Loading

Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu Testun gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu.

Mae'r cynllun Bathodynnau Glas yn darparu trefniant cenedlaethol ar gyfer gosod consesiwn parcio i bobl anabl, ac fe'i cynhelir ar draws y DU

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun yng Nghymru, ond fe'i gweinyddir gan awdurdodau lleol unigol, sef yr awdurdodau sy'n darparu'r bathodynnau.

Tan yn ddiweddar roedd dau wahanol gategori cymhwysedd i'r bathodynnau glas. Gall rhai pobl dderbyn bathodyn glas yn awtomatig, ac mae’r bobl hyn yn ‘gymwys heb asesiad pellach’. Os nad ydynt yn bodloni’r maen prawf angenrheidiol, gall unigolyn fod yn gymwys ‘yn amodol ar asesiad pellach’. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r meini prawf cymhwystra wedi cael eu hymestyn i bobl sydd â namau gwybyddol, yn ogystal â’r rheini sy’n dioddef o anafiadau neu salwch sylweddol dros dro.

Mae bathodynnau glas yn achubiaeth i ystod eang o bobl yn ein cymdeithas

Hebddynt, byddai llawer o’r bobl hyn yn ei chael hi’n anodd sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol, gan gynnwys mynd i apwyntiadau meddygol. Byddai’n anodd iddynt fynd i siopa a defnyddio cyfleusterau hamdden, a byddai hynny’n cyfyngu ar eu gallu i fyw bywydau annibynnol.

Mae trefniadau gwahanol yn y 22 o gynghorau sy’n bodoli yng Nghymru wedi arwain at anghysonderau o ran gweithredu ledled y wlad. Dylai’r dasg o fynd i’r afael â’r mater hwn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a hynny er mwyn sicrhau bod pawb yn cael gwasanaeth o ansawdd, waeth ble maent yn byw.

Yr hyn a wnaeth y Pwyllgor

Sut y gwnaethoch chi helpu i lywio gwaith y Pwyllgor

Bu’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws i gael clywed sylwadau a phrofiadau deiliaid bathodynnau glas cyfredol/blaenorol, darpar ymgeiswyr posibl am fathodyn glas, y rheini a gafodd eu ceisiadau wedi’u gwrthod, gofalwyr a staff perthnasol mewn cynghorau.

Trefnwyd 12 grŵp ffocws ledled Cymru gan gynnwys 102 dinesydd o bum rhanbarth y Cynulliad. Trefnwyd grwpiau ffocws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Ceredigion, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro, Powys ac Abertawe. Cafwyd cyfranwyr o nifer o sefydliadau a grwpiau perthnasol gan gynnwys Age Cymru, Gofalwyr Cymru, Credu, Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru a’r Gymdeithas MS, yn ogystal â fforymau anabledd a grwpiau mynediad yn Arfon, Ceredigion, Sir y Fflint, Trefyclo a Phowys. Gofynnwyd am gyfranwyr eraill drwy fideo byr yn egluro’r ymchwiliad, a hyrwyddwyd ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cynulliad.

Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg, gan lywio sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC, ynghyd â chasgliadau’r Pwyllgor a’r argymhellion a wnaeth i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad.

Gallwch ddarllen y safbwyntiau, y profiadau a'r syniadau a rannwyd yn y 12 grŵp ffocws drwy ddarllen ein nodyn cryno isod.

"Yn benodol, hoffwn ddiolch i gyfranogwyr â phrofiad byw a ddaeth i gyfarfodydd ein grŵp ffocws. Denwyd niferoedd uwch i’r cyfarfodydd hyn nag i’r cyfarfodydd a gynhaliwyd gennym mewn unrhyw un o’n meysydd gwaith blaenorol, sy’n dangos pwysigrwydd bathodynnau glas a’u heffaith." John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chumunedau
Ken Skates AC, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn ystod sesiwn dystiolaeth olaf y Pwyllgor yn y Senedd ar 1 Mai 2019.

