A ddylai'r Ombwdsmon gael rhagor o bwerau? Ystyried pwerau: Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried cryfhau rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae gan Gymru Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Gall yr Ombwdsmon hefyd ymchwilio i gwynion bod aelodau awdurdodau lleol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod.

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi argymell cyflwyno Bil newydd a fyddai'n rhoi rhagor o bwerau i'r Ombwdsmon ymdrin â chwynion gan bobl yng Nghymru. Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ystyried y mater, a dyma grynodeb o'r adroddiad llawn.

Nick Bennett yw'r Ombwdsmon yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dyma enghreifftiau o gwynion y gallai'r Ombwdsmon ymdrin â nhw:

  • ambiwlansys yn cymryd gormod o amser i gyrraedd;
  • nid yw pobl yn cael diagnosis o gyflyrau yn ddigon cyflym;
  • cam-drafod ceisiadau tai;
  • methu â dod o hyd i'r addysg iawn i blant ag anghenion arbennig;
  • nid yw tai cymdeithasol yn cael eu trwsio'n briodol.

Sut y mae'r Ombwdsmon yn gweithredu?

Crëwyd swydd yr Ombwdsmon drwy gyflwyno cyfraith o'r enw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.

Mae'r Ddeddf yn nodi sut y mae rôl yr Ombwdsmon yn gweithio.

Mae gan yr Ombwdsmon dîm o bobl sy’n ei helpu i ystyried cwynion ac ymchwilio iddynt. Mae'r Ombwdsmon yn darparu gwasanaeth diduedd am ddim, ac mae'n annibynnol ar gyrff y Llywodraeth.

Pam mae angen rhagor o bwerau ar yr Ombwdsmon?

Mae'r Ombwdsmon (Nick Bennett) a'i ragflaenydd (Peter Tyndall) wedi dweud bod angen rhagor o bwerau ar yr Ombwdsmon er mwyn ymdrin â chwynion pobl yn briodol.

Dywedodd Nick Bennett, yr Ombwdsmon, mai dyma sut y dylai deddfwriaeth fod wrth symud ymlaen:

yn addas i'r diben gan alluogi pobl i gael y gorau o'n swyddfa, ac i wneud yn siŵr bod gennym wasanaethau sydd wir yn canolbwyntio ar ddinasyddion yng Nghymru.
Cyfieithiad o'r hyn a ddywedodd Nick Bennett wrth drafod â'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2014

GWNEUD CYNNYDD

Awgrymodd yr Ombwdsmon bum peth y mae'n credu y byddai'n cryfhau ei rôl:

  1. Cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun
  2. Cwynion llafar
  3. Ymdrin â chwynion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus
  4. Cynyddu awdurdodaeth
  5. Cysylltiadau â'r llysoedd

Y PUM PŴER YCHWANEGOL

1 - Cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun

Ar hyn o bryd, dim ond cwynion y mae'r cyhoedd wedi'u hanfon ato y gall yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt.

Hoffai'r Ombwdsmon gael y pŵer i ddechrau ei ymchwiliadau ei hun heb fod cwyn wedi dod i law. Byddai hynny'n galluogi iddo ymestyn ymchwiliadau mewn achosion pan fo tystiolaeth yn awgrymu y gallai fod mater ehangach sy'n effeithio'n ar fudd y cyhoedd.

Roedd y rhan fwyaf o'r tystion yn cefnogi'r syniad hwn, gan ddweud y gallai helpu i'r Ombwdsmon ystyried mater os yw'n meddwl bod problem ond nad oes cwyn ffurfiol wedi dod i law, efallai am fod rhywun yn amharod i wneud cwyn neu fod ofn arno wneud hynny.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai'r Ombwdsmon gael y pŵer hwnnw. Fodd bynnag, mae'n rhaid cael tystiolaeth i gefnogi ymchwiliad ac fe ddylai siarad â Chomisiynwyr eraill Cymru, ac unrhyw un arall sy'n briodol yn ei farn ef cyn dechrau ymchwiliad.

