Mae ymchwiliad y Pwyllgor, 'Llais cryfach i Gymru', ar fin dod i ben. Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiynau tystiolaeth olaf ar 25 Medi 2017.
Bydd y Pwyllgor yn rhannu ac yn profi ei ganfyddiadau cychwynnol o'r ymchwiliad gyda'i banel dinasyddion a phanel arbenigol yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn cyflwyno adroddiad yn nes ymlaen yn nhymor yr hydref.
Mae'r dystiolaeth a gafwyd wedi adlewyrchu effaith gadael yr UE ar ddatganoli, sef blaenoriaeth arall y Pwyllgor y tymor hwn. Cynhaliodd y Pwyllgor seminar ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 18 Medi 2017, a ddaeth â rhanddeiliaid o bob cwr o'r DU at ei gilydd i drafod goblygiadau Bil yr UE (Ymadael) Llywodraeth y DU. Cynhaliodd y pwyllgorau sesiwn dystiolaeth ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Robin Walker AS, Is-ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ar 6 Tachwedd, i drafod y Bil ymhellach.
Fel rhan o'i waith mae'r Pwyllgor wrthi'n ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr UE (Ymadael), ac mae wedi lansio ymchwiliad i'r Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth. Daw'r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 30 Tachwedd 2017.
Yn ogystal, mae'r Pwyllgor hefyd yn craffu ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a'r Bil Isafbris am Alcohol (Cymru), ynghyd â'i waith arferol yn ystyried is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Pwyllgor wedi parhau i graffu'n fanwl ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) y tymor hwn. Cyflwynwyd 156 gwelliant, a gafodd eu trafod gan y Pwyllgor. Roedd nifer o'r gwelliannau y cytunwyd arnynt yn rhoi grym i nifer o argymhellion Cyfnod 1 y Pwyllgor, gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn ymrwymo i gyflwyno rhagor o welliannau yng Nghyfnod 3 i roi grym i argymhellion eraill y Pwyllgor. Mae’r gwaith deddfwriaethol arall a gyflawnwyd yn cynnwys craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Canllawiau a Hawliadau Ariannol Llywodraeth y DU, y disgwylir cynnal dadl arno cyn y Nadolig.
Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru ar 17 Hydref. Roedd dros 40 o randdeiliaid yn bresennol, a disgrifiad Mind Cymru o'r adroddiad oedd "rhagorol a thrylwyr". Ar Twitter, disgrifiwyd fideo byr y Pwyllgor am ei waith fel 'enghraifft hyfryd o ddull hygyrch o gyfleu canfyddiadau'. Hefyd, gorffennodd y Pwyllgor y gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon – cyhoeddir ei adroddiad cyn y Nadolig.
Yn ystod y tymor nesaf bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth lafar ar ei ymchwiliad i wella iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac yn ymgynghori o ran ei ymchwiliad yn fuan i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol.
Yn dilyn haf prysur yn lansio dau adroddiad, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd' a 'Y llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a lansio ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru, cytunodd y Pwyllgor ar raglen waith lawn ar gyfer tymor yr hydref.
Bu'r Aelodau'n ymweld â Solcer House, tŷ ynni cyntaf y DU sy'n gadarnhaol o ran carbon, a lansiodd ymchwiliad y Pwyllgor: 'Tai carbon isel: yr her'. Yn ogystal â chlywed tystiolaeth lafar ar gaffael bwyd, ymwelodd yr Aelodau â phroseswyr bwyd ledled Cymru i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd. Cynhaliodd y Pwyllgor weithdy hefyd i glywed safbwyntiau rhanddeiliaid ar Bolisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru a bu'n hwyluso cyfarfodydd y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid Hinsawdd.
Yn nes ymlaen, bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd. Cyn diwedd y tymor, bydd y Pwyllgor hefyd yn ymweld â phwyllgorau tebyg iddo yn yr Alban a Llundain i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys Brexit, a bydd yn cynnal ymchwiliad byr i ynni cymunedol.
Yn ystod toriad yr haf cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ddyfodol S4C, 'Tu allan i'r bocs' . Mae argymhellion yr adolygiad bellach yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad o S4C a gynhelir gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU.
