Loading

Cliciwch yma neu sgrolio lawr | Click here or scroll down

www.UndebBangor.com

Gall y Ferch Hon | This Girl Can

Yr wythnos hon yw wythnos Gall y Ferch Hon, dyma fideo o ddwy fenyw anhygoel y mae chwaraeon ac ymarfer corff wedi cael effaith enfawr ar eu bywydau Bydd Maisie sy'n ddeiliad Ysgoloriaeth Prifysgol Bangor a Sioned a raddiodd o Brifysgol Bangor yn dweud mwy wrthych am sut mae chwaraeon wedi effeithio arnynt.

Heno bydd Rachel Taylor (Capten Rygbi Cymru) a Hannah Hughes (Athletwr Jiwdo Cymru) yn siarad am eu taith fel athletwyr a sut ddylanwadodd y cyfryngau arnyn nhw. Cofrestrwch yma.

I weld yr ystod lawn o ddigwyddiadau ac i archebu'ch lle am ddim mewn sesiynau ewch i'n gwefan.

This week is This Girl Can Week, here's a video of two amazing women which sport and exercise has had a massive impact on their life. Maisie who is a Bangor University Scholarship holder and Sioned who graduated from Bangor University will tell you more about how sport has impacted them.

This evening Rachel Taylor (Welsh Rugby Captain) and Hannah Hughes (Welsh Judo Athlete) will be speaking about their journey as athletes and how media influenced them. Click here to sign up.

To see the full range of events and to book your free place on sessions please go to our website.

Profiad Myfyrwyr

Fel eich Undeb Myfyrwyr, hoffwn ddeall sut brofiad dysgu mae ein myfyrwyr wedi derbyn dros yr Hydref.

Hoffwn ddeall pa agweddau o ddysgu cymysg sydd wedi gweithio i chi, beth sydd wedi bod yn heriol i chi, a beth sydd angen i’w gwella cyn y tymor nesaf. Bydd canfyddiadau’r arolwg yn gymorth i siapio trafodaeth polisïau, a bydd yn ein cyfarwyddo ar sut i gynrychioli eich llais i’r Brifysgol.

Bydd unrhyw un sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i ennill taleb anrheg Amazon gwerth £150.

Student Experience

As your Students' Union we want to understand the learning experience of our students this autumn.

We want to understand what aspects of blended learning have worked for you, what’s been more challenging, and what needs to improve now for the term ahead. The findings will help to shape the national policy debate, and inform how we represent your voice to the university.

Anyone who completes the survey will be entered into a prize draw to win £150 in Amazon vouchers.

Ymateb Undeb Bangor ac UMCB i’r achosion Busnes dros Newid

Mae'r Brifysgol yn profi heriau ariannol ar hyn o bryd, ac i fynd i'r afael â'r heriau hyn a cheisio gwneud arbedion mae'r Brifysgol wedi rhyddhau nifer o gynigion, sy'n cynnwys uno ysgolion arfaethedig ac ailstrwythuro, ymhlith pethau eraill.

Ymateb Undeb Bangor

Mae Undeb Bangor wedi llunio'r adroddiad hwn fel ymateb ffurfiol i'r achosion busnes arfaethedig dros newid. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ymateb y myfyrwyr ac Undeb Bangor i’r achosion busnes arfaethedig dros newid, ac fe’i llunnir o’r sylwadau, y pryderon a’r adborth a godwyd mewn nifer o sesiynau a gynhaliwyd gyda myfyrwyr o sawl cohort ar draws yr ysgolion. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu barn a theimladau myfyrwyr.

Ynghyd â'r adroddiad a anfonwyd at Bwyllgor Gwaith y Brifysgol roedd dogfen atodol sy'n cynnwys llythyrau, adborth, sylwadau a phryderon a gyflwynwyd yn uniongyrchol i Undeb Bangor, gan fyfyrwyr a oedd yn dymuno fod eu barn wedi eu gynnwys ochr yn ochr ag ymateb ffurfiol yr Undeb.

Ymateb UMCB

Mae Undeb Bangor ac UMCB, wedi gweithio gyda'i gilydd hefyd i lunio adroddiad gan UMCB sy'n canolbwyntio'n llawn ar yr iaith Gymraeg. Mae Undeb Bangor ac UMCB yn rhannu'r pryderon a amlinellir yn y ddau adroddiad.

Undeb Bangor and UMCB Response to Business Cases for Change

The University is currently experiencing financial challenges, and to tackle these challenges and try to make savings the University released a number of proposals, which include proposed School merges and restructuring, amongst other things.

Undeb Bangor Response

Undeb Bangor has compiled this report as a formal response to the proposed business cases for change. This report includes the students’ and Undeb Bangor’s response to the proposed business cases for change, and is compiled from the comments, concerns and feedback raised in numerous sessions held with students across many cohorts and schools. This report reflects the opinions and thoughts of the student body.

The report sent to the University Executive was also accompanied by a supplementary document containing letters, feedback, comments and concerns submitted directly to Undeb Bangor, from students who wished to have their views included alongside the SU formal response.