Yn ogystal â chysylltu â phobl ledled Cymru yn ystod y grwpiau ffocws, clywodd y Pwyllgor hefyd gan nifer o randdeiliaid allweddol o’r sector. Cyflwynodd ambell un dystiolaeth ysgrifenedig a/neu gyfrannu mewn sesiynau tystiolaeth lafar yn y Senedd.

Tystion Ofal Canser Tenovus, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, Cymorth Canser Macmillan Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr ail sesiwn dystiolaeth yn y Senedd ar 4 Ebrill 2019.

Yr hyn a glywsom

Cymhwystra ar gyfer Bathodyn Glas

Bathodynnau glas a budd-daliadau lles: Clywsom farn gymysg ar y cysylltiad rhwng cymhwystra ar gyfer bathodyn glas a’r system fudd-daliadau, gyda’r rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau yn mynegi rhywfaint o bryder. Codwyd pryderon gan rai rhanddeiliaid, yn enwedig ynghylch newidiadau i’r system Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) sy’n effeithio ar hawl awtomatig unigolyn i gael bathodyn glas ac ynghylch oedi wrth setlo apeliadau yn erbyn penderfyniadau PIP.

Pobl â namau gwybyddol: Yn dilyn argymhelliad gan adolygiad arbenigol o’r cynllun yn 2013, ehangwyd y meini prawf cymhwystra i gynnwys pobl â nam gwybyddol. Daeth y rheoliadau sy’n ehangu’r meini prawf cymhwystra i rym ym mis Rhagfyr 2014, ynghyd â chanllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol. Yn gyffredinol, croesawodd rhanddeiliaid yr estyniad i gynnwys pobl â namau gwybyddol, er bod rhai yn cwestiynu a oedd digon o ymwybyddiaeth o’r newid, ymhlith y rhai sy’n gymwys a’r rhai sy’n asesu ceisiadau.

Bathodynnau dros dro: Ar 1 Hydref 2016, yn dilyn argymhelliad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Bathodyn Glas ehangwyd cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru i gynnwys y rhai sy’n dioddef anafiadau neu salwch dros dro ond sylweddol. Dan y cynllun estynedig, mae bathodynnau glas yn cael eu rhoi am flwyddyn i bobl sydd “yn analluog i gerdded neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded oherwydd anabledd dros dro ond sylweddol y mae disgwyl iddo bara am gyfnod o 12 mis o leiaf”. Nodwyd Cymru bryder ynghylch lefel ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch bathodynnau dros dro,

Estyniadau pellach i’r meini prawf cymhwystra: Clywsom alwadau am estyniadau pellach i’r meini prawf cymhwystra er mwyn galluogi pobl sy’n byw gyda rhai cyflyrau i ddefnyddio bathodyn glas.

Gofalwyr: Awgrymodd Cymdeithas Alzheimer’s Cymru y dylai Llywodraeth Cymru ystyried gofalwyr mewn unrhyw adolygiad o’r canllawiau a’r meini prawf ar gyfer gwneud cais am fathodyn glas. Eglurodd nad yw’r canllawiau cyfredol i awdurdodau lleol yn crybwyll eu bod yn gwneud cais am fathodynnau glas, naill ai drostynt eu hunain neu ar ran rhywun y maent yn gofalu amdano/amdani. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth arbennig i ofalwyr, a sut y gallant helpu’r rhai sy’n byw gyda dementia drwy’r broses hon, pan fydd yn datblygu ac yn adnewyddu canllawiau.

Ein barn

Argymhelliad 1: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r meini prawf cymhwystra ar gyfer bathodyn glas. Dylai’r adolygiad ystyried a oes amodau pellach a ddylai olygu bod rhywun yn gymwys yn awtomatig i dderbyn bathodyn glas, a yw’r broses ar gyfer cynnal asesiad pellach yn ddigon cadarn i ymateb i anghenion amrywiol y rhai sy’n gwneud cais, ac a yw anghenion y rhai sy’n cael diagnosis canser yn cael eu diwallu’n ddigonol.

Argymhelliad 2: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y trefniant presennol o gyflymu ceisiadau gan y rhai sydd â diagnosis terfynol yn dod yn orfodol.