Mae'r Pwyllgor nawr yn ystyried materion allweddol o'i ymchwiliad i Newyddiaduraeth Newyddion yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor hefyd wedi cytuno, ar wahoddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i ymgynghori ar sut y dylid defnyddio'r dyraniad o £100,000 yn y gyllideb ar gyfer y maes hwn.
Mae'r Pwyllgor wedi lansio dau ymchwiliad newydd y tymor hwn yn edrych ar yr Amgylchedd Hanesyddol a chyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau. Mae'r rhain yn parhau, fel ei ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati, lle mae'r Pwyllgor yn ystyried gofyn am ragor o wybodaeth gan ysgolion.
Mae'r Pwyllgor hefyd wedi cynnal ymchwiliad byr i'r Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru, a ddenodd rhywfaint o ddadlau cyhoeddus yn ystod yr haf. Mae'r Pwyllgor ar hyn o bryd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ryddhau rhagor o wybodaeth cyn ystyried y camau nesaf.
Mae'r Pwyllgor hefyd wedi cynnal sesiynau craffu cyffredinol gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Gan ragweld y cyflwynir Bil newydd ar gyfer y Gymraeg y flwyddyn nesaf, cafodd y Pwyllgor frîff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer y Bil a bennwyd yn y Papur Gwyn 'Taro'r cydbwysedd iawn: Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg'.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o ran y gyllideb.
Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Seilwaith Digidol Cymru ym Mead Farm yn Caldicot ar 20 Medi. Mae'r fferm yn defnyddio cysylltedd digidol i fonitro a thracio lles a ffrwythlondeb gwartheg. Mae'r Pwyllgor wedi cael tystiolaeth sy'n ymwneud â masnach, twristiaeth a hyfforddiant/addysg ar gyfer ei ymchwiliad Gwerthu Cymru i'r Byd, gan gynnwys trafodaethau gyda chynrychiolwyr gwledydd bach eraill y tu allan i'r UE ynghylch sut y maent hwy yn gwneud pethau. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi arwain dwy ddadl yn y Cyfarfod Llawn – un ar y fasnachfraint rheilffyrdd a'r Metro, ac un arall ar effaith tagfeydd ar wasanaethau bws. Hefyd ymwelodd yr aelodau â depot Treganna, i weld sut mae'r gweithredwyr rheilffyrdd yn paratoi ar gyfer yr hydref.
Cyn y Nadolig, bydd y Pwyllgor yn craffu ar y gyllideb, Comisiynydd Traffig Cymru, a gwaith Gyrfa Cymru. Bydd hefyd yn adolygu'r cynnydd ar adfywio canol trefi bum mlynedd ers gwaith y pwyllgor a'i rhagflaenodd yn y maes hwn. Bydd yn galw am dystiolaeth wrth i'r Pwyllgor fynd ati i graffu'n fanwl ar y Ddeddf Teithio Llesol.
Yn ystod rhan gyntaf tymor yr hydref, mae'r Pwyllgor wedi parhau i gymryd tystiolaeth ar gyfer ei waith ar dlodi yng Nghymru. Mae wedi clywed gan nifer o dystion am wneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. Anelir at orffen y gwaith hwn ym mis Tachwedd, gyda sesiwn dystiolaeth ar y cyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Mae'r Pwyllgor wedi gorffen ei waith craffu Cyfnod 2 ar y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), ac yn sgil hynny diwygiwyd y Bil i weithredu argymhelliad allweddol a wnaed yn Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor.
Er mwyn llywio ei waith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 mewn perthynas â llywodraeth leol a chymunedau, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Trysoryddion Cymru ar y pwysau a'r blaenoriaethau ym maes llywodraeth leol yng Nghymru.
Wedi i'r Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gael ei atgyfeirio iddo ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Bydd gweddill tymor yr hydref yn cael ei neilltuo'n bennaf i gael tystiolaeth ar gyfer ei waith craffu ar y Bil.