UMCB Response

Undeb Bangor and UMCB, have also worked together to compile an UMCB report which fully focuses on the Welsh language Undeb Bangor and UMCB share the concerns outlined in both reports.

Cynllun Peilot Mislif

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynllun peilot i ddarparu cynhyrchion mislif am ddim i'r holl fyfyrwyr sydd eu hangen!!

Gadewch inni ddilyn camau’r Alban a sicrhau mynediad at gynhyrchion sy’n anghenraid i’r rhai sydd â mislif. Maent yn hawl sylfaenol, nid moethusrwydd.

E-bostiwch josie.ball@undebbangor.com os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer y cynllun neu eisiau cymryd rhan drwyddo;

  • Mynychu grwpiau ffocws ar y math o gynhyrchion cyfnod y dylai'r cynllun eu darparu a lle yr hoffech gael mynediad atynt.
  • Rhannu syniadau ar logo / neges a graffeg ar gyfer yr ymgyrch.
  • Rhannu syniadau ar gyfer digwyddiadau, codi ymwybyddiaeth o'r cynllun a dulliau o hwyluso deialog agored i normaleiddio sgwrs o gwmpas cyfnodau.
Period Pilot Scheme

We're currently working on a pilot scheme to provide free period products for all students who need them!!

Let’s follow in Scotland's steps and secure access to products that are a necessity for those who have periods. They are a fundamental right, not a luxury.

Email josie.ball@undebbangor.com if you have any suggestions for the scheme or want to get involved through;

  • Attending focus groups on the type of period products the scheme should provide and where you would like to access them.
  • Sharing ideas on a logo/message and graphics for the campaign
  • Sharing ideas for events, raising awareness of the scheme and methods of facilitating an open dialogue to normalise conversation around periods
Movember UMCB

Rwy’n siwr bod pawb wedi gweld ei fod hi’n fis Movember (neu Tashwedd i ddefnyddio’r term Cymraeg) mis yma, lle mae dynion ledled y wlad ac ar draws y brifysgol yn tyfu mwstash er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd trafod iechyd dynion. Mae myfyrwyr UMCB wedi bod yn gwneud llawer hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth dros agwedd pwysig iawn yn ein gymdeithas ni heddiw.

Taclo’r Tabŵ

Rydym wedi cynnal 3 sesiwn trafod anffurfiol, yn benodol i ddynion, ar iechyd meddwl dros Zoom. Cafwyd niferoedd da yn y ddwy sesiwn cyfrwng Cymraeg, efo pawb yn ymroi i’r drafodaeth. Bydd sesiwn cyfrwng Saesneg arall yn cael ei gynnal nos Sul 29ain o Dachwedd o 6-8y.h. Mae croeso i unrhyw ddynion ymuno yn y sesiwn, trwy dilyn y linc yma.

Rydym wedi gweld datblygiad mawr yn barod ar barodrwydd dynion ifanc i siarad am eu teimladau yn agored efo eraill – sef bwriad y sesiynau yma. Fydd y sesiynau yma’n parhau ar ôl mis yma, efo trefniadau yn barod yn cael eu gosod.

Marathon y Cymric

Ar ddydd Sadwrn 21ain, wnaeth 9 aelod o UMCB fynd ati i drio rhedeg marathon er mwyn tynnu sylw tuag at ein ymgyrch! Fe wnes i, Mabon Dafydd, Luke Steele, Deio Jones, Rhydian Williams, Dafydd Eryl a Ryan Jones llwyddo i redeg y Marathon, oedd yn cychwyn tu allan JMJ, cyn mynd trwy Bethesda, i fyny Mynydd Llandygai, ar hyd straights Deiniolen, draw i Fethel, lawr i Felinheli ac yna ar hyd y Fenai tan gorffen tu allan î’n ail-gartref y Glôb. Llwyddodd Huw Geraint Jones a Guto Alun Jones i redeg hanner marathon hefyd, ond yn anffodus bu’n rhaid i’r ddau dynnu allan o ganlyniad i anaf, ond braf gweud nad oedd yr anafiadau’n ddifrifol ac mae’r ddau yn iawn.

Bu criw o fechgyn a merched hefyd yn cefnogi ni wrth redeg y marathon yn dod a dŵr, jelly babies, bananas a ddigon o Deep Heat(!!!) inni ar y ffordd, ac heb eu cefnogaeth nhw fyddai wedi bod llawer annoddach i gwblhau’r sialens, sydd yn atgyfnerthu’r delwedd o’r gymuned ydy UMCB.

Codi Arian

Ni hefyd wedi bod yn codi arian ar gyfer yr ymgyrch trwy tudalen Chwaraeon y Cymric. I’r rhai oedd yn ymwybodol o’r mullet arbennig oedd gennai ar ôl y cyfnod clô, wel hwnna oedd y gymhelliant cyntaf i geisio denu pobol i gyfrannu. Ar ôl codi £500 o fewn 4 diwrnod, roedd yn rhaid ei thorri hi i ffwrdd (rhyddhad i lygadau llawer mae’n rhaid dweud). Er mwyn trio codi £1,000, wnaeth criw mawr o fechgyn gaddo i liwio’u gwallt yn blonde ar ôl cyrraedd y targed. O fewn 3 diwrnod, roedd y targed wedi’i chwalu, ac felly os welwch chi fechgyn yn cerdded o gwmpas Bangor efo pennau melyn (er bod y mwyafrif yn fwy sinsir nâ blonde) yna peidiwch â cael ofn.

