaethau Dysgu ehangach, gan gynnwys y Tîm Gyrfaoedd & Chyflogadwyedd a’r Tîm Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio. Yr amcan yn y pendraw oedd gallu cynnig gwell gwasanaethau i fyfyrwyr a staff, a moderneiddio rolau a’r mathau o swyddi. Mae PCYDDS hefyd wedi cynnal proses ail-strwythuro er mwyn harmoneiddio ymhellach y gwasanaethau a ddarperir wedi i’r sefydliadau uno.

Gwobrau

Enillodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Wobr Gwirfoddoli Archifau bwysig y DG ac Iwerddon a noddir gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion. Denodd cynllun y Llyfrgell “Ein Helpu ni i Gyflawni” gefnogaeth 65 o wirfoddolwyr i weithio ar brosiectau a 769 o wirfoddolwyr ar-lein eraill i gynorthwyo ym mhrosiect Cynefin, sy’n geo-gyfeirio mapiau degwm Cymru.

Enillodd dau o sefydliadau WHELF le eleni ar y rhestr fer yng nghategori Tîm Llyfrgell Arbennig Gwobrau Arweinyddiaeth & Rheolaeth y Times Higher Education eleni (THELMA). Roedd enwebiad Prifysgol Bangor yn seiliedig ar y gwaith ehangu mynediad ac ymgysylltu cyhoeddus a wnaed gan y Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd Prifysgol Abertawe eu henwebu hefyd, ac roedd eu cyflwyniad nhw yn adlewyrchu y rhan a chwaraeodd yr holl staff mewn newidiadau traws-wasanaeth a wnaed wrth baratoi ar gyfer agor Llyfrgell y Bae.

Enillodd y tîm Marchnata yn Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe Wobr Rhagoriaeth Marchnata Llyfrgelloedd Cymru 2017 (Gwobr Addysg Uwch) a noddwyd gan MALD (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru) am eu hymgyrch “Aseiniadau: Goroesi a Ffynnu” a gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Chwefror.

Cafodd Sue Hodges (sydd wedi ymddeol o swydd Cyfarwyddydd Llyfrgelloedd ac Archifau ym Mhrifysgol Bangor a chyn Gadeirydd WHELF) ei rhoi ar restr fer Gwobr Llyfrgellydd y Flwyddyn Cymru 2017 a ddethlir bob blwyddyn yn rhan o gynhadledd CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Gweithwyr Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Proffesiynol). Llongyfarchiadau i’r holl lyfrgellwyr a enwebwyd ar draws y sector. Enillydd y wobr oedd Wendy Foster (Rheolydd Gwasanaethau Gwybodaeth, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) a chyflwynwyd gwobr cyflawniad oes i Thomas Hywel James (Prif Lyfrgellydd, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd).

Rhagoriaeth Gofal Cwsmer

Cafodd llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe oll eu hail-achredu’n llwyddiannus eleni ar gyfer y Wobr Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmer. Llongyfarchiadau i bawb.

Cydweithio

System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir (LMS) WHELF

Yn dilyn y llwyddiant yn cyflwyno System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF yn y naw prifysgol yng Nghymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd GIG Cymru, aeth y prosiect i mewn i gam newydd yn 2016-17 i dyfu a datblygu’r llwyfan a rennir hwn er mwyn sicrhau cydweithio ehangach a dyfnach. Yn dilyn cyflwyno’r system, adnabu WHELF dri maes allweddol i’w datblygu; edrych ar bosibiliadau catalog a chatalogio a rennir, benthyca cilyddol a dadansoddeg. Cafodd y rhain eu ffurfioli’n brosiectau o dan gyfarwyddyd Gareth Owen (Rheolwr Rhaglenni System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF) ac roedd byrddau prosiect cysylltiol yn cyflawni’r gwaith. Gwnaed cynnydd ymhob maes. O ran datblygu’r maes prosiect ar gyfer catalog a chatalogio a rennir, ymunodd WHELF â cham 1 prosiect Cenedlaethol Sail Gwybodaeth Lyfryddol Jisc (NBK). Mae’r prosiect yn adeiladu ar wasanaeth presennol Copac er mwyn sicrhau y gellir darparu “catalog undeb” a rennir ar gyfer WHELF yn ogystal ag alinio ag amcanion WHELF ynghylch gwella darganfodwyedd, dadansoddeg a rennir a rheoli casgliadau. Hefyd, mae catalogwyr WHELF, gan adeiladu ar weithdy Gregynog ym mis Mawrth 2017, wedi datblygu nifer o dempledi catalogio cyffredin i’w defnyddio ar draws WHELF.