2 - Cwynion llafar

Ar hyn o bryd, os bydd rhywun am wneud cwyn i'r Ombwdsmon am wasanaeth cyhoeddus y mae wedi'i ddefnyddio, mae'n rhaid iddo wneud cwyn ysgrifenedig.

Mae gan swyddfa'r Ombwdsmon dîm cyngor ar gwynion sy'n helpu aelodau o'r cyhoedd. Os bydd rhywun yn rhoi gwybod am gŵyn, ond methu â gwneud cwyn ysgrifenedig, bydd y tîm yn cofnodi'r gŵyn ac yn anfon y manylion yn ôl i'r person. Bydd yr achwynydd yn gyfrifol am ddarllen, llofnodi a dychwelyd y ffurflen.

Dim ond tua 50 y cant o'r ffurflenni hyn sy'n cael eu llofnodi a'u dychwelyd gan y cyhoedd, gan olygu nad yw 50 y cant o'r cwynion byth yn cael eu hystyried.

Mae'r Ombwdsmon eisiau gallu derbyn cwynion a wnaed ar lafar. Dywedodd Nick Bennett:

Ar lefel y DU, mae 94 y cant o'r boblogaeth yn cyflawni lefel 1 o ran llythrennedd, ond yng Nghymru dim ond 87 y cant sy'n gwneud hynny. Ni ddylai mynediad i'r gwasanaeth hwn wahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn gallu ysgrifennu.

Roedd y rhan fwyaf o'r tystion yn cefnogi'r syniad ac yn teimlo y gallai helpu pobl sy'n agored i niwed i wneud cwynion.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai'r Ombwdsmon allu penderfynu sut y gellir gwneud cwynion iddo (er enghraifft, yn ysgrifenedig, ar lafar ac ati) ond mae'n rhaid iddo gyflwyno canllawiau sy'n nodi'r ffyrdd a ganiateir.

3 - Ymdrin â chwynion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus

Heddiw, gall gwasanaethau cyhoeddus (fel y GIG) benderfynu drostynt eu hunain sut i ymdrin â chwynion. Mae'r Ombwdsmon wedi datblygu Polisi Pryderon a Chwynion Enghreifftiol ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, ond gall gwasanaethau cyhoeddus ddewis peidio â'i ddefnyddio.

Mae'r Ombwdsmon am i'r holl wasanaethau cyhoeddus ddefnyddio polisi safonol, fel bod pob achwynydd yn cael ei drin yn yr un ffodd. Dywedodd Nick Bennett:

...dylai fod gan bob gwasanaeth cyhoeddus sydd wedi'i ddatganoli i Gymru weithdrefn syml ar gyfer cwynion, sydd â dau gam iddi.

Mae'r Ombwdsmon wedi awgrymu model tebyg i'r Alban, lle mae Ombwdsmon yr Alban yn cyhoeddi polisi ar gyfer ymdrin â chwynion ac mae'n rhaid i'r holl wasanaethau cyhoeddus ei ddefnyddio.

Roedd y rhan fwyaf o'r tystion yn teimlo y dylai gwasanaethau cyhoeddus ddefnyddio dull cyson o ymdrin â chwynion ac yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud y broses gwynion mor glir a syml â phosibl.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai'r Ombwdsmon chwarae rôl wrth ymdrin â chwynion, a chyhoeddi polisi enghreifftiol ar ymdrin â chwynion i'r gwasanaethau cyhoeddus. Dylid darparu hyfforddiant hefyd i staff cyrff cyhoeddus sy'n defnyddio'r polisi cwynion.