Bu hwn yn dymor prysur iawn i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Mae'r Pwyllgor wedi gwneud cryn dipyn o waith ar y Bil Ymadael â'r UE a'i oblygiadau i Gymru, gan gynnwys digwyddiad llwyddiannus i randdeiliaid, sesiwn dystiolaeth, a drafftio diwygiadau i'r Bil sydd bellach wedi'u cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae'r Pwyllgor yn parhau â'i ymchwiliad i wydnwch a pharodrwyd: ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit, ar ôl cael tystiolaeth a chynnal digwyddiadau i randdeiliaid yng Ngorllewin De Cymru a Dwyrain De Cymru. Mae'r Pwyllgor bellach yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r allbwn o'r ymchwiliad.
Bu Cadeiryddion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn bresennol mewn fforwm rhyng-seneddol yn San Steffan ar 12 Hydref 2017, a lluniwyd datganiad ar y cyd. Ymwelodd y Pwyllgor hefyd â Brwsel ar gyfer nifer o gyfarfodydd, gan gynnwys un gyda Mr Michel Barnier, Prif Negodwr Tasglu Erthygl 50.
Yn ystod y tymor hwn hefyd, ffurfiwyd Is-bwyllgor ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a fydd yn cymryd tystiolaeth yng Nghyfnod 1 y Bil. Daeth ymgynghoriad yr Is-bwyllgor ar y Bil i ben ar 13 Tachwedd 2017.
Bydd y Pwyllgor yn craffu ar berfformiad a pharatoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit gyda Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol, a bydd yn cynnal sesiwn graffu gyda'r Prif Weinidog y tymor hwn.
Mae'r Pwyllgor yn parhau i fonitro Brexit ac mae'n cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd wrth i'r broses o ymadael â'r UE fynd rhagddi.
Treuliodd y Pwyllgor llawer o'i amser yn ystod tymor yr hydref i ganolbwyntio ar graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. Yn sgil Deddf Cymru 2014 mae gweithdrefnau newydd wedi'u cyflwyno i graffu ar y gyllideb. Mae'r Pwyllgor yn canolbwyntio ei waith craffu ar y gyllideb ddrafft amlinellol, gan gynnwys sut y mae'n cyd-fynd â pholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Am y tro cyntaf, mae'n rhaid iddo ystyried y rhagolygon o ran trethiant wrth baratoi ar gyfer gweithredu'r pŵer datganoledig dros drethi ym mis Ebrill 2018. Fel rhan o'r gwaith craffu ar y gyllideb yn yr hydref, mae'r Pwyllgor hefyd yn ystyried cynlluniau gwariant Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ym mis Hydref 2017, cyflwynodd y Pwyllgor ei Fil cyntaf – Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Bydd y Cadeirydd, gan mai ef yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, yn mynd gerbron y Pwyllgor Cydraddoldeb Llywodraeth Leol a Chymunedau fel rhan o'r gwaith craffu ar y Bil.
Mae'r Pwyllgor yn ymgynghori â rhanddeiliaid ar ei ymchwiliad i'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio a bydd yn cael tystiolaeth lafar yn y flwyddyn newydd. Hefyd yn y flwyddyn newydd, bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro'r paratoadau ar gyfer datganoli cyllidol trwy wahodd tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Awdurdod Refeniw Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, HMRC a'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r Pwyllgor hefyd yn y broses o recriwtio Archwilydd Cyffredinol newydd i Gymru, gan fod yr Archwilydd Cyffredinol presennol yn ymadael ym mis Gorffennaf 2018.
Yn ystod yr hydref, cawsom gyfarfodydd i wrando ar y dystiolaeth lafar ar gyfer ein hymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal; roeddem wedi cynnal yr ymgynghoriad ar gyfer ymatebion ysgrifenedig yn ystod y gwanwyn.
Yn dilyn hynny, aethom ati mewn ffordd wahanol i baratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Cawsom dystiolaeth gan Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid pob un o'r Byrddau Iechyd, a hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ADSS. Defnyddiwyd y dystiolaeth hon gennym i baratoi ar gyfer ein gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar ei adroddiad ar yr ymchwiliad i Glystyrau Gofal Sylfaenol. Yna, fe'i lansiwyd ar 12 Hydref.
Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), a chafodd ei atgyfeirio i'r Pwyllgor ganol mis Hydref. Cafodd ein haelodau frîff technegol ar y Bil gan swyddogion Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus. Byddwn yn cael tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Cytunwyd ar yr adroddiad ar ein hymchwiliad i unigrwydd ac unigedd a byddwn yn lansio'r adroddiad ddechrau mis Rhagfyr.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gyfer ein hymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc yn ystod yr haf. Mae'r ymatebion wedi'u cyhoeddi a byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Ym mis Mai, bu'r Pwyllgor yn ystyried ei ddeiseb gyntaf, a gasglodd dros 5,000 o lofnodion. Gofynnodd y Pwyllgor am amser i drafod y ddeiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf.
Ar 10 Hydref gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar ddeiseb P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt a gyflwynwyd gan Whiz-Kidz, sefydliad sy'n cynrychioli pobl ifanc anabl. Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion sy'n ymwneud â gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a thacsis ac mae disgwyl iddo gael ei drafod cyn diwedd 2017.
Cytunwyd ar gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref i ethol Rhun ap Iorwerth AC a Neil McEvoy AC yn aelodau o'r Pwyllgor Deisebau. Erbyn hyn mae gan y Pwyllgor bum aelod.
Yn ystod gweddill 2017, bydd yr Aelodau'n parhau i ystyried deisebau newydd derbyniadwy a diweddariadau i ddeisebau sydd dan sylw ar hyn o bryd. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynnal sesiynau tystiolaeth ar P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf / P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig, P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch a P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant.
Mae'r Pwyllgor wedi bod yn Craffu ar Gyfrifon y tymor hwn, gan ystyried cyfrifon ac adroddiadau blynyddol Comisiwn y Cynulliad, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chwaraeon Cymru cyn y toriad hanner tymor. Bydd yn craffu ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ôl hanner tymor. Daeth nifer o faterion i'r amlwg yn sgil y sesiynau hyn, ond, ar y cyfan, maent wedi dangos bod cyfrifon ac adroddiadau blynyddol y cyrff hyn mewn cyflwr da.
Bu'n rhaid i'r Pwyllgor hefyd ystyried Adroddiad Budd y Cyhoedd, a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ynghylch methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – roedd hwn yn adroddiad proffil uchel, a dyma'r tro cyntaf y bu'n rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ystyried adroddiad o'r fath.
Roedd y Pwyllgor yn falch o gynnal y Rhwydwaith Cyfrifon Cyhoeddus cyntaf, a daeth amrywiaeth eang o bobl sy'n ymwneud â chraffu ar Gyfrifon Cyhoeddus at ei gilydd o wahanol rannau o'r DU a thu hwnt. Roedd y Pwyllgor yn falch iawn o groesawu'r Fonesig Margaret Hodge AS yn brif areithydd ar gyfer y digwyddiad hwn, ynghyd â nifer o gyfranwyr eraill o fri.
Yn ystod y tymor nesaf bydd y Pwyllgor yn cychwyn ar ran gyntaf ei ymchwiliad hirdymor i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a bydd yn ystyried Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyhoeddi adroddiadau ar Reoli Meddyginiaethau a Chraffu ar Gyfrifon 2016-17.
Cyfarfu'r Pwyllgor ddydd Gwener 27 Hydref yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân. Dewiswyd y lleoliad gan fod mwyafrif y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yn ei deddfwriaeth, ei pholisïau a'i harferion. Cafodd amser ei neilltuo hefyd ar ddiwedd y cyfarfod i Aelodau ofyn nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion cyfoes.
Cyn dechrau'r cyfarfod ffurfiol, cyfarfu'r Aelodau â phobl ifanc o ddwy ysgol leol, y Ganolfan a chynrychiolwyr y sgowtiaid i fynd ar drywydd sesiynau trafod cynharach a gynhaliwyd gyda chydweithwyr o'r tîm ymgysylltu â phobl ifanc. Yna codwyd llawer o'r materion a drafodwyd gyda'r Prif Weinidog yn ystod y sesiwn dystiolaeth. Eir ar drywydd mater eraill mewn gohebiaeth.
Bydd y Pwyllgor yn cwrdd nesaf ym mis Chwefror 2018 yn Sir Drefaldwyn, a bydd y pwnc yn debygol o fod yn ymwneud â chynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd.