Cynhaliwyd ymarferiad samplo ledled WHELF ar draws y sefydliadau System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir er mwyn cytuno’r achos busnes ar gyfer cyflawni benthyca cilyddol. Hefyd, cafodd ffwythiannaeth ISO ei brofi ar draws nifer o sefydliadau. Bydd y casgliadau o’r ymarferiad samplo hwn a’r peilot ffwythiannaeth yn cael eu defnyddio wrth baratoi achos busnes i’w gyflwyno i Grŵp Llywio System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF. Cynhaliodd y Grŵp Prosiect Dadansoddeg weithdy yng Ngregynog ym mis Mawrth 2017 ac maent yn parhau i rannu arbenigedd a gwybodaeth yn WHELF trwy ddefnyddio eu gofod cydweithredol ar Yammer a thrwy sesiynau hyfforddiant ar-lein, ynghyd â chynhyrchu a rhannu adroddiadau ar draws sefydliadau.

Cafodd Cambridge Econometrics eu comisiynu, gyda chyllid gan Jisc, i gynnal gwerthusiad annibynnol o System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF Shared LMS er mwyn deall ac adnabod manteision fframwaith strwythuredig. Yn ogystal â’r adroddiad, cynhyrchwyd hefyd dair astudiaeth enghreifftiol ragorol gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r adroddiad terfynol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 yn amlygu'r manteision meintiol ac ansoddol a brofodd WHELF.

Lluniau gan Nathan Roser, Syd Wachs, Al-Nick / Unsplash

Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi cydweithio i gynhyrchu cytundeb fframwaith ar gyfer caffael datrysiad ar gyfer rheoli rhestri darllen. Cyhoeddwyd yr hysbysiad contract tendr 4 blynedd, gwerth tua £2 filiwn (ar sail cyfnod cytundeb cychwynnol o dair blynedd, gyda’r dewis i’w ehangu am gyfnod ychwanegol o 12 mis) ym mis Awst 2017 a bydd yn galluogi holl aelodau WHELF i droi at fframwaith y tendr o fewn y cyfnod amser pan mae angen iddynt adnewyddu, newid neu gaffael datrysiad ar gyfer rheoli rhestri darllen.

Mae WHELF hefyd yn aelod o’r llyfrgelloedd consortia cyfranogol yng Nghonsortiwm Prynu Prifysgolion y De (SUPC) ar gyfer cytundeb fframwaith er mwyn cyflenwi llyfrau, e-lyfrau a deunyddiau cysylltiol. Bydd deilliannau’r cytundeb yn nodwedd allweddol o waith WHELF yn 2017-18.

Ymchwil a Chasgliadau

Cynhaliwyd digwyddiad cadwraeth ddigidol a drefnwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2017 a darparodd fforwm ar gyfer trafodaethau gan WHELF ac ARCW (Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru) ar ofynion cadwraeth ddigidol a dangosodd y cynnydd sy’n cael ei wneud ar ddatrysiad seilwaith technegol ar gyfer ARCW. Roedd y sesiynau llai a gynhaliwyd ar ddiwedd y dydd yn gyfle i ddiffinio gofynion ar gyfer datblygu i’r dyfodol ymhellach ac mae WHELF yn chwilio am arian i gynnal astudiaeth ymarferoldeb er mwyn mapio potensial a gofynion cadwrfa a rennir ar gyfer casgliadau unigryw ac arwahanol WHELF.

