Loading

Cliciwch yma neu sgrolio lawr | Click here or scroll down

www.UndebBangor.com

Neges Groeso gan eich Undeb Myfyrwyr

Ni yw Undeb Bangor, eich Undeb Myfyrwyr. Rydyn ni yma i'ch cynrychioli chi yn ystod eich amser yma trwy ein 4 Swyddog Sabothol etholedig a oedd unwaith yn fyfyrwyr hefyd!

Rydym yn gwbl ymwybodol y bydd eleni yn wahanol i bob blwyddyn arall, byddwn yn parhau i ddarparu ein gwasanaethau ar-lein gan gynnwys ein gwasanaeth cyngor academaidd, a'n cefnogaeth gynrychiolaeth lawn, gan gynnwys cynrychiolwyr cwrs, a thrwy ein grwpiau, a arweinir gan fyfyrwyr, bydd gweithgareddau yn digwydd ar-lein, ac yn y cnawd ar y campws os yn bosibl, a byddant yn dilyn canllawiau y llywodraeth. Rydyn ni wedi gorfod addasu sut rydyn ni'n gweithio, yn debyg iawn i weddill y byd.

Ar gyfer ein holl ddigwyddiadau, cymdeithasau a digwyddiadau clybiau chwaraeon ewch draw i'n hadran digwyddiadau ar ein gwefan ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein holl weithgareddau a diweddariadau gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Welcome Message from your Students’ Union

We are Undeb Bangor, your Students’ Union. We’re here to represent you during your time here through 4 elected Sabbatical Officers who were recently students as well!

We’re fully aware that this year is going to be different from all others, we will continue to provide our services online including our academic advice service, and our full representation support, including course reps, and through our student-led groups, activities will take place online, and in-person if possible and will follow government guidance. We have had to adapt how we work much like the rest of the world.

For all our events, societies and club events head over to our events section on our website and to keep up to date with all our activities and updates make sure you follow us on social media.

Etholiadau Cyngor Myfyrwyr

Mae y Cyngor Myfyrwyr yn gorff o gynrychiolwyr myfyrwyr etholedig sy’n bodoli i drafod syniadau, cynnal ymgyrchoedd, cymeradwyo polisïau Undeb Bangor a chynrychioli myfyrwyr ledled y Brifysgol. Bob blwyddyn, mae Cynghorwyr newydd yn cael eu hethol. Os oes gennych ddiddordeb mewn sefyll, gallwch enwebu'ch hun ar gyfer un o'r nifer o swyddi a chyflwyno'ch maniffesto trwy wefan Undeb Bangor. Mae'r enwebiadau'n rhedeg o'r 21ain o Fedi i'r 2il o Hydref. Mae sefyll am swydd Cyngor Myfyrwyr yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i brofiad y myfyriwr a gwneud newidiadau cadarnhaol ar draws y Brifysgol. Mae rhai cynghorwyr hefyd yn cynrychioli myfyrwyr Bangor yn genedlaethol, pan fyddant yn gwasanaethu fel ein cynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr!

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac tudalen enwebiadau.

Student Council Elections

The Student Council is a body of elected student representatives that exist to debate ideas, run campaigns, approve Undeb Bangor’s policies and represent students across the University. Every year, new Councillors are elected. If you’re interested in running, you can nominate yourself for one of the many positions and submit your manifesto through the Undeb Bangor website. Nominations run from the 21st of September to the 2nd of October. Running for a Student Council position is a great chance to make a difference to the student experience and make positive changes across the University. Some councillors also represent Bangor students nationally, when they serve as our National Union of Students delegates!

Click here for more info and nominations page.

Cymdeithasau

Eleni bydd pethau ychydig yn wahanol, ond mae pob un o'n pwyllgorau cymdeithas wedi gweithio'n galed iawn i addasu eu grwpiau i sicrhau eu bod o fewn y canllawiau.

Gyda dros 100 o wahanol gymdeithasau i ymuno â, rydych chi wedi'ch difetha'n llwyr o ran dewis gwneud yr hyn rydych chi'n ei garu! Yn gyfan gwbl dan arweiniad myfyrwyr ac yn cael eu rhedeg gan fyfyrwyr, mae ein cymdeithasau yn amrywio o gymdeithasau academaidd-gysylltiedig fel y Gymdeithas Fioleg a'r Gymdeithas Sŵoleg, cymdeithasau sy'n seiliedig ar ddiddordeb fel y Gymdeithas Sci-Fi a Ffantasi a'r Gynghrair Hapchwarae, cymdeithasau sy'n gysylltiedig â diwylliant / hunaniaeth. fel y Gymdeithas Affricanaidd-Caribïaidd a'r Gymdeithas LGBT+, cymdeithasau cyfryngau fel ein papurau newydd Seren ac Y Llef, a llawer mwy.