Argymhelliad 3: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau bod rôl gofalwyr wrth wneud cais am fathodyn glas ar ran y person y maent yn gofalu amdano/amdani yn cael ei wneud yn glir.

Argymhelliad 4: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio opsiynau ar gyfer cyflwyno cynllun parcio dan gonsesiwn, ar wahân i gynllun y bathodyn glas, er mwyn diwallu anghenion y rhai sydd angen mynediad cyflym i amwynderau, megis gofalwyr, y rheini sydd â phroblemau anymataliaeth a’r rhai sy’n dioddef nam dros dro y disgwylir iddo bara llai na 12 mis, heb effeithio ar argaeledd mannau parcio ar gyfer y rhai sydd â phroblemau symudedd.

Argymhelliad 5: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod eglurder y gall sefydliadau cymwys wneud cais am fathodyn glas yn eu rhinwedd eu hunain. Dylai’r canllawiau nodi, pan fydd sefydliad yn bodloni’r meini prawf o ofalu am bobl sy’n gymwys a’u cludo, yna dylai’r sefydliad hwnnw allu cael ei fathodyn glas ei hun, yn hytrach na dibynnu ar fathodynnau unigolion.

Yr hyn a glywsom

Y broses asesu

Rôl tystiolaeth feddygol a gweithwyr meddygol proffesiynol yn y broses asesu: Pan fydd yn ofynnol i ymgeisydd gael asesiad pellach i benderfynu a yw’n gymwys, bydd yr awdurdod lleol yn edrych ar dystiolaeth o anabledd yr unigolyn i ddod i benderfyniad. Yn y gorffennol mae’n bosibl bod meddyg teulu’r ymgeisydd wedi cynnal yr asesiad symudedd annibynnol. Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd y Gweinidog (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y pryd) na fyddai gan feddygon teulu rôl ffurfiol bellach yn y gwaith o asesu a yw unigolyn yn gymwys i gael Bathodyn Glas. Clywodd y Pwyllgor y dylid derbyn ystod o dystiolaeth broffesiynol, gan gynnwys tystiolaeth gan feddyg teulu, ymgynghorydd, gweithiwr cymdeithasol neu therapydd galwedigaethol.

Model Meddygol neu Gymdeithasol o Anabledd: Awgrymodd Cyngor Gwynedd bod y broses asesu bresennol yn dilyn y model meddygol o anabledd, yn hytrach na’r model cymdeithasol o anabledd, gan ei bod yn canolbwyntio ar allu’r ymgeisydd i gerdded, yn hytrach na gofyn sut y gallai bathodyn glas ganiatáu i’r ymgeisydd barhau i fyw’n annibynnol. Gwnaethom archwilio hyn gyda rhanddeiliaid eraill. Dywedodd Anabledd Cymru wrthym y dylai’r broses ddilyn y model cymdeithasol o anabledd, trwy ganolbwyntio ar y rhwystrau sy’n wynebu’r ymgeisydd, yn hytrach na’r cyflwr meddygol.

Cymhwysedd a gwybodaeth aseswyr: Clywsom bryderon gan rai rhanddeiliaid am gymhwysedd a gwybodaeth rhai o’r rhai sy’n cynnal yr asesiadau pellach. Amlygodd Anabledd Cymru anghysondebau yng ngwybodaeth a dealltwriaeth aseswyr ar draws awdurdodau lleol, gyda rhai termau fel “cerdded” ac “anhawster sylweddol wrth gerdded” yn cael eu diffinio neu eu barnu’n wahanol mewn gwahanol awdurdodau lleol.

Rôl profiad personol yn y broses asesu: Awgrymodd rhai y byddai cynnwys profiad personol pobl sydd ag anableddau a gwybodaeth uniongyrchol o gynllun y Bathodyn Glas yn gwella’r broses asesu.

Apelio ar benderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol: Mynegodd nifer o bobl bryderon am nad yw’n gyfreithiol ofynnol i awdurdodau lleol fod â gweithdrefn ar gyfer proses apelio, gan argymell y dylid cyflwyno un.