4 - Cynyddu awdurdodaeth

Ar hyn o bryd, mae gan yr Ombwdsmon awdurdod i ystyried cwynion a wneir yn erbyn y rhan fwyaf o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall yr Ombwdsmon hefyd ystyried cwynion yn erbyn darparwyr gofal iechyd preifat, ond dim ond os mai'r GIG sydd wedi comisiynu a thalu am y driniaeth.

Mae'r Ombwdsmon am ymestyn ei awdurdod yn y maes hwn. Dywedodd Nick Bennett:

Rwyf am gael pwerau fel y gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i'r gofal a'r driniaeth a roddir gan ddarparwyr gofal iechyd preifat pan fo'r gofal neu'r driniaeth honno yn deillio o'r GIG, neu os yw'n rhan o lwybr gofal iechyd sydd wedi cynnwys y GIG hefyd.

Roedd safbwyntiau cymysg ar y syniad hwn. Roedd y rhan fwyaf o'r tystion yn cytuno y dylai'r Ombwdsmon allu dilyn taith gofal iechyd rhywun drwy bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, a allai gynnwys gofal iechyd preifat.

Mae'r Pwyllgor yn teimlo y dylai'r Ombwdsmon fod yn gallu ymchwilio i gŵyn yn ei chyfanrwydd os bydd claf yn cael cyfuniad o driniaeth gan ddarparwyr gofal iechyd cyhoeddus a phreifat, os yw'r driniaeth honno wedi'i rhoi ar waith gan y GIG.

5 - Cysylltiadau â'r llysoedd

Ar hyn o bryd, nid yw'r Ombwdsmon yn gallu ymchwilio i gŵyn os yw'n bosibl i'r llysoedd ymdrin â'r gŵyn honno. Felly, dylai achos fynd i'r llys yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddo. Mae'r Ombwdsmon am weld tri newid:

  • cael gwared ar y 'gwaharddiad statudol' (gan alluogi unigolion i ddewis mynd i'r llys neu'r Ombwdsmon i ymchwilio i gŵyn);
  • 'darpariaethau gohirio' (caniatáu i lys drosglwyddo achos i'r Ombwdsmon ymchwilio iddo);
  • 'pwynt cyfreithiol' (caniatáu i'r Ombwdsmon ofyn am eglurder ar bwynt cyfreithiol a allai rwystro ymchwiliad fel arall).

Clywodd y Pwyllgor safbwyntiau cymysg ar hyn gan y tystion. Dywedodd Nick Bennett:

Cydnabyddir bod hwn yn faes cymhleth. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'n ymddangos bod y cynigion ynghylch y cysylltiadau â'r llysoedd wedi'u croesawu.

Mae'r Pwyllgor yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drafod ymhellach gan fod hwn yn fater cyfreithiol cymhleth.

Materion eraill

Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar feysydd eraill lle y gallai'r Ombwdsmon gael rhagor o bwerau o bosibl. I gael manylion, darllenwch adroddiad llawn y Pwyllgor, Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld beth sy'n digwydd nesaf, ewch i www.cynulliad.cymru/seneddcyllid

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

Yn ystod yr ymchwiliad hwn, clywsom gryn dipyn o dystiolaeth ac mae llawer ohoni wedi dangos pa mor bwysig yw rôl yr Ombwdsmon. Yn sicr, byddai pawb yn hoffi gweld gwasanaethau cyhoeddus ardderchog yng Nghymru yn y dyfodol, ond os na fyddant yn cyrraedd ein disgwyliadau, mae angen i bobl fod yn hyderus y bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'r gwasanaethau hynny. Os rhoddir ein hargymhellion ar waith, gobeithio y byddant yn gwella rôl yr Ombwdsmon yng Nghymru ac yn gwella hyder y cyhoedd.

www.twitter.com/seneddcyllid

Made with Adobe Slate

Make your words and images move.

Get Slate

Report Abuse

If you feel that this video content violates the Adobe Terms of Use, you may report this content by filling out this quick form.

To report a Copyright Violation, please follow Section 17 in the Terms of Use.