Dyma'r lle gorau i wneud ffrindiau o'r un anian, cymryd rhan yn yr hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo, dysgu sgiliau newydd, a gwneud atgofion gwych. Y peth gorau yw - maen nhw i gyd am ddim i ymuno! Gallwch ddod o hyd i restr o'n holl Gymdeithasau yma.

Societies

This year things will be a little different, but all of our society committees have worked really hard in adapting their groups to ensure that they are within the guidelines.

With over 100 different societies to join, you’re absolutely spoiled for choice in doing what you love! Entirely student-led and student-run, our societies range from academic-related societies such as the Biology Society and the Zoology Society, interest-based societies such as the Sci-Fi & Fantasy Society and the Gaming League, cultural / identity-related societies such as the African-Caribbean Society and the LGBT+ Society, media societies like our Seren and Y Llef newspapers, and much more.

It’s the best place to make like-minded friends, get involved in what you’re interested in, learn new skills, and make great memories. The best thing is – they’re all free to join! You can find a list of all our Societies here.

Gwirfoddoli

Os ydych chi wrth eich bodd yn cymryd rhan yn y gymuned leol, yn helpu pobl, ac eisiau ennill profiad gwaith hanfodol, Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) yw'r peth i chi! Ein gwirfoddolwyr yw’n harwyr di-glod o’r gymuned fyfyrwyr, gan ddechrau ac arwain prosiectau sy'n effeithio ar sawl agwedd ar y byd o'n cwmpas, o'r amgylchedd i'r gymuned leol, ac sy'n helpu amrywiaeth eang o bobl o'r henoed i blant difreintiedig, yn ogystal â ymuno â sefydliadau fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a Headway i helpu cleifion ar y ffordd i wella.

Yn bwysicaf oll, mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn canolbwyntio ar helpu ein myfyrwyr eu hunain! Mae prosiectau fel Cyswllt@Bangor a Cerdded a Siarad hefyd wedi'u sefydlu gan fyfyrwyr i helpu myfyrwyr eraill i wneud ffrindiau, rhoi cynnig ar bethau newydd, a theimlo bod croeso iddynt ac ei bod yn teimlo’n rhan o Fangor yn ei chyfanrwydd. Gallwch ddod o hyd i restr o'n holl brosiectau Gwirfoddoli yma.

Volunteering

If you love getting involved in the local community, helping people, and gaining essential work experience, Student Volunteering Bangor (SVB) is the thing for you! Our volunteers are the unsung heroes of the student body, starting and leading projects that impact multiple aspects of the world around us, from the environment to the local community, and help a wide variety of people from the elderly to disadvantaged children, as well as teaming up with organisations such as the National Health Service (NHS) and Headway to help patients on the road to recovery.

Most importantly, our volunteers also focus on helping our students themselves! Projects such as Connect@Bangor and Walk & Talk have also been set up by students to help other students to make friends, try new things, and feel welcome and part of Bangor as a whole. You can find a list of all our Volunteering projects here.

Clybiau Chwaraeon - Undeb Athletau

Mae 60+ o glybiau chwaraeon ar gael yn Undeb y Myfyrwyr, rydym yn cynnal goruchwyliaeth o’i hyfforddiant a’u cyllid, mae pob un o’n clybiau chwaraeon am ddim i ymuno ac mae hynny’n rhywbeth sy’n unigryw iawn i Fangor ynddo’i hun. Yn aml fe welwch y Fyddin Werdd ac Aur enwog yn rhedeg o amgylch y ddinas yn eu cit VX3 enwog. Gyda sesiynau clwb yn cael eu cynnal ar draws ein tri cyfleuster chwaraeon, mae yna rywbeth i bawb gymryd rhan ynddo, p'un a ydych chi'n edrych i gynrychioli'r Brifysgol yn BUCS neu chwarae chwaraeon cystadleuol neu gymryd rhan yn y clybiau yn gymdeithasol, mae yna rywbeth i bawb. Mae Clybiau a Chymdeithasau Bangor wedi ennill gwobrau, ac felly wedi ei gwobrwyo y Clybiau a Chymdeithasau Gorau yng ngwobrau WhatUni am dair blynedd yn olynol, gydag amserlen brysur iawn, nid yw'r Undeb Athletau byth yn mynd heb i neb sylwi, gyda rhai o'r uchafbwyntiau gan gynnwys Varsity - sef ein cystadleuaeth flynyddol yn erbyn Aberystwyth ar draws 50+ o chwaraeon, mae rhywbeth at ddant pawb, felly cymerwch ran yn yr UA. Gallwch ddod o hyd i restr o'n holl Glybiau yma.