Ein barn

Argymhelliad 6: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i nodi y dylid rhoi ystyriaeth gyson a phriodol i wybodaeth a ddarperir gan weithwyr proffesiynol priodol i gefnogi hawliad ymgeisydd am fathodyn glas.

Argymhelliad 7: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol i nodi’n glir bod yr holl staff sy’n ymgymryd ag asesiadau bathodyn glas yn cael eu hyfforddi i ddeall y model cymdeithasol o anabledd ac i’w rhoi ar waith.

Argymhelliad 8: Rydym yn cefnogi argymhelliad 8 a wnaed gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ei adroddiad ar ddatblygu trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol, y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu’r Papur Gwyn nesaf ar y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth. Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae’n rhagweld rôl i’r rhai sydd â phrofiad personol o system y bathodyn glas wrth sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos eu bod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Argymhelliad 9: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i ddiwygio Adran 21 Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi proses “ailystyried” neu “adolygu” mewn lle i ymdrin ag ymgeiswyr sy’n dymuno herio penderfyniad yr awdurdod ar gais am fathodyn glas. Dylai’r diwygiad i’r Ddeddf honno gynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau statudol ar fanylion y broses.

Argymhelliad 10: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i ddiwygio Adran 21 Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu proses genedlaethol ffurfiol ar gyfer apelio i ymdrin â’r rheini sy’n anfodlon â chanlyniad eu hapêl gychwynnol. Dylai’r diwygiad i’r Ddeddf honno gynnwys pŵer i wneud rheoliadau ar fanylion y broses, gan gynnwys pa gorff ddylai fod yn gyfrifol am ymdrin â’r apeliadau.

Yr hyn a glywsom

Anghysondebau wrth weithredu cynllun y Bathodyn Glas ar draws Cymru

Anghysondebau ar draws Cymru: Cododd nifer o randdeiliaid bryderon ynghylch anghysondebau wrth weithredu’r cynllun ar draws awdurdodau lleol. Mae’n amlwg bod anghysondebau o hyd o ran gweithredu, gyda’r holl randdeiliaid yn mynegi rhwystredigaeth. Lleisiodd Tenovus ei siom ynglŷn â’r hyn a ystyriodd yn amrywiaeth enfawr, o gyngor i gyngor, yn y ffordd o asesu a phrosesau gweinyddol cynllun y bathodyn glas.

Camau ymarferol i fynd i’r afael ag anghysondebau: Mynegodd Cymdeithas Alzheimer’s Cymru bryderon ynghylch natur ddewisol dyfarnu bathodyn glas i’r rhai nad ydynt yn gymwys yn awtomatig, sy’n golygu nad oes dull cyson ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.

Proses adnewyddu bathodyn glas: Clywsom dystiolaeth ar faterion yn codi mewn perthynas ag adnewyddu bathodynnau glas, yn enwedig mewn perthynas â chyflyrau iechyd gydol oes neu ddirywiol. Nododd Anabledd Cymru anghysondebau o ran adnewyddu, gan nodi bod rhai o’i aelodau sydd â chyflyrau iechyd a / neu namau hirdymor yn gorfod cael asesiad llawn. Dywedodd y byddai’n croesawu dyfarnu bathodynnau am gyfnod hwy na thair blynedd i adlewyrchu’r ffaith na fydd cyflwr yn gwella os oes gan unigolyn gyflwr iechyd neu nam hirdymor cynyddol.

Ein barn

Argymhelliad 11: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o ddiwygio Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i alluogi cyhoeddi canllawiau statudol mewn perthynas â chynllun y Bathodyn Glas, a chymryd y camau angenrheidiol i weithredu newid o’r fath. Dylai hyn gynnwys ystyried a ellir ehangu cwmpas y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus, y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno, i gynnwys y newid angenrheidiol a’r newidiadau yr ydym wedi’u cynnig yn argymhellion 9 a 10, neu a ddylid cyflwyno Bil ar wahân i gyflawni hyn.

