Loading

CLEBRAN YN NEUADD Y DREF / IN THE GUILDHALL

OTHER VOICES CARDIGAN ANNOUNCES THE CLEBRAN SESSIONS / LLEISIAU ERAILL ABERTEIFI YN CYHOEDDI Y SESIYNAU CLEBRAN

FEATURING / YN CYNNWYS:

Lisa Jên (9Bach), Radie Peat (Lankum), Gwenno Saunders, TOUTS, Eluned Morgan AM/AC, Elin Jones AM/AC, yr Athro / Professor Richard Wyn Jones, Philip King, Denise Hanrahan, Jude Rogers, Angharad Elen, Ellen Coyne

In addition to the 58 live music performances on the 1st and 2nd November, audiences at Other Voices Cardigan can also attend another new event for Cardigan - the Clebran sessions. Come and listen in on a series of fascinating informal conversations with artists, journalists, politicians and other special guests who will meet in Cardigan's historic Guildhall to chew the fat over today's burning issues and explore further the common ground between Wales and Ireland in a rapidly shifting political landscape. We’ll be delving into our shared cultural heritage and the many other characteristics that Wales and Ireland share: language, some of Europe's oldest continuous living traditions, our global prominence in creativity and the arts, peripherality; and exploring the role of the creative industries as a enabling force in rural economies as cultural innovation moves ever closer to the heart of policy and action.

Byddwn yn ymchwilio i'n treftadaeth ddiwylliannol gyffredin a'r nifer o nodweddion eraill y mae Cymru ac Iwerddon yn eu rhannu: bod ar y cyrion, iaith, rhai o draddodiadau byw parhaus hynaf Ewrop, ein hamlygrwydd byd-eang mewn creadigrwydd a'r celfyddydau; ac archwilio rôl y diwydiannau creadigol fel grym galluogi mewn economïau gwledig wrth i arloesi diwylliannol symud yn fwyfwy agos at galon polisi a gweithredu.Yn ogystal â'r 58 o berfformiadau cerddoriaeth fyw ar y 1af a'r 2ail o Dachwedd, gall cynulleidfaoedd Lleisiau Eraill Aberteifi hefyd fynychu digwyddiad newydd arall ar gyfer Aberteifi - y sesiynau Clebran. Dewch i wrando ar gyfres o sgyrsiau anffurfiol hynod ddiddorol gydag artistiaid, newyddiadurwyr, gwleidyddion a gwesteion arbennig a fydd yn cwrdd yn Neuadd hanesyddol Tref Aberteifi i gnoi cil dros bynciau llosg cyfoes ac i archwilio ymhellach i'r tir cyffredin rhwng Cymru ac Iwerddon mewn tirwedd wleidyddol sy'n newid yn gyflym.

Simultaneous translation is available throughout / Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob sesiwn.

L - R, CH - Dd: Lisa Jen, Radie Peat, Denise Hanrahan, Eluned Morgan AM/AC, Richard Wyn Jones, Angharad Elen, TOUTS, Jude Rogers, Ellen Coyne

FRIDAY 1ST NOVEMBER / DYDD GWENER 1AF TACHWEDD

1.30pm / yp

Musical Soundscapes of Wales & Ireland: the Language of Music / Seinweddau Cerddorol Cymru ac Iwerddon: Iaith Cerddoriaeth

Jude Rogers in conversation with Gwenno and Radie Peat (Lankum) / Jude Rogers mewn sgwrs â Gwenno a Radie Peat (Lankum)

2.30pm / yp

Culture, Identity, Community in the 2020's - imagining Wales / Diwylliant, Hunaniaeth, Cymuned yn y 2020au - dychmygu Cymru

Angharad Elen in conversation with Lisa Jên (9Bach) and Professor Richard Wyn Jones (Professor of Welsh Politics and Director of Cardiff University's Wales Governance Centre and Dean of Public Affairs) / Angharad Elen mewn sgwrs â Lisa Jên (9Bach) a'r Athro Richard Wyn Jones (Athro Gwleidyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a'r Deon Materion Cyhoeddus)