Echddoe wnaethon ni basio £2,000 o bunnoedd wedi’i godi, ac ar adeg ysgrifennu’r neges yma rydym bellach ar £2,112.

Efo’r Nadolig yn agosau, â’r sefyllfa yn un annodd, dwi’n deal fod arian yn gallu fod yn rhywbeth prin ar hyn o bryd. Ond os fyddai unrhyw un awydd cyfrannu unrhyw rhodd tuag at yr ymgyrch ac at y gwaith caled mae’r myfyrwyr wedi bod yn gwneud i dynnu sylw at rhywbeth pwysig iawn iawn iawn ar hyn o bryd, fydden ni wir yn ei werthfawrogi.

Gallwch gyfrannu trwy’r linc yma.

UMCB Movember

I'm sure everyone has seen that it's Movember (or Tashwedd to use the Welsh term) month this month, where men across the country and across the university are growing mustaches to raise awareness of the importance of discussing men's health. UMCB students have also been doing a lot to raise awareness of a very important aspect in our society today.

Tackling the Taboo

We have held 3 informal discussion sessions, specifically for men, on mental health over Zoom. Both Welsh-medium sessions were well attended, with everyone engaged in the debate. Another English medium session will be held on Sunday 29th November from 6-8pm. Any men are welcome to join the session, by following this link.

We have already seen a great development in young men's willingness to talk openly about their feelings to others - which was the purpose of these sessions. These sessions will continue after this month, with arrangements already in place.

The Cymric Marathon

On Saturday 21st, 9 members of UMCB set about running a marathon to highlight our campaign! Mabon Dafydd, Luke Steele, Deio Jones, Rhydian Williams, Dafydd Eryl, Ryan Jones and I ran the Marathon, which started outside JMJ, before passing Bethesda, up Mynydd Llandygai, along the Deiniolen straights, across to Bethel, down to Felinheli and then along the Menai Straits until finishing outside the Glôb. Huw Geraint Jones and Guto Alun Jones also managed to run a half marathon, but unfortunately both had to pull out due to injury, but it's nice to say the injuries weren't serious and both are fine.

A group of boys and girls also supported us in running the marathon bringing us water, jelly babies, bananas and plenty of Deep Heat (!!!), and without their support it would have been much harder to complete the challenge, which reinforces the image of the community that is UMCB.

Raising money

We have also been raising money for the campaign through the Chwaraeon y Cymric page. For those who were aware of the 'amazing' mullet i grew over the lockdown, that was the first motivation to try to get people to contribute. After raising £ 500 within 4 days, I had to cut the mullet off (relief to many eyes I must say). To try and raise £ 1,000, a large group of boys pledged to dye their hair blonde after reaching the target. Within 3 days, the target was smashed, so if you see boys walking around Bangor with yellow heads (though most are more ginger than blonde) then don't be scared.

Yesterday we passed £ 2,000 pounds raised, and at the time of writing this post we are now at £ 2,112.

With Christmas approaching, I understand that money can be a little scarce at the moment. But if anyone would like to donate any donations to the campaign and to the hard work the students have been doing to highlight something very, very important right now, we would really appreciate it.

You can donate via the link here.

Mae’r Rhodd Mawr yn brosiect dan arweiniad myfyrwyr sy'n casglu rhoddion bwyd ar gyfer Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae'n ffordd wych i'ch clwb, prosiect gwirfoddoli neu gymdeithas gymryd rhan a helpu yn y gymuned - yn ystod yr amseroedd heriol hyn mae eich rhoddion yn bwysicach nag erioed.

Byddwn yn casglu rhoddion dydd Iau hwn yng nghaffi Academi 2-5yp a dydd Gwener 3:30-5:30yp y tu allan i Bar Uno.

Fel arall, rydyn ni'n gweithio gyda Morrisons, codwch “bag rhoddion bwyd” - wrth y ddesg dalu, gadewch iddyn nhw wybod eich bod chi'n rhoi i'r Rhodd Mawr ar ran Undeb Bangor. Os gwnewch rodd, cymerwch hunlun gyda'ch rhodd a thagiwch ein cyfryngau cymdeithasol!

The Big Give is a student led project collecting food donations for the Bangor Cathedral. It's a brilliant way for your club, volunteering project or society to get involved and help out in the community - in these challenging times your donations are more important than ever.

We’ll be collecting donations this Thursday in the Academi café 2-5pm and on Friday 3:30-5:30 outside Bar Uno.

Alternatively, we’re working with Morrisons, pick up a “food donation grab bag” – at the checkout, let them know you’re donating to the Big Give on behalf of Undeb Bangor. If you make a donation, take a selfie with your donation and tag our social media!

Diolch am ddarllen! | Thanks for Reading!

Created By
Richard Glyn
Appreciate