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi parhau i edrych ar y materion sy'n deillio o'i ymchwiliad i lobïo, ac mae'n bwriadu cyflwyno adroddiad cyn Nadolig 2017. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi ystyried y materion sy'n deillio o raglen ddiwygio'r Cynulliad a'r potensial i ddiwygio Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel rhan o'r broses o weithredu Deddf Cymru 2017.
Er Ionawr 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig pedwar Bil i’w hystyried gan y Cynulliad, sef:
- Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017; cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017;
- Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), sydd ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 lle mae gan bob Aelod Cynulliad gyfle i ddadlau a phleidleisio ar welliannau i’r Bil;
- Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), a Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) sydd yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd, sef y cam lle bydd aelodau pwyllgor yn gofyn am farn y cyhoedd am egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth ac yna’n cyflwyno adroddiad ar y Bil.
Yn ogystal, mae Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i’w ystyried gan y Cynulliad ym mis Rhagfyr 2016, ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3, lle y bydd gan pob Aelod Cynulliad gyfle i ddadlau a phleidleisio ar welliannau i’r Bil.
Cyflwynwyd un Bil Pwyllgor er mis Ionawr 2017, sef: Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Cyflwynwyd y Bil gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Pwyllgor arall (Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau) sy’n ymgynghori ynghylch barn y cyhoedd ar hyn o bryd ar egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth fel rhan o’r gwaith craffu yng Nghyfnod 1.
Ni chyflwynwyd yr un Bil Aelod na Bil Comisiwn y Cynulliad hyd yma yn y Pumed Cynulliad.
Dai Lloyd AC a lwyddodd ym malot cyntaf y Pumed Cynulliad ar gyfer Bil Aelod, a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2017. Ar 15 Mawrth 2017, cynhaliwyd dadl a phleidlais ar gynnig i sicrhau caniatâd y Cynulliad i’w alluogi i ddatblygu a chyflwyno Bil Diogelu Enwau lleoedd Hanesyddol Cymru. Fodd bynnag, ni chafwyd caniatâd i fwrw ymlaen â’r Bil. O ganlyniad, ni ellir cymryd camau pellach ar y Bil arfaethedig hwn.
Paul Davies AC a lwyddodd yn ail falot y Pumed Cynulliad ar gyfer Bil Aelod, a cynhaliwyd ar 28 Mawrth 2017. Ar 14 Mehefin 2017, cynhaliwyd dadl a phleidlais ar gynnig i sicrhau caniatâd y Cynulliad i’w alluogi i ddatblygu a chyflwyno Bil Awtistiaeth (Cymru). Sicrhawyd yr hawl i fwrw ymlaen â’r Bil, sy’n golygu bod gan Paul Davies tan 14 Gorffennaf 2018 i’w gyflwyno. Mae Paul Davies wrthi yn ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch ei syniadau ar gyfer y Bil.
Prif Ddiwrnod Penodedig
Hyd yn hyn yn ystod y Cynulliad hwn, mae’r holl gyfreithiau a gynigiwyd i’r Cynulliad eu hystyried wedi’u seilio ar fod gan y Cynulliad gymhwysedd i lunio deddfau ar unrhyw Bwnc a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2017 yn newid cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o’r ‘Prif Ddiwrnod Penodedig’ (rhagwelir mai’r diwrnod hwn fydd 1 Ebrill 2018).
Os bydd y Cynulliad wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil (hy os yw wedi cwblhau 'Cyfnod 1' ym mhroses ddeddfwriaethol y Cynulliad) cyn y Prif Ddiwrnod Penodedig, mae Deddf Cymru 2017 yn darparu y bydd y cwestiwn o ran a yw ei ddarpariaethau o fewn cymhwysedd ai peidio yn cael eu hystyried o dan y model rhoi pwerau presennol, o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Os yw egwyddorion cyffredinol Bil yn cael eu cytuno ar y Prif Ddiwrnod Penodedig neu ar ei ôl, yna ystyrir ei ddarpariaethau o dan y model newydd cadw pwerau’n ôl o dan Ddeddf Cymru 2017.