3.30pm / yp

Reflections on the Wales-Ireland relationship and projecting creatively into the future / Myfyrdodau ar berthynas Cymru-Iwerddon a rhagamcanu'n greadigol i'r dyfodol

Ellen Coyne with Eluned Morgan AM, Welsh Government Minister for International Relations and the Welsh Language and Denise Hanrahan, Consul General of Ireland / Ellen Coyne gydag Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a Denise Hanrahan, Prif Gonswl Iwerddon

SATURDAY 2ND NOVEMBER / DYDD SADWRN 2AIL TACHWEDD

3.00pm / yp

Lle mae creadigrwydd yn mynd, bydd masnach yn dilyn: beth allai hyn ei olygu i adfywio a lles yng nghefn gwlad Cymru? A allwn ni gael gwell golwg ar bethau o'r ymyl? / Where creativity goes, commerce follows: what could this mean for regeneration and wellbeing in rural Wales? Can we get a better view of things from the edge?

Angharad Elen in conversation with Elin Jones AM and Phillip King / Angharad Elen mewn sgwrs ag Elin Jones AC a Phillip King

4.00pm/yp

Borders or Bridges? The artist's perspective on creativity, community, diversity and wellbeing / Ffiniau neu Bontydd? Persbectif yr artist ar greadigrwydd, cymuned, amrywiaeth a lles.

Jude Rogers in conversation with TOUTS and Lisa Jên / Jude Rogers mewn sgwrs â TOUTS a Lisa Jên

VENUE / LLEOLIAD:

We're delighted that Clebran is taking place in Cardigan Guildhall and Market. The building was opened in 1860 and has been at the heart of our community here ever since. It's the perfect home for Clebran and the Other Voices Cardigan festival. The building began life as an edgy innovative design that was considered ultra-modern and daring at the time, drawing on the Modern Gothic style and embracing Arabic influences - exactly the same mix of creative influences, ideas and adventurous spirit that we'll tap into, and celebrate, through Clebran and Other Voices Cardigan.

Rydym wrth ein bodd bod Clebran yn digwydd yn Neuadd y Dref a Marchnad Aberteifi. Agorwyd yr adeilad ym 1860 ac mae wedi bod wrth galon ein cymuned yma ers hynny. Mae'n gartref perffaith i Clebran ac i ŵyl Lleisiau Eraill. Dechreuodd yr adeilad ei fywyd fel dyluniad arloesol steilus a ystyriwyd yn hynod fodern a mentrus ar y pryd, gan dynnu ar yr arddull Gothig Modern tra'n cynnwys dylanwadau Arabaidd - yn union yr un gymysgedd o ddylanwadau creadigol, syniadau ac ysbryd anturus y byddwn yn eu mabwysiadu yn Clebran a Lleisiau Eraill.

The sessions will be open to anyone with a Music Trail wristband and will be offered on a first-come-first-served basis. Simultaneous translation will be available throughout. Sessions will last approximately 45 mins each, see Music Trail schedule for details. Wristband registration via othervoices.ie

Bydd y sesiynau ar agor i unrhyw un sydd â band arddwrn y Llwybr Cerdd ac yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob sesiwn. Bydd sesiynau'n para oddeutu 45 munud yr un, gweler amserlen y Llwybr Cerdd am fanylion. Cofrestrwch ar gyfer band arddwrn trwy othervoices.ie

Wristband Collection: The Other Voices Hub will be located at / Casglu Bandiau Arddwrn: Yr Hwb Lleisiau Eraill Wedi Ei Leoli Yn:

Theatr Mwldan, Bath House Road, Cardigan SA43 1JY

The Hub will be open at these times / Bydd yr hwn ar agor fel a ganlyn:

31 Oct - 2 Nov 10am - 8pm / Hydref 31 - Tachwedd 2 10yb - 8yh

www.othervoices.ie | @othervoiceslive

www.mwldan.co.uk | @theatrmwldan