Cymerodd Curadiaid, Llyfrgellwyr, Archifwyr a Chadwraethwyr o Amgueddfa Cymru ran yn nigwyddiad blynyddol Archwilio Eich Archifau a gynhaliwyd yn y brif neuadd yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd. Y thema eleni oedd ‘Menywod Rhyfeddol’, gan arddangos storïau llu o fenywod dewr, blaengar ac anorchfygol yr oedd ganddynt gysylltiadau â’r Amgueddfa. Roedd y deunydd hyrwyddo ar gyfer ymgyrch Archwilio Eich Archifau yn cynnwys delweddau a ddarparwyd gan Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Llwyddodd prosiect cydweithredol rhwng Coleg Castell-nedd Port Talbot ac Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe i dderbyn arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddefnyddio dyddiaduron Richard Burton i archwilio hanes cymdeithasol yr ardal. Bydd y prosiect ymgysylltu cymunedol hwn yn ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn paratoi pecyn adnoddau a bydd yn darparu hyfforddiant ar sgiliau digidol ac archifau.

Lansiodd Prifysgol Bangor Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ym mis Ionawr 2017. Mae’r Llyfrgell ac Archifau ym Mhrifysgol Bangor yn gartref i gasgliadau helaeth o ddeunyddiau Arthuraidd, gan gynnwys casgliad Arthuraidd Harries Sir Fflint a gyfrannwyd yn 2015. Dylid llongyfarch yr Archifau ar sicrhau Achrediad Archifau eleni.

Ysbrydolodd ymchwil a recordiadau sain o Lyfrgell y Glowyr De Cymru albwm cysyniadol gan Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ar hanes y diwydiant glo yng nghymoedd y De. Mae’r albwm, “Every Valley”, yn cynnwys recordiadau o atgofion cyn lowyr a chyrhaeddodd 10 uchaf Siart Albymau Swyddogol y DG.

Mae Llyfrgell Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi llofnodi cytundeb cydweithredu er mwyn creu pwynt mynediad at gasgliadau ac adnoddau digidol LlGC yng Nghaerdydd. Y pwynt mynediad hwn yw’r tro cyntaf erioed i wasanaethau LlGC gael eu darparu’r tu allan i Aberystwyth ac mae’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu gweithgareddau ymchwil gyda Phrifysgol Caerdydd. Bydd yr adnoddau ar gael i staff y brifysgol, myfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf

CC-BY LlGC

. Cynhaliodd Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn PCYDDS Llanbedr Pont Steffan arddangosfa arbennig i gyd-ddigwydd â 100 mlwyddiant y Somme. Mae’r arddangosfa, Coleg Dewi Sant a’r Somme yn coffáu’r aelodau hynny o Goleg Dewi Sant a wasanaethodd ym Mrwydr gyntaf y Somme ac na oroesodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwnaed yr ymchwil ar gyfer yr arddangosfa gan fyfyrwyr PCYDDS Llanbedr Pont Steffan oedd yn astudio modiwl gweithdy ymarferol Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol £3000 i Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd er mwyn gwneud gwaith cadwraeth ar lawysgrifau a llyfrau nodiadau’r bardd a nofelydd Edward Thomas. Maent hefyd yn ddiweddar wedi cynnal arddangosfa o beth o waith Thomas i goffáu canmlwyddiant ei farwolaeth. Bu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mrwydr Arras yn 1917. Ac ym Mhrifysgol Bangor bu’r Archifau & Chasgliadau Arbennig yn coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn gydag arddangosfa o’i farddoniaeth a’i lythyrau. Bu farw Hedd Wyn ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn 1917. Mae’r arddangosfeydd hyn yn cydweddu rhai o’r adnoddau sydd i’w gweld ar wefan Profiad o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r prosiect a ariannwyd gan Jisc wedi digideiddio a darparu ar-lein ffynonellau cynradd o Lyfrgelloedd, Casgliadau Arbennig ac Archifau Cymru (cymru1914.org).