Sports Clubs – Athletics Union

There’s 60+ sports clubs available in the Students’ Union, we maintain the oversight of the training and their finances, all of our sport clubs are completely free to join and that’s something that very unique to Bangor in itself. You’ll often see the renowned Green and Gold Army running around the city in their famous VX3 kit. With club sessions taking place across our three sport facilities, there’s truly is something for everyone to get involved with, whether your looking to represent the University in BUCS or play competitive sport or get involved with the clubs socially, there’s truly is something for everyone. Bangor’s Clubs and Societies are award winning, and thus have attained the WhatUni Best Clubs and Societies for three years running, with a very busy schedule, the Athletic Union never goes unnoticed, with some of the highlights including Varsity – which is our annual showdown against Aberystwyth across 50+ sports, there really is something for everyone, so do get involved with the AU. You can find a list of all our Clubs here.

Cynrychiolwyr Cwrs

Gyda blwyddyn newydd daw Cynrychiolwyr Cwrs newydd!

Cynrychiolwyr cwrs yw'r myfyrwyr sydd ar flaen y gad, sy'n ymladd am newidiadau cadarnhaol sy'n effeithio ar eich profiad academaidd ac sy'n hanfodol i sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed gan y Brifysgol.

Mae bod yn gynrychiolydd cwrs yn rhoi cyfle i chi weithio gyda'ch ysgol ac Undeb y Myfyrwyr i wella profiad myfyrwyr, gwneud newidiadau i'ch cwrs a'ch cwricwlwm, a chynnal digwyddiadau i'ch carfan.

Gallwch ddod o hyd i lwyth o wybodaeth am sut beth yw bod yn gynrychiolydd cwrs a pham y dylech chi gymryd rhan yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gynrychiolydd cwrs, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw clicio yma. Mae'r cyfnod cofrestru ar agor tan ddydd Sul, Hydref y 4ydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch coursereps@undebbangor.com.

Course Reps

With a new year comes new Course Reps!

Course reps are the students at the forefront, fighting for positive changes that affect your academic experience and are essential to make sure the student voice is being heard and listened to by the University.

Being a course rep gives you an opportunity to work with both your school and the Students’ Union to improve the student experience, make changes to your course and curriculum, and put on events for your cohort.

You can find loads of information about what it’s like to be a course rep and why you should get involved, by clicking here.

If you’re interested in becoming a course rep, all you need to do is click here to sign up. The sign up period is open until Sunday, October the 4th.

If you have any questions just email coursereps@undebbangor.com.

Cadwch yn Saff

Hoffai Undeb Bangor atgoffa myfyrwyr o pa mor bwysig yw hi i gadw'n ddiogel yn ystod yr amser yma. Dylai pob aelod o'n cymuned myfyrwyr gymryd cyfrifoldeb personol i helpu i atal lledaeniad COVID-19 trwy ddilyn canllawiau y Brifysgol a'r Llywodraeth a sicrhau campws diogel ac iach, mae hyn yn cynnwys pellhau cymdeithasol ar draws campysau’r Brifysgol, ac yn y gymuned ehangach. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf am y gofynion a'r arweiniad sy’n newid yn gyson a gyhoeddir gan y Brifysgol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ganllawiau Brifysgol yma a rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch a cadw o fewn eich aelwydydd yma.

Os oes gennych symptomau Covid-19, mae’n rhaid i chi hunan-ynysu, a gwneud defnydd o’r cyfleuster profi. Os ydych chi'n profi'n bositif mae'n rhaid i chi hysbysu'r Brifysgol trwy'r ddolen hon.

Mae angen i bob un ohonom barchu eraill ac ymddwyn gydag urddas gan gymryd rôl gadarnhaol wrth annog eraill i ddilyn unrhyw ganllawiau. Ein pryder mwyaf yw eich lles a'ch diogelwch chi, felly cadwch at y cyngor hwn a cadwch yn saff.

Keep Safe

Undeb Bangor would like to remind students of how important it is to stay safe during this time. All members of our student community should take personal responsibility to help stop the spread of COVID-19 by following University and Government guidance on ensuring a safe and healthy campus, this includes social distancing across our campuses, and in the wider community. It’s important that you keep up to date with the changing requirements and guidance issued by the University. You can find more information about the University guidelines on their FAQ here and some useful information around keeping within your households here.

If you have Covid-19 symptoms, please self-isolate, and access the testing facility. and if you test positive you must inform the University through this link.

We all need to respect others and behave with dignity and take a positive role in encouraging others to follow any guidelines. Our biggest concern is your welfare and safety, so please do stick to this advice and keep safe.

Diolch am ddarllen! | Thanks for Reading!

Created By
Richard Glyn
Appreciate