Argymhelliad 12: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sefydlu gweithgor statudol o gynrychiolwyr awdurdodau lleol ar gyfer cynllun y Bathodyn Glas. Ar ôl ei sefydlu, dylai’r grŵp gyfarfod yn rheolaidd i rannu gwybodaeth ac arfer da wrth roi’r cynllun ar waith. Dylai’r grŵp gynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad personol o’r cynllun er mwyn sicrhau y caiff barn y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ei chynrychioli.

Argymhelliad 13: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu proses i alluogi’r rheini sy’n dioddef o gyflwr gydol oes neu ddirywiol i adnewyddu eu bathodyn glas yn awtomatig, heb asesiad pellach. Byddai’r gweithgor yr ydym wedi argymell y dylid ei sefydlu yn fforwm amlwg i hwyluso trafodaethau o’r fath.

Yr hyn a glywsom

Gorfodi

Y graddau y caiff y bathodyn glas ei gamddefnyddio yng Nghymru: Trafododd y rhai a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws y cwestiwn a oes camddefnydd helaeth o’r Cynllun yng Nghymru, a mynegwyd barn gymysg. Rhannodd rhai cyfranogwyr hanesion am ffrindiau a/neu aelodau teulu deiliaid bathodynnau yn defnyddio’r bathodyn pan nad oedd y deiliad yn y cerbyd, ond roedd eraill heb weld unrhyw gamddefnydd. Siaradodd y cyfranogwyr am gadw golwg i weld a oedd llefydd yn cael eu defnyddio gan bobl gymwys. Dywedodd:

“Cyn i fy mab gael ei eni, wnes i ddim cymryd llawer o sylw. Allwch chi ddim barnu, ond rydyn ni i gyd yn gwneud. Mi fydda i’n edrych ar rai pobl ac yn meddwl ‘Ydyn nhw’n anabl?’. Rydw i wedi gweld rhai pobl yn parcio mewn lle parcio hygyrch cyn hercio i mewn i’r siop ar un goes, a hercio allan ar y llall.”

Trafododd llawer o’r cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws ganfyddiad, gan egluro, er ei bod yn bosibl bod rhai pobl yn camddefnyddio’r cynllun, nad yw’r farn bod problemau helaeth o reidrwydd yn adlewyrchu’r realiti:

“Rwy’n credu ei fod yn ymwneud mwy â chanfyddiad. Rwy’n credu bod nifer y bobl sy’n ei gamddefnyddio yn fach yn ôl pob tebyg, ond mae’n fater mor danbaid fel ei fod yn cael mwy o sylw.”

Gwella gorfodaeth: Awgrymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y dylai cynorthwywyr parcio neu wardeniaid traffig allu sganio cod bar ar flaen bathodyn glas i gael gafael ar wybodaeth y deiliad. Gallai’r wybodaeth fod ar “gerdyn deallus” y gellid ei gysylltu â’r gofrestr ganolog i weld a yw bathodyn wedi dod i ben, wedi cael ei adrodd ar goll neu wedi’i ddwyn, neu heb ei ddychwelyd ar ôl marwolaeth y deiliad. Awgrymodd Anabledd Cymru y dylai wardeniaid traffig fod yn fwy llym wrth orfodi, a dylai swyddogion yr heddlu fod yn fwy gweithredol.

Ein barn ni

Argymhelliad 14: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu mecanwaith ar gyfer casglu data swyddogol ar gamddefnyddio bathodynnau glas sy’n benodol i Gymru er mwyn deall graddfa’r broblem yng Nghymru yn well.

Argymhelliad 15: Rydym yn argymell y dylai’r Gweinidog roi diweddariad i’r Cynulliad erbyn Gorffennaf 2020 ar sut y mae camddefnyddio bathodynnau glas wedi gwella o ganlyniad i fod gan bob awdurdod lleol swyddogion gorfodi sifil mewn lle.

Argymhelliad 16: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio opsiynau ar gyfer ehangu’r ystod o gosbau a roddir i’r rhai sydd wedi’u cael yn euog o gamddefnyddio’r system bathodyn glas, hyd at a chan gynnwys y posibilrwydd o roi pwyntiau cosb.