Monica Galentino / Unsplash
CC-BY LlGC

Ymgysylltu

Ffurfiodd WHELF Grŵp Gwasanaethau Cwsmer newydd ym mis Ebrill 2017. Cadeirir y Grŵp gan Sarah Jones (Rheolydd Gwasanaethau Cwsmer, Llyfrgell Prifysgol Abertawe). Mae’r Grŵp yn ymgorffori aelodau cyn grŵp ALIS Cymru (Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Hygyrch) ac mae’n croesawu rhai aelodau newydd o sefydliadau WHELF. Mae’r grŵp wedi dechrau gweithio ar gadwrfa meincnodi er mwyn rhannu safonau gwasanaeth, DPA a helpu adnabod unrhyw safonau cyffredin.

Cynhaliwyd Colocwiwm Gregynog WHELF/HEWIT eleni o’r 12fed-16eg Mehefin ac fe’i trefnwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe. Thema’r Colocwiwm oedd “Eiriolaeth, Ymgysylltu a Phrofiad y Myfyriwr” a chroesawodd nifer o siaradwyr arweiniol gan gynnwys Michael Jubb i lansio adroddiad prosiect Llyfr Academaidd y Dyfodol a Nick Poole, Prif Weithredwr CILIP (Sefydliad Siartredig Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol). Mae’r Colocwiwm yn cael ei ystyried yn gyfle pwysig ar gyfer datblygu proffesiynol i staff llyfrgelloedd TG, rhannu profiad a rhwydweithio. Diolch i PCYDDS a Phrifysgol Abertawe am drefnu rhaglen amrywiol a llawn gwybodaeth.

Cynhaliwyd cynhadledd CILIP Cymru/Wales yn Llandudno, o’r 11eg-12fed Mai a’r thema oedd “Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol: gweithio tuag at well Cymru”. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cynrychiolwyr ar draws y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth, gan gynnwys aelodau WHELF oedd yn bresennol yn gynrychiolwyr a chyflwynwyr. Mae nifer o aelodau WHELF wedi cofrestru ar gyfer Cofrestriad Proffesiynol CILIP ar lefel Tystysgrif, Siarteriaeth a Chymrodoriaeth ac mae aelodau eraill yn Ail-ddilysu.

Ar ôl cael ei pheilota yn ystod 2015-16, roedd Cronfa Datblygu Staff WHELF yn gwbl weithredol yn ystod 2016-17 ac fe gefnogodd nifer o ddigwyddiadau hyfforddiant a gweithdai ar gyfer WHELF. Roedd y rhain yn cynnwys Gweithdy Rheoli Data Ymchwil dan ofal Andrew Cox (Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Wybodaeth, Prifysgol Sheffield); Sesiwn DysguCyfarfod Llyfrgell Prifysgol Bangor ar Sgiliau Cyflogadwyedd; diwrnod hyfforddiant catalogio a gynhaliwyd yn Neuadd Gregynog yn rhan o System Rheolaeth Llyfrgelloedd a Rennir WHELF; tri digwyddiad cyfochrog ledled Cymru ar lyfrgellwyr yn cefnogi cylch bywyd ymchwil; gweithdy UXLibs dan arweiniad Andy Priestner ac fe gefnogodd Beth Hall i fynychu cynhadledd CONUL (Consortiwm Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Phrifysgol) yn Galway i roi cyflwyniad am waith Grŵp Ymchwil WHELF.

Gellir cael mwy o wybodaeth am WHELF yn whelf.ac.uk/cy

Created By
R WHELF
Appreciate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.