Yr hyn a glywsom

Cymorth, cyngor a gwybodaeth

Cywirdeb, hygyrchedd ac argaeledd gwybodaeth: Dywedodd Anabledd Cymru fod cyngor a gwybodaeth anghywir yn cael eu rhoi i ymgeiswyr, yn enwedig am y meini prawf cymhwystra ar gyfer bathodyn glas. Pwysleisiodd ei dystiolaeth pa mor bwysig yw bod pob ymgynghorydd ac asesydd yn ymwybodol o’r meini prawf cymhwystra cyfredol, er mwyn sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn cael y wybodaeth gywir ac y caiff asesiadau eu cwblhau yn gywir.

Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd (yn enwedig o gyflyrau “cudd”) a herio gwahaniaethu: Dywedodd Age Cymru mai cymharol isel yw ymwybyddiaeth y cyhoedd o gymhwystra am fathodyn glas, ac o’r estyniadau i’r meini prawf. Roedd yn credu bod hyn yn cyfrannu at gamdybiaethau am ddeiliaid bathodynnau sy’n dod allan o’u ceir heb unrhyw nam corfforol amlwg y gellir ei weld. Nododd NAS Cymru dystiolaeth anecdotaidd bod y rhai ag anableddau cudd, fel awtistiaeth, yn teimlo eu bod yn cael eu barnu neu y gwahaniaethir yn eu herbyn am ddefnyddio’r cynllun.

Ffioedd: Nododd Anabledd Cymru, Tenovus a Chyngor Gwynedd eu cefnogaeth barhaus i fathodynnau glas am ddim yng Nghymru.

Dyluniad, argaeledd a lleoliad mannau parcio Bathodyn Glas: Dywedodd rhai deiliaid bathodyn unigol, ynghyd ag Anabledd Cymru, fod llawer o’r mannau parcio dynodedig i bobl anabl yn rhy fach, ac nad ydynt yn rhoi digon o le i’r rhai sydd â phroblemau symudedd, neu’r rhai sy’n defnyddio cadair olwyn neu sgwter symudedd, iddynt fynd i mewn ac allan o’r car yn ddiogel.

Symbol y bathodyn glas: Amlygodd Anabledd Cymru broblemau o ddefnyddio delwedd o ddefnyddiwr cadair olwyn ar y bathodyn glas ei hun. Awgrymodd fod hyn yn atgyfnerthu rhagdybiaethau ymysg y cyhoedd mai dim ond ar gyfer y rhai sydd mewn cadair olwyn y mae’r bathodyn, yn hytrach nag ar gyfer pobl ag ystod eang o anableddau. Roeddent o’r farn y dylid newid y symbol am ddelwedd fwy cynhwysol.

Ein barn ni

Argymhelliad 17: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i weithio gydag awdurdodau lleol a chyrff iechyd i hyrwyddo’r llyfryn “Pwy sy’n Gymwys am Fathodyn Glas?” trwy sicrhau bod copïau caled ar gael mewn lleoedd mae pobl yn mynd i gael gwybodaeth, fel llyfrgelloedd, canolfannau “hyb” awdurdodau lleol, Cyngor ar Bopeth a lleoliadau iechyd.

Argymhelliad 18: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’i llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’i llyfryn “Pwy sy’n gymwys am Fathodyn Glas?”.

Argymhelliad 19: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu at awdurdodau lleol i’w hatgoffa o bwysigrwydd ystyried y canllawiau ar barcio hygyrch yn Manual for Streets a Parking for Disabled People pan fyddant yn bwrw ymlaen â pholisi cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau cynllunio. Dylid hefyd annog awdurdodau lleol i ymgynghori â grwpiau hygyrchedd i sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i anghenion pobl anabl wrth wneud penderfyniadau.

Gwneud gwahaniaeth

The Committee would like to express its sincere thanks to everyone who took the time to share their experiences, views and ideas during the inquiry. Your views make a difference and help better inform the Committee's work.

Darllennwch yr adroddiad llawn

Deallwch mwy am ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru a chlywed yr hyn oedd gan bobl i'w ddweud.

The Chamber at the National Assembly for Wales.

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a copyright violation, please follow the DMCA section in the Terms of Use.